Mynd i wrandawiad hawliadau bychain

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os nad ydych chi wedi llwyddo i ddatrys eich problem drwy gychwyn yr hawliad neu drwy gyfryngu, mae'n debyg y bydd angen i chi fynd i wrandawiad yn y llys.

Mewn rhai achosion, mae’r barnwr o’r farn nad yw'n werth cael gwrandawiad. Gallai hyn fod oherwydd nad oes gennych chi neu'r person rydych chi'n anghytuno â nhw (y diffynnydd) achos cryf neu fod y llys yn credu y gall ddelio â'ch hawliad heb wrandawiad a bod pob ochr yn cytuno.

Yn y gwrandawiad, bydd barnwr yn gofyn rhai cwestiynau i chi. Byddwch chi mewn ystafell arferol a byddwch chi'n eistedd ar wahân i'r diffynnydd. Ni fydd y barnwr yn gwisgo wig na gŵn.

Mae gwrandawiadau hawliadau bychain yn gyhoeddus, felly efallai y bydd pobl yn gwylio, ond fel arfer dim ond pobl sy'n gysylltiedig â'r hawliad fydd yno.

Cadw eich manylion cyswllt yn breifat

Os oes angen i chi wneud yn siŵr nad yw’r diffinydd yn cael eich manylion cyswllt, gallwch chi wneud cais i’r llys am orchymyn.

Gall y llys wneud y canlynol:

  • sicrhau nad yw'r diffynnydd yn cael eich cyfeiriad cartref nac unrhyw fanylion cyswllt eraill nad oes ganddynt yn barod

  • atal eich manylion cyswllt rhag cael eu rhoi i bobl eraill sy'n ymwneud â'r achos - er enghraifft, tyst

Bydd angen i chi wneud cais i’r llys drwy ddefnyddio ffurflen swyddogol. Siaradwch â chynghorwr os ydych chi eisiau gwneud cais i’r llys – gallant eich helpu i lenwi’r ffurflen.

Paratoi ar gyfer y gwrandawiad

Bydd y llys yn anfon dyddiad y gwrandawiad atoch chi a chyfarwyddiadau am yr hyn sydd angen i chi ei wneud. Mae'n syniad da gofyn i’r llys os nad ydych chi wedi clywed unrhyw beth fis ar ôl i chi wneud eich hawliad.

Edrych i weld beth yw dyddiad y gwrandawiad

Gelwir y ffurflen sy'n dweud wrthych chi pryd a ble mae'r gwrandawiad, a pha mor hir y bydd yn para, yn 'hysbysiad dyrannu'. Byddwch yn cael o leiaf 21 diwrnod o rybudd o ddyddiad y gwrandawiad. Byddwch hefyd yn cael gwybod pryd y bydd angen i chi dalu ffi'r gwrandawiad - oni bai eich bod yn cael help i dalu ffioedd llysoedd.

Os ydych chi'n brysur y diwrnod hwnnw, ceisiwch newid eich cynlluniau. Os yw'n rhywbeth pwysig fel apwyntiad ysbyty na allwch chi ei newid, defnyddiwch ffurflen N244 i ofyn am ddyddiad arall. Edrychwch ar y nodiadau ar gyfer llenwi’r ffurflen hon. Bydd yn rhaid i chi dalu ffi o £255 oni bai eich bod yn cael help i dalu ffioedd llysoedd.

Edrych i weld beth sydd angen i chi ei wneud

Bydd y llys yn ysgrifennu atoch chi i ddweud beth sydd angen i chi ei wneud a phryd. Ceir cyfarwyddiadau yn y llythyr neu'r ffurflen.

Mae'n bwysig dilyn y cyfarwyddiadau. Os na wnewch chi:

  • efallai y bydd yn rhaid i chi dalu costau ychwanegol - er enghraifft, os na fyddwch yn darparu copïau o ddogfennau efallai y bydd yn rhaid i chi dalu'r llys i'w copïo

  • gallai'r barnwr benderfynu gohirio neu wrthod eich hawliad

  • efallai na fyddwch yn gallu galw eich tyst

Os gofynnir i chi ysgrifennu datganiad tyst

Dogfen ysgrifenedig yw datganiad tyst lle rydych chi'n dweud beth rydych chi eisiau i'r llys ei wybod am eich anghydfod. Efallai y bydd angen i chi (ac unrhyw dystion sydd gennych) ysgrifennu un. Gallwch chi gael gwybod mwy am ysgrifennu datganiad tyst.

Ni fydd angen tyst arnoch chi ar gyfer y rhan fwyaf o hawliadau bychain ond mae’n ddefnyddiol cael tyst os oes pwynt pwysig y gallant roi tystiolaeth arno - fel rhywun a welodd ddamwain yn digwydd.

Os ydych chi wedi cael eich anafu, efallai y bydd angen arbenigwr arnoch chi – fel meddyg sy’n gallu rhoi barn ar eich anaf a pha mor dda y byddwch chi'n gwella. Os ydych chi eisiau defnyddio arbenigwr, bydd yn rhaid i chi gael caniatâd y llys yn gyntaf. Bydd yn rhaid i chi dalu ffi'r arbenigwr.

Dilyn y rheolau ar gyfer anfon dogfennau

Gofynnir i chi anfon copïau o ddogfennau at y llys a’r diffinnydd.

Dim ond drwy e-bost neu ffacs y gallwch chi anfon dogfennau at y diffynnydd os yw'r ochr arall yn cytuno y gallwch chi - gofynnwch iddynt cyn i chi anfon unrhyw beth. Dylech chi hefyd edrych i weld a oes angen i'r dogfennau gael eu hanfon mewn ffordd benodol - er enghraifft, drwy ddefnyddio ffeil o fformat neu faint penodol.

Mae hefyd yn syniad da anfon eich dogfennau drwy ddosbarthiad a gofnodwyd a chadw copi o'r prawf postio.

Pan gewch chi dystiolaeth y diffinydd

Pan gewch chi dystiolaeth y diffinydd, ewch drwyddo a gwnewch nodiadau ar ble rydych chi'n anghytuno â'r hyn maen nhw'n ei ddweud. Os gallwch chi ddod o hyd i unrhyw dystiolaeth neu os oes gennych chi dyst i brofi bod yr hyn maen nhw'n ei ddweud yn anghywir, anfonwch gopi o'r dystiolaeth honno atynt ac i'r llys. Bydd angen i chi ddilyn y rheolau ynglŷn ag anfon dogfennau at ddiffynyddion.

Paratoi i fynd i’r llys

Dylech chi wneud y canlynol:

  • rhoi fersiynau gwreiddiol o’ch tystiolaeth yn nhrefn dyddiad er mwyn mynd â nhw gyda chi i'r llys - fel derbynebau, lluniau o ddifrod

  • gwneud nodiadau o'r pwyntiau allweddol os ydych chi'n credu y bydd hynny'n eich helpu i'w cofio

  • rhoi gwybod i unrhyw dystion pan fydd angen iddynt fod yn y llys

  • dweud wrth y llys os oes angen cyfieithydd arnoch chi – edrychwch i weld os gallwch chi gael un am ddim

  • rhowch wybod i’r llys os oes angen help arnoch chi oherwydd anabledd

Gwylio gwrandawiad er mwyn i chi wybod beth sy’n digwydd

Os ydych chi’n teimlo’n nerfus am y gwrandawiad, efallai yr hoffech chi fynd i un ymlaen llaw i gael syniad o beth sy'n digwydd. Gofynnwch i’ch llys sirol lleol pan fydd un y gallwch chi eistedd i mewn arno.

Os oes angen help ychwanegol arnoch chi i fynd i’ch gwrandawiad

Rhowch wybod i’r llys os oes angen help arnoch chi i ymuno â’ch gwrandawiad. Os ydych chi'n anabl neu os oes gennych chi gyflwr iechyd, dylai'r llys wneud unrhyw addasiadau rhesymol sydd eu hangen arnoch chi.

Er enghraifft, dylech chi ddweud wrth y llys os oes angen ramp ar gyfer cadair olwyn, dolen clyw neu ddehonglwr BSL.

Os nad ydych chi’n siarad Saesneg, efallai y bydd y llys yn rhoi cyfieithydd i chi. Edrychwch i weld os gallwch chi gael cyfieithydd ar GOV.UK.

Mynd i’r gwrandawiad

Gwnewch yn siŵr eich bod chi ac unrhyw dystion yn y llys yn brydlon. Gallai'r barnwr ohirio neu wrthod eich hawliad ac efallai y bydd yn rhaid i chi dalu costau - fel treuliau'r ochr arall. Os ydych chi'n rhedeg yn hwyr, ffoniwch y llys i roi gwybod iddynt. 

Gwnewch yn siŵr fod gennych chi holl fersiynau gwreiddiol eich tystiolaeth gyda chi yn y llys. 

Ailddarllenwch eich ffurflen hawlio a'ch datganiad tyst (os ysgrifennoch chi un) i'ch helpu i gofio'r holl bwyntiau rydych chi eisiau eu codi.

Bydd y barnwr wedi gallu darllen y dystiolaeth ymlaen llaw a gallent ddefnyddio'r gwrandawiad i archwilio'r dystiolaeth ymhellach. Gallent ofyn i chi a'r diffynnydd grynhoi eich achos a gofyn cwestiynau i'r ddau ohonoch chi hefyd. Neu gallent ystyried pob pwynt o anghytundeb a gofyn i bob un ohonoch amdano yn ei dro. Gwnewch nodiadau o unrhyw beth y mae'r diffynnydd yn ei ddweud sy'n anghywir yn eich barn chi.

Efallai na fydd gennych chi lawer o amser i gyflwyno eich tystiolaeth felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cyfleu eich achos mor glir â phosib.

Weithiau bydd cyfle i chi a'r diffynnydd ofyn cwestiynau i'ch gilydd. Y barnwr sy'n penderfynu a allwch chi wneud hyn. Efallai na fyddwch chi'n gwybod tan ddiwrnod y gwrandawiad, ond mae'n syniad da meddwl am unrhyw gwestiynau yr hoffech chi eu gofyn i'r diffynnydd ymlaen llaw.

Gallwch chi fynd â ffrind neu berthynas gyda chi i'ch cefnogi. Maen nhw’n gallu eistedd gyda chi a gallant gymryd nodiadau os ydych chi'n credu y byddai hynny o gymorth. Dim ond os ydynt gyda chi yn y llys a bod y barnwr wedi dweud bod hawl ganddynt y gallant siarad ar eich rhan.

Cael penderfyniad y llys

Bydd y barnwr yn rhoi ei benderfyniad neu ei ‘ddyfarniad’ ar ddiwedd y gwrandawiad ac yn egluro’r rhesymau’n fras. Os penderfynir ar yr achos heb wrandawiad neu os nad oes un ochr yn bresennol, bydd y llys yn anfon copi o resymau’r barnwr at bob ochr.

Os ydych chi’n ennill, bydd y barnwr yn rhoi gorchymyn i’r diffynnydd eich talu chi. Gallech chi gael:

  • rhywfaint o'r hyn wnaethoch chi ei hawlio neu'r cyfan ohono

  • llog os yw'r barnwr yn dyfarnu mwy na £5,000 i chi - gall cael llog ddibynnu ar yr hyn y mae'r gorchymyn llys yn ei ddweud ac a yw'r diffynnydd yn eich talu mewn pryd

  • treuliau fel ffioedd llysoedd, treuliau teithio rhesymol a hyd at £95 mewn cyflogau coll i chi neu'ch tystion

  • hyd at £750 os oedd yn rhaid i chi dalu am arbenigwr

  • unrhyw gostau sefydlog a roesoch chi ar y ffurflen hawlio

  • costau cyngor cyfreithiol a pharatoi'r achos hyd at £260 os cawsoch chi orchymyn bod yn rhaid i'r diffynnydd wneud rhywbeth - fel gwneud atgyweiriadau

Os nad yw eich hawliad yn ymwneud ag arian yn unig, gall y barnwr orchymyn i'r diffynnydd wneud rhywbeth - er enghraifft, trwsio tap sy’n gollwng.

Os byddwch chi'n colli efallai y bydd yn rhaid i chi dalu rhai o gostau'r diffynnydd - fel teithio a cholli cyflog.

Os na fydd y diffinnydd yn talu

Gallwch ofyn i'r barnwr wneud i'r diffynnydd dalu. Mae hyn yn cael ei alw’n ‘gorfodi’r gorchymyn llys’. Bydd yn rhaid talu ffi arall i wneud hyn, ond os ydych chi ar incwm isel, efallai y byddwch yn cael gostyngiad neu efallai na fydd yn rhaid i chi dalu o gwbl. Edrychwch i weld os gallwch chi gael help i dalu ffioedd llysoedd. Darllenwch am sut i orfodi gorchymyn llys ar GOV.UK.

Os ydych chi’n anghytuno â phenderfyniad y barnwr

Efallai y byddwch chi’n gallu apelio – bydd angen i chi wneud hyn o fewn 21 diwrnod o benderfyniad y llys. Bydd yn rhaid i chi dalu ffi hefyd oni bai eich bod yn cael help i dalu ffioedd llysoedd.

Mae angen i chi ofyn am ganiatâd y llys i apelio.

Dim ond os gwnaeth y barnwr gamgymeriad cyfreithiol y bydd y llys yn ystyried eich apêl. Byddant yn gwrthod os nad ydynt yn credu bod gennych siawns dda o lwyddo.

Os cewch chi hawl i apelio, bydd y llys yn edrych ar y penderfyniad y mae’r barnwr wedi’i wneud yn y gwrandawiad cyntaf. Bydd yr apêl yn seiliedig ar yr un dystiolaeth a roesoch yn y gwrandawiad cyntaf. Fel arfer, ni fyddwch chi’n gallu rhoi tystiolaeth newydd.

Gofynnwch am gyngor cyfreithiol os ydych chi eisiau apelio - gall fod yn gymhleth,  gall cynghorydd cyfreithiol ddweud wrthych chi a oes gennych chi achos da.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 11 Chwefror 2020