Cael fisa i deulu a ffrindiau allu ymweld â’r DU
Gallwch wneud cais am fisa ar ran ffrind neu aelod o’ch teulu fel y gallant ymweld â chi yn y DU. Mae fisâu i ymweld â’r DU yn para 6 mis fel arfer.
Dylech ystyried cael cyngor arbenigol os nad ydych chi’n siŵr am y cais. Efallai y bydd rhaid i chi dalu ond gall arbed amser a thrafferth i chi. Gall eich Cyngor ar Bopeth lleol eich helpu neu ddweud wrthych chi ble y gallwch chi gael cyngor arbenigol.
Os ydych chi’n gwneud cais ar eu rhan
Bydd angen i chi weld a oes angen fisa ymwelydd arnynt ar GOV.UK os nad ydych chi’n gwybod hynny’n barod – mae’n dibynnu ar eu cenedligrwydd. Does dim angen fisa i ddod i’r DU o gwbl ar ddinasyddion rhai gwledydd.
Bydd rhaid i chi ymgeisio ar-lein.
Gofalwch eich bod chi’n rhoi gwybodaeth yr ymwelwyd lle mae’r ffurflen yn gofyn am fanylion yr ymgeisydd.
Ar ôl i chi lenwi’r ffurflen, bydd angen cymryd ffotograff ac olion bysedd yr ymwelydd mewn canolfan ymgeisio am fisa. Edrychwch i weld ble mae’r ganolfan ymgeisio am fisa agosaf i’r ymwelydd cyn i chi ymgeisio, oherwydd gallai fod mewn gwlad arall.
Bydd y system ar-lein yn dweud wrthych ble i anfon y ffurflen ar ôl ei llenwi (mae’n rhaid i chi ei hargraffu).
Mae’r ffurflen ar-lein yn gofyn cwestiynau i chi er mwyn i chi gael y fisa sydd ei hangen arnoch. Llenwch y ffurflen gan ddefnyddio’r cyfarwyddiadau canlynol.
Ar gyfer pwy mae’r fisa | Cwestiwn | Yr opsiwn ddylech chi ei ddewis |
---|---|---|
Perthynas neu ŵr/gwraig | 1. Reason for visit | "Visit" |
2. Visa type | “Family” | |
3. Visa sub type | “Visit - family - 6 months” | |
Cyfaill neu gariad | 1. Reason for visit | "Visit" |
2. Visa type | "Tourism" | |
3. Visa sub type | “Visit - tourism - 6 months” |
Dogfennau y bydd angen i chi eu cynnwys
Bydd angen i chi gynnwys dogfennau sy’n cefnogi’ch cais pan fyddwch chi’n ei anfon. Bydd y ffurflen ar-lein yn rhoi canllawiau i chi ar beth i’w gynnwys, ond dyma rai pethau i’w hystyried.
Profi bod digon o arian ar gyfer yr ymweliad
Bydd rhaid i chi gyflwyno tystiolaeth i ddangos bod digon o arian i dalu am daith yr ymwelydd, dim ots ai’r ymwelydd neu chi sy’n talu.
Os yw’r ymwelydd yn talu am ei hun, bydd rhaid iddo gynnwys dogfennau i brofi ei fod yn gallu fforddio talu am y daith, e.e. datganiad banc neu slipiau talu.
Os ydych chi’n talu am ei ymweliad (e.e. am yr awyren a’r llety), bydd angen i chi brofi eich bod chi’n gallu fforddio talu am daith yr ymwelydd yn ogystal â’ch costau chi – e.e. eich rhent, morgais a chostau cyffredinol.
Dylech gynnwys:
- amcangyfrif o gost y daith – mae angen bod mor gywir â phosibl
- prawf o’ch incwm a ble rydych chi’n gweithio, e.e. slipiau cyflog neu gontract
- prawf bod gennych chi ddigon o arian i dalu am arhosiad yr ymwelydd, e.e. datganiadau banc diweddar
- prawf eich bod chi yn y DU yn gyfreithiol, e.e. copi o’ch pasbort neu fisa
Prawf bod gennych chi berthynas go iawn â’r ymwelydd
Os yw’r sawl sy’n ymweld â chi yn ffrind neu’n gariad, mae’n syniad da cynnwys llythyr gyda’ch cais yn esbonio eich bod chi mewn perthynas go iawn.
Dylech egluro rhai manylion am eich perthynas, fel:
- sut a ble i chi gyfarfod
- pa mor aml fyddwch chi’n cyfathrebu gyda’ch gilydd
- sut byddwch chi’n cyfathrebu (e.e. galwadau ffôn neu negeseuon e-bost)
Gallwch ddarllen canllawiau'r llywodraeth ar resymau am wrthod fisâu ar GOV.UK, os ydych chi’n poeni y gallai’ch cais am fisa gael ei wrthod.
Mae’n annhebygol y byddwch chi’n gallu apelio os bydd cais am fisa ymwelydd yn cael ei wrthod – dylech gael cymorth arbenigol cyn rhoi cynnig arni eich hun.