Os ydych yn cael eich troi allan fel lletywr

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Rydych yn lletywr os yw’r ddau bwynt canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn byw gyda’ch landlord ac yn rhannu ‘gofod byw’ gyda nhw – er enghraifft, cegin, ystafell fyw neu ystafell ymolchi

  • roedd eich landlord eisoes yn byw yno fel eu prif gartref pan wnaethoch symud i mewn

Nid yw gofod byw yn cynnwys coridorau, grisiau, ardaloedd storio neu fynedfeydd.

Fel lletywr, bydd gennych gytundeb gyda’ch landlord i rentu gofod yn eu cartref. Efallai bod gennych ‘gytundeb lletywr ’ - neu efallai eich bod wedi cytuno ar lafar gyda’ch landlord.

Os bydd eich landlord wedi rhoi contract meddiannaeth i chi

Mae gennych fwy o hawliau na’r rhan fwyaf o letywyr. Mae gennych yr un hawliau â’r rhan fwyaf o bobl sy’n rhentu gan landlord ac nad ydynt yn lletywyr.

Mae’n anarferol i landlordiaid roi contract meddiannaeth i letywr.

Dysgwch beth yw eich hawliau os oes gennych gontract meddiannaeth a’ch bod yn cael eich troi allan.

Fel lletywr, nid oes gennych lawer o ddiogelwch rhag cael eich troi allan ond mae’n rhaid i’ch landlord roi digon o rybudd i chi symud allan. Mae faint o rybudd y mae angen iddyn nhw ei roi yn dibynnu ar eich sefyllfa.

Os ydych chi eisoes wedi symud allan, mae rheolau eraill y mae’n rhaid i’ch landlord eu dilyn os gwnaethoch dalu blaendal neu adael unrhyw eiddo ar ôl.

Os yw eich landlord wedi marw, gallwch wirio beth ddylai ddigwydd nesaf.

Os bydd symud allan yn eich gwneud yn ddigartref

Os na fydd gennych unrhyw le i fyw ar ôl cael eich troi allan, efallai y gallwch gael cymorth.

Gallwch wneud cais i’r cyngor am rywle arall i fyw os ydych yn ddigartref yn awr neu os byddwch yn dod yn ddigartref o fewn 8 wythnos. Gwiriwch a allwch wneud cais am gymorth digartrefedd.

Faint o rybudd y dylai eich landlord ei roi i chi

Mae faint o rybudd y mae'n rhaid i'ch landlord ei roi i chi symud allan fel arfer yn dibynnu ar p'un a all eich landlord ddod i mewn i'ch ystafell heb ddweud wrthych yn gyntaf.

Gall eich landlord roi rhybudd i chi symud allan ar lafar, oni bai bod eich cytundeb yn dweud bod yn rhaid i hyn fod yn ysgrifenedig.

Nid oes angen gorchymyn llys ar eich landlord i’ch troi allan ond gall gael un os yw’n dewis gwneud hynny.

Os oes gennych ddyddiad gorffen ar gyfer eich cytundeb

Bydd eich landlord ond yn gallu eich troi allan os bydd unrhyw rai o’r canlynol yn berthnasol:

  • mae’r cyfnod penodol rydych wedi cytuno arno wedi dod i ben

  • mae eich cytundeb yn cynnwys ‘is-gymal terfynu’ – mae hyn yn galluogi eich landlord i’w ddiweddu’n gynnar ond mae’n rhaid iddynt roi’r rhybudd i chi a nodwyd yn eich cytundeb o hyd

  • mae eich cytundeb yn dweud y gall ddod i ben yn gynnar os byddwch yn torri telerau penodol – a’ch bod wedi torri’r telerau

Os bydd eich landlord yn gwneud i chi symud allan am eich bod wedi torri un o’r telerau, mae’n rhaid iddynt barhau i roi’r un cyfnod o rybudd i chi â’r hyn a nodwyd yn y cytundeb.

Os na wnaethoch gytuno ar ddyddiad gorffen gyda’ch landlord

Mae’n rhaid i’ch landlord roi ‘rhybudd rhesymol’ i chi symud allan. Weithiau gall rhybudd rhesymol fod yn ychydig ddyddiau, ond mae’n fwy tebygol o fod yn ychydig wythnosau.

Mae’r hyn sy’n rhesymol yn dibynnu ar bethau fel:

  • ers pryd rydych wedi byw yno

  • pa mor aml y mae’n rhaid i chi dalu rhent – er enghraifft os oes rhaid i chi dalu rhent yn fisol, gallai mis o rybudd fod yn rhesymol

  • eich ymddygiad – er enghraifft os ydych wedi difrodi’r eiddo neu wedi bod yn ymosodol, rydych yn debygol o gael llai o rybudd

Os yw eich cytundeb gyda’ch landlord yn cynnwys cyfnod rhybudd ond eich bod yn meddwl ei fod yn afresymol, dylech ofyn iddo roi swm rhesymol o rybudd i chi yn lle hynny.

Enghraifft

Mae Bushra yn byw gyda rhieni ei ffrind. Mae hi'n rhannu'r ystafell fyw, y gegin a'r ystafell ymolchi gyda nhw. Bob pythefnos maen nhw'n golchi ei chynfasau gwely ac yn glanhau ei hystafell.

Mae gan Bushra gytundeb sy'n rhedeg o fis i fis.

Mae’r cytundeb yn dweud bod yn rhaid i rieni ei ffrind roi 2 fis o rybudd iddi os ydyn nhw am iddi symud allan. Mae hyn yn golygu mai 2 fis yw'r cyfnod rhybudd cywir.

Pe na bai gan Bushra gyfnod rhybudd y cytunwyd arno, byddai'n cael rhybudd rhesymol i adael yn lle hynny.

Os gwnaethoch gytuno â'ch landlord bod yn rhaid iddyn nhw ddweud wrthych ymlaen llaw os oes angen iddyn nhw ddod i mewn i'ch ystafell, mae'r rheolau'n wahanol.

Dylai eich cyfnod rhybudd fod yr un fath â'ch cyfnod rhent. Er enghraifft, os ydych yn talu rhent yn fisol, mae’n rhaid i’ch landlord roi o leiaf mis o rybudd i chi.

Os na fyddant yn rhoi’r swm cywir o rybudd i chi, nid yw’n ddilys ac nid oes rhaid i chi adael.

Os nad ydych yn meddwl bod eich landlord yn cael eich troi allan

Os nad yw eich landlord wedi dilyn y rheolau, dylech siarad â nhw. Gallwch ddweud wrthynt eu bod yn gweithredu’n anghyfreithlon os na wnaethant roi digon o rybudd i chi.

Os nad yw siarad â’ch landlord yn gweithio, fel arfer mae’n well dod o hyd i rywle arall i fyw cyn gynted ag y gallwch.

Os na fydd gennych unrhyw le i fyw ar ôl i chi gael eich troi allan, efallai y gallwch gael cymorth. Gwiriwch a allwch wneud cais am gymorth digartrefedd.

Mae’n bosibl herio’r penderfyniad i’ch troi allan yn y llys ond mae angen i chi benderfynu a yw’n werth gwneud hynny oherwydd:

  • bydd y llys ond yn caniatáu i chi aros yn yr eiddo am uchafswm o ychydig wythnosau pellach fel arfer

  • efallai y bydd yn rhaid i chi dalu’r costau llys

  • mae’n debygol o greu amgylchedd llawn straen lle’r ydych chi’n byw

Bydd yn rhaid i chi barhau i dalu rhent tra byddwch yn herio’r penderfyniad i’ch troi allan.

Siaradwch â chynghorydd os ydych eisiau herio’r penderfyniad i’ch troi allan.

Os byddwch yn gwrthod symud allan

Os yw eich landlord wedi dilyn y rheolau i’ch troi allan, fel arfer nid oes gennych unrhyw hawl cyfreithiol i fod yn yr eiddo mwyach.

Gall eich landlord gymryd camau i’ch gorfodi i symud allan, ar yr amod nad ydynt yn bygwth nac yn aflonyddu arnoch. Er enghraifft, efallai y byddan nhw'n newid y cloeon tra byddwch chi allan.

Os byddwch yn gwrthod gadael ar ôl i’r cyfnod rhybudd ddod i ben, gall eich landlord gael gorchymyn llys i’ch troi allan. Mae’n well gadael pan fydd y cyfnod rhybudd yn dod i ben, neu bydd yn rhaid i chi dalu’r costau llys eich hun fel arfer.

Os byddwch wedi gadael unrhyw eiddo ar ôl pan wnaethoch symud allan

Dylai eich landlord ddweud wrthych pryd y gallwch gasglu eich eiddo. Os nad ydynt, dylech ddweud wrthynt pryd y byddwch ar gael a cheisio cytuno ar ddiwrnod ac amser y gallwch eu casglu.

Rhaid i'ch landlord gadw eich eiddo'n ddiogel am gyfnod rhesymol o amser. Mae’r hyn sy’n rhesymol yn dibynnu ar y sefyllfa – er enghraifft, os ydych yn sâl ac yn methu â theithio, dylent roi mwy o amser i chi.

Os oes arnoch chi rent i’ch landlord, ni chaiff gadw eich eiddo i adennill yr arian sy’n ddyledus gennych.

Os nad ydych yn gallu casglu eich eiddo, dylech ddweud wrth eich landlord. Os ydyn nhw'n meddwl nad ydych chi byth yn dod yn ôl efallai y byddan nhw'n taflu neu'n gwerthu'ch pethau.

Os gwnaethoch dalu blaendal

Os nad yw eich landlord wedi dychwelyd eich blaendal pan fyddwch yn gadael, dylech ofyn iddyn nhw ei roi yn ôl i chi.

Os na fydd y landlord yn ei roi yn ôl i chi, mae'r hyn sydd angen i chi ei wneud yn dibynnu ar a wnaeth eich landlord ddiogelu'ch blaendal mewn cynllun diogelu blaendal ai peidio.

Nid oes rhaid i’ch landlord ddiogelu eich blaendal. Gallant ei ddiogelu os byddant yn dewis gwneud hynny ond nid yw hyn yn gyffredin.

Os nad yw eich blaendal wedi’i ddiogelu

Gallai eich landlord gadw rhywfaint o’ch blaendal os bydd angen iddynt atgyweirio rhywbeth rydych chi wedi’i ddifrodi – dylent ddweud wrthych beth sydd wedi’i ddifrodi. Efallai y gallwch drafod gyda’ch landlord i gytuno faint o’ch blaendal y dylent ei gadw ar gyfer yr atgyweiriadau.

Os bydd eich landlord yn ceisio cadw rhywfaint o’ch blaendal neu’r blaendal cyfan ac nid ydych yn cytuno, efallai y bydd yn rhaid i chi fynd â’ch landlord i’r llys hawliadau bychain i gael eich arian yn ôl.

Os byddwch yn mynd â'ch landlord i'r llys hawliadau bychain, fel arfer bydd yn rhaid i chi dalu rhai costau llys ond dylech eu cael yn ôl os byddwch yn ennill eich achos.

Os byddwch yn colli’r achos, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu costau eich landlord - gallai hyn fod ar gyfer pethau fel costau teithio a ffioedd llys.

Siaradwch â chynghorydd os bydd angen help arnoch i fynd â’ch landlord i’r llys i gael eich blaendal yn ôl.

Os yw eich blaendal wedi’i ddiogelu

Dylai eich landlord fod wedi dweud wrthych pa gynllun maen nhw wedi’i ddefnyddio – Y Gwasanaeth Diogelu Blaendaliadau, My Deposits neu Gynllun Blaendal Tenantiaeth.

Gallwch ddefnyddio gwasanaeth 'datrys anghydfod amgen' (ADR) eich cynllun i'ch helpu i gael eich blaendal yn ôl. Mae'n rhad ac am ddim ac yn hawdd gwneud hawliad.

Fel arfer bydd yn rhaid i chi wneud eich cais i'r gwasanaeth ADR o fewn 3 mis i symud allan o'r eiddo. Os bydd eich landlord yn gwrthod defnyddio’r gwasanaeth ADR gallwch fynd â nhw i’r llys yn lle hynny.

Os byddwch yn cytuno ar ran o'ch blaendal, dylech gael yr arian rydych yn cytuno arno yn ôl yn gyflym. Fel arfer byddwch yn cael eich arian yn ôl mewn 10 diwrnod - mae'n dibynnu ar eich sefyllfa ac ym mha gynllun y mae eich blaendal.

Ar ôl i’r gwasanaeth ADR gael tystiolaeth gennych chi a’ch landlord, bydd yn anfon penderfyniad terfynol atoch o fewn 6 wythnos drwy e-bost neu lythyr. Byddant yn esbonio sut y byddwch yn cael unrhyw arian yn ôl sy'n ddyledus i chi.

Bydd yn rhaid i chi a'ch landlord dderbyn beth bynnag y bydd y gwasanaeth ADR yn ei benderfynu - ni fyddwch yn gallu ei herio.

Edrychwch ar wefan eich cynllun i gael gwybod sut i ddefnyddio eu gwasanaeth ADR. Gallwch wirio:

Gwneud cais i’r gwasanaeth ADR

Bydd angen i chi lenwi ffurflen i esbonio pam eich bod yn credu y dylech gael eich blaendal yn ôl. Dylech roi unrhyw dystiolaeth sydd gennych, er enghraifft:

  • ffotograffau yn dangos cyflwr yr eiddo pan wnaethoch symud allan

  • derbynneb os gwnaethoch dalu i’r eiddo gael ei lanhau’n broffesiynol

  • llythyrau neu negeseuon e-bost ynglŷn â phroblemau y gwnaethoch eu codi gyda’ch landlord y dylent fod wedi’u hatgyweirio, er enghraifft toiled yn gollwng a achosodd ddifrod pellach

Os nad ydych yn siŵr a fyddai tystiolaeth yn ddefnyddiol, mae’n well ei hanfon beth bynnag.

Bydd y gwasanaeth ADR hefyd yn gofyn i’ch landlord am dystiolaeth.

Os bydd eich landlord yn gwrthod defnyddio’r gwasanaeth ADR

Bydd angen i chi fynd â’ch landlord i’r llys hawliadau bychain i gael eich arian yn ôl.

Fel arfer bydd yn rhaid i chi dalu rhai costau llys i fynd i'r llys hawliadau bychain - dylech gael y costau yn ôl os byddwch yn ennill eich achos. Os byddwch yn colli, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu costau eich landlord - gallai hyn fod ar gyfer pethau fel costau teithio a ffioedd llys.

Siaradwch â chynghorydd os ydych eisiau cael cymorth i fynd â’ch landlord i’r llys i gael eich blaendal yn ôl.

Os yw eich landlord wedi marw

Os bydd eich landlord yn marw, bydd yr eiddo fel arfer yn cael ei drosglwyddo i berthnasau neu ffrindiau sydd wedi goroesi.

Bydd y person sy'n etifeddu'r eiddo yn dod yn landlord newydd i chi.

Os bydd eich landlord newydd yn symud i mewn, byddwch yn parhau i fod yn lletywr gyda’r un hawliau ag oedd gennych o’r blaen. Byddwch yn cadw’r un hawliau hyd yn oed os bydd eich landlord newydd yn symud i mewn cyn y farwolaeth neu ar y diwrnod y bu farw eich landlord blaenorol.

Os na fydd eich landlord newydd yn symud i mewn, gallai eich hawliau newid. Siaradwch â chynghorydd i ganfod pa hawliau sydd gennych.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 09 Ionawr 2024