C8: gwisgo a dadwisgo

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Beth mae’r cwestiwn hwn yn ei olygu

Mae’r cwestiwn hwn yn gofyn i chi ddisgrifio unrhyw anawsterau rydych chi’n eu cael wrth wisgo neu ddadwisgo. Mae hyn yn golygu gwisgo a thynnu dillad priodol, heb eu haddasu (gan gynnwys esgidiau a sanau).

Mae 'dillad priodol' yn golygu dillad sy’n briodol ar gyfer:

  • y tywydd

  • yr achlysur

  • amser y dydd

Ceisiwch feddwl sut rydych chi’n gwisgo a dadwisgo – gan gynnwys unrhyw gymhorthion neu declynnau neu help rydych chi eu hangen gan bobl eraill. Efallai y byddai’n helpu i ddychmygu sut byddech chi’n ymdopi â gwisgo yn nhŷ rhywun arall neu mewn ystafell wisgo mewn siop.

Cwestiwn 8a

"Ydych chi’n defnyddio cymorth neu declyn i wisgo neu ddadwisgo?"

Gallai cymhorthion neu declynnau gynnwys siasbi, dillad wedi’u haddasu e.e. bras sy’n cau yn y blaen, ffasninau felcro ac ati.

  • ydw

  • nac ydw

  • weithiau 

Cwestiwn 8b

"Ydych chi angen help gan berson arall i wisgo neu ddadwisgo?"

  • ydw

  • nac ydw

  • weithiau

Dylech dicio “ydw” siŵr o fod:

  • os oes rhywun yn eich atgoffa chi

  • os oes rhywun yn eich annog chi

  • os oes rhywun yn eich goruchwylio chi

  • os oes rhywun yn aros gyda chi i wneud yn siŵr eich bod chi’n ddiogel neu ddim yn wynebu risg

  • os oes rhywun yn eich helpu chi mewn unrhyw ffordd – does dim rhaid i’r help hwnnw fod yn help corfforol

  • os ydych chi angen help ond nad ydych chi’n ei gael 

Cwestiwn 8: gwybodaeth ychwanegol

Pwysig

Mae’n bwysig eich bod chi’n dweud mwy wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau trwy esbonio eich sefyllfa yn y bocs.

Dyma’ch cyfle i roi darlun go iawn i’r Adran Gwaith a Phensiynau o sut mae’ch cyflwr yn effeithio ar eich gallu i wisgo a dadwisgo. Byddan nhw’n defnyddio’r wybodaeth hon i benderfynu a fyddwch chi’n cael PIP.

Gallwch ddefnyddio’r gofod hwn hefyd i esbonio pa help rydych chi ei angen ond nad ydych chi’n ei gael.

Dydych chi ddim yn gallu gwisgo neu ddadwisgo ar eich pen eich hun

Nodwch yn glir:

  • os oes rhywun arall yn eich helpu chi i wisgo a dadwisgo

  • pwy sy’n eich helpu chi

  • beth maen nhw’n ei wneud a pham

Dylech esbonio hefyd os yw gwisgo neu ddadwisgo yn eich gwneud chi’n flinedig neu’n achosi poen i chi.

Os yw hi’n cymryd o leiaf ddwywaith gymaint o amser i chi wisgo a dadwisgo o gymharu â rhywun heb anabledd neu gyflwr, mae’n bwysig i chi nodi hyn. Os ydych chi’n cael help, gallech gymharu’ch hun â’r person sy’n eich helpu chi.

Rydych chi’n cael anawsterau gyda rhai eitemau o ddillad

Byddwch yn benodol ynglŷn â phwy sy’n eich helpu chi, beth maen nhw’n ei wneud i’ch helpu chi a pha eitemau o ddillad maen nhw’n eich helpu chi gyda nhw.

Efallai bod rhai eitemau o ddillad rydych chi’n osgoi eu gwisgo yn gyfan gwbl, er enghraifft, os ydych chi’n gwisgo trowsus â chanol elastig am nad ydych chi’n gallu ymdopi â gwregys, neu gardigan yn lle siwmper am nad ydych chi’n gallu codi’ch breichiau.

Meddyliwch a allech chi wisgo a dadwisgo dro ar ôl tro pe bai angen i chi wneud hynny – er enghraifft, pe baech chi’n gollwng rhywbeth ar eich dillad a bod angen i chi newid bron yn syth ar ôl i chi wisgo. Meddyliwch a fyddai hyn yn eich blino chi neu’n achosi poen i chi.

Os mai’r unig esgidiau rydych chi’n gallu ymdopi â nhw yw rhai ‘slip on’, dylech esbonio hynny. Mae’n bwysig i chi nodi hefyd os ydych chi angen help i’w gwisgo neu eu tynnu nhw. Efallai y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn penderfynu nad oes gennych chi broblem os ydych chi’n gallu gwisgo a thynnu esgidiau ‘slip on’ heb gymorth.

Os yw hi’n cymryd o leiaf ddwywaith cymaint o amser i chi wisgo a dadwisgo o gymharu â rhywun heb anabledd neu gyflwr, mae’n bwysig i chi ddweud hyn. Efallai y byddai’n helpu i chi gymharu’ch hun â rhywun rydych chi’n ei adnabod, neu eich gofalwr os oes gennych chi un.

Rydych chi angen cael eich cymell, eich atgoffa neu eich annog i wisgo neu ddadwisgo

Meddyliwch a ydych chi ddim yn gwisgo neu’n dadwisgo pan mae pobl eraill yn credu y dylech chi wneud hynny. Gallai hyn fod am sawl rheswm – efallai ei fod yn achosi poen i chi, yn eich blino chi neu efallai na allwch chi wynebu’r peth neu ei fod yn eich gwneud chi’n bryderus.

Os nad ydych chi’n dadwisgo pan rydych chi’n mynd i’r gwely neu’n gwisgo yn y bore, ceisiwch esbonio pam a pha mor aml mae hyn yn digwydd. Byddwch yn benodol ynglŷn â chael eich cymell, eich atgoffa neu eich annog – a phwy sy’n eich helpu chi. Dyma rai enghreifftiau:

Enghraifft

"Rwy’n dioddef o iselder ac, yn aml, rwy’n teimlo’n rhy isel i wisgo. Mae’n cymryd ymdrech fawr ac rwy’n ei chael hi’n anodd dod o hyd i’r brwdfrydedd i wneud hynny oni bai bod fy nhad yn dod heibio a dweud wrtha i y dylwn i wisgo. Mae’n dod heibio 2 neu 3 gwaith yr wythnos fel arfer – os nad yw’n dod heibio, dydw i ddim yn gwisgo o gwbl fel arfer."

"Mae’n boenus iawn i mi newid fy nillad. Mae’n cymryd tua awr i’r poen yn fy nghefn wella ar ôl i mi wisgo ac rwy’n gorfod cymryd cyffuriau lleddfu poen. Mae’n anodd rhoi fy hun drwy’r profiad, felly os nad ydw i’n mynd allan y diwrnod hwnnw, fydda i ddim yn newid allan o’m dillad nos."

Rydych chi angen help i ddewis dillad priodol i’w gwisgo

Meddyliwch pam rydych chi angen help i ddewis pa ddillad i’w gwisgo. Dylech chi ddweud hefyd pwy sy’n eich helpu chi a beth fyddai’n digwydd pe na baech chi’n cael unrhyw help. Dyma rai enghreifftiau:

Enghraifft

"Rwy’n rhannol ddall ac rydw i angen help i ddewis dillad; fel arall, mae’n bosibl y bydda i’n gwisgo rhywbeth tu chwith allan neu ben i waered."

"Oherwydd clefyd Asperger Michael, dydy e ddim yn gwerthfawrogi pa ddillad sy’n briodol. Mae e’n gweld dillad fel rhywbeth swyddogaethol yn unig a dydy e ddim yn gweld na ddylai rhai pethau gael eu gwisgo gyda’i gilydd neu fod y crys T yn llawn tyllau.”

Os nad ydych chi’n newid eich dillad yn ddigon rheolaidd a’u bod nhw’n fudr – gall hyn olygu nad ydych chi’n gwisgo dillad priodol hefyd. Os nad ydych chi byth angen cael eich cymell neu eich annog i newid neu olchi eich dillad, ysgrifennwch hyn i lawr.

Dadwisgo yn gyhoeddus neu ar adeg amhriodol

Os ydych chi erioed wedi dadwisgo ar y stryd neu ar unrhyw adeg arall yr oedd pobl eraill yn meddwl oedd yn amhriodol, gofalwch eich bod chi’n rhoi hyn ar eich ffurflen.

Esboniwch pam rydych chi’n meddwl i hyn ddigwydd, er enghraifft, sgil-effaith cyflwr penodol. Mae hyn yn gallu bod yn eithaf cyffredin mewn pobl â dementia.

Cymhorthion rydych chi’n eu defnyddio neu ddillad wedi’u haddasu

Meddyliwch am y cymhorthion rydych chi’n eu defnyddio i wisgo neu ddadwisgo. Efallai y byddai’n help i chi ddychmygu gwisgo yn nhŷ ffrind yn hytrach nag yn eich cartref eich hun.

Soniwch am yr holl bethau rydych chi’n eu defnyddio a pham rydych chi eu hangen nhw – er enghraifft, os ydych chi ond yn gallu tynnu’ch dillad gyda ffon wisgo.

Meddyliwch faint yn hirach y byddai’n ei gymryd i chi heb gymorth. A fyddai’n cymryd ddwywaith gymaint o amser neu hwy? Esboniwch os yw gwisgo a dadwisgo yn eich gwneud chi’n flinedig neu’n achosi poen i chi.

Dyma rai enghreifftiau o gymhorthion:

  • siasbi

  • bra sy’n cau yn y blaen

  • esgidiau sy’n cau gyda felcro

  • ffon wisgo

  • codwr coes

  • botymau magnetig

  • dillad sy’n agored ar y cefn neu sy’n agor ar yr ochr

Werth gwybod

Dywedwch wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os ydych chi’n defnyddio cymorth i leihau symptomau meddyliol neu gorfforol (fel poen, anghysur neu flinder) gwisgo neu ddadwisgo. Nodwch yn glir mai dim ond lleihau’r teimlad hwnnw mae hyn yn ei wneud a’ch bod chi’n dal i’w ddioddef.

Risgiau diogelwch

Dywedwch wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os ydych chi wedi gwneud y canlynol neu os ydych chi’n credu y gallech chi wneud y canlynol:

  • llithro neu ddisgyn wrth wisgo

  • mynd yn rhy boeth neu oer gan na allwch chi wisgo neu dynnu’ch dillad 

Nodwch yn glir:

  • pam mae’n gallu digwydd

  • pa mor aml mae’n gallu digwydd

  • pa mor wael y gallai effeithio arnoch chi

  • sut rydych chi’n ceisio ei atal – er enghraifft, rydych chi’n dibynnu ar reilen neu rywun i’ch helpu chi

  • os yw’n digwydd am na wnaeth rhywun eich helpu chi

  • os yw oherwydd eich bod chi’n drysu neu’n cael trafferth cofio

Help gyda chwestiwn 9: cyfathrebu

Yn ôl i Help i Lenwi’ch Ffurflen Hawlio PIP

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.