Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Rydych chi wedi rhoi datganiad tyst i’r heddlu

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Bydd yr heddlu yn gofyn i chi egluro beth welsoch chi, naill ai yn ysgrifenedig neu ar fideo – dyma’ch datganiad tyst. Byddant yn gofyn i chi ei lofnodi i ddweud ei fod yn wir.

Bydd pobl sy’n rhan o’r achos – er enghraifft, cyfreithwyr neu’r barnwr, yn darllen neu wylio’ch datganiad tyst. Efallai y byddant yn defnyddio’r dystiolaeth yn y llys hefyd.

Bydd y swyddog heddlu a fydd yn cymryd eich datganiad yn rhoi enw a manylion cyswllt y swyddog sy’n gyfrifol am yr achos - gallwch gysylltu â nhw ar unrhyw adeg os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.

Gofalwch eich bod yn dweud wrth y swyddog heddlu sy’n cymryd eich datganiad a oes unrhyw ddyddiadau na allwch chi fynd i’r llys i roi tystiolaeth – er enghraifft, os ydych chi’n mynd ar wyliau.

Bydd yr heddlu’n cysylltu â chi os ydyn nhw angen eich cymorth eto – er enghraifft, os ydyn nhw am i chi adnabod rhywun dan amheuaeth.

Beth sy’n digwydd nesaf

Dydy’r ffaith eich bod chi wedi rhoi datganiad ddim yn golygu o reidrwydd y bydd yr heddlu’n gofyn i chi roi tystiolaeth yn y llys. Byddant yn cysylltu â chi os oes raid i chi fynd i’r llys i roi tystiolaeth - gall hyn gymryd cryn amser, a hynny am ei bod hi’n gallu cymryd amser hir i baratoi achos.

Os ydych chi’n dioddef trosedd

Bydd rhywun yn cysylltu â chi:

  • os yw’r heddlu yn cyhuddo rhywun

  • os na fydd yr achos yn mynd rhagddo – er enghraifft am nad oes digon o dystiolaeth

  • os yw rhywun dan amheuaeth yn cael mechnïaeth – mae hyn yn golygu na fyddant yn cael eu cadw yn y ddalfa gan yr heddlu cyn yr achos

Dod o hyd i gymorth a chefnogaeth os ydych chi'n dioddef trosedd ar GOV.UK.

Sut mae newid neu dynnu eich datganiad yn ôl

Dywedwch wrth y swyddog heddlu sy’n gyfrifol am yr achos cyn gynted â phosibl.

Efallai y bydd yr heddlu yn ceisio eich perswadio i beidio â gwneud hynny. Mae hyn yn gallu digwydd am eu bod nhw am i chi roi tystiolaeth yn y llys i helpu i setlo’r achos. Peidiwch â theimlo dan bwysau i wneud unrhyw beth – dylech wneud yr hyn sy’n teimlo’n iawn.

Os ydych chi’n tynnu eich datganiad yn ôl, efallai y bydd yr achos yn dal i fynd i’r llys os yw’r heddlu yn credu bod ganddynt ddigon o dystiolaeth i erlyn y sawl sydd dan amheuaeth.

Os ydych chi am dynnu eich datganiad yn ôl am eich bod chi’n poeni am roi tystiolaeth, dylech ddweud wrth yr heddlu sut rydych chi’n teimlo. Efallai y gallwch gael cymorth ychwanegol yn y llys - holwch a allwch chi gael cymorth ychwanegol.

Os ydych chi’n poeni am fynd i’r llys fel tyst

Gallwch gael cymorth a chefnogaeth am ddim cyn, yn ystod ac ar ôl yr achos gan Wasanaeth Tystion Cyngor ar Bopeth. Llenwch y ffurflen gysylltu neu ffoniwch 0300 332 1000 a bydd rhywun yn dod yn ôl atoch chi o fewn 2 ddiwrnod gwaith.