Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Os ydych chi’n ddigartref ac nid yw’r cyngor yn fodlon rhoi cartref i chi

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Os na allwch chi gael cartref wrth y cyngor, mae yna opsiynau eraill y gallwch chi roi cynnig arnyn nhw er mwyn cael rhywle i fyw. Mae hyn yn cynnwys dod o hyd i rywle y gallwch chi aros ar frys a chartref tymor hwy.

Os yw’r cyngor wedi penderfynu na fyddan nhw’n eich helpu chi a’ch bod yn meddwl y gallen nhw fod yn anghywir, gwiriwch a allwch herio penderfyniad digartrefedd y cyngor.

Cael cymorth oddi wrth y gwasanaethau cymdeithasol

Efallai y bydd y gwasanaethau cymdeithasol yn gallu dod o hyd i rywle i chi fyw os ydych chi’n ddigartref a bod unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol:

  • os ydych chi’n 16 neu’n 17 oed ac heb deulu y gallwch fyw gyda nhw

  • rydych chi’n gyfrifol am blentyn sydd fel arfer yn byw gyda chi

  • os ydych chi’n sâl, yn anabl neu ag anghenion iechyd meddwl

  • rydych chi rhwng 18 a 25 oed ac yn arfer byw mewn gofal

Gwiriwch os gallwch chi gael cymorth digartrefedd oddi wrth y gwasanaethau cymdeithasol.

Os oes angen rhywle i aros ar frys arnoch chi

Bydd angen i chi ystyried aros mewn lle dros dro os nad oes gennych chi unrhyw le i aros heno.

Mae’n werth gofyn i ffrindiau neu aelodau o’r teulu a allwch chi aros gyda nhw tra byddwch chi’n dod o hyd i rywle.

Os ydych chi wedi cysgu tu allan dros nos neu’n bwriadu cysgu tu allan heno

Gallwch chi gael cymorth wrth Streetlink. Byddan nhw’n eich helpu i gael cymorth eich cyngor lleol neu elusennau. Bydd angen i chi ddweud wrth Streetlink ble rydych chi’n cysgu ar eu gwefan. Byddan nhw’n dod o hyd i chi ac yn eich helpu i ddod o hyd i rywle i aros.

Efallai y byddwch chi’n gallu cael lle i aros mewn hostel, lloches nos, lloches neu wely a brecwast. Gallwch ofyn i’ch cyngor lleol am fanylion cyswllt llefydd i aros. Dewch o hyd i’ch cyngor lleol ar GOV.UK.

Fel arfer bydd angen i chi gael eich atgyfeirio at hostel neu loches nos gan asiantaeth gynghori neu gymorth. Siaradwch â chynghorydd i weld os ydyn nhw’n gallu eich atgyfeirio. Efallai y byddan nhw hefyd yn gallu rhoi cyngor a manylion mathau eraill o gymorth i chi, er enghraifft prydau poeth a chawod.

Bydd rhai llefydd yn gadael i chi alw neu gerdded i mewn i gadw lle - mae'n well ffonio yn gyntaf i weld a allwch chi ymweld i gadw lle.

Mae dal angen i chi dalu rhent os ydych chi’n aros mewn hostel, lloches nos neu loches. Efallai y gallwch gael Credyd Cynhwysol neu Fudd-dal Tai i’ch helpu i dalu’r rhent - gwiriwch pa fudd-daliadau y gallwch eu derbyn.

Os na allwch chi aros yn eich cartref oherwydd trais, bygythiadau neu fath arall o gamdriniaeth

Mae’n well edrych am le mewn lloches. Gallan nhw helpu i’ch cadw’n ddiogel oherwydd dydyn nhw ddim yn hysbysebu manylion eu cyfeiriad. Gallwch hefyd gael cyngor a chymorth arbenigol.

Gallwch drefnu i gael lle mewn lloches drwy alw un o’r elusennau canlynol:

  • Refuge neu Gymorth i Fenywod ar 0808 2000 247 unrhyw bryd

  • Llinell Gymorth i Ddynion ar 0808 801 0327, Llun - Gwener o 10am i 5pm

Mae galwadau i’r rhifau hyn am ddim.

Os nad ydych chi eisiau galw’r lloches eich hun, gallwch gael eich atgyfeirio gan eich cyngor lleol. Os oes angen help arnoch chi i alw’r lloches, siaradwch â chynghorydd.

Os na allwch chi ddod o hyd i le mewn lloches, cysylltwch â’ch cyngor lleol – dylen nhw ddod o hyd i rywle diogel i chi aros. Gallwch ddod o hyd i’ch cyngor lleol ar GOV.UK.

Dod o hyd i gartref tymor hwy

Gall cael cartref tymor hwy gymryd amser hir, felly mae’n bwysig gwneud yn siŵr eich bod wedi dod o hyd i le dros dro yn gyntaf.

Fel arfer, dod o hyd i dŷ rhent preifat yw’r ffordd gyflymaf o gael cartref tymor hwy. Gall fod yn anodd dod o hyd i dai fforddiadwy mewn rhai ardaloedd felly mae’n werth chwilio mewn sawl lle.

Os ydych chi ar incwm isel neu’n derbyn budd-daliadau gallwch gael cymorth gyda’ch chostau rhentu preifat. Mae hyn yn cynnwys cael cymorth i dalu blaendal.

Gallwch hefyd wirio os gallwch chi wneud cais am dŷ cyngor neu dŷ cymdeithas dai.Dyma’r ffordd orau o gael cartref fforddiadwy – mae’n debygol o fod yn rhatach na rhentu’n breifat ac yn cynnig mwy o sicrwydd.

Efallai y gallwch chi wneud cais hyd yn oed os nad oedd eich cyngor lleol yn gallu rhoi cartref dros dro i chi pan wnaethoch chi gais am gymorth digartrefedd.

Fel arfer byddwch yn cael eich rhoi ar restr aros pan fyddwch chi’n gwneud cais - gall gymryd amser hir i gyrraedd top y rhestr. Gallwch weld sut mae rhestr aros eich cyngor lleol yn gweithio ar eu gwefan – chwiliwch am ‘polisi dyraniadau’. Dewch o hyd i’ch cyngor lleol ar GOV.UK.

Gwneud cais am grant elusennol

Efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am grant elusennol i’ch helpu i gael rhywle i fyw. Darllenwch wybodaeth am grantiau elusennol ar wefan Turn2Us.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.