Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cael fisa i’ch priod neu’ch partner fyw yn y DU

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Os ydych chi yn y DU yn barod, bydd angen i’ch priod (gŵr, gwraig neu bartner sifil) neu ddyweddi gael fisa i ddod i fyw gyda chi am fwy na 6 mis.

Mae aelod o’ch teulu sy’n dod i fyw gyda chi yn y DU ar sail eich hawl i aros yn y DU yn cael ei alw’n ‘ddibynnydd’, a chi fydd y ‘noddwr’.

Bydd angen iddo wneud cais o’r tu allan i’r DU.

Os yw’ch priod neu’ch partner eisiau ymweld â’r DU am lai na 6 mis, bydd angen i chi wneud cais am fisa ymweld yn lle.

Os yw’r cais yn cael ei wrthod, bydd apelio’n cymryd rhwng 6 a 9 mis – felly dylech chi ystyried cael help gan gynghorydd mewnfudo arbenigol. Gallwch:

Am faint mae’r fisa’n para

Ar gyfer pwy mae’r fisa Am faint mae’r fisa’n para
Priod, er enghraifft, eich gŵr, gwraig neu bartner sifil

33 mis – yna bydd eich priod yn gallu adnewyddu ei fisa o’r DU am 2 flynedd a 6 mis arall.

Gall wneud cais i ymgartrefu yn y DU ar ôl 5 mlynedd.

Eich dyweddi

6 mis – gall eich partner wneud cais i aros yn hirach fel priod ar ôl y cyfnod hwn.

Gall wneud cais i ymgartrefu yn y DU ar ôl 5 mlynedd fel priod.

 Gweld pa fisa sydd ei angen

Er ei fod yn cael ei ystyried yn ‘fisa priod’ yn aml, bydd y fisa sydd ei angen ar eich priod neu ddyweddi yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Eich amgylchiadauY fisa sydd ei angen ar eich perthynas neu’ch partner
Rydych chi’n ddinesydd Prydeinig Fisa ‘teulu person sydd wedi ymgartrefu' 
Rydych chi’n berson sydd wedi ymgartrefu yn y DU (h.y. mae gennych chi ‘ganiatâd amhenodol i aros’)  Fisa ‘teulu person sydd wedi ymgartrefu'
Rydych chi’n wladolyn yr EEA yn byw yn y DU ac nid yw’ch dibynnydd yn dod o’r EEA  ‘Trwydded teulu'r EEA’ 
Rydych chi’n priodi yn y DU ac mae’r ddau ohonoch chi’n bwriadu byw yn y DU Fisa ‘teulu person sydd wedi ymgartrefu'
Mae gennych chi statws ffoadur neu amddiffyniad dyngarol  Aduno teulu 
Mae gennych chi fisa Haen 2 (Cyffredinol)  Gwneud cais fel dibynnydd deiliad fisa Haen 2 (Cyffredinol) 
Mae gennych chi fisa myfyriwr Haen 4 Gwneud cais fel dibynnydd deiliad fisa Haen 4

 

Os ydych chi’n llenwi’r ffurflen ar ei ran

Gallwch lenwi’r ffurflen gais ar ran eich perthynas – rhaid i chi wneud hyn ar-lein gan ddefnyddio’r dolenni uchod.

Nid yw’r system ymgeisio ar-lein yn rhestru’r fisâu yn ôl eu henw – bydd rhaid i chi ateb ambell gwestiwn i ddod o hyd i’r fisa sydd ei angen arnoch. Mae yna opsiwn i ymgeisio ar ran rywun arall ar y ffurflen ar-lein.

Fel rhan o’r broses ymgeisio, rhaid cymryd biometreg (olion bysedd a ffotograff) yr unigolyn. Edrychwch ble mae canolfan ymgeisio am fisa agosaf yr unigolyn cyn i chi wneud cais, oherwydd gallai fod mewn gwlad arall.

Gofalwch roi gwybodaeth eich perthynas fel manylion yr ymgeisydd.


Gweld faint mae angen i chi ei ennill

Mae angen i chi fod yn ennill hyn a hyn o arian, neu fod â digon o gynilion, er mwyn dod â’ch priod neu bartner i fyw yn y DU. ‘Bodloni’r gofyniad ariannol’ yw’r enw ar hyn.

Does dim angen i chi fodloni’r gofyniad ariannol os oes gennych chi statws ffoadur neu amddiffyniad dyngarol.

Os oes angen i chi fodloni’r gofyniad ariannol, bydd angen i chi brofi eich bod chi’n ennill hyn a hyn o incwm bob blwyddyn (cyn treth). Mae’r swm yn dibynnu ar bwy rydych chi’n gwneud cais ar ei gyfer.

Aelod o’r teuluFaint sy’n rhaid i chi ei ennill bob blwyddyn cyn treth
Dim ond eich priod neu’ch partner £18,600
Eich priod neu’ch partner ac un plentyn £22,400
Pob plentyn ychwanegol £2,400

Enghraifft
Mae’ch partner a’ch 2 o blant yn dod i fyw yn y DU. Bydd angen i chi ennill:

£22,400 ar gyfer eich partner a’r plentyn cyntaf.
£2,400 ar gyfer eich ail blentyn
Cyfanswm = £24,800

Gallwch fodloni’r gofyniad ariannol drwy gyfuniad o:

  • incwm o gyflogaeth neu hunangyflogaeth – os ydych chi yn y DU gyda chaniatâd i weithio
  • pensiwn
  • tâl mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu neu salwch
  • incwm arall, er enghraifft, o rent neu gyfranddaliadau
  • cynilion arian parod – bydd angen o leiaf £16,000 arnoch, a rhaid bod y cynilion wedi bod yn eich enw am 6 mis neu fwy

Fydd dim angen i chi fodloni’r gofyniad ariannol os ydych chi’n cael un neu fwy o’r budd-daliadau canlynol:

  • Lwfans Byw i’r Anabl
  • Lwfans Anabledd Difrifol
  • Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol
  • Lwfans Gweini
  • Taliad Annibyniaeth Personol
  • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog neu Daliad Incwm Sicr o dan Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog
  • Lwfans Gweini Cyson, Atodiad Symudedd neu Bensiwn Anabledd Rhyfel o dan y Cynllun Pensiwn Rhyfel
  • budd-daliadau profedigaeth

Y cyfan fydd angen i chi ei wneud yw dangos eich bod chi’n derbyn digon o arian i ofalu am eich dibynnydd. Bydd y swm hwn yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol.

Gallwch ddarllen yr holl fanylion am fodloni'r gofyniad ariannol ar GOV.UK. Dylech gael cyngor arbenigol os nad ydych chi’n siŵr sut mae profi eich bod chi’n bodloni’r gofyniad ariannol.

Os yw’ch priod neu’ch partner yn dod o’r tu allan i’r EEA, bydd rhaid iddo/iddi dalu £200 y flwyddyn am ofal iechyd yn y DU, fel rhan o’r cais am fisa. Gordal gofal iechyd y GIG yw hwn.

Mae’r tâl hwn yn orfodol.

Gallwch ddysgu mwy am ordaliadau gofal iechyd y GIG ar GOV.UK.

Cynnwys y dystiolaeth iawn

Y rheswm mwyaf cyffredin dros wrthod cais am fisa yw nad oes digon o dystiolaeth (dogfennau sy’n profi’ch achos) wedi’i chyflwyno gyda’r cais.

Yn gyffredinol, bydd angen i chi roi tystiolaeth i gefnogi popeth rydych chi’n ei ddweud yn y cais. Gofalwch eich bod chi’n dilyn yn ofalus y canllawiau ar-lein ar gyfer y fisa rydych chi’n gwneud cais amdano.

Profi eich bod chi mewn perthynas go iawn

Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth eich bod chi mewn perthynas go iawn. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys dogfennau sy’n dangos:

  • eich bod chi wedi byw gyda’ch gilydd
  • bod gennych chi blant gyda’ch gilydd
  • eich bod chi’n rhannu cyfrif banc neu gynilion

Priod a phartner dinesydd Prydeinig neu berson sydd wedi ymgartrefu ym Mhrydain - mynd i gyfweliad

Bydd rhaid i’ch partner fynd i gyfweliad fel rhan o’r cais. Mae’r amser aros am gyfweliad yn gallu bod yn hir - gwiriwch y ganolfan cais am fisa ble mae’r unigolyn yn byw i gael syniad o faint fydd rhaid iddo aros am apwyntiad.

Os ydych chi ar fin priodi neu uno mewn partneriaeth sifil, mae’n syniad da gwneud cais am y fisa cyn y briodas neu gofrestriad oherwydd yr amser mae’n gallu cymryd i gael cyfweliad. Os gwnewch chi hyn, dylech gynnwys llythyr gyda’ch cais sy’n nodi dyddiad eich priodas neu bartneriaeth sifil.

Yn y cyfweliad, bydd yr ymgeisydd yn cael ei holi am eich perthynas, e.e. sut a ble wnaethoch chi gyfarfod, a gwybodaeth am eich teuluoedd. Os ydych chi eisoes yn briod neu mewn partneriaeth sifil, dylent gymryd tystiolaeth o hyn, e.e. tystysgrif priodas.

Dylai’r ddau ohonoch chi fynd i’r cyfweliad os ydych chi yn yr un wlad adeg y cyfweliad.

Pan fydd yr unigolyn yn cyrraedd – casglu’r drwydded breswylio biometrig

Bydd rhaid i’ch perthynas neu’ch partner gasglu ei drwydded breswylio biometrig (BRP) o fewn 10 diwrnod i gyrraedd y DU. Bydd yn cael llythyr yn dweud ble i gasglu’r drwydded.

Mae’n bwysig ei fod yn casglu’r BRP o fewn 10 diwrnod – gallai gael dirwy neu gallai ei fisa gael ei ganslo os na.

Os nad ydych chi’n gwybod lle mae casglu’r drwydded, e-bostiwch BRPCollection@homeoffice.gsi.gov.uk. Dylech gynnwys y manylion canlynol am eich partner yn yr e-bost:

  • enw llawn
  • dyddiad geni
  • cenedligrwydd
  • rhif pasbort
  • rhif ffôn
  • cyfeirnod – bydd hwn ar unrhyw lythyr gan y Swyddfa Gartref
A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.