C15: gwybodaeth ychwanegol

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae cwestiwn 15 yn dudalen wag. Gallwch ei defnyddio os byddwch chi’n rhedeg allan o le ar y ffurflen hawlio.

Gallwch ei defnyddio hefyd i roi unrhyw wybodaeth ychwanegol rydych chi’n teimlo sy’n angenrheidiol. Does dim y fath beth â’r math cywir neu anghywir o wybodaeth i’w chynnwys, ond mae’n syniad da defnyddio’r gofod hwn i ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau:

  • os oedd rhaid i rywun lenwi’r ffurflen ar eich rhan ac esbonio pam

  • os i chi lenwi’r ffurflen yn araf neu gyda phoen

  • os gwnaeth llenwi’r ffurflen achosi pryder neu straen i chi

  • os ydych chi’n cynnwys tystiolaeth feddygol i gefnogi’ch hawliad – er enghraifft, cynllun gofal

  • os oes unrhyw ffrindiau neu deulu yn gofalu amdanoch chi – gallwch chi gynnwys eu manylion cyswllt os ydych chi’n dymuno, ond cofiwch ofyn iddyn nhw yn gyntaf 

Sylwadau gan bobl eraill

Os oes gan eich gofalwr, gweithiwr iechyd proffesiynol, ffrindiau neu deulu unrhyw wybodaeth y credwch y bydd yn helpu’ch cais PIP, gallan nhw ei hychwanegu yma.

Gofalwch fod eu sylwadau’n ymwneud â sut mae’ch cyflwr yn ei gwneud hi’n anodd i chi gyflawni’r gweithgareddau a nodir yng nghwestiynau 3 i 15. Y rheswm am hyn yw bod yr Adran Gwaith a Phensiynau yn seilio ei phenderfyniad ar a ydych chi’n cael PIP ar y gweithgareddau hyn.

Mae’n iawn i chi ysgrifennu ar ddalen ar wahân os ydych chi angen mwy o le – defnyddiwch ein templed 802 Bytes . Cofiwch roi’r ddalen hon ynghlwm wrth eich ffurflen hawlio a chynnwys eich enw, eich rhif Yswiriant gwladol a rhif y cwestiwn.

Yn ôl i Help i Lenwi’ch Ffurflen Hawlio PIP

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.