Llythyr i anfon tystiolaeth ar ôl eich ffurflen hawlio PIP
Defnyddiwch y llythyr templed hwn os ydych chi angen anfon mwy o dystiolaeth ategol i’r Adran Gwaith a Phensiynau ar ôl i chi anfon eich ffurflen hawlio PIP.
Ar ôl i chi gwblhau’r llythyr, dylech ei argraffu a’i anfon drwy’r post i’r cyfeiriad ar y llythyr a ddaeth gyda’ch ffurflen hawlio. Os na allwch chi ddod o hyd i’r llythyr hwn, ffoniwch y llinell gymorth hawliadau PIP ar 0800 917 2222 i ofyn am y cyfeiriad. Os nad oes gennych chi argraffydd, dylai eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol neu lyfrgell gyhoeddus allu’ch helpu chi, ond efallai y bydd rhaid i chi dalu ffi fach.
Gofalwch eich bod chi’n glynu’r dystiolaeth yn ddiogel wrth y llythyr fel na fydd yn mynd ar goll.