Os nad yw eich cyflogwr wedi talu’r hyn sy’n ddyledus i chi

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Dylai eich cyflogwr dalu ar amser am waith rydych wedi ei wneud – dylai dalu ar eich diwrnod cyflog cytunedig. Gallwch herio eich cyflogwr:

  • os nad yw wedi talu eich cyflog

  • os yw wedi talu rhy ychydig i chi

  • os yw wedi tynnu rhywfaint o arian o’ch cyflog, neu wedi tynnu eich cyflog i gyd – ac nad ydych yn cytuno â’i reswm

Os oes gennych slip cyflog, gallwch ei gwirio i helpu i ganfod beth yn union yw’r broblem. Dylech siarad â’ch cyflogwr er mwyn darganfod pam nad yw wedi talu’r hyn roeddech yn ei ddisgwyl. Os yw wedi gwneud camgymeriad, gofynnwch iddo dalu i chi ar unwaith. Ni ddylech orfod aros tan eich diwrnod cyflog nesaf.

Os oes ar eich cyflogwr gyflog i chi, ac nad yw siarad ag ef yn datrys y broblem, gallwch gymryd camau cyfreithiol yn ei erbyn.

Os ydych wedi gadael swydd

Fel arfer bydd eich cyflog terfynol yn wahanol i’ch cyflog arferol. Dylech wirio beth allwch chi ei wneud ynglŷn â chael eich cyflog pan fyddwch yn gadael swydd.

Os ydych yn rhedeg busnes a bod cleient heb dalu i chi

Edrychwch ar delerau eich contract i weld beth y cytunwyd arno. Yna gallwch gael cyngor i benderfynu a ddylech wneud hawliad bychan ai peidio.

Os yw eich cyflogwr wedi diflannu neu fynd allan o fusnes

Os nad yw eich cyflogwr wedi talu eich cyflog

Dylech siarad â’ch cyflogwr ar unwaith. Gallwch siarad ag adran y gyflogres os oes gennych un, neu bwy bynnag sy’n talu eich cyflog.

Gallwch wirio sut i siarad â’ch cyflogwr am broblem.

If the problem happened recently, it’s usually best to carry on working while you try and get your employer to pay you. If you refuse to work, you might be breaking your contract, so your employer might dismiss you.

Os nad yw eich cyflogwr wedi talu i chi ers peth amser

Efallai fod gan eich cyflogwr broblemau ariannol – efallai na fydd byth yn talu i chi:

  • os yw’n gwrthod dweud wrthych pam nad yw wedi talu i chi

  • os yw’n gwrthod dweud wrthych pryd mae’n bwriadu talu i chi

  • os yw gweithwyr eraill heb gael eu talu

  • os yw’r cwmni heb dalu i’w gyflenwyr ers peth amser

Dylech feddwl a fyddai’n well arnoch chi pe baech yn gadael eich swydd. Os byddwch yn ymddiswyddo, mae’n dal yn bosibl i chi gymryd camau cyfreithiol yn erbyn eich cyflogwr. Os yw’r cyflogwr heb dalu i chi oherwydd bod ganddo broblemau ariannol, efallai y bydd yn anodd cael unrhyw dâl sy’n ddyledus i chi.

Os ydych yn meddwl ei bod yn bosibl na fydd eich cyflogwr byth yn talu i chi, a’ch bod yn ystyried ymddiswyddo, dylech siarad â chynghorydd.

Os yw eich cyflogwr wedi talu rhy ychydig i chi

Dylech edrych ar eich slip cyflog i gael gweld beth yw’r broblem. Gallwch hefyd ddefnyddio’r slip cyflog i ddangos i’ch cyflogwr faint rydych yn meddwl sy’n ddyledus i chi. Os nad oes gennych slip cyflog, gofynnwch i’ch cyflogwr am un.

Dylech edrych ar eich slip cyflog i weld a yw eich cyflogwr wedi talu rhy ychydig i chi. Er enghraifft, dylech wirio eich bod wedi cael eich talu am yr holl oriau rydych wedi eu gweithio.

Os ydych yn cael eich talu fesul awr, dylai eich slip cyflog gynnwys nifer yr oriau rydych wedi eu gweithio yn ystod cyfnod y slip cyflog. Edrychwch beth yw’r dyddiadau sydd ar y slip cyflog. Yna gwiriwch a yw eich cyflogwr wedi talu i chi am yr holl oriau rydych wedi eu gweithio yn ystod y cyfnod tâl hwnnw.

Dylech hefyd wirio eich bod wedi cael eich talu am bopeth y mae gennych hawl iddo – er enghraifft, efallai fod gennych hawl i dâl am:

  • amser pan oeddech yn absennol o’r gwaith oherwydd salwch

  • amser hyfforddiant

  • gwyliau

  • absenoldeb mamolaeth neu absenoldeb rhiant arall

Os nad ydych yn deall eich slip cyflog, gofynnwch i’ch cyflogwr ddangos i chi sut mae wedi penderfynu faint o gyflog sy’n ddyledus i chi. Gallwch holi adran y gyflogres os oes gennych un, neu bwy bynnag sy’n trefnu eich cyflog.

Os nad ydych wedi cael eich talu am yr holl oriau rydych wedi eu gweithio

Dywedwch wrth eich cyflogwr faint o oriau rydych yn meddwl bod arno gyflog i chi amdanynt.

Os oes gennych brawf o’r oriau rydych wedi eu gweithio dylech ddangos y prawf hwnnw i’r cyflogwr. Er enghraifft, gallwch ddangos cofnodion clocio i mewn, taflenni amser neu rotas gwaith iddo.

Os nad ydych wedi cael eich talu am bopeth

Edrychwch ar eich contract i weld a ddylai eich cyflogwr dalu tâl goramser i chi. 

Hyd yn oed os nad yw eich contract yn dweud y byddwch yn derbyn tâl goramser, ni ddylai eich cyflogwr ddefnyddio hynny fel ffordd o beidio â thalu’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’r Cyflog Byw Cenedlaethol. Dylai eich cyfradd gyflog gyfartalog fesul awr fod yn hafal i’r isafswm cyfreithiol o leiaf.

Gallwch wirio beth i’w wneud os yw eich tâl yn llai na’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’r Cyflog Byw Cenedlaethol.

Os nad ydych wedi derbyn tâl salwch

Os ydych yn meddwl y dylech fod wedi derbyn tâl salwch, gallwch wirio a allwch gael tâl salwch a beth i’w wneud os na wnaiff eich cyflogwr ei dalu.

Os nad ydych wedi cael eich talu am amser y gwnaethoch ei dreulio yn hyfforddi

Edrychwch ar eich contract i weld a ddylai eich cyflogwr dalu i chi am amser hyfforddi.

Os oes rhaid i chi wneud hyfforddiant fel rhan o’ch gwaith mae’n cael ei alw’n ‘hyfforddiant gorfodol’.

Hyd yn oed os yw eich contract yn dweud na fyddwch yn cael eich talu am hyfforddiant gorfodol, ni ddylai eich cyflogwr ddefnyddio hynny fel ffordd o beidio â thalu’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’r Cyflog Byw Cenedlaethol. Dylai eich cyfradd gyflog gyfartalog fesul awr fod yn hafal i’r isafswm cyfreithiol o leiaf o hyd.

Gallwch wirio beth i’w wneud os ydych yn derbyn llai na’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’r Cyflog Byw Cenedlaethol.

Os nad ydych wedi derbyn tâl am wyliau

Os ydych yn meddwl y dylai eich cyflogwr fod wedi talu i chi am ddiwrnodau o wyliau rydych wedi eu cymryd, edrychwch a oes gennych hawl i wyliau â thâl a beth i’w wneud os na wnaiff eich cyflogwr dalu.

Os nad ydych wedi derbyn tâl am absenoldeb mamolaeth neu dadolaeth

Dylech wirio beth mae gennych hawl iddo os ydych yn meddwl bod ar eich cyflogwr dâl i chi am:

  • absenoldeb mamolaeth

  • absenoldeb tadolaeth

  • absenoldeb mabwysiadu 

  • absenoldeb rhiant a rennir

Efallai fod gennych hawl gyfreithiol i swm penodol o gyflog, a elwir yn ‘dâl statudol’. Gallwch wirio a oes gennych hawl i dâl statudol am absenoldeb rhiant.

Dylech hefyd edrych ar eich contract i weld a yw’n rhoi hawliau ychwanegol i dâl i chi, a elwir yn ‘dâl contractiol’.

Os oes ar eich cyflogwr dâl statudol i chi

Dylech gysylltu â Cyllid a Thollau EF (HMRC) i gael cyngor ynglŷn â beth i’w wneud nesaf. Bydd angen i chi gysylltu â HMRC cyn pen 6 mis o’r dyddiad rydych wedi dechrau cael tâl statudol.

Tîm Anghydfodau Taliadau Statudol HMRC

HMRC Statutory Payments Disputes Team

PT Operations

North East England

HMRC

BX9 1AN

Ffôn: 0300 322 9422

Ffôn testun: 0300 200 3212

Mae eich galwad yn debygol o fod am ddim os oes gennych gytundeb ffôn sy’n cynnwys galwadau am ddim i linellau tir – dysgwch fwy am ffonio rhifau 030.

Os oes ar eich cyflogwr dâl contractiol i chi

Casglwch unrhyw dystiolaeth sy’n dangos bod arno dâl i chi, er enghraifft:

  • copi o unrhyw bolisïau cwmni perthnasol – er enghraifft polisi absenoldeb teulu

  • eich contract cyflogaeth – os yw’n crybwyll unrhyw dâl ychwanegol nad ydych wedi ei dderbyn

Os yw eich cyflogwr wedi tynnu arian o’ch tâl

Dylech wirio eich slip cyflog i ddarganfod beth yw’r broblem. Gallwch hefyd ddefnyddio’r slip cyflog i ddangos i’ch cyflogwr beth rydych yn meddwl sy’n ddyledus i chi. Os nad oes gennych slip cyflog, gofynnwch i’ch cyflogwr am un.

Os nad ydych yn deall eich slip cyflog, gofynnwch i’ch cyflogwr ddangos i chi sut mae wedi penderfynu faint o dâl sy’n ddyledus i chi. Gallwch ofyn i adran y gyflogres os oes gennych un, neu bwy bynnag sy’n trefnu eich tâl.

Mae’n bosibl y bydd gan eich cyflogwr hawl i dynnu rhywfaint o arian o’ch tâl.

Gallai dynnu:

Os yw eich cyflogwr yn tynnu arian o’ch tâl oherwydd ei fod wedi talu gormod i chi

Gall eich cyflogwr dynnu arian y mae wedi ei ordalu i chi yn ystod yr wythnosau neu’r misoedd blaenorol. Os nad ydych yn cytuno ei fod wedi talu gormod i chi, eglurwch pam a gofynnwch iddo dalu’r hyn sy’n ddyledus i chi.

Os yw’r cyflogwr wedi talu gormod i chi, ond nad ydych yn gallu fforddio colli’r arian a dynnwyd o’ch tâl, gallech ofyn i’ch cyflogwr a fyddai’n fodlon tynnu symiau llai dros gyfnod hwy.

Siaradwch â chynghorydd i weld beth allwch chi ei wneud:

  • os na wnaethoch chi sylweddoli bod eich cyflogwr wedi talu gormod i chi a’ch bod wedi gwario’r arian

  • os gwnaethoch holi eich cyflogwr am y mater ar y pryd a’i fod wedi dweud wrthych bod y tâl yn gywir

Os bydd eich cyflogwr yn tynnu costau rydych wedi eu hachosi iddo o’ch tâl

Os ydych wedi cytuno yn ysgrifenedig neu os yw yn eich contract, gall eich cyflogwr dynnu arian am:

  • eiddo a ddifrodwyd, er enghraifft difrod i gar cwmni

  • difrod i stoc 

  • arian sydd ar goll o’r til, er enghraifft mewn siop

  • cost iwnifform 

Ni ddylai eich cyflogwr dynnu arian ar gyfer y pethau hyn oni bai fod eich contract yn dweud y gall dynnu’r arian, neu eich bod wedi cytuno yn ysgrifenedig y gall wneud hynny.

Os bydd eich cyflogwr yn tynnu arian ond nad ydych chi’n meddwl y dylai fod wedi gwneud hynny, dylech siarad â chynghorydd. Er enghraifft, os yw eich contract yn dweud y gall eich cyflogwr dynnu arian os byddwch yn achosi difrod i eiddo’r cwmni, ond nad ydych yn cytuno mai arnoch chi mae’r bai am y difrod.

Os ydych yn gweithio mewn siop, bar neu dŷ bwyta

Rhaid i’ch cyflogwr ddilyn rheolau ychwanegol os yw’n tynnu arian i wneud iawn am arian sydd ar goll o’r til neu ddifrod i stoc.

Ni all dynnu arian oherwydd y rhesymau hyn oni bai fod pob un o’r rhain yn wir hefyd:

  • mae cytundeb ysgrifenedig yn dweud y gall gymryd arian

  • nid yw’n cymryd mwy na 10% o’ch tâl cyn treth ar bob diwrnod cyflog y mae’n tynnu arian

  • dechreuodd gymryd yr arian cyn pen 12 mis ar ôl sylwi ar y broblem

  • mae’n rhoi manylion ysgrifenedig i chi ynglŷn â’r arian a dynnir bob diwrnod cyflog y mae’n tynnu arian

Os ydych yn meddwl bod eich cyflogwr wedi tynnu tâl na ddylai fod wedi ei dynnu

Edrychwch ar eich contract ac unrhyw gytundebau ysgrifenedig sydd gennych i weld a oes ganddo hawl i dynnu’r tâl. Os nad ydych yn siŵr sut i wirio hyn, gallwch gael cyngor ynglŷn â sut i wirio telerau eich contract cyflogaeth.

Dylech hefyd gasglu tystiolaeth arall i gefnogi’r hyn rydych yn ei ddweud, os oes gennych dystiolaeth. Er enghraifft, os yw’r cyflogwr wedi tynnu arian oherwydd ei fod wedi talu gormod i chi a’ch bod wedi cytuno ar gynllun i dalu’r arian yn ôl, dangoswch y cytundeb ysgrifenedig.

Os ydych yn meddwl bod tynnu’r arian o’ch tâl yn mynd â chi o dan yr isafswm cyflog cyfreithiol, gallwch wirio a yw eich tâl yn cyfateb i’r isafswm cyflog ar GOV.UK.

Gallwch wirio beth i’w wneud os ydych yn derbyn llai na’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’r Cyflog Byw Cenedlaethol.

Cael unrhyw dâl sy’n ddyledus i chi

Os yw eich cyflogwr wedi gwneud camgymeriad, dylech ei gywiro ar unwaith drwy dalu’r hyn sy’n ddyledus i chi. Os nad ydych yn meddwl mai camgymeriad ydyw, dylech siarad â’ch cyflogwr o hyd i geisio datrys y sefyllfa.

Gofyn i’ch cyflogwr dalu’r hyn sy’n ddyledus i chi

Dylech geisio siarad â’ch cyflogwr yn gyntaf. Eglurwch beth rydych yn meddwl yw’r broblem a dangoswch unrhyw dystiolaeth sydd gennych. Os ydych yn teimlo bod hyn yn anodd, gwiriwch sut i siarad â’ch cyflogwr am broblem.

Os ydych yn aelod o Undeb Llafur, gallech ofyn i’ch cynrychiolydd Undeb Llafur am help a chyngor.

Cyflwyno cwyn ffurfiol i’ch cyflogwr

Edrychwch a oes gan eich cyflogwr weithdrefn gwyno ffurfiol y gallwch ei defnyddio i gwyno. Hyd yn oed os nad oes ganddo un, mae’n dal yn bosibl i chi geisio ei gael i dalu’r hyn sy’n ddyledus i chi. Gallwch edrych sut i wneud cwyn.

Gwirio eich bod yn derbyn o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu Gyflog Byw Cenedlaethol

Dylai’r rhan fwyaf o bobl sy’n gweithio dderbyn o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, neu’r Cyflog Byw Cenedlaethol os ydynt yn 21 oed neu’n hŷn.

Os nad yw eich cyflogwr wedi talu eich cyflog, gallai fod yn torri’r gyfraith gan ei fod wedi achosi i’ch cyflog fod yn is na’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol a’r Cyflog Byw Cenedlaethol.

Os nad yw wedi talu digon i chi, mae’n bosibl ei fod hefyd wedi talu llai na’r isafswm cyfreithiol i chi.

Gallwch wirio’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol a’r Cyflog Byw Cenedlaethol a beth i’w wneud os ydych yn derbyn llai o dâl.

Penderfynu a ddylech gymryd camau cyfreithiol ai peidio

Efallai y gallwch fynd â’ch cyflogwr i dribiwnlys cyflogaeth a gwneud hawliad am dynnu arian o’ch cyflog heb ei awdurdodi os ydych yn weithiwr cyflogedig neu’n fath arall o weithiwr – gan gynnwys gweithiwr asiantaeth.

Gallech fod yn weithiwr cyflogedig neu’n fath arall o weithiwr hyd yn oed os yw eich contract yn dweud eich bod yn hunangyflogedig. Os nad ydych yn siŵr a ydych yn weithiwr cyflogedig neu’n fath arall o weithiwr, gwiriwch eich statws cyflogaeth.

Bydd y tribiwnlys yn penderfynu a oes ar eich cyflogwr unrhyw gyflog i chi ai peidio.

Y terfyn amser ar gyfer dechrau’r broses tribiwnlys cyflogaeth yw 3 mis namyn diwrnod o’r adeg y dylech fod wedi derbyn yr arian.

Os yw eich hawliad yn ymwneud â thalu rhy ychydig a bod eich cyflogwr hefyd wedi talu rhy ychydig hyd at 2 flynedd cyn hynny, efallai y gallech wneud hawliad yn gysylltiedig â hynny. Gall hyn fod yn gymhleth – felly os oes arnoch eisiau gwneud hawliad am fwy nag un achos o dalu rhy ychydig dylech siarad â chynghorydd.

Ni ddylech wneud hawliad tribiwnlys cyflogaeth oni bai eich bod wedi trio pob dim arall, yn enwedig os ydych yn bwriadu dal i weithio i’ch cyflogwr.

Ni ddylai eich cyflogwr eich diswyddo am wneud yr hawliad tribiwnlys cyflogaeth, ond gallai wneud pethau’n anodd yn y gwaith.

Gallwch wirio beth i’w wneud os ydych yn meddwl gwneud hawliad i dribiwnlys cyflogaeth.

Os byddwch yn colli’r terfyn amser tribiwnlys cyflogaeth

Fel arfer gallwch wneud hawliad am gyflog heb ei dalu mewn llys hawliadau bychain, yn hytrach na thribiwnlys cyflogaeth. Bydd y llys yn penderfynu a oes ar eich cyflogwr unrhyw dâl i chi. Gallwch ystyried a ydych am wneud hawliad bychan.

Os ydych yn cael anhawster â chostau byw

Gallwch wirio sut i gael help â chostau byw.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 03 Ebrill 2023