Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Advicelink Cymru

Mae Advicelink Cymru yn wasanaeth Cyngor ar Bopeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru sydd wedi'i gynllunio i helpu pobl sydd fwyaf angen gwasanaethau cynghori, yn enwedig y rhai na fyddent fel arfer yn gofyn am gyngor. Ar hyn o bryd mae'r gwasanaeth yn cael ei ariannu tan ddiwedd mis Mawrth 2022

Ers mis Ionawr 2020, mae Advicelink Cymru wedi helpu dros 48,000 o bobl gyda dros 183,000 o broblemau. Yn gyfan gwbl, nododd mwy nag 8 o bob 10 cleient fod y gwasanaeth wedi eu helpu i ddod o hyd i ffordd ymlaen a byddai mwy na 9 o bob 10 yn argymell y gwasanaeth i bobl eraill.

Mae Advicelink Cymru yn cynnig cyngor o ansawdd da ar fudd-daliadau lles, dyled, cyflogaeth, addysg, tai, mewnfudo a gwahaniaethu. Nod y gwasanaeth yw helpu pobl i gael gafael ar y cyngor cywir, ar yr adeg iawn a'i gwneud hi'n haws iddynt gael mynediad at wasanaethau eto os oes angen cymorth pellach - p'un a yw hynny'n ymwneud â'r un mater neu rywbeth newydd

Nod gwasanaeth Advicelink Cymru yw:

  • Estyn allan i gleientiaid yn rhagweithiol, yn aml trwy bartneriaid, i gael y gwasanaeth allan i'r rhai sydd eu hangen fwyaf cyn eu bod mewn argyfwng
  • Gweithio'n ddi-dor fel bod taith y cleient mor syml â phosibl
  • Darparu cysondeb cenedlaethol i wasanaethau rhanbarthol
  • Darparu cyngor â sicrwydd ansawdd gyda chefnogaeth i gleientiaid gan bartneriaid. Gall cefnogaeth partneriaid fod yn ymarferol, emosiynol, clinigol neu gymdeithasol

Gall pobl yng Nghymru gael mynediad i'r gwasanaeth o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm trwy ein rhif Advicelink Cymru: 0800 702 2020.

Relay UK - os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio’r hyn rydych chi am ei ddweud:  18001 then 08082 505 720

Dull Partneriaeth

Rheolir Advicelink Cymru gan Cyngor ar Bopeth Cymru. Mae'r cyllid yn cael ei drosglwyddo ar ffurf grant i swyddfeydd Cyngor ar Bopeth lleol ac ystod eang o bartneriaid lleol a chenedlaethol, sy'n darparu gwasanaethau cynghori.

Yn ogystal â phartneriaid cyngor mae ein partneriaid mynediad yn arbenigwyr ar ymgysylltu â grwpiau a chymunedau penodol ledled Cymru. Maent yn ein helpu i gyrraedd y bobl sydd angen ein gwasanaethau fwyaf ac yn darparu gwasanaethau cymorth emosiynol, clinigol a chymdeithasol.

Gallwch gael rhagor o wybod am ein partneriaid yma:

Gall pobl yng Nghymru gysylltu â'n llinell gymorth Cyflogaeth a Gwahaniaethu Arbenigol

Gallwch gysylltu â'n llinell gymorth Cyflogaeth a Gwahaniaethu Arbenigol os oes gennych broblem yn y gwaith a/neu'n meddwl eich bod yn profi triniaeth annheg neu wahaniaethu ac yn poeni am eich hawliau a'r hyn y gallwch ei wneud ar 0808 278 7921. Mae galwadau yn rhad ac am ddim, a llinellau ar agor 9am - 5pm (gan eithrio gwyliau banc)

I gael cyngor os oes gennych ôl-ddyledion rhent ac yn denant sector rhent preifat

Gallwch gysylltu â'n Llinell Gymorth Dyled Sector Rhent Preifat i gael cyngor ar gynyddu incwm, rheoli dyled a derbyn cefnogaeth i'ch helpu i drafod gyda'ch landlord ar radffôn 0808 278 7920. Mae'r llinellau ar agor 9am - 5pm ac eithrio gwyliau banc.

Gwybodaeth bellach

Gyda'n rhwydwaith o bartneriaid, byddwn yn rhoi cynnig ar ffyrdd newydd o gyrraedd pobl nad ydynt wedi cael mynediad i gyngor o'r blaen neu sydd ag anghenion cyngor penodol, a byddwn yn dysgu wrth i ni fynd. Yn raddol rydym yn ymgysylltu â phartneriaid newydd dros gyfnod o amser a byddwn yn diweddaru'r dudalen hon wrth i sefydliadau newydd ymuno.