Cwynion am Wasanaethau Cymdeithasol – cyn dechrau arni

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os ydych chi’n anhapus am y gwasanaeth rydych chi wedi ei gael gan adran gwasanaethau cymdeithasol eich awdurdod lleol gallwch wneud cwyn. Mae’r dudalen hon yn dweud beth ddylech chi ei ystyried wrth benderfynu beth i’w wneud.

Beth mae gwasanaethau cymdeithasol yn ei wneud?

Mae adrannau gwasanaethau cymdeithasol Awdurdodau Lleol yn rhoi cymorth, cefnogaeth a gwarchodaeth i bobl fregus yn eu hardal. Maen nhw’n darparu gwasanaethau ar gyfer:

• pobl ag anableddau

• plant mewn angen

• plant a phobl ifanc mewn gofal

• plant a phobl ifanc sy’n gadael gofal

• gofalwyr

• pobl hŷn

• pobl sy’n gadael ysbyty

• unrhyw un sy’n fregus ym marn yr awdurdod lleol

• pobl sy’n cael problemau teuluol.

Mae Cyngor Gofal Cymru wedi cynhyrchu Canllawiau Ymarfer ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol. Gall eich helpu chi i wybod beth sy’n ddisgwyliedig gan weithwyr cymdeithasol. Mae ar gael ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru - www.gofalcymdeithasol.cymru.

Pa gamau allwch chi eu cymryd?

Gallech chi ddefnyddio gweithdrefn gwyno’r Awdurdod Lleol ond cyn i chi wneud hynny, dylech ystyried a oes cam arall sy’n fwy tebygol o sicrhau eich bod yn cael y canlyniad sydd ei angen arnoch.

Mae’r weithdrefn gwyno yn dda ar gyfer ymdrin â phroblemau bach neu faterion fel ymarfer gwael neu reolaeth wael. Gall problemau gael eu datrys yn weddol gyflym yng Ngham 1 y weithdrefn.

Dydy’r weithdrefn gwyno ddim cystal ar gyfer heriau sy’n codi materion pwysig, neu os oes angen gweithredu ar frys, neu os ydych chi angen iawndal. Os ydych chi yn y sefyllfa hon dylech gysylltu â chynghorydd profiadol er enghraifft Cyngor ar Bopeth. I ddod o hyd i fanylion eich Cyngor ar Bopeth agosaf, yn cynnwys cyngor trwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Os ydych chi am atal penderfyniad rhag cael ei weithredu, gallech gysylltu â Swyddog Cwynion yr Awdurdod Lleol. Efallai y gall y Swyddog Cwynion eich helpu os nad yw’r awdurdod yn ateb eich galwadau ffôn neu eich llythyrau. Gallwch gysylltu â’r Swyddog Cwynion ar bapur, ar y ffôn neu’r ffacs. Gallwch barhau i fynd ymlaen i gymryd camau gweithredu eraill os nad yw defnyddio’r Swyddog Cwynion wedi helpu.

• Dysgu rhagor am ddefnyddio’r weithdrefn gwyno

• Dysgu rhagor am gamau eraill y gallech eu cymryd

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Gall Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ystyried cwynion ynghylch y modd mae gwasanaethau cymdeithasol wedi gwneud rhywbeth, neu beidio â gwneud rhywbeth y dylen nhw fod wedi ei wneud. Fel rheol byddai disgwyl i chi fod wedi defnyddio’r weithdrefn gwyno cyn y gallwch gyflwyno cwyn i’r Ombwdsmon.

• Dysgu rhagor am Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

A fydd cwyno yn effeithio ar y cymorth y gallaf ei gael oddi wrth y gwasanaethau cymdeithasol?

Efallai y byddwch chi’n ofni cwyno am eich bod yn poeni y bydd y gwasanaethau rydych chi’n eu derbyn yn cael eu cymryd oddi arnoch chi. Mae’n ddyletswydd ar wasanaethau cymdeithasol i ddarparu cymorth a gwarchodaeth i bobl. Os ydych chi’n poeni beth ddylech chi ei wneud, dylech siarad â rhywun, er enghraifft, cynghorydd Cyngor ar Bopeth, i gael cymorth i wneud cwyn.

Os ydych chi’n ofni’r hyn allai ddigwydd pe baech chi’n cwyno am wasanaethau cymdeithasol, dylech siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft aelod o Gyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, yn cynnwys cyngor y gallwch ei gael drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, yn cynnwys pobl sy’n gallu rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Os byddwch chi’n cwyno am newid y mae’r gwasanaeth cymdeithasol yn bwriadu ei wneud i wasanaeth rydych chi’n ei gael, er enghraifft, newid i gynllun gofal, fel rheol bydd yr awdurdod lleol yn gohirio’r penderfyniad ar newid y cynllun gofal tan ar ôl iddyn nhw ystyried eich cwyn. Ond mewn rhai achosion, er enghraifft pan fo plentyn mewn perygl, ni fydd y penderfyniad yn cael ei ohirio.

• Dysgu rhagor am gymorth i gwyno

Camau nesaf

Cwynion Gwasanaethau Cymdeithasol – pwy sy’n cael defnyddio’r weithdrefn gwyno

Cwynion Gwasanaethau Cymdeithasol – pryd gallwch chi ddefnyddio’r weithdrefn gwyno

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

Gwahaniaethu mewn gwasanaethau gofal ac iechyd mae’r tudalennau hyn yn egluro ystyr gwahaniaethu ym maes gwasanaethau gofal ac iechyd, a’r hyn y gallwch ei wneud amdano.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.