Cyd-fyw a phartneriaeth sifil – gwahaniaethau cyfreithiol

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae’r wybodaeth hon yn ymwneud â’r gwahaniaethau cyfreithiol rhwng partneriaeth sifil a chyd-fyw.

I gael gwybodaeth yng Nghymru a Lloegr am y gwahaniaethau cyfreithiol rhwng cyd-fyw a phriodas, gweler Cyd-fyw a phriodas – gwahaniaethau cyfreithiol.

Beth yw cyd-fyw?

Ystyr cyd-fyw yw byw gyda’ch gilydd fel cwpl heb fod yn briod nac mewn partneriaeth sifil.

Mewn rhai agweddau o’r gyfraith, mae’n bosibl na fydd gennych chi’r un hawliau ag a fyddai gennych os oeddech wedi cofrestru partneriaeth sifil, er y gallech fod â’r un hawliau mewn agweddau eraill o’r gyfraith.

Hefyd gallwch gael gwybod mwy am y gwahaniaethau rhwng cyd-fyw a phriodas.

Os ydych am gael cofnodi’ch hawliau cyfreithiol mewn agweddau penodol o’ch perthynas gyda’ch partner, gallwch wneud cytundeb swyddogol a fydd yn cael ei gydnabod gan y llysoedd. Yr enw ar gytundeb o’r fath yw cytundeb cyd-fyw neu gontract cyd-fyw.

Er enghraifft, gallech wneud cytundeb ynghylch rhannu cyfrifoldeb dros eich plant, perchnogaeth ar y cartref lle rydych yn byw a pherchnogaeth ar eitemau sydd yn eich meddiant ar y cyd. Bydd angen i chi gael cymorth gan gyfreithiwr profiadol i wneud hyn.

Er y bydd cytundeb cyd-fyw yn cael ei gydnabod gan y llysoedd, gallai fod yn anodd gorfodi’ch partner i gadw at delerau’r cytundeb. Dylech ofyn am gyngor cyfreithiol os byddwch mewn sefyllfa o’r fath.

I gael mwy o wybodaeth am gytundebau cyd-fyw, gweler y cyngor ar wneud cytundebau cyd-fyw ar wefan Advicenow yn: www.advicenow.org.uk.

Beth yw partneriaeth sifil?

Mae partneriaeth sifil yn berthynas gyfreithiol y gellir ei chofrestru gan ddau berson sydd heb fod yn perthyn i’w gilydd.

Mae partneriaethau sifil ar gael i gyplau o’r un rhyw ac i gyplau o’r ddau ryw.

Drwy gofrestru partneriaeth sifil, byddwch yn cael cydnabyddiaeth gyfreithiol i’ch perthynas. Bydd hyn yn rhoi hawliau cyfreithiol ychwanegol i chi, yn ogystal â chyfrifoldebau.

Unwaith y byddwch wedi cofrestru partneriaeth sifil, yr unig ffordd y bydd yn dod i ben yw os bydd un ohonoch yn marw neu os bydd cais yn cael ei wneud i’r llys i ddod â’r bartneriaeth i ben yn gyfreithiol.

Ni allwch wneud cais i ddod â phartneriaeth sifil i ben nes bydd wedi para am o leiaf un flwyddyn.

I gael mwy o wybodaeth am bartneriaethau sifil, gweler Cofrestru partneriaeth sifil.

Cytundebau cyn cofrestru

Fel partneriaid sifil, gallwch ddewis llunio cytundeb, a elwir yn gytundeb cyn cofrestru, cyn cofrestru’ch partneriaeth. Mewn cytundeb cyn cofrestru, gallwch nodi’ch hawliau a’ch rhwymedigaethau at eich gilydd ac, yn benodol, beth a ddylai ddigwydd os bydd eich perthynas yn dod i ben. Gellir cynnwys trefniadau ar gyfer plant a’ch eiddo personol, er enghraifft, cartref y teulu ac unrhyw bensiynau sydd gennych. Mae’n bwysig bod y ddau ohonoch yn cael cyngor cyfreithiol annibynnol wrth wneud cytundeb. Nid yw cytundeb cyn cofrestru yn rhwymo mewn cyfraith ond fe allai ddylanwadu ar y llysoedd os byddant yn chwarae rhan os bydd eich partneriaeth sifil yn methu.

Mabwysiadu

Mae dau bartner sifil neu gwpl sy’n cyd-fyw yn gallu mabwysiadu plentyn ar y cyd.

Gallwch ddewis mabwysiadu plentyn eich partner yn gyfreithiol. Os ydych mewn partneriaeth sifil, bydd y weithdrefn hon yn un syml ac ni fydd asiantaeth yn gysylltiedig, ar yr amod bod yr un sy’n gwneud y cais wedi byw gyda’r plentyn am o leiaf chwe mis. Os nad ydych mewn partneriaeth sifil, mae’r weithdrefn yn debygol o gymryd mwy o amser.

Mabwysiadu plentyn o wlad dramor

Mae’r gyfraith ar fabwysiadu yn wahanol yn ôl y wlad lle mae’r plentyn yn byw cyn ei fabwysiadu. Mae yna rai gwledydd a allai beidio â chaniatáu mabwysiadu gan gwpl o’r un rhyw, hyd yn oed os ydych yn bartneriaid sifil. Os ydych am fabwysiadu plentyn o’r tu allan i’r DU, bydd angen i chi gael cyngor gan arbenigwr ar fabwysiadu o wledydd tramor.

Bancio

Bancio a chyd-fyw

Os ydych yn cyd-fyw â’ch partner a bod gan y ddau ohonoch gyfrifon banc ar wahân, nid yw’r naill na’r llall ohonoch yn gallu cael at arian sy’n cael ei gadw yng nghyfrifon eich gilydd.

Os bydd un ohonoch yn marw, bydd unrhyw falans yn y cyfrif yn eiddo i’r person a fu farw ac ni ellir ei ddefnyddio nes bydd yr ystad wedi’i setlo.

Os oes cyfrif banc ar y cyd gennych chi a’ch partner, mae’r ddau ohonoch yn cael mynediad at yr arian sydd yn y cyfrif.

Os yw’r cyfrif mewn enwau ar y cyd a bod un ohonoch yn marw, bydd y cyfrif i gyd yn dod yn eiddo i’r partner arall ar unwaith.

Bancio a phartneriaethau sifil

Os oes cyfrifon banc ar wahân gennych chi a’ch partner sifil a bod un ohonoch yn marw, gall y banc ganiatáu i’r partner arall godi unrhyw arian sy’n weddill yn y cyfrif. Mae hyn yn berthnasol i symiau bach yn unig. Mae’n debygol y byddai’r banc yn gofyn am brawf o’ch perthynas a phrawf hefyd fod eich partner wedi marw.

Os oes gennych gyfrif banc ar y cyd, mae’r arian yn eiddo i chi ar y cyd, pwy bynnag a oedd wedi’i dalu i’r cyfrif. Mae dyledion a gorddrafftiau sy’n gysylltiedig â chyfrif ar y cyd yn gyfrifoldeb i’r ddau ohonoch, pwy bynnag sydd wedi tynnu’r ddyled.

Os bydd un ohonoch yn marw, bydd y cyfrif i gyd yn dod yn eiddo i’r partner arall ar unwaith.

Marw ac etifeddu

Etifeddu a chyd-fyw

Os bydd un ohonoch yn marw heb adael ewyllys, mae yna reolau ynghylch sut bydd eich eiddo’n cael ei ddosbarthu. Ni fydd y partner sydd ar ôl yn etifeddu dim o reidrwydd oni bai eich bod chi a’ch partner yn berchen ar eiddo ar y cyd.

Pan fydd un ohonoch yn marw a bod ewyllys ddilys wedi cael ei gwneud, bydd y partner sydd ar ôl yn etifeddu o dan delerau’r ewyllys os oes darpariaeth ar ei gyfer yn yr ewyllys.

Os ydych chi a’ch partner yn cyd-fyw, bydd angen i’r ddau ohonoch wneud ewyllys er mwyn sicrhau bod darpariaeth ar gyfer eich partner.

Os bydd eiddo’n cael ei adael i chi gan eich partner, mae’n bosibl y byddwch yn gorfod talu treth etifeddiant arno os yw’n cael ei brisio’n uwch na swm penodol. Pan fydd partner sifil yn marw, bydd y partner arall yn cael ei esemptio rhag talu treth etifeddiant ar drosglwyddiad yr eiddo. Fodd bynnag, ni fyddwch yn esempt os oeddech chi a’ch partner yn cyd-fyw heb fod mewn partneriaeth sifil.

Etifeddu a phartneriaethau sifil

Os byddwch chi neu’ch partner yn marw heb wneud ewyllys, yna bydd y partner arall yn dal i etifeddu rhywfaint o’ch eiddo neu’r cyfan ohono o bosibl.

Os bydd eich partner sifil yn marw a’i fod wedi gwneud ewyllys, byddwch yn etifeddu o dan delerau’r ewyllys os oes darpariaeth ar eich cyfer yn yr ewyllys.

Os bydd eich partner sifil yn gadael eiddo i chi, ni fyddwch yn gorfod talu treth etifeddiant arno.

Etifeddu a phlant

Os byddwch yn gwneud ewyllys, gallwch adael eich arian, eiddo a meddiannau i bwy bynnag rydych yn dymuno. Gallai hyn gynnwys plant eich partner.

Os nad oes ewyllys, gall plentyn etifeddu oddi wrth ei rieni geni ac oddi wrth deuluoedd estynedig ei rieni geni. Os oedd y plentyn wedi cael ei fabwysiadu, gall etifeddu oddi wrth ei rieni mabwysiadol ac oddi wrth deuluoedd estynedig ei rieni mabwysiadol yn lle hynny. 

Lle nad yw ewyllys wedi’i gwneud, mae plentyn mabwysiedig yn gallu etifeddu oddi wrth ei riant geni dim ond os oedd y rhiant geni wedi marw cyn i’r plentyn gael ei fabwysiadu.

Nid oes hawl gan blentyn i etifeddu o ystad llys-riant oni bai fod y llys-riant wedi mabwysiadu’r plentyn neu wedi gwneud darpariaeth ar ei gyfer yn ei ewyllys.

Dyledion

Os oes gennych ddyledion neu rwymedigaethau ariannol eraill, ni fydd y rhain yn dod yn gyfrifoldeb i’ch partner wrth ddechrau cyd-fyw. Mae hyn yn wir pa un a ydych yn bartneriaid sifil neu beidio.

Rydych yn gyfrifol am ddyledion sydd yn eich enw’ch hun, ond nid am y rheini sydd yn enw’ch partner. Rydych hefyd yn gyfrifol am ddyledion sydd mewn enwau ar y cyd a gallech fod yn atebol am rai dyledion sydd heb fod mewn enwau ar y cyd, fel y dreth gyngor. Mae hyn yn wir pa un a ydych yn bartneriaid sifil neu beidio.

I gael mwy o wybodaeth am ddyledion ar y cyd os byddwch yn gwahanu oddi wrth eich partner, gweler y canllaw ar ymwahanu ar wefan Advicenow yn: www.advicenow.org.uk.

Trais domestig

Os yw’ch partner yn ymddwyn yn dreisgar tuag atoch chi neu’ch plant, gallwch wneud cais i lys am amddiffyniad. Gallwch wneud hyn pa un a ydych yn bartner sifil neu’n cyd-fyw. Fodd bynnag, os nad ydych yn bartner sifil, mae llai o bethau y gall y llys eu gwneud i’ch amddiffyn.

Os bydd dyn yn treisio ei bartner, gellir ei gael yn euog o’r drosedd hon. Mae hyn yn gymwys i bartneriaid sifil ac i’r rheini sy’n cyd-fyw. Gellir ei gael yn euog hefyd o ymosod yn rhywiol.

Mewn cyfraith, nid yw menyw yn gallu treisio menyw arall, er y byddai’n gallu cael ei chyhuddo o droseddau eraill, fel ymosod yn rhywiol.

I gael mwy o wybodaeth am drais domestig, gweler Trais domestig.

Dod â pherthynas i ben

Os ydych yn cyd-fyw â’ch partner heb fod mewn partneriaeth sifil, gallwch wahanu’n anffurfiol heb fynd i’r llys. Er hynny, mae pŵer gan y llys i wneud penderfyniadau ynghylch pwy a ddylai ofalu am unrhyw blant yn y teulu.

Os ydych mewn partneriaeth sifil, gallwch chi a’ch partner wahanu’n anffurfiol, ond bydd angen i chi wneud cais i lys os ydych am ddod â’ch partneriaeth sifil i ben yn ffurfiol.

Gallwch weld ffyrdd i ddod â’ch partneriaeth sifil i ben yma.

Cyfrifoldeb dros blant pan ddaw perthynas i ben

Pan ddaw perthynas i ben, bydd gofyn i bawb sydd â chyfrifoldeb rhiant benderfynu pwy fydd yn gofalu am y plant o ddydd i ddydd.

Ystyr bod â chyfrifoldeb rhiant yw bod gennych chi ryw gyfrifoldeb dros ofalu am iechyd, addysg a lles y plentyn.

Os ydych yn bartner o’r un rhyw i riant plentyn, gallech fod â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn – gweler dan y pennawd Cyfrifoldeb dros blant.

Os ydych chi a’ch partner yn ei chael yn anodd cytuno rhyngoch ar ofal eich plant, yna gallwch ofyn am help gan y Gwasanaeth Cyfryngu Teuluol lleol.

I gael mwy o wybodaeth am gyfryngu teuluol, gweler Defnyddio cyfryngu i’ch helpu i wahanu.

Os na fyddwch chi a’ch partner yn gallu dod i gytundeb ar eich pen eich hunain ac os nad yw’r ddau ohonoch am ddefnyddio’r Gwasanaeth Cyfryngu Teuluol, gallwch ofyn i’r llysoedd wneud penderfyniadau ar eich rhan. Bydd angen i chi gael cyngor cyfreithiol i wneud hyn.

Fel arfer, bydd y llys yn caniatáu cyswllt rhwng y plentyn a’r rhiant nad yw’r plentyn yn byw gydag ef oni bai fod amgylchiadau eithriadol sy’n galw am beidio â gwneud hynny. Gellir caniatáu i unrhyw un gael cyswllt, nid rhiant neu berthynas yn unig.

I gael mwy o wybodaeth am gyfrifoldeb dros blant pan ddaw perthynas i ben, gweler Gwneud trefniadau ynghylch eich plant.

Cynhaliaeth ariannol

Cynhaliaeth ariannol a chyd-fyw

Nid oes cyfrifoldeb cyfreithiol gennych chi na’ch partner dros gynnal eich gilydd yn ariannol pan ddaw perthynas i ben os nad oeddech mewn partneriaeth sifil. Fodd bynnag, fe fydd cyfrifoldeb cyfreithiol gennych dros gynnal plentyn os mai chi yw rhiant geni neu riant mabwysiadol y plentyn. Mewn rhai achosion, gallai fod yn ofynnol i chi gynnal plentyn os mai chi yw’r llys-riant.

Gellir gwneud trefniadau ariannol:

  • drwy ddod i gytundeb gwirfoddol gyda’ch partner

  • drwy’r Asiantaeth Cynnal Plant (CSA) neu’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant (CMS)

  • drwy’r llysoedd.

Os byddwch yn dod i gytundeb ariannol gyda’ch partner i dalu cynhaliaeth ariannol, fe allai fod yn anodd ei orfodi i gadw at hynny.

I gael mwy o wybodaeth am gynhaliaeth ariannol pan ddaw perthynas i ben ar ôl cyd-fyw, gweler Trefnu cynhaliaeth ariannol ar ôl i chi wahanu.

I gael mwy o wybodaeth am gynnal plant, gweler Cynhaliaeth plant – ble i ddechrau.

I gael mwy o wybodaeth am drefniadau ar sail deuluol, gweler Sut i wneud trefniant cynnal plant ar sail deuluol.

Cynhaliaeth ariannol a phartneriaethau sifil

Mae cyfrifoldeb cyfreithiol gennych chi a’ch partner i gynnal eich gilydd yn ariannol pan fydd eich partneriaeth sifil wedi dod i ben.

Rydych hefyd yn gyfrifol am gynnal plentyn os mai chi yw rhiant geni neu riant mabwysiadol y plentyn. Mewn rhai achosion, gallai fod yn ofynnol i chi gynnal plentyn os mai chi yw’r llys-riant.

Gellir gwneud trefniadau ariannol:

  • drwy ddod i gytundeb gwirfoddol gyda’ch partner

  • drwy’r Asiantaeth Cynnal Plant (CSA) neu’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant (CMS)

  • drwy’r llysoedd.

Gallwch gael help gan y Gwasanaeth Cyfryngu Teuluol lleol i gytuno ar drefniadau ariannol gyda’ch partner.

I gael mwy o wybodaeth am gynnal plant, gweler Cynhaliaeth plant – ble i ddechrau.

I gael mwy o wybodaeth am drefniadau ar sail deuluol, gweler Sut i wneud trefniant cynnal plant ar sail deuluol.

Tai

Os ydych yn cyd-fyw mewn cartref wedi’i rentu

Os ydych yn byw mewn cartref wedi’i rentu gyda’ch partner, gall un neu’r ddau ohonoch fod yn dal y contract. Os bydd eich partner yn ymadael, neu’n gofyn i chi ymadael, ac nad yw’ch enw chi ar y datganiad ysgrifenedig o’r contract, ni fydd hawl gennych chi fel arfer i aros yn y cartref. Mae hyn yn wir pa un a ydych yn byw mewn cartref wedi’i rentu’n breifat neu mewn tai cymdeithasol.

Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau, mae’n bosibl y byddwch yn gallu gofyn i lys roi hawliau tymor byr i chi aros yn y cartref neu i drosglwyddo’r contract meddiannaeth i’ch enw chi. Mae’n bwysig cael cyngor cyfreithiol cyn gwneud hyn.

Os ydych yn cyd-fyw â’ch partner mewn cartref wedi’i rentu, bydd yn beth doeth fel arfer i chi fod yn ddeiliaid contract ar y cyd. Bydd hyn yn rhoi’r un hawliau a chyfrifoldebau i’r ddau ohonoch. Os yw’r contract yn enw un ohonoch yn unig, gallai fod yn bosibl ei newid i fod yn gyd-gontract ar yr amod bod yr un sy’n dal y contract a’r landlord ill dau’n cytuno ar hynny.

Os bydd eich partner yn marw ac nad yw’ch enw chi ar y contract, mae’n bosibl y bydd gennych hawl i barhau i fyw yn y cartref. Os ydych chi yn y sefyllfa hon, mae’n bwysig i chi gael cyngor cyfreithiol.

Os ydych yn byw mewn cartref wedi’i rentu, mae’n bosibl y bydd angen i chi gael cyngor am eich hawliau i aros yn y cartref neu am gymryd cyd-gontract – siaradwch ag un o’n cynghorwyr.

I gael mwy o wybodaeth am beth fydd yn digwydd i’ch cartref os bydd eich perthynas yn dod i ben, gweler Diwedd perthynas a thai.

Partneriaid sifil yn byw mewn cartref wedi’i rentu

Mae hawl gennych chi a’ch partner sifil i aros yn eich cartref, pa enw bynnag sydd ar y datganiad ysgrifenedig o’r contract. Os bydd eich partner yn gofyn i chi ymadael, nid ydych yn gorfod mynd oni bai fod llys wedi’ch gorchymyn i wneud hynny. Gall llys eich gorchymyn i adael eich cartref wrth ddelio â methiant eich partneriaeth sifil.

Os bydd eich partner yn marw ac nad yw’ch enw chi ar y contract, mae’n bosibl y bydd gennych hawl i barhau i fyw yn y cartref. Os ydych yn y sefyllfa hon, mae’n bwysig i chi gael cyngor cyfreithiol.

Os ydych yn byw mewn cartref wedi’i rentu, mae’n bosibl y bydd angen i chi gael cyngor am eich hawliau i aros yn y cartref os yw’ch partneriaeth sifil yn dod i ben neu os bydd eich partner yn marw - siaradwch ag un o’n cynghorwyr.

I gael mwy o wybodaeth am beth fydd yn digwydd i’ch cartref os bydd eich perthynas yn dod i ben, gweler Diwedd perthynas a thai.

Perchen-feddianwyr sy’n cyd-fyw

Gallai’ch cartref fod yn eiddo i un ohonoch yn unig, neu gallech fod yn berchen arno ar y cyd.

Os mai’ch partner yw’r unig berchennog, mae’n bosibl na fydd gennych hawliau i aros yn y cartref os bydd eich partner yn gofyn i chi ymadael. Fodd bynnag, os oes gennych blant, gallwch ofyn i’r llys drosglwyddo’r eiddo i’ch enw chi. Dim ond os yw’r llys yn credu bod hynny er y budd pennaf i’ch plant y bydd yn cymryd y cam hwn. Os nad oes gennych blant, mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio buddiant llesiannol yn eich cartref os gallwch ddangos eich bod wedi cyfrannu’n ariannol, er enghraifft, drwy dalu am welliannau neu at ad-daliadau morgais. Os oes gennych chi fuddiant llesiannol yn y cartref, mae’n bosibl y byddwch yn gallu atal y person arall rhag ei werthu. Bydd angen i chi gael cyngor cyfreithiol ynghylch a oes gennych fuddiant llesiannol yn y cartref neu beidio.

Os yw’ch perthynas yn dod i ben a bod plant yn gysylltiedig, mae pŵer gan y llys i orchymyn trosglwyddo’r eiddo yn rhan o setliad cyffredinol er mwyn sicrhau bod cartref gan y plant. Bydd yn gwneud hyn am gyfnod penodol fel arfer, er enghraifft, nes bydd y plentyn ieuengaf yn 18 mlwydd oed.

Os yw’ch perthynas wedi dod i ben, mae’n bwysig i chi gael cyngor gan gynghorydd cyfreithiol sy’n arbenigo mewn delio â’r canlyniadau i fethiant mewn perthynas.

I gael mwy o wybodaeth ynghylch sut i ddod o hyd i gynghorydd cyfreithiol, gweler Dod o hyd i help cyfreithiol.

I gael mwy o wybodaeth am beth fydd yn digwydd i’ch cartref os bydd eich perthynas yn dod i ben, gweler Diwedd perthynas a thai.

Perchen-feddianwyr sy’n bartneriaid sifil

Mae hawl gan y ddau bartner sifil i aros yn y cartref, pwy bynnag a oedd wedi’i brynu neu sy’n talu morgais arno. Hawliau cartref yw’r enw ar hyn. Bydd gennych hawl i aros yn y cartref nes bydd llys wedi gorchymyn fel arall, er enghraifft, wrth ddelio â methiant partneriaeth sifil.

Os ydych chi a’ch partner yn dod â’ch partneriaeth sifil i ben, gellir penderfynu ar yr hawl dymor hir i berchnogaeth ar eich cartref ochr yn ochr â’r achos diddymu. Mae pŵer gan y llys i drosglwyddo eiddo pwy bynnag a oedd yn berchen arno’n wreiddiol. Fodd bynnag, os nad ydych yn gwahanu’n gyfreithiol, dim ond os yw hynny er y budd pennaf i’r plant y bydd y llys yn cytuno i drosglwyddo perchnogaeth y cartref.

Os ydych yn unig berchennog neu’n gyd-berchennog y cartref, ni fydd eich partner yn gallu ei werthu heb eich cytundeb chi.

Fodd bynnag, os mai’ch partner yw’r unig berchennog, bydd angen i chi gofrestru’ch hawliau cartref er mwyn diogelu’ch buddiannau. Os na fyddwch yn cofrestru’ch hawliau cartref, ni fyddwch yn gallu atal eich partner rhag gwerthu’r cartref na gallu aros ynddo os caiff ei werthu.

Gallwch gofrestru’ch hawliau cartref, pa un a ydych yn parhau i fyw yn y cartref neu beidio.

Bydd angen i chi gofrestru’ch hawliau cartref un ai gyda’r Gofrestrfa Tir neu yn yr Adran Pridiannau Tir, a hynny’n dibynnu ar ba un a yw’ch cartref wedi cael ei gofrestru’n barod neu beidio.

Os byddwch yn cofrestru’ch hawliau cartref, byddant yn dod i’r golwg pan fydd prynwyr yn gwneud chwiliad ynghylch y cartref. Byddai hyn yn rhoi gwybod iddynt am eich hawl i aros yn y cartref ac yn atal y gwerthiant rhag mynd drwodd.

Yng Nghymru a Lloegr, mae mwy o wybodaeth ar gael am gofrestru’ch hawliau cartref ar wefan GOV.UK.

Mae’r agwedd hon ar y gyfraith yn un gymhleth ac mae’n bwysig i chi gael cyngor cyfreithiol gan arbenigwr.

I gael mwy o wybodaeth am sut i gael cyngor cyfreithiol, gweler Dod o hyd i help cyfreithiol neu gofynnwch am help yn y ganolfan Cyngor ar Bopeth sydd agosaf i chi.

I gael mwy o wybodaeth, gweler Diwedd perthynas a thai.

Cydsyniad meddygol a’r perthynas agosaf

Os ydych yn cyd-fyw

Nid oes gan neb hawl i roi cydsyniad am driniaeth feddygol ar ran oedolyn arall. Er hynny, mae meddygon yn arfer trafod penderfyniadau gyda theulu’r claf ac fel arfer bydd hyn yn cynnwys partner sy’n byw gyda chi ond sydd heb fod yn bartner sifil i chi.

Os na fydd ysbyty yn gallu cael cydsyniad am driniaeth feddygol gan y claf am ei fod yn anymwybodol neu am ei fod heb allu meddyliol am reswm arall, fe all ofyn am gydsyniad gan y perthynas agosaf.

Nid oes rheswm cyfreithiol i’r ysbyty beidio â gallu’ch derbyn yn berthynas agosaf i’ch partner. Yn wir, mae yna nifer mawr o ysbytai a sefydliadau eraill fel carchardai a fydd yn derbyn enw rhywun sy’n cyd-fyw â chi fel eich perthynas agosaf fel arfer. Os ydych am enwi’ch partner yn berthynas agosaf, dylech chi fynnu gwneud hynny. Er hynny, nid oes fawr ddim y gallwch ei wneud os bydd y sefydliad yn dal i wrthod ei dderbyn.

Partneriaid sifil

Nid oes hawl gennych i roi cydsyniad am driniaeth feddygol ar ran eich partner sifil, oni bai fod yr ysbyty’n methu â chael cydsyniad am fod eich partner yn anymwybodol neu heb allu meddyliol am reswm arall.

Os ydych yn bartner sifil, bydd awdurdod gennych bob amser i weithredu fel perthynas agosaf i’ch partner.

Os ydych yn byw gyda rhywun sydd â phlentyn ac nad oes cyfrifoldeb cyfreithiol gennych chi dros y plentyn hwnnw, ni fydd awdurdod gennych o reidrwydd i roi cydsyniad os bydd angen i’r plentyn gael triniaeth feddygol. Fodd bynnag, fe all eich partner drefnu i chi weithredu ar ran eich partner.

Arian a meddiannau

Cyd-fyw

Mae perchnogaeth ar feddiannau a rennir yn gallu bod yn fater eithaf cymhleth ond mae rhai rheolau cyffredinol ar hyn. Er enghraifft, os oeddech yn berchen ar eitem cyn dechrau cyd-fyw â’ch partner, bydd yn parhau’n eiddo i chi a’r un a brynodd yr eitem fydd yn berchen arni fel arfer. Bydd eitem mewn cydberchnogaeth os cafodd ei phrynu ag arian o gyfrif banc ar y cyd. Os byddwch yn rhoi eitem i’ch partner, bydd honno’n eiddo i’ch partner. Fodd bynnag, fe all fod yn anodd profi hyn.

Os byddwch yn rhoi arian cadw tŷ i’ch partner, bydd unrhyw eitem a brynir ag arian cadw tŷ dros ben yn eiddo i chi, yn ôl pob tebyg. Mae hyn yn wahanol i’r sefyllfa mewn partneriaeth sifil, lle byddai arian dros ben o’r arian cadw tŷ yn cael ei rannu’n gyfartal gan y llys rhwng y ddau bartner sifil.

Partneriaethau sifil

Mae hawl gennych chi a’ch partner sifil i gaffael a chadw unrhyw dir, eiddo, cynilion neu fuddsoddiadau yn eich hawl eich hun yn ystod eich partneriaeth sifil. Os oeddech yn berchen ar unrhyw eiddo cyn cofrestru’ch partneriaeth sifil, bydd yr eiddo hwn yn parhau i gael ei weld yn eiddo i chi fel arfer. Fodd bynnag, os bydd eich perthynas yn chwalu, bydd unrhyw eiddo rydych chi a’ch partner yn berchen arno yn cael ei gymryd i ystyriaeth wrth ddod i setliad ariannol.

Os bydd eich ffrindiau neu berthnasau’n rhoi anrhegion i chi’n bersonol i ddathlu cofrestru partneriaeth sifil ac nad yw’r cofrestru’n digwydd, bydd y rhain yn cael eu gweld yn eiddo i chi, oni bai eich bod wedi cytuno fel arall gyda’ch partner. Bydd hynny’n wir ar gyfer eich partner hefyd.

Enwau

Pa un a ydych yn cyd-fyw neu mewn partneriaeth sifil, yr un yw’r rheolau ynghylch pa enw y gallwch ei roi i chi’ch hun. Mae gennych hawl i gael eich adnabod wrth ba enw bynnag rydych yn ei hoffi a gallwch newid yr enw hwnnw ar unrhyw adeg.

Os byddwch yn cofrestru partneriaeth sifil, nid oes gofyniad cyfreithiol i chi gymryd cyfenw’ch partner.

Mae dau sy’n cyd-fyw yn gallu penderfynu defnyddio’r un enw teuluol, er nad yw’r gyfraith yn dweud bod rhaid iddynt wneud hynny.

Pa un a ydych yn bartner neu’n bartner sifil, gallwch gael eich adnabod o hyd wrth eich cyfenw gwreiddiol ac wrth gyfenw’ch partner. Os bydd y berthynas yn chwalu neu os bydd eich partner yn marw, gallwch barhau i ddefnyddio cyfenw’ch partner neu gallwch fynd yn ôl at ddefnyddio’ch cyfenw gwreiddiol.

Pensiynau

Cyd-fyw

Mae’r rheolau’n amrywio rhwng y naill gynllun pensiwn a’r llall. Rheolau’r cynllun y mae’ch partner yn perthyn iddo fydd yn penderfynu a fyddwch yn gallu cael budd o’r cynllun neu beidio. Mae’r rhan fwyaf o gynlluniau’n cynnig buddion i blant dibynnol a bydd rhai ohonynt yn cynnig buddion i bartner dibynnol.

Os yw’r cynllun yn cynnig buddion i bartner o’r rhyw arall, dylai gynnig buddion hefyd i bartner mewn perthynas rhwng dau o’r un rhyw. Mae cynlluniau sy’n cynnig buddion i bartneriaid o’r rhyw arall yn unig yn gweithredu’n groes i gyfreithiau ar wahaniaethu.

Gallwch drefnu i gael pensiwn personol a fydd yn cynnwys pwy bynnag rydych yn ei ddymuno, ar yr amod eich bod yn barod i dalu cyfraniadau – a allai fod yn fawr – i’r gronfa bensiwn.

Os nad ydych yn bartner sifil, ni allwch hawlio pensiwn ymddeol y wladwriaeth ar sail cyfraniadau yswiriant gwladol eich partner.

Os byddwch chi a’ch partner yn gwahanu, ni fydd hawl awtomatig gan y partner i dderbyn eich pensiwn. Mae hefyd yn bosibl na fydd ganddo hawl awtomatig i dderbyn eich pensiwn pan fyddwch yn marw.

I gael mwy o wybodaeth am bensiynau, gweler Pensiynau.

Partneriaethau sifil

Mae’n anghyfreithlon i gynllun pensiwn galwedigaethol, ac i rai cynlluniau pensiwn preifat, beidio â chynnig yr un buddion i bartner sifil ag i bartner priod.

Os ydych yn bartner sifil, mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio pensiwn ymddeol y wladwriaeth ar sail cyfraniadau yswiriant gwladol eich partner.

Os bydd eich partneriaeth sifil yn cael ei diddymu yn y llys, bydd gennych hawl i gael cyfran o bensiwn galwedigaethol neu bensiwn preifat eich cyn-bartner. Os byddwch yn marw, mae’n bosibl y bydd hawl gan y partner sydd ar ôl i gael cyfran o’ch pensiwn galwedigaethol neu bensiwn preifat.

Cyfrifoldeb dros blant

Ni fydd rhywun sy’n byw gyda phlentyn neu’n gofalu amdano yn cael cyfrifoldeb cyfreithiol dros y plentyn hwnnw o reidrwydd ym mhob achos. Yr enw ar gyfrifoldeb cyfreithiol dros blentyn yw cyfrifoldeb rhiant. Mae’n golygu y gallwch ddweud eich barn am ofal iechyd, addysg a lles eich plentyn ac ynghylch a ellir mynd â’ch plentyn i wlad dramor.

Mae hawl rhiant awtomatig gan fenyw sydd wedi geni plentyn. Mae hawl rhiant awtomatig hefyd gan ddyn a oedd yn briod â’r fam, neu mewn partneriaeth sifil gyda hi, ar adeg y geni, er ei fod yn gallu cael cyfrifoldeb rhiant mewn ffyrdd eraill hefyd.

Gallwch wirio a oes gennych gyfrifoldeb rhiant a gwneud cais amdano os nad yw gennych ar wefan GOV.UK.

Os ydych yn bartner o’r un rhyw i riant plentyn, gallai nifer o wahanol opsiynau fod ar gael i chi i sicrhau cyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, yn ôl eich amgylchiadau. Ymysg y rhain y mae:

  • gofyn i lys roi cyfrifoldeb rhiant i chi. Gallwch wneud hyn pa un a ydych chi a’ch partner yn bartneriaid sifil neu’n cyd-fyw yn unig

  • gwneud cytundeb cyfrifoldeb rhiant gyda mam y plentyn neu rieni’r plentyn os oes cyfrifoldeb rhiant gan y ddau ohonynt. Mae hyn yn gymwys i bartner sifil yn unig

  • mabwysiadu’r plentyn

  • cofrestru neu ailgofrestru genedigaeth y plentyn gyda’r fam. Mae hyn yn gymwys i bartneriaid benywaidd o’r un rhyw yn unig mewn amgylchiadau penodol

  • bod mewn partneriaeth sifil gyda mam y plentyn ar adeg y geni. Mae hyn yn gymwys i bartneriaid benywaidd o’r un rhyw yn unig mewn amgylchiadau penodol.

Os ydych mewn partneriaeth sifil rhwng dau o’r un rhyw, byddwch yn dod yn llys-riant i blentyn eich partner. Ni fydd hyn yn rhoi cyfrifoldeb rhiant i chi dros y plentyn yn awtomatig, ond gallwch gael cyfrifoldeb rhiant drwy wneud cytundeb cyfrifoldeb rhiant neu wneud cais am orchymyn llys.

Os ydych mewn partneriaeth sifil rhwng dau o’r ddau rhyw, byddwch yn cael cyfrifoldeb rhiant yn awtomatig dros blentyn eich partner os mai chi yw mam neu dad y plentyn. Os nad ydych yn fam neu’n dad i’r plentyn, byddwch yn dod yn llys-riant iddo. Ni fydd hyn yn rhoi cyfrifoldeb rhiant i chi dros y plentyn yn awtomatig, ond gallwch gael cyfrifoldeb rhiant drwy wneud cytundeb cyfrifoldeb rhiant neu wneud cais am orchymyn llys.

Os ydych yn cyd-fyw â’ch partner, ni fyddwch yn dod yn llys-riant i blentyn eich partner.

Gallwch gael cyfrifoldeb rhiant hefyd drwy fabwysiadu plentyn eich partner.

I gael mwy o wybodaeth am gyfrifoldeb rhiant, yn cynnwys sut y gallwch gael cyfrifoldeb rhiant dros blant eich partner, ewch i wefan Advicenow yn: www.advicenow.org.uk.

Efallai y byddwch am gael gyngor ynghylch sut i gael cyfrifoldeb rhiant dros blentyn eich partner - siaradwch ag un o’n cynghorwyr.

Os na allwch ddod i gytundeb â’ch partner ynghylch ble dylai’ch plentyn fyw neu ynghylch cael cyswllt â’ch plentyn pan ddaw’ch perthynas i ben, efallai y byddwch am wneud cais i’r llys am orchymyn trefniadau plentyn. Gallwch wneud hyn pa un a ydych chi a’ch partner yn bartneriaid sifil neu’n cyd-fyw yn unig.

I gael mwy o wybodaeth am y gorchmynion y mae llys yn gallu eu gwneud am blant ar ddiwedd perthynas, gweler Nid yw’ch trefniadau plant yn gweithio wedi i chi wahanu.

Cynnal plant yn ariannol

Mae’r ddau riant geni yn gyfrifol am gynnal plentyn yn ariannol. Mae hyn yn wir pa un a ydynt yn cyd-fyw neu beidio a pha un a oes gan riant gyfrifoldeb rhiant o dan y gyfraith neu beidio.

Bydd gennych gyfrifoldeb ariannol hefyd dros blentyn rydych wedi’i fabwysiadu. Mae hyn yn wir pa un a ydych mewn partneriaeth sifil neu’n cyd-fyw â’ch partner yn unig.

Os ydych yn llys-riant, bydd gennych gyfrifoldeb ariannol dros eich plentyn hefyd. Er hynny, ni fydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn gallu gofyn i chi dalu cynhaliaeth ariannol.

I gael mwy o wybodaeth am y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant, gweler Cynhaliaeth i blant gan rieni sy’n byw ar wahân.

Cysylltiadau rhywiol

Mae’n gyfreithlon i ddau berson 16 oed neu hŷn gael cyfathrach rywiol yn breifat hyd yn oed os nad ydynt wedi cofrestru partneriaeth sifil.

Does dim rhaid i chi gael rhyw gyda’ch partner dim ond am eich bod yn cyd-fyw neu am eich bod mewn partneriaeth sifil.

Ni allwch ofyn i lys ddiddymu’ch partneriaeth sifil dim ond am nad ydych erioed wedi cael rhyw gyda’ch partner ers cofrestru’ch partneriaeth sifil.

Grantiau a benthyciadau i fyfyrwyr

Grantiau myfyrwyr

Yr un yw’r rheolau am grantiau myfyrwyr pa un a ydych yn cyd-fyw â’ch partner neu wedi cofrestru partneriaeth sifil.

Bydd incwm eich partner yn cael ei gymryd i ystyriaeth wrth benderfynu a oes gennych hawl i gael grant myfyriwr. Fodd bynnag, bydd incwm eich partner yn cael ei anwybyddu wrth benderfynu a ydych yn gymwys i gael benthyciad i fyfyriwr.

Benthyciadau i fyfyrwyr

Mae dau fath o fenthyciad i fyfyriwr - un ar gyfer ffioedd dysgu ac un ar gyfer cynhaliaeth.

Gallwch gymryd benthyciad i fyfyriwr ar gyfer ffioedd dysgu, beth bynnag yw incwm eich partner sifil neu’r partner sy’n cyd-fyw â chi.

Mae pob myfyriwr amser llawn cymwys yn gallu cael benthyciad i fyfyriwr ar gyfer cynhaliaeth, ond bydd yr union swm y gallwch ei fenthyca yn dibynnu ar nifer o bethau gan gynnwys, o bosibl, incwm eich partner.

Gallwch gymryd 75 y cant o’r benthyciad mwyaf i fyfyrwyr ar gyfer cynhaliaeth beth bynnag yw incwm eich partner sifil neu’r partner sy’n cyd-fyw â chi.

Wrth asesu a fyddwch yn gallu cael y 25 y cant sy’n weddill, bydd incwm eich partner sifil yn cael ei gymryd i ystyriaeth. Fe ellir cymryd i ystyriaeth yr incwm sydd gan bartner sy’n cyd-fyw â chi, a hynny’n dibynnu ar ba bryd roeddech wedi dechrau’r cwrs a beth oedd eich oed ar y pryd.

I gael mwy o wybodaeth am grantiau a benthyciadau i fyfyrwyr, yng Nghymru gweler gwefan Cyllid Myfyrwyr Cymru ac yn Lloegr gweler Student Finance on GOV.UK.

Treth

Mae pobl sy’n cyd-fyw a phartneriaid sifil yn cael eu trethu ar wahân. Mae’r ddau ohonoch yn gallu hawlio lwfans personol.

Os ydych yn bartner sifil, gallwch hawlio lwfans priodas, ond dim ond os oeddech chi neu’ch partner wedi cael ei eni cyn 6 Ebrill 1935.

I gael mwy o wybodaeth am lwfansau personol, gweler Lwfansau treth incwm.

Budd-daliadau lles a chredydau treth

Cyd-fyw

Os ydych yn cyd-fyw fel cwpl, bydd yr arian rydych yn ei ennill a’ch anghenion ariannol yn cael eu hystyried ar y cyd wrth benderfynu a oes gennych hawl i dderbyn budd-daliadau a chredydau treth.

Mae’r hawl i dderbyn rhai budd-daliadau yn dibynnu ar ba un a ydych wedi talu digon o gyfraniadau yswiriant gwladol neu beidio. Mae’r budd-daliadau hyn yn cynnwys:

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar Gyfraniadau

  • Lwfans Mamolaeth

  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Gyfraniadau.

Yn ôl pa fudd-dal sydd dan sylw, gallech gael mwy o arian ar gyfer rhywun rydych yn cyd-fyw ag ef, ond dim ond os yw’n gofalu am eich plant.

Ni allwch hawlio budd-daliadau profedigaeth na phensiwn ymddeol ar sail cyfraniadau yswiriant gwladol eich partner.

Yn achos budd-daliadau eraill, er enghraifft, y Lwfans Byw i’r Anabl a’r Lwfans Gweini, nid oes wahaniaeth pa un a ydych yn bartner sifil neu beidio.

Os oes gennych chi blant, gallwch hawlio Budd-dal Plant.

Budd-daliadau, credydau treth a phartneriaethau sifil

Os ydych yn bartneriaid sifil, bydd yr arian rydych yn ei ennill a’ch anghenion ariannol yn cael eu hystyried ar y cyd wrth benderfynu a oes gennych hawl i dderbyn budd-daliadau a chredydau treth sy’n dibynnu ar brawf modd.

Mae’r hawl i dderbyn rhai budd-daliadau yn dibynnu ar ba un a ydych wedi talu digon o gyfraniadau yswiriant gwladol neu beidio. Mae’r budd-daliadau hyn yn cynnwys:

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar Gyfraniadau

  • Lwfans Mamolaeth

  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Gyfraniadau.

Gallwch hawlio budd-daliadau profedigaeth ac, mewn rhai achosion, pensiwn ymddeol, ar sail cyfraniadau yswiriant gwladol eich partner.

Yn achos budd-daliadau eraill, er enghraifft, y Taliad Annibyniaeth Personol a’r Lwfans Gweini, nid oes wahaniaeth pa un a ydych yn bartner sifil neu beidio.

Os oes gennych chi blant, gallwch hawlio Budd-dal Plant – gwiriwch i weld a ydych yn gymwys.

I gael mwy o wybodaeth am y Budd-dal Analluogrwydd, y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, y Taliad Annibyniaeth Personol a’r Lwfans Gweini, gweler Budd-daliadau i bobl sy’n sâl neu’n anabl.

Mae mwy o wybodaeth am y Lwfans Mamolaeth ar wefan GOV.UK.

I gael mwy o wybodaeth am y Lwfans Ceisio Gwaith, gweler Budd-daliadau i bobl sy’n chwilio am waith.

I gael mwy o wybodaeth am fudd-daliadau profedigaeth, gweler Arian ychwanegol y gallwch ei gael pan fydd rhywun yn marw.

I gael mwy o wybodaeth am fudd-daliadau a chyfraniadau yswiriant gwladol, gweler ein tudalen ar Yswiriant Gwladol.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.