Defnyddio taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae taliadau uniongyrchol yn eich galluogi i gael taliadau arian parod oddi wrth eich awdurdod lleol er mwyn gallu prynu eich gwasanaethau gofal eich hun. Mae gwybodaeth ar y dudalen hon am y pethau y cewch chi ddefnyddio’r taliadau uniongyrchol ar eu cyfer.

Mae gan ganllawiau Taliadau Uniongyrchol Llywodraeth Cymru wybodaeth am y modd y cewch ddefnyddio’ch taliadau.

Taliadau uniongyrchol – Llywodraeth Cymru

Prynu gofal gartref

Gallwch ddefnyddio taliadau uniongyrchol i brynu gwasanaethau gan asiantaeth, er enghraifft, asiantaeth gofal cartref neu i gyflogi gofalwr neu gynorthwyydd personol.

Ni chewch ddefnyddio taliadau uniongyrchol i brynu gwasanaethau awdurdod lleol. Fodd bynnag, gallwch gael cyfuniad o rai gwasanaethau awdurdod lleol a rhai taliadau uniongyrchol.

Fel rheol ni fydd yr Awdurdod Lleol (ALl) yn caniatáu i chi ddefnyddio taliadau uniongyrchol i dalu am wasanaethau gan eich gŵr, eich gwraig neu bartner neu gan aelodau o’r teulu sy’n byw gyda chi. Mae’r bobl hyn yn cynnwys:

• rhiant neu riant yng nghyfraith

• mab, merch, mab yng nghyfraith neu ferch yng nghyfraith – ac eithrio ar gyfer gwasanaethau plant

• llysfab neu lysferch

• brawd neu chwaer

• modryb neu ewyrth

• taid neu nain

• gŵr, gwraig neu bartner unrhyw un o’r perthnasau sydd yn y rhestr hon

• person sy’n byw gydag unrhyw un o’r perthnasau sydd yn y rhestr hon dan amodau cyfystyr â bod yn bartner sifil neu’n briod i’r perthynas hwnnw.

Gall yr ALl ganiatáu tâl i rywun ar y rhestr uchod os yw’n fodlon fod hyn yn angenrheidiol er mwyn diwallu eich anghenion, neu, os yw’r person sydd angen gofal yn blentyn a bod angen hyrwyddo lles y plentyn.

Gall yr ALl wneud taliadau uniongyrchol dan amodau penodol, ond rhaid iddo fod yn rhesymol ynghylch hyn. Er enghraifft, gall wneud taliadau uniongyrchol yn amodol ar:

• eich bod chi ddim yn prynu gwasanaethau gan berson penodol

• eich bod yn darparu’r wybodaeth angenrheidiol i’r ALl.

Mae Carers UK wedi cynhyrchu canllawiau defnyddiol ar ddefnyddio taliadau uniongyrchol a chyflogi aelodau o’r teulu. Mae ar gael ar eu gwefan: www.carersuk.org

Cyflogi gofalwyr

Os ydych chi’n ystyried defnyddio taliadau uniongyrchol i gyflogi eich gofalwyr eich hunain, mae angen i chi fod yn ymwybodol o’r cyfrifoldebau arnoch fel cyflogwr a faint fydd cost hyn. Er enghraifft, bydd rhaid i chi drefnu recriwtio, yswiriant, tâl salwch a budd-daliadau cyflogi eraill a bydd angen i chi gadw cofnodion a chyfrifon.

Mae Carers UK wedi cynhyrchu canllawiau defnyddiol ar ddod yn gyflogwr. Mae ar gael ar eu gwefan: www.carersuk.org

• Rhagor o wybodaeth am faint ddylai taliad uniongyrchol fod

• Rhagor am help gyda thaliadau uniongyrchol

• Taflen ffeithiau Gwybodaeth i gyflogwyr bach

Aros mewn cartrefi gofal

Os ydych chi fel rheol yn byw gartref, gallwch ddefnyddio taliadau uniongyrchol i dalu am seibiant byr mewn cartref gofal. Mae cyfyngiadau llym ar hyd y cyfnodau y cewch chi daliadau uniongyrchol pan fyddwch chi’n aros mewn cartref gofal. Mae rheolau gwahanol yn berthnasol i oedolion a phlant.

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn cynnwys rhagor o wybodaeth am seibiannau mewn cartrefi gofal.

• Taliadau uniongyrchol – Llywodraeth Cymru

Gwasanaethau Gofal eraill

Os ydych chi fel rheol yn byw mewn cartref gofal, gallech gael taliadau uniongyrchol ar gyfer gwasanaethau gofal dibreswyl, er enghraifft i gymryd rhan mewn gweithgareddau yn ystod y dydd. Hefyd gallech gael taliadau uniongyrchol os hoffech roi cynnig ar fyw yn annibynnol er mwyn gweld a allech chi ymdopi.

Cyfarpar

Gallwch ddefnyddio taliadau uniongyrchol i brynu cyfarpar neu addasiadau y gallai’r ALl fod wedi’u darparu. Er enghraifft, gallech roi’r taliad uniongyrchol tuag at gost prynu cyfarpar o well safon nag y byddai’r ALl yn ei brynu, a thalu’r gweddill eich hunan.

Chewch chi ddim defnyddio taliadau uniongyrchol i brynu gwasanaethau neu gyfarpar nad yw’r ALl yn gyfrifol amdano, er enghraifft gwasanaethau y mae disgwyl i’r GIG eu darparu.

Bydd yr ALl am i chi gael cyngor arbenigol i sicrhau bod y cyfarpar a brynwyd yn ddiogel a phriodol, yn enwedig ar gyfer eitemau mawr.

Bydd angen i chi fod yn glir ynghylch pwy fydd piau’r cyfarpar a phwy fydd yn gyfrifol am ofalu amdano ac am ei gynnal a’i gadw. Weithiau mae modd prynu cyfarpar am bris llai drwy’r awdurdod lleol, er enghraifft peiriannau galw neu ffonau symudol ar gyfer cynorthwywyr personol.

Mae taflen wybodaeth Age Cymru, Cael cyfarpar anabledd ac addasiadau i’r cartref yng Nghymru, ar gael ar eu gwefan: www.ageuk.org.uk/cymru.

Addasiadau i’ch cartref

Efallai y gallwch gael grant Cyfleusterau Anabl ar gyfer addasiadau mwy i’ch cartref.

• Rhagor o wybodaeth am Grant cyfleusterau i'r Anabl

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.