Cwynion am wasanaethau cymdeithasol – pryd cewch chi ddefnyddio’r weithdrefn gwyno

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Ydych chi’n anhapus gyda’r gwasanaeth gawsoch chi gan adran gwasanaethau cymdeithasol eich awdurdod lleol? Mae’r dudalen hon yn dweud pryd gallwch chi ddefnyddio gweithdrefn gwyno’r awdurdod lleol (ALl).

Am beth allwch chi wneud cwyn?

Gallwch chi ddefnyddio’r weithdrefn gwyno i gwyno am:

• unrhyw wasanaeth cymdeithasol mae’r Awdurdod Lleol (ALl) yn ei ddarparu, neu’n gwrthod ei ddarparu

• gwasanaeth cymdeithasol sy’n cael ei ddarparu gan sefydliad arall ar gyfer yr ALl.

Hefyd, gallwch gwyno am aelod staff sy’n rhan o’r tîm gwasanaethau cymdeithasol, er enghraifft oherwydd anghwrteisi, neu am eich bod heb gael gwybod am benderfyniadau sy’n effeithio arnoch chi.

Dyma rai enghreifftiau o gwynion posibl:

• mae gwasanaeth wedi ei wrthod i chi

• rydych chi’n anhapus gyda lefel y gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu, mynychder y gwasanaeth neu gost y gwasanaeth

• roedd oedi yn y broses benderfynu

• roedd agwedd neu ymddygiad staff yn annerbyniol

• roedd y broses benderfynu yn anfoddhaol.

Cyn i chi gwyno, dylech wneud yn siŵr bod eich ALl yn ymwybodol o’ch amgylchiadau. I wneud hyn dylech gysylltu â’r gweithiwr cymdeithasol sydd ar ddyletswydd yn yr adran gwasanaethau cymdeithasol.

Os yw’r ALl yn gwybod y gallai fod angen cymorth arnoch i wneud cwyn, rhaid i’r awdurdod benderfynu pa gymorth, os o gwbl y bydd yn ei ddarparu. Os ydych chi’n anfodlon gyda’u penderfyniad am gymorth, gallwch gwyno am y penderfyniad hwnnw hefyd.

Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r weithdrefn gwyno Gair o Gyngor

Os ydych chi’n byw yng Nghymru a’ch bod yn ansicr sut i gwyno am adran gwasanaethau cymdeithasol, gallwch ffonio i gael cyngor Tîm Cyngor ar gyfer Cwynion Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - 0300 790 0203.

Terfynau amser ar gyfer gwneud cwyn

O 1 Awst 2014

O 1 Awst 2014, rhaid cyflwyno cwyn o fewn 12 mis i naill ai:

• ddyddiad y mater sy’n destun y gŵyn a ddigwyddodd, neu

• os oedd yn hwyrach, y dyddiad y daeth yr achwynydd yn ymwybodol o’r mater.

Ni fydd y terfyn amser yn berthnasol os yw’r ALl yn fodlon bod rhesymau da dros beidio â chyflwyno cwyn o fewn y terfyn amser ac er gwaethaf ei bod yn parhau’n bosib ymchwilio i gŵyn yn effeithiol ac yn deg.

Cyn 1 Awst 2014

Cyn 1 Awst 2014 nid oedd unrhyw derfyn amser ynghylch pryd gellid gwneud cwyn am wasanaethau cymdeithasol. Fodd bynnag, weithiau doedd hi ddim yn ymddangos ei bod yn bosib ymdrin â chwyn a oedd wedi’i chyflwyno ymhell ar ôl y digwyddiad, er enghraifft oherwydd bod:

• y staff dan sylw wedi gadael y sefydliad

• y staff dan sylw wedi marw

• y cofnodion ynghylch y gŵyn ddim ar gael mwyach.

Roedd yn rhaid i’r ALl benderfynu ar sail achos a oedd modd defnyddio’r weithdrefn gwyno i ystyried cwyn a gyflwynwyd ymhell ar ôl y digwyddiad.

Gwybodaeth am y weithdrefn

Rhaid i bob ALl gael Swyddog Cwynion i reoli’r weithdrefn gwyno. Gallwch gysylltu â’ch ALl a gofyn iddyn nhw eich rhoi chi mewn cysylltiad â’r Swyddog Cwynion.

Rhaid i’ch ALl ddarparu gwybodaeth yn rhad ac am ddim sy’n egluro sut mae’r weithdrefn yn gweithio. Dylai’r wybodaeth fod ar gael yn ieithoedd y gymuned leol yn ogystal ag yn Gymraeg a Saesneg.

Dylai’r Gwasanaethau Cymdeithasol roi gwybodaeth i chi am y weithdrefn pan fyddan nhw’n asesu eich anghenion.

Cymorth i gwyno

Efallai y gallwch gael eiriolwr neu gynrychiolydd i’ch helpu chi i wneud cwyn.

Rhagor o wybodaeth am help i wneud cwyn

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

Ar wefan Llywodraeth Cymru www.llyw.cymru fe welwch chi wybodaeth am y broses gwyno a chopi o’r canllawiau mae gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol wedi’u derbyn ynglŷn ag ymdrin â chwynion.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.