Sgwrsio â chynghorydd ar-lein
Os yw eich problem yn ymwneud â gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, siaradwch â ni ar ein tudalen Help i Hawlio.
Ar gyfer problemau gyda'ch nwy a thrydan, siaradwch â ni ar ein tudalen sgwrs ynni.
Os oes gennych problemau defnyddwyr fel nwyddau wedi torri neu ddiffygiol, siaradwch â'n gwasanaeth defnyddwyr.
Gallwch drafod eich problem ar-lein gyda chynghorydd profiadol. Byddwn yn ceisio eich helpu i ddatrys eich problem neu yn gweithio tuag at hynny. Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen i ni eich anfon at eich Cyngor ar Bopeth lleol neu sefydliad arbenigol.
Mae sgwrs ar agor rhwng 9am a 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener. Nid yw ar gael ar wyliau cyhoeddus.
Cychwyn sgwrs
I ddechrau sgwrs, pwyswch y botwm sgwrs crwn yng nghornel dde isaf eich sgrin.
Os ydych chi'n defnyddio darllenydd sgrin, bydd y botwm 'Dechrau sgwrs' wedi ei gynnwys yn eich rhestr ffurflenni neu ar ddiwedd y dudalen hon.
Er mwyn eich cysylltu â'r cynghorydd priodol, byddwn yn gofyn am rhai manylion, gan gynnwys:
yr hyn rydych chi angen cyngor amdano
eich cod post
Efallai y bydd yn cymryd ychydig funudau i’ch cysylltu â chynghorydd. Byddant wedi eu lleoli yng Nghymru neu Loegr. Er y gallant eich helpu i ddatrys eich problem, efallai na fyddant yn gwybod am wasanaethau sy'n benodol i'ch ardal leol chi.
Preifatrwydd ar-lein
Os ydych chi'n poeni am rywun yn gweld beth rydych chi wedi bod yn ei wneud ar-lein, gallwch ddileu eich hanes porwr neu ddefnyddio pori preifat ('private browsing') i guddio eich gweithgaredd. Gallwch ddysgu mwy am guddio eich hôl ar-lein oddi wrth Women's Aid - mae eu cyngor ar gyfer pawb.
Os nad yw'n cynghorwyr ar gael
Rydyn ni'n elusen ac mae'r rhan fwyaf o'n tîm yn wirfoddolwyr, felly efallai y bydd yn cymryd ychydig yn hirach i ni ateb.
Os yw ein gwasanaeth sgwrs ar gau, efallai y byddwn yn cynnig help trwy e-bost. Byddwn yn gofyn am fanylion ynghlŷn â'ch problem a'ch gwybodaeth gyswllt.
Byddwn yn ymateb i chi drwy e-bost o fewn 5 diwrnod gwaith. Os nad ydych wedi clywed gennym erbyn hynny, edrychwch yn eich ffolderi spam a sothach.
Os nad oes neb ar gael ac ni allwn gynnig cyngor drwy e-bost, gallwch:
Problemau gyda’r gwasanaeth sgwrsio
Mae rhai mathau o atalyddion hysbysebion ('ad blockers') yn atal sgwrs rhag gweithio. Os ydych chi'n defnyddio atalydd hysbysebion, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n ychwanegu citizensadvice.org.uk fel gwefan ddibynadwy y gellir ymddiried ynddi.
Cwyno am y gwasanaeth sgwrsio
Gallwch wneud cwyn os ydych yn anhapus gyda'r gwasanaeth a ddarperir.
Darllen ein polisi preifatrwydd
Deall sut rydym yn storio ac yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol pan fyddwch yn cysylltu â ni.
Darllen ein polisi ymddygiad
Mae gan ein staff yr hawl i wneud eu swydd heb gael eu trin yn wael - deall sut rydym yn delio ag ymddygiad annerbyniol.