C5 – medrusrwydd â dwylo (defnyddio eich dwylo)
Mae’r cwestiwn ar waelod tudalen 10 ar y ffurflen – dyma sut mae’n edrych
Sut mae ateb y cwestiwn
Mae’r cwestiwn hwn yn ymwneud ag a ydych chi’n ei chael hi’n anodd defnyddio’ch dwylo a’ch arddyrnau oherwydd cyflwr corfforol fel clefyd Parkinson neu sglerosis ymledol (MS).
“Allwch chi ddefnyddio’r naill law neu’r llall i: pwyso botwm, fel bysellbad ffôn, troi tudalennau llyfr, codi darn £1, defnyddio pen neu bensil, defnyddio bysellfwrdd neu lygoden cyfrifiadur addas?”
- Rhai ohonynt
- Dim un ohonynt
- Mae’n amrywio
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau am wybod a allwch chi wneud unrhyw un o’r pethau hyn yn ddigon da gydag un o’ch dwylo. Trwy ddweud digon da, rydym yn golygu a ydych chi’n gallu:
- gwneud marc, er enghraifft ticio neu roi croes gyda beiro neu bensel
- defnyddio bysellfwrdd (gan gynnwys bysellfwrdd wedi’i addasu) gydag un llaw - does dim angen i chi allu teipio’n gyflym
- troi tudalennau llyfr yn hawdd
Peidiwch â bod â chywilydd dweud nad ydych chi’n gallu gwneud y tasgau hyn, er enghraifft os oes gennych chi’n cael:
- cryndod
- gwingfeydd
- stiffrwydd
- problemau yn dal gafael
- anawsterau’n pinsio
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau am gael gwybod pa mor dda rydych chi’n gallu defnyddio’ch dwylo yn gwneud tasgau bob dydd – nid y rhai sydd wedi’u crybwyll yn y cwestiwn yn unig.
Wrth ateb, meddyliwch a ydych chi’n cael problemau gwneud tasgau eraill, fel paratoi llysiau, troi tapiau neu gael arian allan o’ch waled neu bwrs.
Meddyliwch a fyddwch yn llofnodi’ch ffurflen Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, neu a fyddwch chi’n methu gwneud hyn.
Beth i ysgrifennu yn y bocs
Mae’n bwysig eich bod yn dweud mwy wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau drwy egluro eich sefyllfa yn y bocs.
Dylech egluro, er enghraifft:
- os oes rhywun arall yn gorfod llenwi ffurflenni i chi gan nad ydych chi’n gallu gafael mewn beiro
- os yw’n cymryd amser maith i chi wisgo gan ei bod yn anodd i chi gau sipiau, botymau neu gareiau esgidiau
- defnyddio’ch dwylo, er enghraifft, os yw agor caead jariau neu agor drws y tŷ gydag allwedd yn achosi poen i chi
- os ydych chi’n gollwng pethau gan nad ydych chi’n gallu dal gafael arnynt neu eu pinsio
- os nad ydych chi’n gallu gyrru oherwydd eich cyflwr, er enghraifft os nad ydych chi’n gallu dal gafael ar y llyw neu ddefnyddio’r gêr
Enghraifft
Meddai Eric: “Rydw i’n cael cryndod yn fy nwylo pan fydda i’n llonydd. Mae fy ngwraig wedi gorfod llenwi’r ffurflen hon i mi gan nad ydw i’n gallu defnyddio cyfrifiadur neu lygoden gan fod fy nwylo’n crynu gormod ac rydw i’n teipio rwtsh neu’n dileu pethau’n anfwriadol. Roeddwn i’n arfer defnyddio fy nghyfrifiadur drwy’r amser, ond mae’r Parkinson’s wedi gwaethygu felly rydw i wedi rhoi’r gorau iddi. Dydw i ddim yn gallu defnyddio fy ffôn symudol chwaith bellach gan fod y bysellbad yn rhy fach ac anodd ac rydw i’n ffonio pobl ar ddamwain drwy’r adeg.