Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Os cewch ffurflen RHW sy’n dweud ‘terfynu’ neu ‘feddiant’ gan eich landlord

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Rhoi ffurflen RHW (Rhentu Cartrefi Cymru) i chi sy’n dweud ‘terfynu’ neu ‘feddiant’ yw’r cam cyntaf y mae’n rhaid i’ch landlord ei gymryd i wneud i chi adael eich cartref.

Os yw eich ffurflen RHW yn ddilys, bydd angen i'ch landlord fynd i'r llys i'ch troi allan. Ni fydd yn rhaid i chi adael eich cartref ar unwaith.

Efallai y byddwch yn gallu herio eich troi allan ac aros yn hirach yn eich cartref.

Os oes gennych hysbysiad troi allan ‘adran 21’ neu ‘adran 8’

Os oes gennych un o’r hysbysiadau troi allan hyn, mae’n ddilys os rhoddodd eich landlord ef i chi cyn 1 Rhagfyr 2022.

Dylech wirio ein cyngor ar:

Gwiriwch beth allwch chi ei wneud am y ffurflen RHW

Mae 2 grŵp o hysbysiadau troi allan y mae landlordiaid yn eu rhoi gan ddefnyddio ffurflenni RHW:

  • hysbysiadau ‘dim bai’ – nid oes angen rheswm ar eich landlord dros roi hysbysiad dim bai i chi
  • hysbysiadau 'gyda sail' - mae'n rhaid i'ch landlord roi rheswm i chi dros roi hysbysiad gyda sail i chi

Mae’r hyn sy’n digwydd nesaf a beth allwch chi ei wneud yn dibynnu ar ba ffurflen RHW sydd gennych chi a pha fath o landlord rydych chi’n rhentu ganddo.

Dylai enw'r ffurflen fod ar y brig. Mae’n dechrau gyda ‘Ffurflen RHW’, ac yna rhif – er enghraifft ‘Ffurflen RHW16’.

Gwiriwch a oes gennych hysbysiad dim bai

Mae eich hysbysiad yn hysbysiad dim bai os yw’n un o’r canlynol:

  • Ffurflen RHW16
  • Ffurflen RHW17
  • Ffurflen RHW18
  • Ffurflen RHW22
  • Ffurflen RHW24
  • Ffurflen RHW25
  • Ffurflen RHW38

Os oes gennych un o'r ffurflenni hyn a'ch bod yn rhentu gan landlord preifat, gwiriwch beth i'w wneud os cewch hysbysiad dim bai. 

Os oes gennych ffurflen RHW18 ac rydych yn rhentu gan eich cyngor lleol neu gymdeithas tai, gwiriwch ein cyngor ar beth i’w wneud os oes gennych hysbysiad troi allan.

Gwiriwch a oes gennych hysbysiad â sail

Mae eich hysbysiad yn hysbysiad â sail os yw’n un o’r canlynol:

  • Ffurflen RHW20
  • Ffurflen RHW21
  • Ffurflen RHW23

Os oes gennych un o'r ffurflenni hyn a'ch bod yn rhentu gan landlord preifat, gwiriwch beth i'w wneud os byddwch yn cael hysbysiad â sail. 

Os oes gennych un o’r ffurflenni hyn a’ch bod yn rhentu gan eich cyngor lleol neu gymdeithas dai, gwiriwch ein cyngor ar beth i’w wneud os oes gennych hysbysiad troi allan.

Os nad ydych yn siŵr pa fath o ffurflen RHW ydyw

Dylech ofyn i'ch landlord neu'ch asiant gosod tai - neu siarad â chynghorydd.  

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.