Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Os ydych chi'n wynebu cael eich diswyddo

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Ystyr diswyddo yw pan fyddwch yn colli eich swydd oherwydd bod angen i'ch cyflogwr leihau nifer y staff. Efallai mai'r rheswm am hyn:

  • yw nad oes angen cymaint o bobl ar eich cyflogwr i wneud y gwaith

  • yw bod eich cyflogwr yn ceisio lleihau costau

  • yw bod eich cyflogwr yn symud, yn cau i lawr, neu’n cael ei gymryd drosodd

Os yw eich cyflogwr wedi mynd allan o fusnes

Mae'n annhebygol y cewch dâl diswyddo gan eich cyflogwr, ond efallai y gallwch hawlio rhywfaint o'r arian sy'n ddyledus i chi gan y llywodraeth. Gwiriwch i weld beth allwch chi ei wneud os bydd eich cyflogwr yn mynd allan o fusnes.

Efallai y bydd eich cyflogwr yn edrych ar opsiynau eraill cyn diswyddo staff. Er enghraifft, efallai y byddant yn newid oriau gwaith neu'n gofyn a oes unrhyw un am wirfoddoli i gael eu diswyddo. Darllenwch am ddewis diswyddo gwirfoddol. 

Yn ystod proses ddiswyddo, dylai eich cyflogwr:

  • siarad â phawb y mae eu swyddi mewn perygl

  • cynnal ymgynghoriad grŵp - os ydynt yn cynllunio mwy nag 20 o ddiswyddiadau

  • penderfynu pa ddiswyddiadau i fwrw ymlaen â hwy

  • rhoi hysbysiad swyddogol i chi o ba bryd y bydd eich swydd yn dod i ben os ydych yn cael eich diswyddo

Efallai y cewch dâl diswyddo pan fydd eich swydd yn dod i ben. Mae hyn fel arfer yn dibynnu ar ba mor hir y buoch yn gweithio i'ch cyflogwr.

Sut mae eich cyflogwr yn penderfynu pa rolau i'w diswyddo

Mae diswyddo yn dechrau gyda'ch cyflogwr yn dewis pa swyddi y gallai eu dileu. Ystyrir bod y swydd yn cael ei dileu, nid y sawl sy’n gwneud y gwaith. Gelwir y rolau hyn yn rhai sydd ‘mewn perygl o gael eu diswyddo’.

Dylai eich cyflogwr ddefnyddio ffordd deg a gwrthrychol o ddewis pwy sydd mewn perygl o gael eu diswyddo. Er enghraifft, efallai y byddant yn defnyddio proses sy’n edrych ar sgiliau staff neu gofnodion disgyblu.

Rhaid i'ch cyflogwr ymgynghori â phawb sydd mewn perygl o gael eu diswyddo cyn iddynt wneud penderfyniad terfynol.

Cwrdd â’ch cyflogwr

Dylai eich cyflogwr gwrdd â chi'n unigol o leiaf unwaith cyn iddynt wneud eu penderfyniad terfynol. Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, gallech ofyn i gynrychiolydd undeb fod gyda chi yn y cyfarfod. Os na, gallech ofyn i ffrind neu gydweithiwr fynd gyda chi.

Y cyfarfod hwn yw eich cyfle i egluro pam na ddylech gael eich diswyddo. Gallwch hefyd ofyn cwestiynau ac awgrymu eich syniadau eich hun ar gyfer osgoi cael eich diswyddo. Nid oes rhaid i'ch cyflogwr gytuno â'ch syniadau ond dylent eu hystyried.

Yn y cyfarfod hwn, dylech gael cyfle i drafod:

  • pam mae angen i'ch cyflogwr wneud diswyddiadau

  • pam eu bod yn ystyried eich rôl chi ar gyfer diswyddo

  • pa swyddi eraill sydd ar gael

  • unrhyw gwestiynau sydd gennych am yr hyn fydd yn digwydd nesaf

Os yw eich cyflogwr yn bwriadu gwneud 20 neu fwy o ddiswyddiadau

Yn ogystal â siarad â chi’n unigol, efallai y bydd angen i’ch cyflogwr gynnal ymgynghoriad grŵp. Dyma ble maen nhw’n siarad â grŵp o gynrychiolwyr staff am eu cynlluniau.

Rhaid iddynt wneud hyn os ydynt yn bwriadu gwneud diswyddiadau o fewn 90 diwrnod. Rhaid i’r holl ddiswyddiadau ddod o’r un sefydliad, er enghraifft, un gangen o siop.

Rhaid i ymgynghoriad grŵp ddigwydd 30 diwrnod cyn i swydd unrhyw un ddod i ben. Os bydd 100 neu fwy o bobl yn cael eu diswyddo, rhaid i’r ymgynghoriad ddigwydd 45 diwrnod ynghynt.

Os oes undeb llafur yn y gwaith, dylai eich cyflogwr ymgynghori â chynrychiolwyr o'r undeb. 

Os nad oes undeb, dylai eich cyflogwr ymgynghori â chynrychiolwyr eu gweithwyr. Dylech gael cyfle i bleidleisio dros bwy fydd yn eich cynrychioli.

Dylai eich cyflogwr roi manylion ysgrifenedig am y canlynol i'ch cynrychiolwyr:

  • pam eu bod yn gwneud diswyddiadau

  • faint o swyddi maen nhw’n eu dileu

  • o ba feysydd o’r busnes y byddant yn dewis pobl

  • sut y byddant yn dewis pwy i’w diswyddo

  • sut y byddant yn cyfrifo taliadau diswyddo

  • pa broses ac amserlen y byddant yn eu dilyn

Dylai eich cynrychiolwyr wedyn drosglwyddo’r wybodaeth hon i chi.

Os oes gan eich cyflogwr swyddi eraill ar gael

Efallai y bydd eich cyflogwr yn cynnig swydd arall i chi os oes un ar gael y gallech ei gwneud. Gelwir hyn yn 'gyflogaeth addas amgen'.

Os byddwch yn derbyn y swydd newydd cyn diwedd eich cyfnod rhybudd, ni fyddwch yn cael unrhyw dâl diswyddo. Fodd bynnag, os na fyddwch yn derbyn y swydd, gallai hefyd effeithio ar eich hawl i dâl diswyddo.

Gwiriwch eich opsiynau os yw'ch cyflogwr yn cynnig swydd arall i chi. 

Os oes swydd y gallech ei gwneud, ond nad yw'ch cyflogwr yn ei chynnig, gallai olygu bod eich diswyddo'n annheg neu'n wahaniaethol. Gwiriwch i weld a oes rhaid i'ch cyflogwr geisio dod o hyd i swydd arall gyda’r cwmni. 

Os ydych chi ar absenoldeb mamolaeth, absenoldeb mabwysiadu neu absenoldeb rhiant a rennir pan fyddwch yn cael eich diswyddo, rhaid i'ch cyflogwr gynnig unrhyw swyddi eraill addas i chi os ydynt yn bodoli. Os nad ydynt yn gwneud hynny, gallai wneud eich diswyddiad yn annheg yn awtomatig. Gwiriwch fod eich cyflogwr wedi dilyn y broses gywir ar gyfer dod o hyd i waith arall.

Os ydych chi'n cael eich diswyddo

Bydd eich cyflogwr yn dweud wrthych faint o amser y disgwylir i chi aros yn y gwaith nes i'ch swydd ddod i ben. Dyma eich cyfnod rhybudd. 

Bydd eich cyflogwr naill ai:

  • yn talu eich cyflog arferol tan ddiwedd eich cyfnod rhybudd

  • yn dod â'ch swydd i ben yn syth a rhoi eich holl dâl rhybudd i chi ar unwaith - gelwir hyn yn 'daliad yn lle rhybudd'

Gwiriwch eich hawliau yn ystod eich cyfnod rhybudd.

Efallai y cewch dâl diswyddo pan fydd eich swydd yn dod i ben. Gwiriwch i weld faint o dâl diswyddo gewch chi. 

Pan fydd eich swydd yn dod i ben, dylech wneud yn siŵr bod gennych chi’r canlynol:

  • eich cyflog terfynol

  • unrhyw dâl diswyddo sy'n ddyledus i chi - neu rydych wedi cael gwybod pryd y byddwch yn ei gael

  • unrhyw dâl yn lle rhybudd os nad ydych chi'n gweithio'ch cyfnod rhybudd llawn

  • unrhyw dâl gwyliau y mae gennych hawl iddo

  • unrhyw fonws, comisiwn neu dreuliau sy'n ddyledus y mae gennych hawl iddynt

Gwiriwch i weld beth allwch chi ei wneud os oes problem gyda'ch cyflog terfynol. 

Gwiriwch a allwch chi gael budd-daliadau

Efallai y gallwch hawlio budd-daliadau neu gynyddu eich budd-daliadau cyfredol wrth i chi chwilio am swydd newydd. Gwiriwch pa fudd-daliadau y gallwch eu cael. 

Herio eich diswyddiad

Os ydych chi'n meddwl eich bod wedi cael eich dewis yn annheg, neu os oedd problem gyda'ch proses diswyddo, siaradwch â'ch cyflogwr am newid eu penderfyniad. Os na fydd hyn yn gweithio, efallai y gallwch wneud apêl neu gymryd camau cyfreithiol. Fodd bynnag, gall fod yn anodd profi bod penderfyniad diswyddo yn annheg. 

Herio eich diswyddiad. 

Cymryd amser i ffwrdd i chwilio am waith

Os byddwch wedi gweithio i'ch cyflogwr am o leiaf 2 flynedd erbyn diwedd eich cyfnod rhybudd, rhaid iddynt roi amser rhesymol o'r gwaith i chi chwilio am swydd. Mae hyn yn cynnwys gwneud cais am swyddi, mynd i gyfweliadau, neu gael hyfforddiant i'ch helpu i ddod o hyd i swydd newydd.

Gallwch gymryd amser i ffwrdd unrhyw bryd yn ystod oriau gwaith arferol. Ni all eich cyflogwr ofyn i chi aildrefnu eich oriau gwaith i wneud iawn am yr amser i ffwrdd.

Mae gennych hawl i gael rhywfaint o amser o'r gwaith gyda thâl yn ystod eich cyfnod rhybudd i chwilio am waith. Telir hwn ar eich cyflog arferol fesul awr. Mae cyfanswm yr amser â thâl y gallwch ei gymryd yn cyfateb i 40% o gyflog wythnos. Er enghraifft, os ydych yn gweithio 5 diwrnod yr wythnos, rhaid i'ch cyflogwr eich talu am 2 ddiwrnod o amser i ffwrdd yn ystod eich cyfnod rhybudd. 

Does dim rhaid i'ch cyflogwr dalu i chi am unrhyw amser ychwanegol o'r gwaith y byddwch yn ei gymryd, er y gallech ofyn iddynt wneud hynny.

Os na fydd eich cyflogwr yn rhoi amser o'r gwaith â thâl i chi chwilio am waith

Siaradwch gyda’ch cyflogwr. Nid yw pob cyflogwr yn gwybod am yr hawl i gael amser o'r gwaith i chwilio am swydd. Gallwch ddangos gwybodaeth am hyn iddynt yn y canllaw i ddiswyddo ar wefan Acas.

Gallech hefyd wneud cwyn ffurfiol. Gwiriwch sut i wneud cwyn yn y gwaith. 

Os nad yw hyn yn helpu, gallwch ddechrau trafodaeth ffurfiol gyda'ch cyflogwr, a elwir yn 'gymodi cynnar'. Gwiriwch i weld sut mae defnyddio gwasanaeth cymodi cynnar. #mce_temp_url#

Os bydd cymodi cynnar yn methu, eich dewis olaf yw mynd â'ch cyflogwr i dribiwnlys cyflogaeth. 

Os oes angen help arnoch i gael swydd newydd

Cysylltwch â'ch Canolfan Byd Gwaith leol a gofynnwch am eu Gwasanaeth Ymateb Cyflym - maent yn arbenigo mewn helpu pobl sydd wedi cael eu diswyddo. Gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth yn ystod eich cyfnod rhybudd ac am hyd at 13 wythnos ar ôl i chi gael eich diswyddo. Dewch o hyd i’ch Canolfan Byd Gwaith agosaf.

Gofynnwch i'ch cyflogwr am eirda ysgrifenedig ar gyfer eich ceisiadau am swydd. Gallwch hefyd ofyn a fyddant yn talu i chi gael cymorth proffesiynol wrth chwilio am swydd fel rhan o'ch pecyn dileu swydd.

Os ydych chi am ddechrau gyrfa newydd

Efallai y gallwch gael help i dalu am hyfforddiant a chymwysterau. Gwiriwch a allwch chi gael grant neu fwrsariaeth i helpu i dalu am hyfforddiant ar GOV.UK.

Os ydych yn ystyried astudio cwrs gradd, gwiriwch a allwch wneud cais am fenthyciad myfyriwr ar GOV.UK.

Gallwch gael cyngor gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol os ydych am gael cymhwyster newydd neu newid gyrfa.

Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol

Gwefan: www.nationalcareers.service.gov.uk

Rhif ffôn: 0800 100 900

Ar agor rhwng 8am a 10pm o ddydd Llun i ddydd Sul

Os ydych chi'n ei chael hi’n anodd

Dylech siarad â'ch meddyg teulu os yw eich diswyddiad yn effeithio ar eich iechyd meddwl.

Gallwch ddod o hyd i ffyrdd eraill o gael help gyda'ch iechyd meddwl ar wefan Mind.

Os ydych angen siarad â rhywun

Gallwch siarad â gwirfoddolwr hyfforddedig mewn sefydliadau fel y Samariaid neu Shout.

Samariaid

Llinell gymorth: 116 123 (dydd Llun i ddydd Sul ar unrhyw adeg)

Llinell Gymraeg: 0808 164 0123 (dydd Llun i ddydd Sul 7pm tan 11pm)

Mae galwadau i'r Samariaid am ddim.

Gallwch ddod o hyd i ffyrdd eraill o gysylltu â'r Samariaid ar eu gwefan. 

Shout

Gallwch hefyd anfon neges destun i 'SHOUT' i 85258 i ddechrau sgwrs gyda gwirfoddolwr Shout hyfforddedig. Mae’r negeseuon testun am ddim, yn ddienw ac yn gyfrinachol o unrhyw le yn y DU.

Os ydych chi'n meddwl ei fod yn argyfwng

Os ydych chi'n meddwl bod eich bywyd chi neu rywun arall mewn perygl, dylech ffonio 999 neu fynd i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys os gallwch chi.

Gallwch hefyd ddod o hyd i restr o wasanaethau iechyd meddwl brys ar wefan Mind.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.