Defnyddio ein gwefan a chofrestru ar gyfer cylchlythyrau
Pan fyddwch chi'n defnyddio ein gwefan, efallai y byddwn yn casglu gwybodaeth amdanoch chi. Gall hyn gynnwys gwybodaeth:
y byddwch chi'n ei ddarparu yn uniongyrchol i ni mewn ffurflenni neu we-sgyrsiau
ynglŷn â sut rydych chi'n defnyddio ein gwefan
ynglŷn â'ch lleoliad daearyddol
Sut rydym yn casglu eich gwybodaeth
Yn ogystal â data rydych chi'n ei roi inni'n uniongyrchol trwy ffurflen neu we-sgwrs, rydym yn defnyddio technoleg o'r enw cwcis i gasglu gwybodaeth am sut rydych chi'n defnyddio ein gwefan - er enghraifft, pa dudalennau rydych chi'n clicio arnynt a pha ddyfais rydych chi'n ei defnyddio. Mae hyn yn ein helpu i wella eich profiad o'n gwefan.
Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis.
Yr hyn yr ydym yn defnyddio'ch gwybodaeth ar ei gyfer
Rydym yn defnyddio gwybodaeth am sut rydych chi'n defnyddio ein gwefan er mwyn gwella ein gwasanaethau a llywio ein hymgyrchoedd.
Os byddwch yn darparu gwybodaeth er mwyn cael cyngor trwy we-sgwrs, dylech ddarllen am sut rydym yn defnyddio'ch gwybodaeth er mwyn eich cynghori.
Rydym hefyd yn casglu adborth trwy ffurflenni wedi'u hymgorffori yn y wefan. Os byddwch yn cwblhau unrhyw un o'n ffurflenni, byddwn yn defnyddio'ch gwybodaeth i wella'r wefan a'r gwasanaethau a ddarparwn.
Os byddwch yn cofrestru i dderbyn cylchlythyrau neu ddatganiadau i'r wasg, byddwn yn defnyddio'ch gwybodaeth i anfon y cyfathrebiadau rydych chi wedi cofrestru ar eu cyfer atoch.
Pan fyddwch chi'n defnyddio ein gwefan i greu llythyr templed sy'n cael ei e-bostio atoch, byddwn yn defnyddio'ch manylion cyswllt i anfon y templed wedi'i gwblhau atoch. Mae copïau o'r data hwn yn cael eu storio dros dro yn ein gweinydd Amazon Web Services a'u dileu o fewn 24 awr. Os na fydd yr e-bost yn cael ei anfon yn llwyddiannus, bydd eich manylion yn cael eu storio am hyd at 7 diwrnod fel y gallwn ddarganfod pam y digwyddodd hyn. Bydd eich manylion yn cael eu dileu'n awtomatig ar ôl 7 diwrnod.
Gyda phwy rydyn ni'n rhannu eich gwybodaeth
Nid ydym yn rhannu unrhyw wybodaeth defnyddwyr gwefan gydag unrhyw sefydliad allanol ar wahân i'n proseswyr trydydd parti, sy'n defnyddio'r data ar ein rhan yn unig.
Gweithgaredd | Ein sail gyfreithlon ar gyfer casglu data personol | Ein sail gyfreithlon ar gyfer casglu data categori arbennig neu euogfarnau troseddol |
---|---|---|
Gweithgaredd
Monitro defnydd gwefan |
Ein sail gyfreithlon ar gyfer casglu data personol
Buddiannau dilys |
Ein sail gyfreithlon ar gyfer casglu data categori arbennig neu euogfarnau troseddol
Amherthnasol |
Gweithgaredd
Creu templed |
Ein sail gyfreithlon ar gyfer casglu data personol
Buddiannau dilys - mae gennym fuddiant dilys i ddarparu cyngor i'n cleientiaid |
Ein sail gyfreithlon ar gyfer casglu data categori arbennig neu euogfarnau troseddol
Sefydlu, arfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol - lle byddwn yn helpu cleientiaid i sefydlu eu hawliau cyfreithiol Budd Cyhoeddus Sylweddol (darparu cwnsela, cyngor neu gymorth cyfrinachol) - lle rydym yn darparu cyngor i gleientiaid nad yw'n ymwneud â'u hawliau cyfreithiol |
Gweithgaredd
Anfon cylchlythyrau a datganiadau i'r wasg |
Ein sail gyfreithlon ar gyfer casglu data personol
Buddiannau dilys |
Ein sail gyfreithlon ar gyfer casglu data categori arbennig neu euogfarnau troseddol
Amherthnasol |
Gweithgaredd
Atal defnyddwyr maleisus o'r cyfleuster gwe-sgwrs |
Ein sail gyfreithlon ar gyfer casglu data personol
Buddiannau dilys |
Ein sail gyfreithlon ar gyfer casglu data categori arbennig neu euogfarnau troseddol
Amherthnasol |