Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Apelio yn erbyn tocyn parcio

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Edrychwch ar ba fath o docyn parcio rydych chi wedi’i gael cyn dechrau. Bydd sut i apelio yn amrywio, yn dibynnu ar a yw’n:

  • Hysbysiad Tâl Cosb (PCN) neu’n Hysbysiad Tâl Gormodol (ECN) gan y cyngor – a roddwyd ar dir cyhoeddus, fel stryd fawr neu faes parcio’r cyngor
  • Hysbysiad Tâl Parcio gan y tirfeddiannwr neu’r cwmni parcio - a roddwyd ar dir preifat, fel maes parcio archfarchnad
  • Hysbysiad Cosb Benodol gan yr heddlu – a roddwyd ar lwybrau coch, llinellau igam-ogam gwyn neu lle mae’r heddlu yn rheoli parcio

Bydd eich tocyn parcio neu lythyr yn dweud a yw gan y cyngor, yr heddlu, neu gwmni parcio.

Peidiwch â thalu tocyn parcio rydych chi’n apelio yn ei erbyn. Fel arfer, mae talu yn cael ei ystyried fel cyfaddefiad fod y tocyn yn gywir – felly bydd dim modd i chi allu apelio yn ei erbyn ar ôl talu.

Os ydych chi’n poeni am beidio â thalu, ffoniwch y sawl a roddodd y tocyn i chi a gofyn iddynt gadarnhau na ddylech chi dalu os ydych chi’n apelio.

Apelio hysbysiad gan y cyngor

Mae angen i chi gymryd y camau canlynol i apelio yn erbyn PCN neu ECN am barcio. Gallwch wneud hynny am ddim ac mae’n werth rhoi cynnig arni os oes gennych chi reswm i apelio. Darllenwch fwy am yr amgylchiadau pan mae’n syniad da apelio.

Os ydych chi wedi cael PCN am ‘drosedd trafnidiaeth sy’n symud’ - fel gyrru mewn lôn fysys neu drwy arwydd dim mynediad - ewch i wefan y Tribiwnlys Cosb Trafnidiaeth i apelio.

Ysgrifennu i’r cyngor

Ysgrifennwch i’r cyngor gan egluro’n glir pam eich bod yn gwrthwynebu – gelwir hyn yn apêl anffurfiol. Bydd gennych 14 diwrnod i gyflwyno apêl anffurfiol o’r dyddiad y cawsoch yr hysbysiad, neu 21 diwrnod os cawsoch yr hysbysiad drwy’r post.

Cofiwch gynnwys unrhyw dystiolaeth sydd gennych chi – bydd yn hwb i’ch siawns o lwyddo. Gallai hyn fod yn:

  • docyn talu ac arddangos dilys
  • lluniau i ddangos nad oedd unrhyw farciau ffyrdd i gyfyngu ar barcio
  • lluniau o arwyddion sy’n anodd eu gweld neu eu deall
  • llythyr gan rywun a oedd gyda chi yn dweud beth ddigwyddodd – ysgrifennwch ‘Datganiad tyst’ ar frig y dudalen
  • nodyn atgyweirio, os oedd eich car wedi torri i lawr

Gofalwch eich bod yn cynnwys:

  • dyddiad rhoi’r tocyn
  • eich cyfeiriad
  • rhif cofrestru eich car
  • rhif yr hysbysiad cosb

Mae’n syniad da anfon copïau yn hytrach na fersiynau gwreiddiol rhag ofn eu bod yn cael eu colli yn y post. Defnyddiwch y gwasanaeth “Special Delivery” i anfon dogfennau, fel y gallwch brofi eu bod wedi cyrraedd.

Os yw’ch apêl yn llwyddiannus, bydd eich PCN neu ECN yn cael ei diddymu ac ni fydd rhaid i chi dalu.

Os gwrthodir eich apêl anffurfiol

Byddwch yn derbyn llythyr a ffurflen ‘hysbysu’r perchennog’. Peidiwch ag anwybyddu’r llythyr os yw’n ymddangos fel llythyr terfynol - mae gennych chi 28 diwrnod o hyd i wneud apêl ffurfiol, sef ‘cyflwyno achos ffurfiol’. Gallwch apelio am ddim a bydd yr hysbysiad i berchennog yn egluro sut mae gwneud hynny.

Fel arfer, gallwch gael gostyngiad o 50% os ydych chi’n talu yn syth ar i’ch apêl anffurfiol gael ei wrthod. Mae’n syniad da talu ar y pwynt hwn, os oes gan y cyngor reswm cadarn dros wrthod eich apêl.

Os gwrthodir eich apêl ffurfiol

Byddwch yn derbyn llythyr a ffurflen ‘hysbysiad o wrthod’. Os oes gennych chi PCN, gallwch herio penderfyniad y cyngor mewn tribiwnlys annibynnol. Gellir gwneud hynny am ddim a does dim rhaid i chi fynd i’r tribiwnlys - gallwch gyflwyno’ch rhesymau a’ch tystiolaeth yn ysgrifenedig. Bydd yr hysbysiad gwrthod yn rhoi manylion sut i apelio i dribiwnlys annibynnol.

Yn wahanol i PCN, ni allwch apelio yn erbyn ECN ymhellach felly dylech dalu os gwrthodir eich apêl ffurfiol.

Dylech dalu’ch PCN os yw’r tribiwnlys annibynnol yn anghytuno gyda’ch apêl. Os ydych chi’n gwrthod talu, gall y cyngor fynd â chi i’r llys - bydd hyn yn effeithio ar eich statws credyd a bydd yn rhaid i chi dalu costau llys.

Cysylltwch â'r Cyngor ar Bopeth agosaf am gymorth os nad ydych chi’n gallu fforddio talu’ch tocyn parcio.

Apelio yn erbyn Hysbysiad Tâl Parcio

Cymerwch y camau canlynol i apelio yn erbyn Hysbysiad Tâl Parcio:

1. Edrychwch i weld a yw cwmni parcio yn aelod o gymdeithas masnach achrededig (ATA)

Ewch i wefannau British Parking Association (BPA) neu International Parking Community (IPC) i weld a yw cwmni parcio yn aelod o ATA.

Gallwch hefyd ffonio’r BPA ar 01444 447 300 i weld a yw cwmni’n aelod. Gall galwadau i’r rhif hwn gostio hyd at 12c y funud o linell dir, neu rhwng 8c a 40c y funud o ffôn symudol (gall eich cyflenwr ffôn ddweud faint fydd yn rhaid i chi ei dalu).

Peidiwch â thalu tocyn parcio gan gwmni nad yw’n aelod o ATA. Dydyn nhw ddim yn gallu mynd â chi i’r llys gan nad ydyn nhw’n gallu cael eich manylion gan y DVLA. Y cwbl y gallant ei wneud yw eich erlid am docyn parcio os ydych chi’n rhoi eich cyfeiriad iddyn nhw, felly peidiwch â chysylltu â nhw.

Os ydych chi’n cael tocyn yn y post gan gwmni nad yw’n aelod o ATA, rhowch wybod i Action Fraud rhag ofn bod y cwmni wedi cael eich cyfeiriad yn anghyfreithlon.

2. Cysylltu â’r cwmni parcio os ydyn nhw’n aelod o ATA

Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt cwmni parcio ar wefannau BPA neu IPC neu ar yr Hysbysiad Tâl Parcio. Edrychwch ar yr hysbysiad os oes rhaid i chi apelio ar wefan y cwmni parcio neu os gallwch chi ysgrifennu atynt gyda’ch rhesymau dros wrthod. Gelwir apelio’n uniongyrchol i’r cwmni parcio yn ‘apêl anffurfiol’ – mae’n rhaid i chi wneud hyn cyn i chi apelio’n ffurfiol.

Gallwch ddefnyddio ein llythyr templed i ysgrifennu i’r cwmni parcio.

Cofiwch gynnwys unrhyw dystiolaeth sydd gennych chi, er enghraifft:

  • tocyn talu ac arddangos dilys
  • lluniau o arwyddion sy’n anodd eu gweld neu eu deall, neu lle mae’r wybodaeth yn gamarweiniol
  • llythyr gan rywun a oedd gyda chi yn dweud beth ddigwyddodd, ysgrifennwch ‘Datganiad tyst’ ar frig y dudalen
  • nodyn atgyweirio, os yw’ch car wedi torri i lawr.

Gyda thocyn parcio ysbyty, dylech anfon tystiolaeth i’r cwmni parcio os oedd eich apwyntiad yn rhedeg yn hwyr. Gofynnwch i dderbynnydd yr ysbyty argraffu nodyn ar bapur pennawd yn dweud bod oedi wedi bod.

Tocynnau parcio ar ffordd breifat

Ar ffordd breifat – sy’n gorfod bod ag arwyddion yn dweud ‘preifat’ – mae’n rhaid i gwmni preifat fod yn aelod o ATA i gael eich cyfeiriad gan y DVLA. Bydd y tocyn am dresmasu gan na allwch chi barcio ar dir preifat heb ganiatâd y tirfeddiannwr. I apelio, ysgrifennwch i’r cwmni parcio os ydyn nhw’n aelod o ATA yn datgan pam nad oeddech chi’n tresmasu. Cofiwch gynnwys unrhyw dystiolaeth, er enghraifft llythyr gan y tirfeddianwr yn rhoi caniatâd i chi barcio.

Os ydych chi wedi’ch clampio

Edrychwch ar y nodyn gyda’r clamp i weld a yw gan yr heddlu, y cyngor, y DVLA, neu gwmni preifat yn gweithredu ar eu rhan. Dim ond y rhain sy’n cael clampio’ch car ar dir preifat.

Dylech ffonio’r heddlu ar 101 os ydych chi wedi’ch clampio gan dirfeddiannwr preifat neu gwmni sy’n gweithio iddynt. Bydd yr heddlu yn tynnu’r clamp. Peidiwch â thynnu’r clamp olwyn eich hun - gellid mynd â chi i’r llys am ddifrod troseddol. Gellid mynd â chi i’r llys am ddwyn os ydych chi’n cadw’r clamp.

Os gwrthodir eich apêl anffurfiol

Gallwch apelio i wasanaeth apelio annibynnol. Gallwch wneud hynny am ddim, felly mae’n syniad da gwneud hynny os ydych chi’n meddwl bod eich tocyn yn annheg. Efallai y byddant yn gweld pethau’n wahanol i’r cwmni parcio ac yn cytuno y dylid diddymu’ch tocyn. Ni fyddant yn diddymu tocyn oherwydd digwyddiad annisgwyl, er enghraifft, os cawsoch eich dal am eich bod yn teimlo’n sâl.

Bydd y ffordd orau i apelio yn dibynnu ar a yw’r cwmni parcio a roddodd y tocyn i chi yn aelod o’r cynllun gweithredwyr a gymeradwyir gan BPA neu IPC. Gwnewch apêl ffurfiol i Parking on Private Land Appeals (POPLA) os ydynt yn gwmni parcio BPA. Os ydynt yn aelod o IPC, gwnewch apêl ffurfiol i'r Gwasanaeth Apelio Annibynol.

Os ydych chi’n cael tocyn gan aelod o BPA, mae gennych chi 28 diwrnod o’r amser y gwrthodwyd eich apêl anffurfiol i wneud apêl ffurfiol. Mae gennych chi 21 diwrnod i apelio os yw’ch tocyn gan aelod o IPC. Gofalwch eich bod yn cynnwys unrhyw dystiolaeth a fydd yn cefnogi’ch achos.

Os gwrthodir eich apêl ffurfiol

Dylech dalu eich tocyn parcio. Os nad ydych chi’n gwneud hynny, gallai’r gost fynd i fyny gan y bydd yn rhaid i chi fynd i’r llys o bosibl a thalu costau’r llys.

Cysylltwch â'ch canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf am gymorth os na allwch chi fforddio talu eich tocyn parcio.

Cysylltwch â llinell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth os ydych chi’n dal i feddwl bod eich tocyn yn annheg ac am gyflwyno cwyn am y cwmni parcio i Safonau Masnach. Bydd angen i chi dalu’r tocyn hyd yn oed os ydych chi’n cwyno am y cwmni.

Apelio yn erbyn Hysbysiad Cosb Penodol

Edrychwch ar yr Hysbysiad Cosb Penodol i weld a oedd wedi cael ei roi gan y cyngor neu’r heddlu. Ysgrifennwch atynt, gan egluro’n glir pam eich bod yn gwrthwynebu –apêl anffurfiol yw’r enw ar hyn.

Cofiwch gynnwys unrhyw dystiolaeth sydd gennych chi, gan y bydd hyn yn rhoi gwell cyfle i chi lwyddo. Gallai hwn fod yn:

  • llun yn dangos bod y marciau ffyrdd neu arwyddion yn ddyrslyd
  • llythyr gan rywun a oedd gyda chi yn dweud beth ddigwyddodd – ysgrifennwch ‘Datganiad tyst’ ar frig y dudalen
  • nodyn atgyweirio, os oedd eich car wedi torri i lawr

Gofalwch eich bod yn cynnwys:

  • dyddiad rhoi’r tocyn
  • eich cyfeiriad
  • rhif cofrestru eich car
  • rhif yr hysbysiad cosb

I ysgrifennu at yr heddlu, anfonwch eich llythyr at y Swyddfa Docynnau Ganolog agosaf at y man lle rhoddwyd y tocyn. Nid yw pob ardal yn gadael i chi gyflwyno apeliadau anffurfiol. Ffoniwch yr awdurdod heddlu a roddodd y tocyn – neu unrhyw rifau sydd wedi’u cofrestru ar yr hysbysiad – i holi.

I ysgrifennu i’r cyngor, defnyddiwch y cyfeiriad ar yr hysbysiad neu lythyr.

Os gwrthodir eich apêl anffurfiol

Byddwch yn derbyn llythyr yn dweud na fydd eich hysbysiad yn cael ei ddiddymu.

Mae’n syniad da talu’r Hysbysiad Cosb Penodol os gwrthodir eich apêl anffurfiol. Yr unig opsiwn arall yw gofyn am wrandawiad mewn llys ynadon.

Gall hyn fod yn ddrud gan y bydd eich dirwy yn cynyddu o 50% os ydych chi’n colli, a bydd yn rhaid i chi dalu costau llys. Gall achosi cryn straen – bydd angen i chi fynd i’r gwrandawiad i bledio’n ddieuog.

Byddwch yn derbyn ad-daliad am yr Hysbysiad Cosb penodol os yw’ch apêl yn llwyddiannus.

Dylech gael cyngor cyfreithiol os ydych chi’n penderfynu apelio drwy lys ynadon. Gall cynghorydd cyfreithiol eich helpu i baratoi ar gyfer y llys a dod i’r gwrandawiad gyda chi o bosibl.

Cysylltwch â'ch canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf am gymorth i gael cynghorydd cyfreithiol.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.