Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Os ydych chi’n cael gwŷs tyst

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Mae derbyn gwŷs tyst yn golygu y bydd yn rhaid i chi fod yn y llys ar ddiwrnod yr achos a rhoi tystiolaeth os gofynnir i chi wneud hynny.

Dylech fynd i'r llys os ydych chi'n cael gwŷs – gall yr heddlu eich arestio a mynd â chi i'r llys fel arall.

Gallwch gael gwŷs gan y llys:

  • os nad ydyn nhw wedi gallu cysylltu â chi gyda rhybudd tyst
  • os ydynt nhw'n credu na fyddwch chi'n dod ar y diwrnod o bosibl
  • os ydych chi wedi dweud na fyddwch chi'n mynd i'r llys
  • os cawsoch chi wybod dyddiad yr achos ond na wnaethoch chi fynd

Os yw'ch cyflogwr wedi dweud na fydden nhw'n rhoi amser i ffwrdd i chi, gallai'r llys roi gwŷs i chi ei dangos i'ch cyflogwr.

Os ydych chi'n poeni am fynd i'r llys, gallwch gael cymorth a chefnogaeth am ddim gan Wasanaeth Tystion Cyngor ar Bopeth. Llenwch y ffurflen gysylltu neu ffoniwch 0300 332 1000 a bydd rhywun yn dod yn ôl atoch chi o fewn 2 ddiwrnod gwaith.