Cyfrifo eich cyllideb

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Defnyddiwch yr adnodd cyllidebu hwn er mwyn eich helpu i ddeall:

  • yr hyn rydych chi’n ei ennill a’i wario

  • lle gallech chi arbed costau o bosibl

Pwysig

Dylech chi gysylltu â'ch canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf ar unwaith os ydych chi wedi cael papurau llys, yn wynebu cael eich troi allan neu’n disgwyl beilïaid (neu swyddogion siryf yn yr Alban).

Cyn i chi gychwyn

Bydd yr adnodd fwyaf defnyddiol os ydych chi’n rhoi ffigurau cywir. Gallwch chi ddefnyddio amcan o ffigurau os mai dim ond syniad cyffredinol o’ch cyllideb rydych chi am ei gael.

Ceisiwch ddod o hyd i’r dogfennau diweddaraf canlynol:

  • cyfriflenni banc

  • slipiau talu

  • cyfriflenni neu filiau ar gyfer cardiau debyd neu gredyd

  • derbynebau ar gyfer pethau rydych chi’n talu amdanyn nhw mewn arian parod fel arfer

Dylech wneud yn siŵr eich bod yn cynnwys eich holl dreuliau, er enghraifft arian rydych chi’n ei wario ar eich partner neu eich teulu.

Mae’r adnodd cyllidebu hwn yn cymrydo 30 munud i’w gwblhau o leiaf. 

Gallwch chi gymryd faint bynnag o amser sydd ei angen arnoch chi, ond fyddwch chi ddim yn gallu arbed eich gwybodaeth. Dylech chi sicrhau eich bod yn argraffu’r canlyniadau os ydych chi am eu cadw.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.