Os ydych chi’n cael gwŷs tyst
Mae derbyn gwŷs tyst yn golygu y bydd yn rhaid i chi fod yn y llys ar ddiwrnod yr achos a rhoi tystiolaeth os gofynnir i chi wneud hynny.
Dylech fynd i'r llys os ydych chi'n cael gwŷs – gall yr heddlu eich arestio a mynd â chi i'r llys fel arall.
Gallwch gael gwŷs gan y llys:
- os nad ydyn nhw wedi gallu cysylltu â chi gyda rhybudd tyst
- os ydynt nhw'n credu na fyddwch chi'n dod ar y diwrnod o bosibl
- os ydych chi wedi dweud na fyddwch chi'n mynd i'r llys
- os cawsoch chi wybod dyddiad yr achos ond na wnaethoch chi fynd
Os yw'ch cyflogwr wedi dweud na fydden nhw'n rhoi amser i ffwrdd i chi, gallai'r llys roi gwŷs i chi ei dangos i'ch cyflogwr.
Os ydych chi'n poeni am fynd i'r llys, gallwch gael cymorth a chefnogaeth am ddim gan Wasanaeth Tystion Cyngor ar Bopeth. Llenwch y ffurflen gysylltu neu ffoniwch 0300 332 1000 a bydd rhywun yn dod yn ôl atoch chi o fewn 2 ddiwrnod gwaith.