Ysgaru neu ddod â’ch partneriaeth sifil i ben

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os ydych eisiau dod â’ch priodas i ben, gallwch wneud cais i ysgaru. Os ydych eisiau dod â’ch partneriaeth sifil i ben, gallwch wneud cais i’w diddymu. Mae’r broses yr un fath ar gyfer y naill a’r llall.

Nid oes angen i chi roi rheswm er mwyn cael ysgariad na diddymiad – weithiau, gelwir hyn yn ysgariad neu ddiddymiad ‘heb fai’. 

Ni allwch ond gael ysgariad neu ddiddymiad ar ôl i chi fod yn briod neu mewn partneriaeth sifil am o leiaf flwyddyn. Os oes llai na blwyddyn wedi mynd heibio, gallwch ddod i wybod sut i wahanu oddi wrth eich partner.

Nid oes ond angen i chi a’ch partner wneud un cais rhyngoch. Gallwch anfon y ffurflen gais:

  • oddi wrth y ddau ohonoch gyda’ch gilydd – cais ar y cyd yw’r enw ar hyn

  • oddi wrth y naill neu’r llall ohonoch – cais fel unig geisydd yw’r enw ar hyn

Os mai chi yw’r ymatebydd mewn cais i gael ysgariad neu ddiddymiad a’ch bod am ei wrthwynebu, dylech siarad â chyfreithiwr yn gyntaf. Gallwch ddod i wybod sut i ymateb i gais i gael ysgariad neu ddiddymiad drwy fynd i wefan GOV.UK.

Pwysig

Os oes angen i chi siarad â rhywun oherwydd bod eich partner yn ymosodol

Os yw’ch partner yn gwneud i chi deimlo’n bryderus neu os ydych yn teimlo eich bod dan fygythiad, dylech gael cymorth.

Os ydych yn fenyw a bod cam-drin domestig yn effeithio arnoch, gallwch ffonio Refuge neu Cymorth i Fenywod ar 0808 2000 247 unrhyw bryd. 

Os ydych yn ddyn y mae cam-drin domestig yn effeithio arnoch, gallwch ffonio’r Llinell Gyngor i Ddynion ar 0808 801 0327 rhwng 10am a 5pm o ddydd Llun tan ddydd Gwener.

Os nad ydych yn siŵr beth i’w wneud nesaf, siaradwch â chynghorydd.

Cyn i chi wneud cais

Dylech chi a’ch partner geisio cytuno ar y pethau a ganlyn:

Os nad ydych wedi cytuno beth i’w wneud o ran eich arian, eich cartref neu’ch plant, gallwch wneud cais i gael ysgariad neu ddiddymiad o hyd.

Os nad ydych yn sicr a ydych am gael ysgariad neu ddiddymiad, gallwch ddod o hyd i wasanaethau cwnsela drwy fynd i wefan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Os oes gennych fisa i fyw yn y Deyrnas Unedig

Os ydych yn ddibynnol ar fisa eich partner, byddwch yn colli eich fisa pan fydd eich ysgariad neu’ch diddymiad wedi’i gwblhau.

Gall fod angen i chi wneud cais i gael fisa newydd. Os nad oes gennych fisa, gall fod rhaid i chi adael y Deyrnas Unedig (y DU). Gallwch ddod i wybod sut i aros yn y DU ar fisa heb eich partner.

Edrychwch i weld pa mor hir y mae’n ei gymryd i gael ysgariad neu ddiddymiad

Bydd yn cymryd o leiaf chwe mis i gwblhau ysgariad neu ddiddymiad, hyd yn oed os yw’ch amgylchiadau’n syml. Gall gymryd yn hirach os oes angen i chi roi trefn ar faterion sy’n ymwneud ag arian, eiddo neu blant. Bydd y pethau hyn yn cael eu trin a’u trafod ar wahân i’ch ysgariad neu’ch diddymiad.

Penderfynwch sut i dalu’r costau

Bydd angen i chi dalu ffi o £612 i’r llys pan fyddwch yn gwneud cais i gael ysgariad neu ddiddymiad. Gall fod costau eraill hefyd os ydych yn bwriadu defnyddio cyfreithiwr.

Gallwch rannu ffi’r llys â’ch partner.

Os ydych yn rhannu’r ffi â’ch partner, ond mai chi sy’n mynd i wneud y cais, dylech gael gafael ar gyfran eich partner o’r ffi cyn i chi ei thalu.

Edrychwch i weld a allwch gael cymorth i dalu ffi’r llys

Os byddwch yn ei chael yn anodd talu ffi’r llys, gall fod modd i chi gael cymorth i’w thalu. Er enghraifft, gall fod modd i chi gael cymorth os ydych yn cael budd-daliadau neu os yw’ch incwm yn isel. 

Dylech wneud cais i gael cymorth i dalu ffi’r llys cyn i chi wneud cais i gael ysgariad neu ddiddymiad.

Os mai dim ond un ohonoch sy’n gymwys i gael cymorth, y peth gorau fyddai i’r person hwnnw wneud cais fel unig geisydd i gael ysgariad neu ddiddymiad. Os ydych yn gwneud cais ar y cyd â’ch partner, ni allwch gael cymorth i dalu ffi’r llys oni bai bod y ddau ohonoch yn gymwys i’w gael. 

Gallwch edrych i weld a allwch gael cymorth i dalu ffi’r llys drwy fynd i wefan GOV.UK.

Penderfynu a oes angen cyfreithiwr arnoch

Mae’n syniad da cael cyngor cyfreithiol cyn i chi ddechrau ar eich ysgariad neu’ch diddymiad. 

Gall cyfreithiwr:  

  • siarad â’ch partner a’i gyfreithiwr fel nad oes rhaid i chi wneud hynny

  • eich cynrychioli yn y llys – mae hyn yn golygu y bydd yn siarad ar eich rhan fel nad oes rhaid i chi wneud hynny 

  • gwneud yn siŵr eich bod yn cael y canlyniad gorau

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael cyfreithiwr sy’n arbenigo ym maes ysgariad neu ddiddymiad. Gall fod angen i chi chwilio y tu allan i’ch ardal.

Gallwch ddod o hyd i gyfreithiwr ar wefan Resolution.

Gallwch hefyd edrych i weld sut i gael hyd i gymorth cyfreithiol fforddiadwy neu am ddim.

Edrychwch i weld pwy ddylai dalu costau’r ysgariad neu’r diddymiad

Dylech geisio cytuno â’ch partner pwy fydd yn talu costau’r ysgariad neu’r diddymiad. Gallech rannu’r costau rhyngoch. Y peth gorau i’w wneud yw cytuno ar hyn cyn i chi ddechrau’r cais i gael ysgariad neu ddiddymiad. 

Os na allwch gytuno â’ch partner, gallwch wneud cais i’r llys benderfynu. Bydd angen i chi wneud hyn ar wahân i’ch ysgariad neu’ch diddymiad, a bydd ffi ychwanegol i’w thalu. 

Nid yw’n debygol y bydd y llys yn ei gwneud yn ofynnol i’ch partner dalu’r costau oni bai bod eich partner wedi peri i broses yr ysgariad neu’r diddymiad fod yn anoddach. Dylech gael cyngor cyfreithiol yn gyntaf. Gallwch edrych i weld sut i gael hyd i gymorth cyfreithiol fforddiadwy neu am ddim.

Camau i ysgaru neu i ddod â’ch partneriaeth sifil i ben

Os gwnaethoch gais i gael ysgariad neu ddiddymiad cyn 6 Ebrill 2022

Mae’r camau’n wahanol gan fod y gyfraith wedi newid. Gallwch wneud y pethau hyn o hyd:

Os oes angen cyngor arnoch ynghylch beth i’w wneud o ran eich arian, eich cartref neu’ch plant, gallwch gael cymorth i benderfynu beth i’w wneud pan fyddwch yn gwahanu.

I ysgaru neu i ddod â’ch partneriaeth sifil i ben, bydd angen i chi wneud y pethau a ganlyn:

  1. Penderfynu pwy ddylai wneud cais 

  2. Cael gafael ar yr wybodaeth a’r dogfennau y bydd eu hangen arnoch

  3. Llenwi’r ffurflen gais 

  4. Edrych i weld sut y bydd eich partner yn cael gwybod am y cais

  5. Dod i wybod sut y gall eich partner ymateb

  6. Gofyn i gael gorchymyn amodol 

  7. Gofyn i gael gorchymyn terfynol – mae’r gorchymyn hwn yn cwblhau’r ysgariad neu’r diddymiad

1. Penderfynu pwy ddylai wneud cais 

Gallwch wneud cais i gael ysgariad neu ddiddymiad ar eich pen eich hun neu ar y cyd â’ch partner. Os byddwch yn gwneud cais ar eich pen eich hun, dywedir eich bod yn gwneud cais fel unig geisydd. Os byddwch yn gwneud cais gyda’ch partner, dywedir eich bod yn gwneud cais ar y cyd. 

Ni ddylech ond wneud cais ar y cyd os ydych yn siŵr y byddwch yn gallu cytuno â’ch partner drwy gydol proses yr ysgariad neu’r diddymiad. Os byddwch yn dechrau cais ar y cyd, gallwch ei newid yn gais fel unig geisydd yn ddiweddarach, ond ni allwch wneud hyn hyd nes bod 20 wythnos wedi mynd heibio ers i chi wneud y cais.

Os byddwch yn gwneud cais fel unig geisydd, fe’ch gelwir yn ‘geisydd’ ac fe elwir eich partner yn ‘ymatebydd’.

Os byddwch yn gwneud cais ar y cyd â’ch partner, gelwir y naill ohonoch yn ‘ymgeisydd 1’ a’r llall yn ‘ymgeisydd 2’. 

Os mai chi fydd ymgeisydd 1, byddwch yn dechrau’r cais ac yn talu ffi’r llys. Bydd modd i’ch partner fwrw golwg dros y cais cyn iddo gael ei anfon, ond bydd angen i chi gael cyfran eich partner o’r ffi gan eich partner eich hunan.

2. Cael gafael ar yr wybodaeth a’r dogfennau y bydd eu hangen arnoch

Bydd angen eich tystysgrif priodas neu’ch tystysgrif partneriaeth sifil arnoch i’ch helpu i lenwi’r manylion yn y cais i gael ysgariad neu ddiddymiad – er enghraifft, dyddiad eich priodas. Os byddwch yn gwneud camgymeriad, bydd eich cais yn cael ei ddychwelyd atoch.

Gallwch archebu copi o’ch tystysgrif priodas neu dystysgrif partneriaeth sifil a thalu amdano drwy fynd i wefan GOV.UK.

Os bu i chi briodi neu ymrwymo i bartneriaeth sifil dramor

Bydd angen i chi ddarparu eich tystysgrif priodas neu’ch tystysgrif partneriaeth sifil. 

Os nad yw’r dystysgrif gennych mwyach,  bydd angen i chi gysylltu â llywodraeth y wlad lle y bu i chi briodi neu ymrwymo i’ch partneriaeth sifil i gael copi ardystiedig ohoni. Gallwch ddod i wybod sut i gysylltu â llysgenadaethau tramor yn y DU drwy fynd i wefan GOV.UK.

Os nad yw’r dystysgrif yn Gymraeg neu’n Saesneg, bydd angen i chi drefnu iddi gael ei chyfieithu. Dylech ofyn i’r cyfieithydd gynnwys ‘datganiad cywirdeb’ – bydd yn llofnodi’r datganiad hwn i ardystio bod y cyfieithiad yn gywir. Gallwch chwilio am gyfieithwyr ar-lein.

Os nad yw’r cyfieithydd yn darparu datganiad cywirdeb, bydd angen i chi drefnu i’r cyfieithiad gael ei ardystio gan ‘notari’r cyhoedd’. Cyfreithiwr cymwysedig sy’n gallu gwirio bod dogfennau cyfreithiol yn gywir yw hwn. Gallwch ddod o hyd i notari’r cyhoedd lleol drwy fynd i wefan Cymdeithas y Notarïaid.

Bydd angen i chi dalu unrhyw gostau i gael copi o’ch tystysgrif, ei gyfieithu a’i ardystio.

Cael gafael ar fanylion eich partner

Bydd angen i chi roi enw, cyfeiriad cartref a chyfeiriad e-bost eich partner. Rhoi cyfeiriad e-bost personol eich partner sydd orau – peidiwch â defnyddio cyfeiriad busnes na chyfeiriad cyflogwr.

Os yw’ch partner yn defnyddio cyfreithiwr, dylech gael gafael ar enw a chyfeiriad y cyfreithiwr os gallwch chi. 

Os nad ydych yn gwybod ble mae’ch partner yn byw, gallwch fynd i wefan GOV.UK i ddod i wybod sut i gael ysgariad neu sut i ddod â phartneriaeth sifil i ben pan na allwch gael hyd i’ch partner.

Os ydych wedi newid eich enw

Os yw’ch enw’n wahanol i’ch enw ar eich tystysgrif priodas neu’ch tystysgrif partneriaeth sifil, bydd angen i chi egluro pam yn eich cais.

Os ydych wedi newid eich enw drwy weithred unrhan, gall fod angen i chi ddarparu dogfen y weithred unrhan gyda’ch cais.

3. Llenwi’r ffurflen gais

Gallwch wneud cais i gael ysgariad neu ddiddymiad ar-lein neu drwy’r post. 

Pan fyddwch yn llenwi’r ffurflen gais, gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau ac yn llenwi’r ffurflen yn ofalus. Mae rhai pethau y dylech roi sylw arbennig iddynt.

Pwysig

Os ydych yn poeni y bydd eich partner yn dod i wybod ble rydych chi’n byw

Gallwch ofyn i’r llys beidio â rhoi’ch cyfeiriad i’ch partner. Ceir cwestiwn am hyn ar y ffurflen gais – gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi tic yn y man lle mae’n dweud na ddylid rhannu’ch cyfeiriad. 

Os yw’ch partner yn gwneud i chi deimlo’n bryderus neu os ydych yn teimlo dan fygythiad, dylech gael cymorth.

Gallwch ffonio Refuge neu Cymorth i Fenywod ar 0808 2000 247 unrhyw bryd. 

Os ydych yn ddyn a bod cam-drin domestig yn effeithio arnoch, gallwch ffonio’r Llinell Gyngor i Ddynion ar 0808 801 0327 (10am a 5pm o ddydd Llun tan ddydd Gwener).

Os ydych yn berson LHDT+ a bod cam-drin domestig yn effeithio arnoch, gallwch ffonio Llinell Gymorth Genedlaethol Cam-drin Domestig LHDT+ Galop ar 0800 999 5428 rhwng 10am a 5pm, dydd Llun tan ddydd Gwener, a rhwng 10am ac 8pm ar ddydd Mercher a dydd Iau.

Os nad ydych yn siŵr beth i’w wneud nesaf, siaradwch â chynghorydd.

Yn yr adran lle gofynnir i chi a ydych yn gwneud cais i gael ‘gorchymyn ariannol’, dylech roi tic yn y blwch i ddweud eich bod yn gwneud cais o’r fath – o wneud hyn, bydd y llys yn penderfynu beth fydd yn digwydd i’ch arian chi a’ch partner. 

Os oes gennych blant, dylech hefyd roi tic yn blwch sy’n gofyn a fyddwch yn gwneud gorchymyn ariannol ar gyfer eich plant. Dylech roi tic yn y blwch i ddweud eich bod yn gwneud cais o’r fath, hyd yn oed os nad oes gennych unrhyw arian i roi trefn arno neu os ydych chi a’ch partner eisoes wedi cytuno ar y pethau hyn. Gall fod ei angen arnoch yn ddiweddarach i wneud unrhyw gytundebau yn rhai cyfreithiol neu i wrthod unrhyw hawliadau gan eich partner yn y dyfodol.

O roi tic yn y blwch gorchymyn ariannol, ni fydd yn dechrau cais i gael gorchymyn ariannol, ond bydd yn golygu y gallwch wneud cais yn y dyfodol. Os byddwch yn rhoi tic yn y blwch sy’n dweud nad ydych am wneud gorchymyn ariannol a’ch bod yn ailbriodi neu’n ymrwymo i bartneriaeth sifil arall, ni fydd modd i chi wneud cais i gael gorchymyn ariannol fel arfer.

Gwneud cais ar-lein

Mae’n gyflymach gwneud cais i gael ysgariad neu ddiddymiad ar-lein. Os ydych yn defnyddio cyfreithiwr, bydd yn gwneud hyn ar eich rhan. 

Gallwch wneud y pethau hyn:

Gwneud cais drwy’r post

Os na allwch wneud cais ar-lein, gallwch wneud cais drwy’r post. Gallwch gael hyd i ffurflen bapur i wneud cais i gael ysgariad neu ddiddymiad ar wefan GOV.UK

Dylech anfon eich ffurflen i un o’r cyfeiriadau ar dudalen olaf y ffurflen – bydd y cyfeiriad y byddwch yn ei ddefnyddio yn dibynnu ar y ffordd y byddwch yn talu ffi’r llys.

Dylech gynnwys eich tystysgrif priodas – gall fod yn dystysgrif wreiddiol neu’n gopi ardystiedig ohoni. 

4. Edrych i weld sut y bydd eich partner yn cael gwybod am y cais

Fel arfer, bydd y llys yn anfon copi o’r ffurflen gais i gael ysgariad neu ddiddymiad at eich partner – mae ‘cyflwyno papurau ysgariad neu ddiddymiad’ yn derm arall am hyn. 

Os bydd y llys yn cyflwyno’r papurau, bydd yn anfon dolen mewn e-bost at eich partner er mwyn i’ch partner allu eu gweld ar-lein. Bydd hefyd yn anfon llythyr hysbysiad drwy’r post atoch chi a’ch partner. 

Os ydych wedi gwneud cais i gael ysgariad neu ddiddymiad gan ddefnyddio ffurflen bapur, neu os nad ydych wedi rhoi cyfeiriad e-bost ar gyfer eich partner, bydd y llys yn anfon y papurau drwy’r post.

Os ydych wedi gwneud cais ar y cyd â’ch partner, bydd y ddau ohonoch yn cael neges e-bost yn dweud bod y cais wedi dod i law’r llys ac yn egluro’r hyn a fydd yn digwydd nesaf.

Edrychwch i weld a oes angen i chi gyflwyno unrhyw bapurau eich hunan

Ni fydd ond angen i chi gyflwyno papurau i’ch partner os ydych wedi gwneud cais fel unig geisydd a naill ai:

  • nad yw’ch partner yn byw yn y DU

  • eich bod wedi gofyn i gael cyflwyno’r papurau eich hunan, neu

  • fod y llys wedi ceisio cyflwyno’r papurau ddwywaith ac wedi methu 

Os na all y llys gyflwyno’r papurau y tro cyntaf, gallwch roi cyfeiriad e-bost neu gyfeiriad gwahanol ar gyfer eich partner pan fydd y llys yn gwneud ymgais arall i’w cyflwyno.

Bydd angen i chi sicrhau eich bod yn cyflwyno’r papurau cyn pen 28 diwrnod ar ôl gwneud cais i gael ysgariad neu ddiddymiad. Os nad ydych yn siŵr sut i gyflwyno’r papurau, siaradwch â chynghorydd.

5. Dod i wybod sut y gall eich partner ymateb

Os ydych wedi gwneud cais fel unig geisydd, bydd angen i’ch partner roi gwybod i’r llys fod y cais i gael ysgariad neu ddiddymiad wedi dod i law a dweud a yw’n ei dderbyn neu’n anghytuno ag ef. Os yw’n anghytuno, bydd angen i’ch partner ‘wrthwynebu’ yr ysgariad neu’r diddymiad. 

Gall eich partner ymateb i’r cais i gael ysgariad ar-lein neu drwy’r post. Rhaid i’ch partner ymateb cyn pen 14 diwrnod.

Ni all eich partner ond wrthwynebu’r ysgariad neu’r diddymiad am un o’r rhesymau a ganlyn: 

  • nid oedd y briodas neu’r bartneriaeth sifil yn ddilys o’r dechrau 

  • mae’n meddwl bod y briodas neu’r bartneriaeth sifil eisoes wedi dod i ben drwy ysgariad neu ddiddymiad 

  • nid yw’n credu bod gan y llys hawl i ymdrin â’r ysgariad neu’r diddymiad – dywedir nad oes gan y llys ‘awdurdodaeth’

Ewch i wefan GOV.UK i weld sut i ymateb i gais i gael ysgariad.

Os nad yw’ch partner yn ymateb i’r cais

Os nad yw’ch partner yn ymateb, mae’r hyn y gallwch ei wneud yn dibynnu ar eich sefyllfa.

Os ydych yn gwybod ble mae’ch partner yn byw, gallwch ofyn i feili’r llys gyflwyno’r cais am ffi – gallwch ddod o hyd i’r ffurflen i gyflwyno’r cais drwy law beili’r llys ar wefan GOV.UK

Os oes gennych dystiolaeth bod y cais wedi dod i law’ch partner, gallwch ofyn i’r llys barhau fel pe bai’ch partner wedi’i gael. ‘Cyflwyno tybiedig’ yw’r enw ar hyn – gallwch ddod o hyd i’r ffurflen ar gyfer cyflwyno tybiedig ar wefan GOV.UK

Os na allwch gael hyd i’ch partner, gallwch ofyn i’r llys fwrw ymlaen heb ymateb gan eich partner os na ellir cael hyd iddo/iddi – gallwch ddod i wybod beth i’w wneud os yw’ch partner ar goll drwy fynd i wefan GOV.UK

Os nad ydych yn siŵr beth i’w wneud, gofynnwch am gyngor cyfreithiol yn gyntaf. Gallwch edrych i weld sut i gael hyd i gymorth cyfreithiol fforddiadwy neu am ddim.

6. Gofyn i gael gorchymyn amodol

Gallwch wneud cais i gael gorchymyn amodol 20 wythnos ar ôl i chi wneud cais i gael ysgariad neu ddiddymiad. Bydd y llys yn penderfynu a allwch fwrw ymlaen â’ch ysgariad neu’ch diddymiad. 

Ni allwch wneud hyn hyd nes bod 20 wythnos wedi mynd heibio, a hynny er mwyn i chi a’ch partner gael cyfle i benderfynu a ydych yn sicr eich bod eisiau bwrw ymlaen.

Bydd y llys yn rhoi gwybod i chi drwy e-bost neu drwy’r post pryd y gallwch wneud cais i gael gorchymyn amodol – bydd hyn yn dibynnu ar y ffordd y bu i chi wneud eich cais gwreiddiol i gael ysgariad neu ddiddymiad.

Newid eich cais o fod yn gais ar y cyd i fod yn gais fel unig geisydd

Os ydych chi a’ch partner eisiau rhoi’r gorau i wneud cais ar y cyd, gall y naill neu’r llall ohonoch ofyn i’ch cais gael ei newid yn gais fel unig geisydd pan fyddwch yn gwneud cais i gael gorchymyn amodol.

Bydd yr unigolyn sy’n ysgwyddo’r cais yn dod yn ‘geisydd’ a bydd yr unigolyn arall yn dod yn ‘ymatebydd’. 

Os mai chi yw’r unigolyn sy’n newid y cais o fod yn gais ar y cyd i fod yn gais fel unig geisydd, bydd angen i chi anfon copi o’r cais i gael gorchymyn amodol at eich partner.

7. Gofyn i gael gorchymyn terfynol

Gallwch ofyn i gael gorchymyn terfynol chwe wythnos a diwrnod ar ôl i’r gorchymyn amodol gael ei wneud. Bydd hyn yn dod â’ch priodas neu’ch partneriaeth sifil i ben yn barhaol.

Bydd y llys yn rhoi gwybod i chi drwy e-bost neu drwy’r post pryd y gallwch wneud cais i gael gorchymyn terfynol – bydd hyn yn dibynnu ar y ffordd y bu i chi wneud eich cais gwreiddiol i gael ysgariad neu ddiddymiad.

Os nad ydych wedi cytuno ynghylch eich arian, eich pensiynau a’ch cartref

Gallai’r gorchymyn terfynol newid y ffordd y bydd eich arian a’ch cartref yn cael eu rhannu rhyngoch chi a’ch partner. 

Os mai chi yw’r unig geisydd, gofynnwch am gyngor cyfreithiol cyn i chi wneud cais i gael y gorchymyn terfynol. 

Os mai chi yw’r ymatebydd neu os ydych yn geisydd ar y cyd, dylech gael gafael ar gyngor cyfreithiol cyn gynted ag y gallwch. Ni fydd modd i chi atal eich partner rhag gwneud cais i gael y gorchymyn terfynol, ond gall fod modd i chi ofyn i’r llys oedi cyn ei roi. Gallwch edrych i weld sut i gael hyd i gymorth cyfreithiol fforddiadwy neu am ddim

Gwneud cais i gael gorchymyn terfynol

Dylech wneud cais i gael gorchymyn terfynol cyn pen blwyddyn ar ôl i’r llys ddweud y gallwch wneud hynny. Os ydych yn gwneud cais ar ôl i 12 mis fynd heibio, bydd angen i chi egluro i’r llys pam y bu oedi. Er enghraifft, mae’n bosibl eich bod wedi bod yn rhoi trefn ar eich arian.

Os bu i chi wneud cais ar y cyd, gallwch chi neu’ch partner wneud cais i gael y gorchymyn terfynol. Os bu i chi wneud cais fel unig geisydd, bydd fel arfer angen i chi wneud cais i gael y gorchymyn terfynol hefyd. Ni all eich partner ond wneud cais i gael gorchymyn terfynol dri mis ar ôl i’r llys ddweud y gallech wneud cais i’w gael. 

Gallwch hefyd newid eich cais o fod yn gais ar y cyd i fod yn gais fel unig geisydd pan fyddwch yn gofyn i gael gorchymyn terfynol. Bydd angen i chi ddefnyddio ffurflen a elwir yn ffurflen D36A i wneud hyn, a bydd hefyd angen i chi roi 14 diwrnod o rybudd i’ch partner eich bod yn mynd i wneud cais i gael y gorchymyn terfynol ar eich pen eich hun. Gallwch ddod o hyd i ffurflen D36A ar wefan GOV.UK.

Profi eich bod wedi ysgaru neu fod eich partneriaeth sifil wedi dod i ben

Os bydd angen i chi brofi eich bod wedi ysgaru neu fod eich partneriaeth sifil wedi dod i ben, dylech ddangos eich gorchymyn terfynol. 

Os ydych wedi ysgaru, ond bod y cais wedi dechrau cyn 6 Ebrill 2022, gelwir y gorchymyn terfynol yn ‘ddyfarniad absoliwt’.

Os ydych wedi colli’ch dogfennau gwreiddiol, gallwch gael copi o orchymyn terfynol neu ddyfarniad absoliwt drwy fynd i wefan GOV.UK.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 13 Awst 2019