Taliadau uniongyrchol – pwy sy’n gallu eu cael

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Ydych chi’n gallu cael taliadau uniongyrchol yn lle pecyn gofal wedi’i drefnu gan yr awdurdod lleol? Mae’r ateb ar y dudalen hon.

Pwy sy’n cael derbyn taliadau uniongyrchol

Gall llawer o bobl sy’n derbyn pecynnau gofal wedi’u trefnu gan eu hawdurdod lleol ddewis derbyn taliadau arian parod yn lle hynny, er mwyn eu galluogi i drefnu eu gofal eu hunain.

Cyn gwneud taliadau uniongyrchol, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol fod yn fodlon bod y canlynol yn berthnasol:

  • mae gan yr unigolyn sydd â hawl i becyn gofal anghenion y gellir eu diwallu drwy ddefnyddio taliadau uniongyrchol

  • bydd y taliadau’n cael eu gwneud i rywun sydd â’r gallu i’w rheoli (naill ai ar ei ben ei hun neu gyda’r cymorth sydd ar gael)

  • naill ai mae’r unigolyn sydd â hawl i becyn gofal yn cytuno i gael taliadau uniongyrchol, neu mae rhywun yn cytuno ar ei ran.

  • Mwy ynglŷn â chytuno i derbyn taliadau uniongyrchol

Pwy sydd â hawl i gael taliadau uniongyrchol

Oni bai eich bod wedi cael eich eithrio o’r hawl i dderbyn taliadau uniongyrchol, bydd gennych chi hawl i’w derbyn os yw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych chi’n 16 oed neu’n hŷn, ac mae gennych chi hawl i wasanaeth gofal yn y gymuned

  • mae gennych chi gyfrifoldeb rhiant dros blentyn anabl dan 16 oed sydd â hawl i wasanaeth gofal yn y gymuned

  • rydych chi’n ofalwr 16 oed neu’n hŷn ac yn dilyn asesiad penderfynwyd bod gennych chi hawl i wasanaeth gofalwr

  • rydych chi wedi’ch penodi’n ‘unigolyn addas’ i dderbyn a rheoli taliadau uniongyrchol ar ran rhywun sydd heb y gallu meddylion i gydsynio i daliadau uniongyrchol.

  • Mwy ynglŷn â phwy sy'n 'unigolyn addas'

Weithiau mae pobl ifanc anabl rhwng 16 ac 17 oed yn anghytuno â’u rhieni ynghylch a ddylen nhw neu eu rhieni dderbyn y taliadau uniongyrchol. Yn yr achosion hyn, dylai’r Awdurdod Lleol ystyried a oes gan y person ifanc y gallu i reoli’r taliadau uniongyrchol ei hun. Os yw’r Awdurdod Lleol yn fodlon bod y person ifanc yn gallu rheoli’r taliadau uniongyrchol, gyda chymorth priodol, mae’n rhaid iddo wneud y taliadau i’r unigolyn ifanc.

Mae gan berson ifanc sydd wedi’i hysbysu y bydd y taliad yn cael ei wneud i’w rieni, hawl i wneud ‘sylwadau ffurfiol’ am y penderfyniad i’r Awdurdod Lleol. Mae’n rhaid i’r Awdurdod Lleol helpu’r person ifanc i wneud y sylwadau a threfnu mynediad i wasanaeth eiriolaeth.

Pwy all fod â hawl i gael taliadau uniongyrchol

Os ydych chi wedi cael gorchymyn i dderbyn gwasanaethau gofal dan gyfraith iechyd meddwl neu gyfiawnder troseddol, does gennych chi ddim hawl i dderbyn taliad uniongyrchol er mwyn eich galluogi i drefnu’r gofal. Gall yr Awdurdod Lleol barhau i fod yn fodlon caniatáu i chi gael taliadau uniongyrchol.

Os oes gennych chi anghenion gofal eraill yn ychwanegol i’r gofal rydych chi wedi cael eich gorchymyn i’w dderbyn, efallai y bydd gennych chi hawl i dderbyn taliadau uniongyrchol i dalu am yr anghenion hynny.

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru am daliadau uniongyrchol yn cynnwys rhagor o wybodaeth am y bobl a all dderbyn taliadau uniongyrchol.

Pwy sydd ddim yn gallu cael taliadau uniongyrchol

Allwch chi ddim cael taliadau uniongyrchol os yw llys wedi gorchymyn bod yn rhaid i chi ufuddhau i amodau penodol yn ymwneud â dibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol. Mae rhagor o fanylion ar gael yn Atodiad C canllawiau Llywodraeth Cymru.

  • Taliadau uniongyrchol - Llywodraeth Cymru

Camau nesaf

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.