Eich meddyginiaeth ac unrhyw driniaeth arall
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) eisiau gwybod am eich meddyginiaeth chi ac unrhyw driniaeth rydych chi’n ei chael - bydd hyn yn eu helpu i gael darlun gwell o’ch sefyllfa chi.
Mae’r cwestiwn yma ar dudalen 7 y ffurflen – dyma sut mae’n edrych
Eich meddyginiaeth
Dylech restru’r tabledi ac unrhyw feddyginiaeth arall rydych chi’n ei chymryd. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cynnwys:
- unrhyw beth sydd wedi’i roi i chi ar bresgripsiwn
- unrhyw beth rydych chi’n ei brynu eich hun, megis cyffuriau lleddfu poen fel paracetamol
Dylech gynnwys y canlynol hefyd:
- y dos (faint rydych chi’n ei gymryd, er enghraifft 350mg) a pha mor aml rydych chi’n ei gymryd (er enghraifft, tair gwaith y dydd)
- unrhyw sgil effeithiau rydych chi’n eu cael (er enghraifft, os yw pilsen arbennig yn gwneud i chi deimlo’n sâl) - a beth rydych chi’n ei wneud amdanyn nhw
- unrhyw dabledi neu feddyginiaeth arall nad ydych chi’n ei chymryd eto, ond y byddwch chi’n ei chymryd yn y dyfodol
- unrhyw beth rydych wedi rhoi’r gorau i’w gymryd oherwydd nad oedd e’n gweithio neu ei fod yn eich gwneud chi’n waeth (gwnewch yn siŵr eich bod chi’n esbonio hyn ar y ffurflen)
Gallwch gael rhestr o’ch holl bresgripsiynau cyfredol gan eich meddyg neu’ch fferyllydd os oes angen.
Triniaeth rydych chi’n ei chael
Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cynnwys:
- y driniaeth rydych chi’n ei chael, er enghraifft dialysis - yn cynnwys triniaeth ysbyty a chlinig
- lle rydych chi’n mynd i’w chael, er enghraifft enw’r ysbyty
- pa mor aml rydych chi’n mynd, er enghraifft bob wythnos
- os ydych chi’n cael triniaeth fel claf mewnol, pa mor aml fyddwch chi’n aros yno
Dylech chi gynnwys y canlynol hefyd:
- unrhyw archwiliadau rheolaidd rydych chi’n eu cael, a pham rydych chi’n eu cael nhw - er enghraifft i adolygu eich meddyginiaeth a newid y dos o bosib
- unrhyw lawdriniaeth rydych chi wedi’i chael ar gyfer y cyflyrau sy’n achosi anhawster i chi
- unrhyw bigiadau rydych chi eu hangen
- unrhyw therapi rydych chi’n ei gael, er enghraifft therapi ymddygiadol gwybyddol (CBT) neu aciwbigo
- sut rydych chi wedi ymateb i’r driniaeth, dyddiad unrhyw driniaeth neu ymchwiliad yn y dyfodol - er enghraifft, os na wnaethoch chi ymateb yn dda i lawdriniaeth ar asgwrn eich cefn, felly rydych chi’n disgwyl cael sgan yn y pythefnos nesaf
Hyd yn oed os nad ydych chi’n siŵr a yw’r driniaeth rydych chi wedi’i chael yn berthnasol, dylech chi ei chynnwys ar y ffurflen. Mae’n well rhoi gwybodaeth ychwanegol na methu rhywbeth pwysig.
Aros dros nos ac adsefydlu preswyl
Mae’r rhain yn gwestiynau syml - ticiwch y bocsys:
- os ydych chi’n cael triniaeth neu’n aros am unrhyw driniaeth lle byddwch chi’n aros yn rhywle dros nos neu am fwy o amser
- os ydych chi mewn cynllun adsefydlu preswyl neu i fod i ddechrau un