Os byddwch chi’n cael anaf oherwydd damwain yn y gwaith
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Bydd cael cofnodion o’ch damwain yn ddefnyddiol os byddwch chi’n hawlio iawndal neu os bydd angen i chi hawlio budd-daliadau, gan gynnwys Tâl Salwch Statudol.
Gallwch chi gofnodi eich damwain drwy roi gwybod amdani yn y gwaith a gweld meddyg.
Mae hefyd yn syniad da:
tynnu lluniau o'ch anaf a beth bynnag a achosodd eich damwain
sicrhau bod gennych chi fanylion cyswllt unrhyw un a welodd eich damwain
gwneud nodiadau am eich damwain cyn gynted â phosibl - gallwch chi gynnwys lluniau os byddan nhw’n helpu i ddangos beth ddigwyddodd
gofyn i unrhyw dystion wneud nodiadau a'u rhannu gyda chi
Rhoi gwybod am ddamwain yn y gwaith
Mae pwy rydych chi'n rhoi gwybod iddo am eich damwain yn dibynnu ar y canlynol:
ble roeddech chi’n gweithio pan gawsoch chi’r ddamwain
eich 'statws cyflogaeth' - mae hyn yn golygu a ydych yn gyflogai, yn weithiwr neu'n hunangyflogedig
Gallwch chi wirio eich statws cyflogaeth ar GOV.UK.
Gallwch chi ofyn i rywun arall roi gwybod am eich damwain ar eich rhan, os na allwch chi wneud hynny eich hun.
Os oeddech chi’n gweithio yn eich gweithle arferol
Os ydych chi'n gyflogai neu'n weithiwr, dylech chi sicrhau bod eich cyflogwr yn gwybod am eich damwain. Mae’n debyg mai’r person gorau i ddweud wrtho yw eich rheolwr – edrychwch yn eich llawlyfr staff neu ar y fewnrwyd os nad ydych yn siŵr.
Os ydych chi'n hunangyflogedig, rhaid i chi roi gwybod i'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch am eich damwain os digwyddodd y ddamwain pan oeddech chi'n gweithio ar eich safle eich hun.
Os oeddech chi’n gweithio yn rhywle heblaw eich gweithle arferol
Os ydych chi’n gyflogai neu’n weithiwr, dylech chi roi gwybod i'r person rydych chi fel arfer yn adrodd iddo pan fyddwch chi yno. Mae’n syniad da rhoi gwybod i’ch rheolwr hefyd.
Os ydych chi'n hunangyflogedig ac yn gweithio ar safle busnes cleient, dylech chi roi gwybod i bwy bynnag rydych chi’n delio â nhw fel arfer pan fyddwch chi yno. Rhaid i chi roi gwybod i'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch am eich damwain os digwyddodd y ddamwain pan oeddech chi'n gweithio yng nghartref rhywun.
Cofnodi eich damwain mewn llyfr damweiniau
Os oes gan y cwmni neu’r sefydliad y gwnaethoch chi roi gwybod iddo am eich damwain fwy na 10 o weithwyr, rhaid iddyn nhw ei chofnodi mewn llyfr damweiniau. Mae’n syniad da gwneud yn siŵr ei fod wedi cael ei wneud – gallwch chi ofyn i’ch rheolwr wneud yn siŵr.
Efallai y bydd gan sefydliadau llai lyfr damweiniau hefyd, felly mae'n werth gofyn a oes modd cofnodi eich damwain.
Os nad oes llyfr damweiniau, ysgrifennwch fanylion y ddamwain a'i hanfon at eich rheolwr neu'r person rydych chi’n adrodd iddo. Cadwch gopi i chi eich hun.
Gweld doctor
Mae'n syniad da gwneud apwyntiad i weld eich meddyg teulu cyn gynted â phosibl. Gallan nhw gofnodi manylion eich damwain yn eich cofnodion meddygol, yn ogystal â thrin eich anaf.
Os oes angen i chi weld meddyg ar unwaith, gallwch chi ddod o hyd i'ch gwasanaethau gofal brys lleol ar wefan y GIG.
Edrychwch ar eich contract i weld a oes rhaid i’ch cyflogwr roi amser o'r gwaith gyda thâl i chi ar gyfer eich apwyntiad - darllenwch fwy am amser o'r gwaith i ymweld â'r meddyg.
Cael tâl a budd-daliadau os na allwch chi weithio
Edrychwch ar eich contract cyflogaeth i weld:
os gallwch chi gael 'tâl salwch cytundebol' gan eich cyflogwr
os oes gennych chi fynediad at linell gymorth i weithwyr neu ofal meddygol
Os nad ydych wedi cael contract neu os nad yw'n sôn am dâl salwch, gofynnwch i'ch rheolwr, neu edrychwch yn eich llawlyfr staff neu ar y fewnrwyd.
Os ydych chi'n gyflogai neu'n weithiwr asiantaeth, mae’n bosibl y byddwch chi’n cael Tâl Salwch Statudol am hyd at 28 wythnos - gweld a oes gennych chi hawl i gael Tâl Salwch Statudol.
Os na fyddwch chi'n gallu cael Tâl Salwch Statudol efallai y byddwch chi’n gallu hawlio Credyd Cynhwysol neu fudd-dal arall - darllenwch fwy am gael arian pan fyddwch chi'n absennol o’r gwaith oherwydd salwch.
IOs byddwch chi’n mynd yn sâl neu’n cael eich anafu yn y gwaith efallai y byddwch chi’n gallu hawlio Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol - darllenwch fwy am gael budd-daliadau os ydych chi’n sâl neu wedi cael eich anafu yn y gwaith.
Os ydych chi'n hunangyflogedig a bod gennych chi yswiriant diogelu incwm, gallwch chi wneud hawliad. Os nad oes gennych chi yswiriant, gallwch chi weld pa fudd-daliadau y gallwch chi eu cael.
Gwneud hawliad am anaf personol
Efallai y byddwch chi eisiau hawlio iawndal am eich anaf os ydych chi’n credu mai eich cyflogwr neu'ch cleient sydd ar fai - er y gall hyn fod yn gymhleth a chymryd amser hir.
Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, cysylltwch â'ch cynrychiolydd lleol neu edrychwch ar eu gwefan i weld sut mae cysylltu â nhw. Byddant nhw’n eich helpu i benderfynu beth i'w wneud ac efallai y gallan nhw ddod i gyfarfodydd gyda'ch cyflogwr i'ch cefnogi.
Mae'n well cael cyngor cyfreithiol cyn gynted â phosibl os ydych chi eisiau gwneud hawliad, oherwydd mae terfynau amser. Gweld sut i gael cyngor cyfreithiol ynglŷn â hawlio iawndal am anaf.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 19 Medi 2019