Os ydych chi'n anghytuno â'ch cymydog am wal neu ffens
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Os ydych chi a'ch cymydog yn anghytuno am wal neu ffens, mae pethau y gallwch chi eu gwneud i ddatrys y broblem. Rhai enghreifftiau o broblemau yw wal y mae angen ei hatgyweirio neu bwy ddylai dalu i gael ffens newydd.
Os ydych chi’n rhentu eich cartref, gofynnwch i'ch landlord ddelio â'r broblem ar eich rhan. Ni ddylech chi wneud unrhyw newidiadau i waliau neu ffensys heb eu caniatâd.
Os nad ydych chi’n sicr ble mae’r terfyn
Cyn i chi allu datrys y broblem, mae angen i chi wybod ble mae'r terfyn rhwng eich cartrefi. Bydd hyn yn eich helpu chi i ddeall ar eiddo pwy mae'r wal neu'r ffens ynteu a yw'n cael ei rhannu rhyngoch chi.
Y ffordd orau o gael gwybod yw edrych ar y dogfennau cyfreithiol a gawsoch chi pan brynoch chi eich cartref.
Gallwch chi brynu’r dogfennau gan y Gofrestrfa Tir os nad ydyn nhw gennych chi - dim ond ychydig bunnoedd y mae'n ei gostio. Efallai y byddai'n syniad da prynu'r dogfennau ar gyfer tŷ eich cymydog hefyd - efallai y byddan nhw'n cynnwys gwybodaeth sydd ddim yn eich dogfennau chi.
Os ydych chi’n anghytuno â’ch cymydog ar ble mae'r terfyn, gallwch chi gael cymorth gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig - maen nhw’n gweithio gyda syrfewyr sy’n gallu helpu gyda phroblemau eiddo.
Os ydych chi eisiau gwneud gwaith ar wal sydd ar derfyn
Mae'r wal yn debygol o fod yn 'wal gydrannol' boed yn yr awyr agored neu'n wal fewnol. Bydd angen i chi ddilyn camau penodol cyn y gallwch chi wneud unrhyw waith arni, er enghraifft, rhoi rhybudd ysgrifenedig. Gallwch chi wirio a yw’n wal gydrannol ar GOV.UK. Os ydyw, ewch i weld sut mae cytuno ar y gwaith gyda’ch cymydog.
Ceisiwch ddod o hyd i ateb gyda'ch cymydog
Os ydych chi'n gwybod ble mae'r terfyn ac nad oes angen i chi ddilyn y broses ar gyfer waliau cydrannol, y peth gorau i'w wneud yw siarad â'ch cymydog.
Siaradwch â nhw wyneb yn wyneb os gallwch chi – gwnewch nodyn o’r hyn rydych chi wedi ei gytuno arno. Os nad ydych chi’n teimlo’n gyfforddus yn siarad â nhw, ysgrifennwch lythyr neu gofynnwch i rywun arall gysylltu â nhw ar eich rhan. Cadwch gopïau o unrhyw lythyrau neu negeseuon e-bost y byddwch chi’n eu hanfon neu'n eu derbyn.
Yn aml, mae'n well dod i gyfaddawd, er enghraifft rhannu cost panel ffens newydd. Gall hyn eich helpu chi i gadw perthynas dda, a gallai fod yn rhatach na thalu cyfreithiwr i ddatrys yr anghytundeb.
Os mai eich cymydog sy’n berchen ar y wal neu’r ffens
Does dim rhaid i'ch cymydog newid wal neu ffens oherwydd eich bod chi eisiau iddyn nhw wneud hynny, er enghraifft ei gwneud yn uwch ar gyfer preifatrwydd. Does dim hawl gennych chi i wneud unrhyw newidiadau i'ch ochr chi heb eu caniatâd nhw, fel peintio'r ochr.
Os yw'r wal neu'r ffens yn ymddangos yn beryglus, dywedwch wrth eich cymydog oherwydd efallai nad ydynt yn ymwybodol o hynny.
Os nad ydynt yn ei thrwsio, gallwch roi gwybod i’ch cyngor am wal neu strwythur peryglus ar GOV.UK.
Os mai chi sy’n berchen ar y wal neu’r ffens
Edrychwch ar ddogfennau cyfreithiol eich cartref. Efallai y byddan nhw'n dweud bod yn rhaid i chi gadw'r wal neu'r ffens rydych chi'n anghytuno arni mewn cyflwr da.
Dylech chi hefyd wneud yn siŵr bod y wal neu'r ffens yn ddiogel - os nad yw'n ddiogel, gallai eich cymydog neu'r cyngor gymryd camau yn eich erbyn.
Os yw'r wal neu'r ffens yn ddiogel ac nad oes unrhyw wybodaeth am ei thrwsio yn eich dogfennau cyfreithiol, eich penderfyniad chi yw gwneud, neu beidio â gwneud yr hyn y gofynnir gan eich cymydog.
Cymorth gyda'ch anghydfod
Os nad ydych chi’n siŵr beth i’w wneud, gallwch chi gael help yn eich canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf.
Cymorth gan gyfryngwr
Os ydych chi’n dal i anghytuno, gallwch chi gael help gan gyfryngwr – rhywun sydd ddim yn adnabod y naill na’r llall ohonoch chi ac sydd wedi’i hyfforddi i helpu pobl i ddatrys anghytundebau.
Mae'n syniad da gofyn i'ch cyngor a ydyn nhw’n gallu eich helpu i ddod o hyd i gyfryngwr.
Gallwch chi ddod o hyd i’ch cyngor lleol ar GOV.UK.
Os oes angen help arnoch o hyd, gallwch chi chwilio am gyfryngwr ar GOV.UK.
Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am gyfryngwr.
Cymorth gan gyfreithiwr
Os bydd y broblem yn parhau, bydd angen i chi gael help gan gyfreithiwr sy'n arbenigo mewn anghydfodau rhwng cymdogion - ond bydd hyn yn ddrud.
Gallwch chi weld a oes modd i chi gael cymorth cyfreithiol fforddiadwy.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 15 Chwefror 2018