Check if you can take time off work
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Mae gennych chi hawl i gael amser i ffwrdd o’r gwaith mewn rhai amgylchiadau. Gelwir y rhain yn ‘hawliau statudol’. Gall yr amser hwn i ffwrdd o’r gwaith fod yn absenoldeb â thâl neu’n absenoldeb di-dâl. Ni chewch eich talu am unrhyw absenoldeb di-dâl y byddwch yn ei gymryd.
Efallai y bydd eich cyflogwr yn gadael i chi gael amser ychwanegol i ffwrdd o’r gwaith ar ben eich hawliau statudol. Er enghraifft, efallai y byddant yn rhoi mwy o ddiwrnodau gwyliau â thâl i chi. Dylech edrych ar eich contract cyflogaeth i weld a oes gennych chi unrhyw hawliau ychwanegol i gael amser i ffwrdd o’r gwaith.
Hyd yn oed os nad oes gennych chi gontract cyflogaeth ysgrifenedig, mae’n bosibl y bydd gennych chi hawliau ychwanegol o hyd. Er enghraifft:
os ydych chi wedi cytuno ar hyn mewn sgwrs gyda’ch cyflogwr
oherwydd y ffordd mae pethau’n cael eu gwneud yn eich gwaith
Os ydych chi am gymryd mwy o absenoldeb di-dâl nag y mae gennych chi hawl iddo, gallwch chi ofyn ond does dim rhaid i’ch cyflogwr gytuno i roi’r amser ychwanegol i ffwrdd o’r gwaith i chi. Dylech egluro eich rhesymau a gweld a allwch chi ddod i gytundeb.
Gwyliau â thâl
Fel arfer, bydd gennych chi hawl i o leiaf 5.6 wythnos o wyliau â thâl bob blwyddyn. Gallwch weld a oes gennych hawl i dâl gwyliau.
Absenoldeb salwch â thâl
Efallai y bydd gennych chi hawl i dâl salwch pan fyddwch chi i ffwrdd o’r gwaith oherwydd salwch neu os na allwch chi weithio oherwydd anaf. Mae’n dibynnu ar eich statws cyflogaeth. Gallwch weld a oes gennych hawl i dâl salwch.
Apwyntiad meddygol
Fel arfer, does gennych chi ddim hawl i gael amser o’r gwaith i fynd at y meddyg, y deintydd neu i apwyntiad ysbyty - hyd yn oed os cewch eich anafu mewn damwain yn y gwaith. Dylech wirio’ch contract cyflogaeth i weld a yw’n nodi a allwch chi gael amser i ffwrdd o’r gwaith ar gyfer yr apwyntiadau hyn ac a gewch chi dâl neu beidio.
Os nad yw eich contract yn nodi eich bod yn cael amser i ffwrdd o’r gwaith, gallwch ofyn i’ch cyflogwr am yr amser i ffwrdd o hyd. Does dim rhaid i gyflogwr gytuno i hynny, felly efallai y bydd yn rhaid i chi wneud y canlynol:
cael yr apwyntiadau hyn y tu allan i oriau gwaith
cymryd gwyliau
gwneud iawn am yr amser yn nes ymlaen
Os ydych chi’n anabl neu os oes gennych chi gyflwr iechyd hirdymor
Rhaid i’ch cyflogwr wneud addasiadau rhesymol er mwyn i chi gael amser i ffwrdd o’r gwaith ar gyfer apwyntiadau meddygol sy’n ymwneud â’ch anabledd neu’ch cyflwr iechyd hirdymor.
Os na fydd eich cyflogwr yn gwneud hynny, gallai fod yn wahaniaethu. Gallwch weld sut mae gofyn i’ch cyflogwr am addasiadau rhesymol.
Amser i ffwrdd o’r gwaith oherwydd eich plant
Os ydych chi’n disgwyl babi, efallai y bydd gennych chi neu’ch partner hawl i’r canlynol:
amser i ffwrdd o’r gwaith i fynychu apwyntiadau cyn geni
tâl ac absenoldeb mamolaeth
tâl ac absenoldeb tadolaeth
tâl ac absenoldeb ar y cyd i rieni
tâl ac absenoldeb mabwysiadu
Os ydych chi’n rhiant, efallai y gallwch chi hefyd gymryd absenoldeb rhiant di-dâl - er enghraifft i dreulio mwy o amser gyda’ch plentyn.
Gweld beth yw eich hawliau fel rhiant yn y gwaith.
Gofalu am rywun
Dim ond os ydych chi’n gyflogai y bydd gennych chi hawl i gael amser o’r gwaith i ofalu am rywun.
Mae’n bosibl eich bod yn gyflogai hyd yn oed os yw eich cyflogwr neu’ch contract yn nodi eich bod yn hunangyflogedig. Mae’n bosibl nad ydych chi’n gyflogai os ydych chi, er enghraifft, yn gweithio i asiantaeth neu os nad oes sicrwydd eich bod yn mynd i gael unrhyw waith.
Os nad ydych chi’n siŵr a ydych chi’n gyflogai, ewch i weld eich statws cyflogaeth.
Mewn rhai sefyllfaoedd, gallwch gymryd amser o’r gwaith i ofalu am rywun os yw’r sawl hwnnw yn ‘ddibynnydd’. Mae dibynyddion yn cynnwys:
eich plentyn
eich partner, gŵr, gwraig neu bartner sifil
eich rhiant
rhywun sy’n byw yn eich cartref, oni bai ei fod yn lletywr neu’n gyflogai i chi
rhywun sy’n dibynnu arnoch chi, megis cymydog anabl
Gallwch chi gymryd amser o’r gwaith i ofalu am ddibynnydd mewn argyfwng neu os oes angen gofal tymor hir arnynt.
Gofalu am ddibynnydd mewn argyfwng
Bydd eich amser i ffwrdd o’r gwaith yn absenoldeb di-dâl oni bai bod eich contract cyflogaeth yn nodi eich bod yn cael eich talu.
Rhaid i’r amser i ffwrdd o’r gwaith fod yn rhesymol a ni allwch gymryd dim mwy na’r amser mae’n cymryd i ddelio â’r broblem frys.
Er enghraifft, gallwch gymryd amser i ffwrdd o’r gwaith pan mae’r canlynol yn berthnasol:
mae rhywun yn mynd yn sâl neu’n cael ei anafu
mae rhywun yn marw
mae trefniadau gofal ar gyfer dibynnydd yn chwalu’n sydyn
os oes angen i chi ddelio â digwyddiad annisgwyl sy’n ymwneud â’ch plentyn yn ei ysgol
Mae angen i chi roi gwybod i’ch cyflogwr cyn gynted ag y bo modd y bydd angen i chi fod i ffwrdd o’r gwaith. Mae angen i chi hefyd roi gwybod pam y bod angen i chi gael amser i ffwrdd o’r gwaith a phryd rydych chi’n disgwyl bod yn ôl.
Ceisiwch gael ateb gan eich cyflogwr ar bapur, gan y bydd yn helpu i gael cofnod os bydd problem yn nes ymlaen.
Gofalu am ddibynnydd sydd ag angen gofal tymor hir
Gallwch chi ofyn am hyd at 1 wythnos y flwyddyn i ffwrdd o’r gwaith i ofalu am ddibynnydd sydd ag angen gofal tymor hir. Ni fyddwch yn cael eich talu am eich amser i ffwrdd o’r gwaith. Gelwir y math hwn o absenoldeb yn ‘absenoldeb di-dâl i ofalwr’.
Mae gan eich dibynnydd angen gofal tymor hir os oes ganddo/ganddi:
anabledd
salwch neu anaf sydd angen gofal am o leiaf 3 mis
anghenion person hŷn sy’n gysylltiedig ag oedran
Rhaid i chi geisio rhoi cymaint o rybudd ag y gallwch i’ch cyflogwr. Gallwch gyfrifo faint o rybudd y dylech ei roi drwy ddyblu’r amser y bydd ei angen arnoch i ffwrdd o’r gwaith - er enghraifft, bydd angen i chi roi:
3 diwrnod o rybudd am rhwng hanner diwrnod a 1.5 diwrnod o absenoldeb
4 diwrnod o rybudd am 2 ddiwrnod o absenoldeb
6 diwrnod o rybudd am 3 ddiwrnod o absenoldeb
8 diwrnod o rybudd am 4 ddiwrnod o absenoldeb
10 diwrnod o rybudd am 5 ddiwrnod o absenoldeb
Efallai y bydd angen diwrnod i ffwrdd o’r gwaith arnoch chi ac yna diwrnod arall fis yn ddiweddarach. Er enghraifft, os oes angen i chi fynd â rhywun i’w hapwyntiadau ysbyty arferol.
Fe allwch gael rhagor o wybodaeth am absenoldeb di-dâl i ofalwr ar GOV.UK.
Cyfweliadau swydd
Fel arfer, nid oes gennych chi hawl i gael amser o’r gwaith ar gyfer cyfweliad am swydd. Gallech ystyried defnyddio rhywfaint o’ch amser gwyliau gyda thâl.
Os ydych yn cael eich diswyddo, efallai y bydd gennych chi hawl i gael rhywfaint o amser i ffwrdd o’r gwaith i ddod o hyd i swydd newydd. Mae hyn yn cynnwys amser i ffwrdd ar gyfer cyfweliadau. Gallwch weld a allwch chi gael amser i ffwrdd o’r gwaith ar gyfer cyfweliadau mewn sefyllfa o ddiswyddo.
Astudio neu hyfforddiant
Mae’n bosibl y bydd gennych chi’r hawl i ofyn am amser i ffwrdd o’r gwaith i astudio os ydych chi’n gyflogai.
Mae’n bosibl eich bod yn gyflogai hyd yn oed os yw eich cyflogwr neu’ch contract yn nodi eich bod yn hunangyflogedig. Mae’n bosibl nad ydych chi’n gyflogai os ydych chi, er enghraifft, yn gweithio i asiantaeth neu os nad oes sicrwydd eich bod yn mynd i gael unrhyw waith.
Os nad ydych chi’n siŵr a ydych yn gyflogai, ewch i weld eich statws cyflogaeth.
Your right to ask for time off to study or train also depends on your age.
Os ydych chi’n 16 neu’n 17 oed ac yn gweithio’n llawn amser
Os ydych chi’n gyflogai, mae gennych hawl i gael cyfnod rhesymol o amser o’r gwaith gyda thâl i astudio neu i gael hyfforddiant. Fe’i telir ar eich cyfradd arferol. Rhaid i’r cymhwyster yr ydych wedi dewis sicrhau eich bod yn cyrraedd y safon addysg genedlaethol. Mae hyn ar yr un lefel â naill ai:
5 TGAU
1 NVQ
Gallwch chi ofyn i’ch ysgol neu’ch coleg pa lefel yw eich cymhwyster os nad ydych yn siŵr.
Os ydych chi’n troi’n 18 pan ydych chi eisoes yn astudio
Mae gennych chi hawl i gael amser i ffwrdd o’r gwaith gyda thâl i orffen eich cymhwyster os ydych chi’n gyflogai 18 oed. Dylid talu hyn ar eich cyfradd arferol. Rhaid i’r cymhwyster fod yr un lefel neu’n uwch na 5 TGAU neu 1 NVQ.
Os ydych chi’n gyflogai sy’n 18 oed neu’n hŷn
Mae gennych chi hawl i ofyn am amser di-dâl i ffwrdd o’r gwaith i gael hyfforddiant neu i astudio os yw’r ddau beth ganlynol yn berthnasol:
rydych chi’n gweithio yn rhywle gyda mwy na 250 o weithwyr
rydych chi wedi gweithio yno am fwy na 26 wythnos
Bydd angen i chi ddangos i’ch cyflogwr y bydd y cymhwyster rydych chi wedi’i ddewis yn gwella eich gallu i wneud eich swydd. Nid oes rhaid i’ch cyflogwr gytuno i’ch cais.
Os ydych chi’n troi’n 18 pan ydych chi eisoes yn astudio
Mae gennych chi hawl i gael amser i ffwrdd o’r gwaith gyda thâl i orffen eich cymhwyster os ydych chi’n gyflogai 18 oed. Dylid talu hyn ar eich cyfradd arferol. Rhaid i’r cymhwyster fod yr un lefel neu’n uwch na 5 TGAU neu 1 NVQ.
Gwasanaeth rheithgor
Oni bai y byddai’n achosi problem ddifrifol iddynt, mae’n rhaid i’ch cyflogwr roi amser i ffwrdd o’r gwaith i chi ar gyfer gwasanaeth rheithgor.
Gallent gael dirwy am ddirmyg llys os byddant yn gwrthod rhoi amser i ffwrdd o’r gwaith i chi ar gyfer gwasanaeth rheithgor, hyd yn oed os ydych chi’n hunangyflogedig.
Os na fydd eich cyflogwr yn rhoi amser i ffwrdd o’r gwaith i chi ar gyfer gwasanaeth rheithgor
Gallwch chi ofyn am gael gohirio eich gwasanaeth rheithgor os bydd hyn yn digwydd. Bydd yn dal yn rhaid i chi ei gyflawni rhywbryd yn y dyfodol.
Gallwch chi geisio trafod gyda’ch cyflogwr i gytuno ar amser i wneud eich gwasanaeth rheithgor sy’n well i’r ddau ohonoch.
Gweld a allwch chi gael eich talu tra byddwch chi’n gwneud gwasanaeth rheithgor
Dylech edrych ar eich contract cyflogaeth i weld a fydd eich cyflogwr yn eich talu am yr amser y byddwch yn ei gymryd i ffwrdd o’r gwaith i wneud gwasanaeth rheithgor.
Os na fydd eich cyflogwr yn eich talu, gallwch chi hawlio arian yn ôl gan y llys i wneud iawn am rywfaint o’ch colledion ariannol.
Gallwch weld sut mae hawlio arian yn ôl ar gyfer gwasanaeth rheithgor ar GOV.UK.
Os yw eich cyflogwr yn eich diswyddo oherwydd eich bod yn gwneud gwasanaeth rheithgor
Fel arfer, bydd eich diswyddiad yn ‘annheg yn awtomatig’, sy’n ei gwneud yn haws i herio’ch sefyllfa. Nid yw eich diswyddiad yn annheg yn awtomatig os gofynnodd eich cyflogwr i chi geisio cyflawni eich dyletswydd rheithgor rywbryd eto, ond ni wnaethoch gais i’w ohirio.
Os na fydd eich cyflogwr yn gadael i chi gymryd amser i ffwrdd o’r gwaith
Dylech ddechrau drwy siarad â’ch cyflogwr. Efallai y byddwch chi’n gallu datrys y broblem drwy esbonio pam mae angen amser i ffwrdd o’r gwaith arnoch. Gallwch weld sut mae siarad â’ch cyflogwr am broblem.
Os ydych yn cael eich trin yn annheg neu’n cael eich diswyddo am gymryd amser i ffwrdd o’r gwaith
Ni ddylai eich cyflogwr eich trin yn annheg na’ch diswyddo am gymryd amser i ffwrdd o’r gwaith pan mae gennych chi’r hawl i wneud hynny.
Gallwch weld beth i’w wneud os yw eich cyflogwr yn eich trin yn annheg.
Hefyd, ni ddylai eich cyflogwr wahaniaethu yn eich erbyn. Mae hyn yn golygu eich trin yn annheg am resymau sy’n gysylltiedig â phwy ydych chi, er enghraifft bod yn fenyw neu fod yn anabl. Gallwch weld a yw eich problem yn y gwaith yn enghraifft o wahaniaethu.
Os bydd eich cyflogwr yn eich diswyddo am gymryd amser i ffwrdd o’r gwaith pan mae gennych chi’r hawl i’r amser hwnnw, dylech weld sut i herio’ch diswyddiad.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 19 Rhagfyr 2022