Edrych i weld os oes gennych hawl i breswylio ar gyfer budd-daliadau
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Efallai y bydd angen i chi ddangos bod gennych hawl i breswylio yn y DU i hawlio’r budd-daliadau canlynol:
Credyd Cynhwysol
Credyd Pensiwn
Budd-dal Plant
Budd-dal Tai
Nid oes angen hawl arnoch chi i breswylio er mwyn hawlio unrhyw fudd-daliadau eraill – er enghraifft Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) neu Lwfans Gofalwr.
Bydd angen i chi ddangos bod gennych hawl i breswylio os oes gennych statws preswylydd cyn-sefydlog o Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE – neu os ydych chi wedi gwneud cais i’r cynllun a’ch bod yn aros am benderfyniad.
Efallai y byddwch chi yn y sefyllfa hon os ydych chi’n ddinesydd yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu’r Swistir ac y gwnaethoch chi gyrraedd y DU erbyn 31 Rhagfyr 2020.
Efallai y byddwch chi yn y sefyllfa hon hefyd os ydych chi’n aelod o deulu dinesydd yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu’r Swistir ac y gwnaethant gyrraedd y DU erbyn 31 Rhagfyr 2020.
Yr AEE yw’r UE, Norwy, Gwlad yr Iâ a Liechtenstein.
Os nad ydych chi wedi gwneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE eto, edrychwch i weld os gallwch chi dal wneud cais am statws preswylydd cyn-sefydlog neu statws preswylydd sefydlog.
Os oes gennych chi statws preswylydd cyn-sefydlog ond dim hawl arall i breswylio
Efallai y byddwch chi’n dal i allu gwneud cais am yr holl fudd-daliadau os:
ydych chi’n ddigartref neu os na allwch chi ddod o hyd i dŷ diogel
na allwch chi fforddio’r pethau sylfaenol sydd eu hangen arnoch chi i ofalu am eich hun, fel bwyd a dillad
Siaradwch â chynghorwr i weld os yw’n werth gwneud cais.
Profi eich hawl i breswylio
Os ydych chi’n ddinesydd yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA), efallai y bydd gennych chi hawl i breswylio naill ai:
oherwydd bod eich sefyllfa yn eich gwneud yn ‘berson cymwys’ – er enghraifft oherwydd eich bod yn gweithio neu’n hunangyflogedig
fel aelod o deulu dinesydd yr AEE – mae’n rhaid iddynt gael hawl i breswylio oherwydd eu sefyllfa
Os nad ydych chi’n ddinesydd yr AEE, gallwch chi gael yr hawl i breswylio fel aelod o deulu dinesydd yr AEE. Ni allwch chi gael yr hawl i breswylio fel person cymwys.
Mae Lucia a Javier yn ddinasyddion o Sbaen sy’n byw yn y DU. Maen nhw’n briod â’i gilydd. Mae gan y ddau statws preswylydd cyn-sefydlog.
Os oes gan Lucia neu Javier yr hawl i breswylio oherwydd eu bod yn gweithio, bydd gan y llall yr hawl i breswylio fel aelod o’u teulu.
Dim ond un math o hawl i breswylio y bydd yn rhaid i chi ei ddangos.
Bydd rhaid i chi roi tystiolaeth i brofi eich hawl i breswylio wrth i chi wneud cais am y budd-daliadau. Efallai y bydd angen i chi gynnwys y dystiolaeth hon gyda’ch ffurflen gais neu fynd â hi i’r cyfweliad.
Siaradwch â chynghorwr os oes angen help arnoch chi i brofi eich hawl i breswylio.
Os ydych chi’n gweithio
Bydd gennych chi hawl i breswylio fel gweithiwr os gallwch chi brofi eich bod wedi ennill dros £242 yr wythnos ar gyfartaledd am 3 mis o leiaf.
Os nad ydych chi wedi ennill digon neu wedi gweithio’n ddigon hir, bydd dal gennych chi’r hawl i breswylio fel gweithiwr os gallwch chi brofi bod eich gwaith yn ‘ddilys ac yn effeithiol’.
Cael y dystiolaeth iawn
Pan fyddwch chi’n gwneud cais am fudd-daliadau, bydd angen i chi ddangos tystiolaeth sy’n profi eich bod yn gweithio.
Defnyddiwch dystiolaeth sy'n dangos cymaint o wahanol fathau o wybodaeth bersonol â phosib, fel eich enw, dyddiad geni, cyfeiriad a rhif Yswiriant Gwladol. Defnyddiwch dystiolaeth fel:
slipiau cyflog
dogfennau treth – er enghraifft, eich P60 neu P45
contractau cyflogaeth
llythyrau neu e-byst oddi wrth eich cyflogwr – er enghraifft, cynnig am swydd
Os oes angen i chi brofi bod eich gwaith yn ddilys ac yn effeithiol
Bydd angen i chi roi llawer o fanylion am yr hyn rydych chi'n ei wneud, gan gynnwys:
pryd ddechreuoch chi’ch swydd
pa mor aml rydych chi’n gweithio a faint o oriau
eich enillion
oes gennych chi gontract cyflogaeth
Bydd y person sy’n gwneud penderfyniad am eich cais am fudd-daliadau yn edrych ar yr holl fanylion hyn i benderfynu a yw'ch gwaith yn ddilys ac yn effeithiol.
Os ydych chi’n gweithio oriau gwahanol bob wythnos neu â chontract dim oriau
Gallwch chi dal brofi bod gennych chi hawl i breswylio fel gweithiwr.
Bydd y person sy'n gwneud penderfyniad am eich budd-daliadau yn edrych ar holl fanylion yr hyn rydych chi'n ei wneud, gan gynnwys faint rydych chi'n ei ennill, faint o oriau rydych chi'n eu gweithio a pha mor rheolaidd rydych chi'n gweithio.
Mae'n fwy tebygol y bydd gennych chi hawl i breswylio fel gweithiwr os ydych chi'n gweithio'n rheolaidd - hyd yn oed os yw'ch oriau'n newid bob wythnos.
Os nad yw’r dystiolaeth hon gyda chi
Gallwch gael help i ddod o hyd i ffyrdd eraill o brofi eich bod wedi bod yn gweithio.
Os ydych chi’n hunangyflogedig
Bydd gennych yr hawl i breswylio fel 'person hunangyflogedig' os gallwch chi brofi eich bod wedi gwneud elw o fwy na £242 yr wythnos ar gyfartaledd am 3 mis o leiaf.
Os nad ydych chi wedi gwneud digon o elw neu wedi bod yn hunangyflogedig am gyfnod digon hir, bydd gennych yr hawl o hyd i breswylio fel person hunangyflogedig os gallwch chi brofi bod eich gwaith yn 'ddilys ac yn effeithiol'.
Cael y dystiolaeth iawn
Pan fyddwch chi’n gwneud cais am fudd-daliadau, bydd angen i chi ddangos tystiolaeth sy’n profi eich bod yn hunangyflogedig.
Os ydych chi wedi bod yn hunangyflogedig am gyfnod byr yn unig, bydd dal gennych chi hawl i breswylio os gallwch chi ddangos eich bod wedi cymryd camau i ddechrau gweithio - er enghraifft, drwy hysbysebu eich gwasanaethau a chwilio am waith.
Defnyddiwch dystiolaeth fel:
hysbysebion rydych chi wedi’u defnyddio i hyrwyddo eich gwasanaethau – er enghraifft, taflen neu neges ar y cyfryngau cymdeithasol
llythyrau ac e-byst sy’n dangos eich bod wedi bod yn chwilio am gyfleoedd gwaith newydd
prawf eich bod wedi cofrestru fel person hunangyflogedig gydag Adran Cyllid a Thollau EF – er enghraifft, llythyrau ac e-byst sy’n cadarnhau eich bod wedi cofrestru
derbynebau ac anfonebau am offer rydych chi’n eu defnyddio yn eich gwaith – er enghraifft, os ydych chi’n addurnwr, gallech chi ddangos eich bod wedi prynu paent, brwshys ac ysgol
cyfriflenni banc ar gyfer eich cyfrifon gwaith
Os oes angen i chi brofi bod eich gwaith yn ddilys ac yn effeithiol
Gallwch chi dal brofi eich bod yn hunangyflogedig. Bydd angen i chi roi llawer o fanylion am yr hyn rydych chi'n ei wneud, gan gynnwys
pryd ddechreuoch chi fod yn hunangyflogedig
pa mor aml rydych chi’n gweithio
faint o oriau rydych chi’n gweithio
eich elw cyfartalog
Bydd y person sy’n gwneud penderfyniad am eich cais am fudd-daliadau yn edrych ar yr holl fanylion hyn i benderfynu a yw'ch gwaith yn ‘ddilys ac yn effeithiol’.
Os nad ydych chi wastad yn gweithio
Dylech chi allu cadw eich hawl i breswylio fel person hunangyflogedig os gallwch chi brofi eich bod chi'n dal i redeg eich busnes ac yn chwilio am waith. Bydd angen i chi ddangos eich bod chi’n:
hysbysebu eich busnes
cadw eich cyfrifon yn gyfredol
ceisio dod o hyd i gyfleoedd gwaith newydd
Os byddwch chi'n dod yn ddi-waith ac yn chwilio am swydd arall
Efallai y byddwch yn gallu cadw eich hawl i breswylio fel gweithiwr neu berson hunangyflogedig. Mae hyn yn cael ei alw’n ‘statws gweithiwr a ddargedwir' neu ‘statws hunangyflogedig a ddargedwir'.
Mae angen i chi fod yn chwilio am waith i gadw eich statws - gallwch chi wneud hyn drwy gofrestru fel ceisiwr gwaith. Y ffordd orau o gofrestru fel ceisiwr gwaith yw drwy hawlio Credyd Cynhwysol neu’r Lwfans Ceisio Gwaith ar ei newydd wedd.
Cofrestru fel ceisiwr gwaith
Mae’n bwysig iawn eich bod yn cofrestru fel ceisiwr gwaith cyn gynted â phosib ar ôl i chi adael eich swydd. Os na wnewch chi hynny, efallai y bydd yn rhaid i chi esbonio unrhyw fylchau rhwng gadael eich swydd a chofrestru fel ceisiwr gwaith.
Er enghraifft, os arhosoch chi 2 wythnos i gofrestru fel ceisiwr gwaith, efallai y bydd yn rhaid i chi ddangos beth rydych chi wedi bod yn ei wneud i chwilio am waith yn ystod y cyfnod hwnnw.
Os na allwch chi esbonio pam gwnaethoch chi aros, gallech chi golli eich statws gweithiwr. Mae hyn yn golygu efallai na fyddwch chi’n gallu hawlio rhai mathau o fudd-daliadau.
Cael y dystiolaeth iawn
Pan fyddwch chi’n gwneud cais am fudd-daliadau, bydd angen i chi ddangos tystiolaeth sy’n profi eich bod wedi bod yn gweithio.
Defnyddiwch dystiolaeth fel:
contractau cyflogaeth
slipiau cyflog
llythyrau neu e-byst gan eich cyflogwr - er enghraifft, cynnig am swydd
dogfennau treth - er enghraifft, eich P60 neu P45
rhywbeth sy'n dangos pam y bu'n rhaid i chi adael eich swydd - er enghraifft, llythyr diswyddo
Bydd angen i chi brofi hefyd eich bod yn chwilio am waith pan fyddwch chi'n gwneud cais. Dangoswch dystiolaeth eich bod chi wedi cofrestru fel ceisiwr gwaith - er enghraifft, llythyrau neu e-byst wrth y Ganolfan Waith.
Pa mor hir gallwch chi gadw eich statws fel gweithiwr neu berson hunangyflogedig
Os oeddech chi'n gweithio neu'n hunangyflogedig am lai na blwyddyn, gallwch chi gadw'ch statws gweithiwr neu berson hunangyflogedig am hyd at 6 mis.
Ar ôl hynny, bydd angen i chi gael math arall o hawl i breswylio - er enghraifft, drwy aelod o'r teulu neu drwy ddod o hyd i waith.
Os oeddech chi'n gweithio neu'n hunangyflogedig am fwy na blwyddyn, gallwch chi gadw'ch statws heb unrhyw derfyn amser.
Os ydych chi’n feichiog neu wedi cael babi yn ddiweddar
Efallai y byddwch chi’n gallu rhoi’r gorau i chwilio am waith dros dro tra byddwch chi’n cadw’ch statws, heb golli’ch hawl i breswylio.
Gallwch chi roi'r gorau i chwilio am waith o tua 11 wythnos cyn i'ch babi gael ei eni. Yna gallwch gadw'ch statws am hyd at flwyddyn (52 wythnos) o'r adeg y gwnaethoch chi roi'r gorau i chwilio am waith.
Pan fyddwch chi’n gwneud cais am fudd-daliadau, dylech ei gwneud yn glir eich bod yn bwriadu gweithio neu chwilio am waith ar ôl i'ch blwyddyn ddod i ben. Os na wnewch chi, efallai y byddwch yn colli'ch statws a ddargedwir.
Os wnaethoch chi roi’r gorau i weithio dros dro oherwydd salwch neu ddamwain
Os ydych chi'n gweithio ac yn cymryd absenoldeb salwch, mae gennych chi dal hawl i breswylio fel gweithiwr.
Os ydych chi'n hunangyflogedig a bod y busnes yn parhau i fynd pan nad ydych chi'n gweithio, mae gennych chi dal hawl i breswylio fel person hunangyflogedig.
Os oes rhaid i chi adael eich swydd neu gau eich busnes, efallai y byddwch yn dal i gadw eich hawl i breswylio.
Mae hyn yn cael ei alw’n ‘statws gweithiwr a ddargedwir' neu ‘statws hunangyflogedig a ddargedwir'.
Bydd angen i chi brofi mai dim ond dros dro y byddwch i ffwrdd o'r gwaith. Nid oes terfyn amser ar hyn, ond mae angen bod siawns dda y byddwch yn ddigon da i fynd yn ôl i'r gwaith yn y dyfodol.
Cael y dystiolaeth iawn
Pan fyddwch chi’n gwneud cais am fudd-daliadau, bydd angen i chi brofi’r ddau beth canlynol:
nad ydych chi'n ddigon da i wneud y gwaith rydych chi fel arfer yn ei wneud
roeddech chi'n weithiwr neu'n hunangyflogedig cyn y cyfnod lle nad oeddech chi’n gallu gweithio
Dylech chi gael nodyn ffitrwydd sy'n dweud pam na allwch chi weithio.
Gallwch chi gael nodyn ffitrwydd gan y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol canlynol:
eich meddyg teulu neu feddyg yn yr ysbyty
nyrs gofrestredig
fferyllydd
therapydd galwedigaethol
ffisiotherapydd
Bydd eich nodyn ffitrwydd naill ai wedi'i argraffu neu'n ddigidol. Os nad ydych chi'n siŵr pa fath y byddwch chi'n ei gael a sut byddwch chi'n ei gael, gofynnwch i’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol.
Os cewch chi nodyn ffitrwydd sydd wedi'i argraffu, gwnewch yn siŵr fod y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol wedi'i lofnodi.
Os cewch chi nodyn ffitrwydd digidol, gwnewch yn siŵr ei fod yn cynnwys enw'r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol.
Os nad yw'r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol wedi llofnodi eich nodyn ffitrwydd nac wedi cynnwys ei enw, gallai'r Adran Gwaith a Phensiynau ei wrthod ac efallai y bydd yn rhaid i chi gael un newydd.
Mae eich nodyn ffitrwydd am ddim os ydych chi wedi bod yn sâl am fwy na 7 diwrnod pan fyddwch chi'n gofyn amdano. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu amdano os ydych chi wedi bod yn sâl am 7 diwrnod neu lai.
Dylech chi wastad gadw eich nodyn ffitrwydd - efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am un newydd os byddwch chi'n ei golli neu'n ei ddileu. Gallwch chi roi copi i'r Adran Gwaith a Phensiynau neu dynnu llun ohono i'w lanlwytho ar-lein.
Os ydych chi wedi rhoi’r gorau i weithio oherwydd eich bod yn feichiog
Os ydych chi'n gweithio ac yn cymryd absenoldeb mamolaeth, mae gennych chi dal hawl i breswylio fel gweithiwr.
Os ydych chi'n hunangyflogedig a bod eich busnes yn parhau pan nad ydych chi'n gweithio, mae gennych chi dal hawl i breswylio fel person hunangyflogedig.
Os ydych chi’n gadael eich swydd neu’n rhoi’r gorau i fod yn hunangyflogedig
Os ydych chi’n rhoi’r gorau i weithio tuag at ddiwedd eich beichiogrwydd neu’n fuan ar ôl i’ch babi gael ei eni, efallai y byddwch chi'n gallu cadw'ch hawl i breswylio fel gweithiwr neu berson hunangyflogedig. Mae hyn yn cael ei alw’n ‘statws gweithiwr a ddargedwir' neu ‘statws hunangyflogedig a ddargedwir'.
Gallwch chi gadw eich statws am hyd at 52 wythnos (1 blwyddyn) o'r adeg y byddwch yn rhoi'r gorau i weithio.
Gallwch chi roi'r gorau i weithio o tua 11 wythnos cyn i'ch babi gael ei eni. Yna gallwch gadw'ch statws am hyd at flwyddyn (52 wythnos) o'r adeg y gwnaethoch chi roi'r gorau i weithio.
Pan fyddwch yn gwneud cais am fudd-daliadau, dylech ei gwneud yn glir eich bod yn bwriadu gweithio neu chwilio am waith eto ar ôl i'ch blwyddyn ddod i ben. Os na wnewch chi, efallai y byddwch yn colli'ch statws a ddargedwir.
Os ydych chi’n chwilio am waith
Efallai y bydd gennych hawl i breswylio fel ‘ceisiwr gwaith’.
Fel ceisiwr gwaith, dim ond Budd-dal Plant y gallwch chi ei hawlio - a dim ond am 3 mis.
Edrychwch i weld a allai unrhyw fathau eraill o hawl i breswylio fod yn berthnasol i chi - fel arfer byddwch yn gallu hawlio mwy o fudd-daliadau.
Cael y dystiolaeth iawn
Os ydych chi'n gwneud cais am Fudd-dal Plant, bydd angen i chi ddangos tystiolaeth eich bod chi'n chwilio am swydd a bod gennych chi siawns dda o ddod o hyd i un. Er enghraifft, e-byst neu lythyrau sy'n dangos eich bod wedi bod yn gwneud cais am swyddi, neu brawf o unrhyw gymwysterau neu brofiad gwaith perthnasol.
Pa mor hir allwch chi fod yn geisiwr gwaith
Gallwch chi fod yn geisiwr gwaith am hyd at 3 mis (91 diwrnod).
Gallwch chi rannu'r amser hwn ar draws mwy nag 1 cyfnod fel ceisiwr gwaith. Er enghraifft, os gwnaethoch chi dreulio 1 mis yn chwilio am swydd cyn i chi ddod o hyd i un, gallech chi dal dreulio 2 fis arall fel ceisiwr gwaith os oes angen i chi yn y dyfodol.
Efallai y byddwch chi'n gallu ymestyn eich 3 mis am gyfnod byr os gallwch chi brofi eich bod chi'n debygol o gael swydd. Mae hyn yn cael ei alw’n ‘brawf o addewid go iawn am waith’.
Bydd angen i chi ddangos beth rydych chi wedi bod yn ei wneud i chwilio am waith a sut rydych chi wedi bod yn gwella eich siawns o ddod o hyd i un. Er enghraifft:
e-byst a llythyrau sy'n dangos eich bod wedi gwneud cais am swyddi neu wedi cael cyfweliadau
prawf o gymwysterau perthnasol neu hyfforddiant rydych chi wedi bod yn ei wneud (neu’n bwriadu ei wneud)
prawf o unrhyw waith gwirfoddoli rydych chi wedi'i wneud i'ch helpu i gael swydd - gallai hyn fod yn llythyr gan y sefydliad rydych chi'n gwirfoddoli iddo
Os ydych chi wedi gorfod gadael eich swydd
Nid ydych chi'n cael cyfnod newydd o 3 mis yn awtomatig fel ceisiwr gwaith - ond gallwch chi gadw'ch hawl i breswylio fel gweithiwr wrth i chi chwilio am waith.
Mae hyn yn cael ei alw’n ‘statws gweithiwr a ddargedwir'.
Os oeddech chi'n gweithio neu'n hunangyflogedig am lai na blwyddyn, gallwch chi gadw'ch statws gweithiwr neu hunangyflogedig am hyd at 6 mis.
Os oeddech chi'n gweithio neu'n hunangyflogedig am fwy na blwyddyn, gallwch chi gadw'ch statws heb unrhyw derfyn amser.
Os ydych chi’n gadael y DU am dros flwyddyn
Gallwch chi ddechrau cyfnod newydd o 3 mis fel ceisiwr gwaith.
Profi hawl i breswylio wrth aelod o’r teulu
Efallai fod gennych chi hawl i breswylio os oes gennych aelod o'r teulu a bod yr holl bethau canlynol yn berthnasol iddynt:
maen nhw'n ddinesydd o'r AEE
cyrhaeddon nhw'r DU erbyn 31 Rhagfyr 2020
mae ganddyn nhw hawl i breswylio
Nid oes angen i chi fod yn ddinesydd yr AEE i gael hawl i breswylio wrth aelod o’r teulu.
Gall y canlynol fod yn aelod o’r teulu:
gŵr neu wraig
partner sifil
rhieni neu neiniau a theidiau, os ydych chi o dan 21 oed - mae hyn yn cynnwys rhai eich gŵr, gwraig neu bartner sifil
rhieni neu neiniau a theidiau, os ydych chi dros 21 oed ac yn dibynnu arnyn nhw i fyw - mae hyn yn cynnwys rhai eich gŵr, gwraig neu bartner sifil
plentyn neu ŵyr neu wyres, os ydych chi'n dibynnu ar eu cefnogaeth i fyw - mae hyn yn cynnwys rhai eich gŵr, gwraig neu bartner sifil
Os nad ydych chi bellach yn dibynnu ar eich rhieni neu'ch neiniau a theidiau, er enghraifft oherwydd eich bod chi wedi dechrau gweithio, efallai fod gennych chi dal hawl i breswylio. Siaradwch â chynghorwr i weld os oes gennych chi hawl i breswylio.
Efallai fod gennych chi hawl i breswylio hefyd os ydych chi'n gofalu am blentyn sydd mewn addysg – mae hyn yn cael ei alw’n hawl 'ddeilliedig' i breswylio.
Os oes gan aelod o’ch teulu hawl i breswylio
Efallai fod gennych hawl i breswylio fel aelod o'u teulu sydd â’r un hawl i hawlio budd-daliadau â nhw.
Er enghraifft, os yw eich gŵr, gwraig neu bartner sifil yn gweithio yn y DU, bydd gennych hawl i breswylio fel aelod o deulu gweithiwr, hyd yn oed os ydynt yn ddi-waith.
Bydd unrhyw newid i hawl aelod o'ch teulu i breswylio yn effeithio ar eich un chi - er enghraifft, os byddant yn colli eu hawl i breswylio fel gweithiwr, efallai y byddwch chi'n colli'r hawl i breswylio fel aelod o deulu gweithiwr.
Efallai fod gennych chi hefyd yr hawl i breswylio oherwydd aelodau eraill o'r teulu, fel brodyr a chwiorydd. Os yw hyn yn berthnasol i chi, mae’n cael ei alw’n 'aelod o deulu estynedig'.
Dim ond os oes gennych chi drwydded deulu, tystysgrif gofrestru neu gerdyn preswylio y gallwch chi gael hawl i breswylio fel aelod o deulu estynedig. Rhaid i chi fod wedi gwneud cais amdano cyn 31 Rhagfyr 2020 - hyd yn oed os wnaethoch chi ei dderbyn yn ddiweddarach.
Mae’r rheolau’n gymhleth, felly gofynnwch am gyngor eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol.
Os yw aelod o'ch teulu yn ddinesydd Prydeinig
Mae’r rheolau’n wahanol.
Ni fydd gennych hawl i breswylio’n awtomatig oherwydd aelod o’r teulu sy’n Brydeinig.
Mae’r rheolau’n gymhleth, felly gofynnwch am gyngor eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol.
Cael y dystiolaeth iawn
Pan fyddwch chi'n gwneud cais am fudd-daliadau, bydd angen i chi brofi hawl aelod o'ch teulu i breswylio - er enghraifft, gyda chontractau cyflogaeth a slipiau cyflog os ydyn nhw'n weithiwr.
Bydd angen i chi hefyd ddangos tystiolaeth o'ch perthynas â nhw, fel tystysgrifau geni neu briodas.
Os ydych chi’n cael trafferth, dewch o hyd i ffyrdd eraill o brofi bod aelod o’ch teulu wedi bod yn gweithio.
Os ydych chi wedi gwahanu oddi wrth eich gŵr, gwraig neu bartner sifil
Os ydych chi'n dal yn briod neu mewn partneriaeth sifil â nhw, byddwch chi'n cadw'ch hawl i breswylio fel aelod o'u teulu.
Os ydych chi wedi cael hawl i breswylio fel aelod o'u teulu am o leiaf 5 mlynedd, efallai fod gennych chi hawl barhaol i breswylio.
Os ydych chi wedi ysgaru neu wedi dod â’ch partneriaeth sifil i ben
Ni fydd gennych hawl i breswylio fel aelod o'u teulu mwyach.
Edrychwch pa fathau eraill o hawl i breswylio allai fod yn berthnasol i chi. Efallai fod gennych hawl barhaol i breswylio os oeddech chi'n briod neu mewn partneriaeth sifil â nhw am o leiaf 5 mlynedd.
Os na allwch chi gael tystiolaeth wrth eich partner
Gallwch chi gael help os ydych chi’n cael trafferth cael tystiolaeth o hawl eich cyn-bartner i breswylio.
Os ydych chi’n gofalu am blentyn sydd mewn addysg
Efallai fod gennych hawl i breswylio os ydych chi'n gofalu am blentyn neu berson ifanc:
sydd mewn addysg - nid yw hyn yn cynnwys addysg cyn oed ysgol na meithrinfa, ac fel arfer daw i ben pan fyddant yn 18 oed
sydd â rhiant neu lys-riant sy'n ddinesydd yr AEE ac sydd wedi gweithio yn y DU - nid oes rhaid i hyn fod yn chi
a oedd yn y DU tra roedd eu rhiant yn gweithio
Mae hyn yn cael ei alw’n hawl 'ddeilliedig' i breswylio.
Rhaid i chi fod yn ‘brif ofalwr’ y plentyn. Mae hyn yn golygu mai chi:
yw eu rhiant, taid neu nain neu warcheidwad cyfreithiol
sy’n gyfrifol am ofalu amdanynt ac ni fyddent yn gallu aros yn y DU pe bai'n rhaid i chi adael
Gallwch chi dal fod yn brif ofalwr os ydych chi'n gofalu am y plentyn gyda rhywun arall.
Jakub and Lena are from Poland and have been living in the UK. They’re married and have a child who is 5 years old and in school. Jakub has a right to reside as a worker because he has a job. Lena doesn’t work, but she has a right to reside as the family member of a worker because she’s married to Jakub.
Jakub and Lena get divorced and Jakub moves back to Poland. Lena loses the right to reside she got from her husband, but can get a derivative right to reside from her child.
Cael y dystiolaeth iawn
Pan fyddwch chi’n gwneud cais am fudd-daliadau, bydd angen i chi brofi:
bod un o rieni neu lys-rieni’r plentyn yn gweithio neu wedi gweithio yn y DU - er enghraifft, gyda slipiau cyflog, P60 neu P45, neu lythyr wrth gyflogwr
bod y plentyn yn byw yn y DU pan oedd ei riant neu lys-riant yn gweithio
mai chi yw prif ofalwr y plentyn - er enghraifft, drwy ddangos eich bod chi’n byw gyda’ch gilydd
eich perthynas â’r plentyn rydych chi’n brif ofalwr iddo - er enghraifft, gyda thystysgrif geni
bod y plentyn rydych chi’n gofalu amdano mewn addysg - er enghraifft, gyda llythyr wrth yr ysgol
Gall profi bod gennych chi hawl ddeilliedig i breswylio fod yn anodd – cysylltwch â’ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol os oes angen help arnoch chi.
Cael hawl barhaol i breswylio
Ni fydd hawl ddeilliedig i breswylio yn eich helpu i gael hawl barhaol i breswylio yn y DU - nid yw'n cyfrif tuag at y 5 mlynedd o gael hawl i breswylio sydd ei angen arnoch chi i ddod yn breswylydd parhaol.
Edrychwch i weld pa fathau eraill o hawl i breswylio a allai fod yn berthnasol i chi.
Os oes aelod o’r teulu yn ymuno â chi yn y DU
Efallai fod gan aelod o'ch teulu hawl i breswylio hefyd oherwydd eu perthynas â chi. Mae hyn yn golygu y bydd ganddynt yr un hawl i hawlio budd-daliadau â chi.
Bydd unrhyw newid i'ch hawl i breswylio yn effeithio ar eu hawl nhw. Er enghraifft, os oes gennych chi hawl i breswylio oherwydd eich bod chi'n gweithio, bydd ganddynt yr hawl i breswylio fel aelod o deulu gweithiwr.
Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwybod pa hawl i breswylio sydd gennych chi. Os yw aelod o'ch teulu eisiau gwneud cais am fudd-daliadau, bydd angen iddynt roi tystiolaeth o'ch hawl chi i breswylio.
Profi hawl barhaol i breswylio
Efallai fod gennych hawl barhaol i breswylio os ydych chi wedi bod yn y DU am 5 mlynedd neu fwy. Weithiau gallwch chi gael hawl barhaol i breswylio mewn llai na 5 mlynedd - er enghraifft, os byddwch chi'n ymddeol neu'n methu â gweithio mwyach oherwydd eich bod chi'n sâl.
Byddwch chi'n colli'ch hawl barhaol i breswylio os byddwch chi'n treulio 2 flynedd y tu allan i'r DU heb fylchau.
Os ydych chi wedi bod yn y DU ers 5 mlynedd neu fwy
Efallai y bydd gennych chi hawl barhaol i breswylio.
Bydd angen i chi brofi eich bod wedi treulio 5 mlynedd yn y DU heb fylchau a’r hawl i breswylio fel:
gweithiwr neu berson hunangyflogedig
rhywun sydd wedi gorfod rhoi’r gorau i weithio ond wedi cadw eu statws gweithiwr (sy’n cael ei alw’n ‘statws gweithiwr a ddargedwir’)
ceisiwr gwaith
rhywun sy’n gallu cefnogi eu hunain yn ariannol (sy’n cael ei alw’n ‘hunangynhaliol’)
myfyriwr sy’n hunangynhaliol
aelod o deulu rhywun sydd â hawl i breswylio
Gallwch chi hefyd wastad gyfrif y 3 mis cyntaf ar ôl i chi ddod i'r DU, hyd yn oed os nad oedd gennych hawl arall i breswylio.
Gallwch gyfrif mwy nag un math o hawl i breswylio tuag at eich 5 mlynedd.
Er enghraifft, efallai fod gennych chi hawl barhaol i breswylio os ydych chi wedi treulio 4 blynedd yn gweithio, 6 mis yn cadw eich statws fel gweithiwr a 6 mis fel aelod o deulu rhywun sy'n gweithio.
Os oes gennych hawl barhaol i breswylio, dylech chi edrych i weld os gallwch chi newid o statws preswylydd cyn-sefydlog i statws preswylydd sefydlog.
Os ydych chi wedi treulio amser y tu allan i’r DU
Yn ystod eich 5 mlynedd, gallwch chi gael bylchau byr y tu allan i’r DU, gan gynnwys:
hyd at 6 mis y tu allan i’r DU bob blwyddyn
un bwlch o hyd at 12 mis y tu allan i’r DU am resymau pwysig iawn – er enghraifft, beichiogrwydd neu eni plentyn, salwch difrifol neu dreulio amser yn gweithio dramor
Cael y dystiolaeth iawn
Pan fyddwch chi’n gwneud cais am fudd-daliadau, bydd angen i chi roi tystiolaeth am bob un o'r 5 mlynedd roedd gennych hawl i breswylio yn y DU.
Os yw'n anodd cael y dystiolaeth ac mae angen arian arnoch chi’n gyflym, dylech chi geisio profi math arall o hawl i breswylio.
Os yw'n hawdd cael tystiolaeth ar gyfer eich 5 mlynedd, dylech chi brofi bod gennych hawl barhaol i breswylio pan fyddwch yn gwneud cais am fudd-daliadau. Er enghraifft, os oes gennych chi slipiau cyflog a dogfennau treth o'ch swydd am 5 mlynedd neu fwy, dylech gynnwys copïau ohonynt gyda'ch cais am fudd-daliadau.
Gall profi bod gennych hawl barhaol i breswylio fod yn gymhleth. Gofynnwch am help wrth eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol – gall cynghorwr eich helpu i gasglu’r dystiolaeth iawn i brofi hynny.
Os ydych chi o wlad a ymunodd â’r UE ar ôl 2004
Ceir rheolau arbennig am eich hawl i breswylio yn y DU.
Mae'r rheolau bellach wedi dod i ben ond efallai y byddent wedi effeithio ar eich hawl i breswylio yn y gorffennol. Mae hyn yn bwysig os ydych chi'n ceisio profi bod gennych chi hawl barhaol i breswylio oherwydd yr hyn rydych chi wedi'i wneud yn y gorffennol.
Y gwledydd a effeithiwyd gan y rheolau arbennig yw:
Bwlgaria
Croatia
Y Weriniaeth Tsiec
Estonia
Hwngari
Latfia
Lithwania
Gwlad Pwyl
Romania
Slofacia
Slofenia
Weithiau mae pobl o'r gwledydd hyn yn cael eu hadnabod fel dinasyddion A8 neu ddinasyddion A2.
Mae'r rheolau arbennig yn gymhleth. Os ydych chi'n dod o un o'r gwledydd hyn ac eisiau profi bod gennych chi hawl barhaol i breswylio, cysylltwch â’ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol.
Os ydych chi neu aelod o’ch teulu yn ymddeol
Efallai y bydd gennych chi hawl barhaol i breswylio pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth neu'n ymddeol yn gynnar os:
oeddech chi’n byw yn y DU yn ddi-dor am y 3 blynedd ddiwethaf cyn i chi ymddeol a’ch bod yn weithiwr neu’n berson hunangyflogedig am y flwyddyn ddiwethaf cyn i chi ymddeol
yw eich gŵr, gwraig neu bartner sifil yn ddinesydd o'r DU
Os oeddech chi'n aelod o deulu rhywun a wnaeth ymddeol o dan yr amgylchiadau hynny, mae gennych chi hawl barhaol i breswylio hefyd.
Os ydych chi neu aelod o’ch teulu yn methu â gweithio mwyach oherwydd salwch neu ddamwain
Mae hyn yn cael ei alw’n ‘analluogrwydd parhaol’. Efallai fod gennych chi hawl barhaol i breswylio os oeddech chi'n weithiwr neu'n berson hunangyflogedig pan wnaethoch chi wynebu analluogrwydd parhaol. Rhaid i un o'r canlynol hefyd fod yn berthnasol.
roeddech chi’n byw yn y DU yn ddi-dor am y 2 flynedd ddiwethaf cyn eich analluogrwydd parhaol
achoswyd eich damwain neu salwch gan rywbeth a ddigwyddodd yn y gwaith ac mae gennych hawl i fudd-daliadau o ganlyniad
mae eich gŵr, gwraig neu bartner sifil yn ddinesydd o'r DU
Os oeddech chi'n aelod o deulu rhywun a wynebodd analluogrwydd parhaol o dan yr amgylchiadau hynny, mae gennych chi hefyd hawl barhaol i breswylio.
Os gwrthodwyd budd-daliadau i chi oherwydd yr hawl i breswylio
Gallwch chi herio’r penderfyniad. Edrychwch sut i:
Os yw eich sefyllfa wedi newid ers i chi wneud cais a’i bod yn haws dangos bod gennych chi hawl i breswylio, fel arfer mae'n well gwneud hawliad newydd.
Gallwch chi wneud hawliad newydd ar yr un pryd â herio'r penderfyniad i wrthod eich cais gwreiddiol.
Os ydych chi’n herio penderfyniad am Gredyd Cynhwysol a’ch bod eisiau gwneud hawliad newydd
Pan fyddwch chi’n gwneud hawliad newydd, bydd llythyrau, dogfennau a negeseuon fel arfer yn diflannu o’ch cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein.
Efallai y bydd angen y wybodaeth hon arnoch chi i herio’r penderfyniad gwreiddiol. Dylech chi gadw cofnod o’r hyn sydd ar y cyfrif ar-lein cyn i chi wneud hawliad newydd – er enghraifft, gallwch chi:
gymryd sgrinluniau
lawrlwytho dogfennau
copïo a gludo negeseuon
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 01 Gorffennaf 2021