Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Gweld os ydych chi’n gymwys i gael ESA

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Credyd Cynhwysol

Mae Credyd Cyffredinol yn cael ei gyflwyno ledled y DU fesul cam.

Os ydych chi'n byw mewn rhai rhannau o'r DU, bydd yn rhaid i chi hawlio Credyd Cyffredinol yn hytrach nag ESA yn seiliedig ar incwm. Yng ngweddill y DU, gallwch wneud cais newydd am ESA yn seiliedig ar incwm.

Yn y pen draw, bydd Credyd Cynhwysol yn disodli ESA yn seiliedig ar incwm ym mhobman - byddwch chi’n dal i allu hawlio ESA yn seiliedig ar gyfraniadau.

Os ydych chi mewn ardal lle mae Credyd Cynhwysol wedi disodli ESA yn seiliedig ar incwm eisoes, yr enw ar yr ESA yn seiliedig ar gyfraniadau y gallech ei gael yw’r ‘ESA math newydd' (‘new style ESA’).

Gweld a ydych chi’n byw mewn ardal lle bydd rhaid i chi hawlio Credyd Cynhwysol

Oes gennych chi:

  • salwch
  • cyflwr iechyd, neu
  • anabledd

sy’n golygu bod gweithio’n anodd neu’n amhosibl i chi?

Os felly, mae’n bosibl y gallwch gael arian gan y llywodraeth i'ch helpu.

Mae ESA yn daliad y gallech ei gael bob pythefnos i helpu gyda'ch costau byw.

Allwch chi gael ESA?

Pwysig
Os oes gennych fisa sy'n dweud "dim hawl i arian cyhoeddus" neu os ydych chi'n destun rheolaeth fewnfudo, gallai’ch statws mewnfudo fod mewn perygl os ydych chi'n gwneud cais am fudd-daliadau. Cysylltwch â’ch Cyngor ar Bopeth agosaf i gael cyngor.

Mae 2 fath o ESA - ‘seiliedig ar gyfraniadau’ a ‘seiliedig ar incwm’. Gallwch fod yn gymwys i’r naill neu’r llall, neu’r ddau, ar yr un pryd.

ESA seiliedig ar gyfraniadau

Gallech gael ESA seiliedig ar gyfraniadau:

  • os oes gennych chi gyflwr iechyd sy'n gwneud gweithio’n anodd neu'n amhosibl
  • os nad ydych chi’n cael Tâl Salwch Statudol (SSP) gan gyflogwr (ond gallwch wneud cais hyd at 3 mis cyn i'ch SSP ddod i ben - os cewch ESA, bydd yn cael ei dalu cyn gynted ag y bydd eich SSP yn dod i ben)
  • os nad ydych chi’n ddigon hen i gael Pensiwn y Wladwriaeth
  • os nad ydych chi'n gweithio, os ydych chi’n mynd i roi’r gorau i weithio neu os bydd y gwaith a wnewch yn ‘waith a ganiateir’ pan fyddwch chi'n hawlio ESA
  • os ydych chi'n byw yn y DU. Os ydych chi'n byw yn yr AEE neu'r Swistir efallai y cewch ESA os ydych chi wedi byw yn y DU yn flaenorol - mae'r rheolau'n gymhleth felly efallai y byddai'n well cael cyngor os yw hyn yn berthnasol i chi
  • os ydych chi wedi talu o leiaf 26 wythnos o gyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG) dosbarth 1 neu ddosbarth 2 yn un o'r 2 flwyddyn dreth lawn ddiwethaf ac wedi cael eich talu neu’ch credydu â chyfraniadau YG am o leiaf 50 wythnos ym mhob un o'r 2 flwyddyn dreth gyflawn ddiwethaf. Rhaid i'r 2 flwyddyn dreth fod y rhai a gwblhawyd cyn y flwyddyn fudd-daliadau y dechreuodd eich cyfnod o allu cyfyngedig i weithio ynddi. Mae'r flwyddyn fudd-daliadau’n rhedeg o'r dydd Sul cyntaf ym mis Ionawr. Mae'r flwyddyn dreth yn rhedeg rhwng 6 Ebrill a 5 Ebrill. Gallwch wirio’ch cofnod yswiriant gwladol ar-lein neu ffoniwch linell gymorth CThEM ar 0300 200 3500 os nad ydych chi'n siŵr.

Allwch chi ddim cael ESA seiliedig ar gyfraniadau ar yr un pryd â Chymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar gyfraniadau. Os ydych chi’n cael y budd-daliadau hyn a’ch bod am hawlio ESA yn seiliedig ar gyfraniadau yn eu lle, gallwch wneud hynny, ond bydd angen i chi roi'r gorau i'ch hawliad presennol i hawlio ESA yn seiliedig ar gyfraniadau yn lle hynny.

Os oes gennych bartner sy'n cael un o'r budd-daliadau hyn, efallai y byddwch yn dal i allu cael ESA yn seiliedig ar gyfraniadau ar yr un pryd.

Os oeddech chi'n hunangyflogedig ar gyfer y flwyddyn dreth 2015 i 2016 a’ch bod yn gwneud cais am ESA ym mis Ionawr 2017, mae'n rhaid i chi dalu’ch cyfraniadau YG dosbarth 2 2015-16 cyn y gallwch gael ESA yn seiliedig ar gyfraniadau. Gallwch dalu’ch cyfraniadau YG cyn cyflwyno gweddill eich ffurflen dreth hunanasesu os bydd angen.

ESA yn seiliedig ar incwm

Os nad ydych wedi talu digon o gyfraniadau YG i gael ESA yn seiliedig ar gyfraniadau, efallai y gallwch gael ESA yn seiliedig ar incwm:

  • os nad ydych chi'n ddigon hen i gael Pensiwn y Wladwriaeth. Os nad ydych chi'n ddigon hen i gael Pensiwn y Wladwriaeth ond yn ddigon hen i gael Credyd Pensiwn, gallwch ddewis hawlio naill ai ESA yn seiliedig ar incwm neu Gredyd Pensiwn
  • os nad ydych chi'n gweithio, os ydych chi’n mynd i roi’r gorau i weithio neu os bydd y gwaith a wnewch yn ‘waith a ganiateir’ pan fyddwch chi'n hawlio ESA
  • os ydych chi'n byw yn y DU
  • os oes gennych chi gynilion neu fuddsoddiadau sy’n werth llai nag £16,000
  • os yw’ch partner yn gweithio llai na 24 awr yr wythnos
  • os ydych chi naill ai’n ddinesydd Prydeinig, yn wladolyn yr AEE neu os nad ydych chi’n ‘destun rheolaeth fewnfudo’
  • os oes gennych chi’r hawl i breswylio a’ch bod yn pasio’r prawf preswylio fel arfer (bydd dinasyddion Prydeinig sy’n byw yn y DU ac nad ydynt wedi byw dramor yn ddiweddar yn bodloni’r maen prawf hwn yn awtomatig)

Allwch chi neu'ch partner ddim derbyn ESA yn seiliedig ar incwm ar yr un pryd â Chymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm neu Gredyd Pensiwn. Os ydych chi neu'ch partner yn derbyn Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, bydd yn rhaid i chi roi'r gorau i’w hawlio a hawlio ESA yn seiliedig ar incwm yn lle.

Cofiwch

Os yw'ch incwm yn isel a’ch bod yn cael ESA yn seiliedig ar gyfraniadau, efallai y byddwch yn cael ESA yn seiliedig ar incwm hefyd. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n llenwi dwy ran y ffurflen hawlio ESA gan roi’ch manylion chi a manylion eich partner os oes gennych un er mwyn i chi gael eich ystyried ar gyfer y ddwy ran o’r ESA.


Os nad ydych chi’n gymwys

Gallwch weld pa fudd-daliadau a chymorth ychwanegol y gallech eu cael gan ddefnyddio’n hadnodd ar-lein hawdd a chyflym. Gallech fod yn gymwys i gael Lwfans Gweini neu Daliad Annibyniaeth Personol.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.