C5: rheoli triniaethau

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Beth mae’r cwestiwn hwn yn ei olygu

Mae’r cwestiwn hwn yn ymwneud â sut mae’ch cyflwr iechyd yn ei gwneud hi’n anodd i chi:

  • reoli eich triniaethau

  • monitro eich cyflwr iechyd eich hun, gan gynnwys eich iechyd meddwl

  • cymryd camau i atal eich cyflwr rhag gwaethygu

Dywedwch wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau am driniaethau sydd gennych chi yn eich cartref sydd wedi’u rhagnodi neu eu hargymell gan weithiwr meddygol proffesiynol.

Os ydych chi angen rhywun i’ch helpu chi gyda therapi, er enghraifft, ymarferion ffisiotherapi neu ddialysis cartref, mae’r Adran Gwaith a Phensiynau eisiau gwybod am faint o amser maen nhw’n eich helpu chi mewn wythnos arferol. Mae’n bwysig i chi fod mor benodol â phosibl ynglŷn â faint o amser mae rhywun yn ei dreulio yn eich helpu chi er mwyn rhoi darlun gwell i’r Adran Gwaith a Phensiynau o sut rydych chi’n ymdopi.

Werth gwybod

Cofiwch feddwl am yr holl feddyginiaethau, triniaethau a therapïau rydych chi’n eu defnyddio ar gyfer eich cyflyrau neu eich anableddau, er enghraifft:

  • anadlyddion a nebiwlyddion

  • hylifau

  • hufenau a thrwythau

  • pigiadau (e.e. inswlin os ydych chi’n ddiabetig)

  • tawddgyffuriau

  • diferion clust a llygad

  • tabledi

  • ffisiotherapi

  • osteopathi

  • rhwymynnau cywasgu

  • gorchudd clwyf neu wlser

  • dialysis cartref

  • peiriant TENS i helpi i leihau poen

  • ymarferion i atal cymhlethdodau

Cwestiwn ticio bocs 5a

"Ydych chi’n defnyddio cymorth neu declyn i fonitro eich cyflyrau iechyd, i gymryd meddyginiaeth neu i reoli triniaethau cartref, er enghraifft, defnyddio bocs ‘dosette’ ar gyfer tabledi."

  • Ydw

  • Nac ydw

  • Weithiau

Dylech dicio “ydw” siŵr o fod:

  • os ydych chi’n defnyddio bocs ‘dosette’ (bocs pils gydag adrannau) i wneud yn siŵr eich bod chi’n cymryd y meddyginiaethau iawn ar yr amser iawn

  • os ydych chi angen larwm neu rywun i’ch atgoffa chi i gymryd eich meddyginiaeth ar yr amser iawn 

Cwestiwn ticio bocs 5b

"Ydych chi angen help gan berson arall i fonitro eich cyflyrau iechyd, i gymryd meddyginiaeth neu i reoli triniaeth yn y cartref?"

  • Ydw

  • Nac ydw

  • Weithiau

Dylech dicio “ydw” siŵr o fod os ydych chi angen help:

  • i ddefnyddio hufenau neu drwythau

  • gyda photeli tabledi neu becynnau pothell

  • gyda thriniaethau, er enghraifft, newid gorchuddion

  • gyda therapïau, er enghraifft, ymarferion ffisiotherapi

  • i fonitro cyflyrau iechyd, er enghraifft, gwirio lefel y siwgr yn y gwaed neu gymryd eich tymheredd i fonitro eich iechyd meddwl

Dylech dicio "ydw" hefyd os ydych chi angen help ond nad ydych chi’n ei gael ar hyn o bryd.

Gwybodaeth ychwanegol: beth i’w ysgrifennu

Pwysig

Mae’n bwysig eich bod chi’n dweud mwy wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau trwy esbonio eich sefyllfa yn y bocs.

Dyma’ch cyfle chi i roi darlun go iawn i’r Adran Gwaith a Phensiynau o sut mae’ch cyflwr yn effeithio ar eich gallu i reoli’ch triniaethau. Byddan nhw’n defnyddio’r wybodaeth hon i benderfynu a fyddwch chi’n cael PIP.

Gallwch ddefnyddio’r gofod hwn hefyd i esbonio pa help rydych chi ei angen ond nad ydych chi’n ei gael.

Cymhorthion rydych chi’n eu defnyddio

Rhestrwch y cymhorthion rydych chi’n eu defnyddio i’ch helpu chi, gan gynnwys pethau fel bocsys ‘dosette’ a larymau.

Peidiwch byth â hepgor cymorth o’ch rhestr am eich bod chi’n meddwl ei fod yn amlwg, a chofiwch:

  • esbonio sut maen nhw’n eich helpu chi

  • esbonio beth fyddai’n digwydd os na fyddech chi’n eu defnyddio nhw

  • nodi’n glir os yw gweithiwr iechyd proffesiynol wedi’ch cynghori chi i’w defnyddio nhw

  • cynnwys unrhyw gymhorthion a fyddai’n eich helpu chi pe bai gennych chi nhw

  • cynnwys unrhyw gymhorthion y mae’ch cyflwr yn eich atal chi rhag eu defnyddio nhw

Rhywun yn eich atgoffa, eich goruchwylio neu’n eich helpu chi

Nodwch yn glir os ydych chi angen help ond nad ydych chi’n ei gael.

Os ydych chi’n cael help, dywedwch pwy sy’n eich helpu chi (er enghraifft, gofalwr neu ffrind) ac esboniwch:

  • pam maen nhw’n helpu

  • sut maen nhw’n helpu, er enghraifft, efallai eu bod nhw’n rhoi trefn ar eich meddyginiaeth neu’n eich helpu chi gydag ymarferion

  • pa mor aml maen nhw’n helpu ac am ba hyd

Dywedwch yn glir os ydych chi angen iddyn nhw:

  • eich atgoffa chi i reoli’ch triniaethau

  • eich helpu chi yn gorfforol

  • helpu drwy’r amser, weithiau neu os yw’n rhy anodd i chi ragfynegi

  • bod wrth law – er enghraifft, rhag ofn y byddwch chi angen iddyn nhw helpu neu wneud yn siŵr eich bod chi’n ddiogel 

Cofiwch esbonio beth sy’n digwydd (neu beth fyddai’n digwydd) os nad ydych chi’n cael help. Er enghraifft:

  • rydych chi’n fwy tebygol o gael damwain neu anaf

  • rydych chi’n fwy tebygol o ddioddef symptomau corfforol neu feddyliol fel poen, anghysur neu ddryswch

  • bydd hi’n cymryd o leiaf ddwywaith gymaint o amser i chi reoli’ch triniaethau o gymharu â rhywun heb eich cyflwr

Diogelwch: damweiniau a risg o gael anaf

Esboniwch os ydych chi erioed wedi:

  • cymryd y swm anghywir o feddyginiaeth – naill ai gormod neu ddim digon

  • anghofio cymryd eich meddyginiaeth

  • gwneud eich cyflwr yn waeth trwy beidio â chael y driniaeth neu’r therapi a argymhellwyd

Nodwch yn glir os cododd y problemau hyn oherwydd:

  • na chawsoch chi help neu oruchwyliaeth

  • eich bod chi’n ei chael hi’n anodd canolbwyntio

  • eich bod chi’n drysu

Dylech ddweud hefyd os ydych chi’n meddwl y gallech chi wneud hyn yn y dyfodol. Dylech sôn am:

  • ba mor aml mae risg yn codi, hyd yn oed os nad yw’n codi’n rheolaidd

  • pa mor wael y gallech chi gael eich niweidio

  • a oes unrhyw beth y gallwch chi ei wneud i atal y risg rhag codi

Diwrnodau da a diwrnodau gwael

Esboniwch sut rydych chi’n ymdopi ar ddiwrnodau da a diwrnodau gwael a sut rydych chi’n ymdopi dros gyfnod hwy (fel wythnos). Mae hyn yn rhoi darlun gwell i’r Adran Gwaith a Phensiynau o sut rydych chi’n ymdopi y rhan fwyaf o’r amser.

Nodwch yn glir:

  • os ydych chi’n cael diwrnodau da a diwrnodau gwael

  • pa mor aml rydych chi’n cael diwrnodau gwael

  • os ydych chi’n cael diwrnodau gwael yn amlach na pheidio

  • sut mae eich anawsterau a’ch symptomau yn amrywio ar ddiwrnodau da a diwrnodau gwael 

Sgil-effeithiau fel poen, anghysur, blinder neu ddryswch

Esboniwch a yw’r anawsterau rydych chi’n eu cael o ran rheoli eich triniaethau yn achosi unrhyw symptomau corfforol neu feddyliol i chi (fel poen, anghysur, blinder neu ddiffyg brwdfrydedd).

Mae’n gallu bod yn ddefnyddiol esbonio’r symptomau a rhoi enghraifft, gan gynnwys:

  • pa mor aml rydych chi’n eu cael nhw

  • am faint maen nhw’n para

  • os ydyn nhw’n debygol o gynyddu’r risg o ddamwain

  • os ydyn nhw’n effeithio ar eich gallu i gyflawni unrhyw un o’r gweithgareddau eraill ar eich ffurflen hawlio PIP

Enghraifft o ateb i gwestiwn 5

Enghraifft

“Rwy’n gorfod gwneud ffisiotherapi am 40 munud y dydd. Mae ffisiotherapydd yn dod i ’nhŷ i bob mis i’m helpu i gyda fy ymarferion.

"Mae fy ffrind yn fy helpu i pan nad yw’r ffisiotherapydd o gwmpas. Mae hi’n gorfod dal fy nghoesau mewn lle penodol tra fy mod i’n gwneud yr ymarferion – dydy e ddim yn rhywbeth rwy’n gallu ei wneud ar fy mhen fy hun. Ar ôl gwneud fy ymarferion, rydw i fel arfer mewn poen am awr neu ddwy. Dywedodd fy meddyg teulu wrtha i am ddefnyddio peiriant TENS i helpu i reoli’r poen ac mae fy ffrind yn treulio 10 munud y dydd yn fy helpu i ddefnyddio’r peiriant.

“Mae hi’n fy helpu i gyda fy meddyginiaeth hefyd, gan wneud yn siŵr fy mod i’n cymryd y tabledi iawn ar yr amser iawn. Rwy’n cymryd 6 gwahanol fath o feddyginiaeth, sy’n golygu cymryd 20 o dabledi y dydd, ac rwy’n ei chael hi’n anodd gweithio allan beth rydw i angen ei gymryd a phryd.”

Help gyda chwestiwn 6: ymolchi a mynd i’r bath

Yn ôl i Help i Lenwi’ch Ffurflen Hawlio PIP

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.