Beth yw’r Lwfans Gweini

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae angen i chi fod wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth i hawlio’r Lwfans Gweini – gwiriwch eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar GOV.UK. Mae angen i chi hefyd fod ag anabledd neu salwch sy'n ei gwneud hi'n anodd i chi ofalu amdanoch chi'ch hun.

Mae gan lawer o bobl hawl i’r Lwfans Gweini ond dydyn nhw ddim yn gwybod digon amdano i’w hawlio.

Gallech gael £73.90 neu £110.40 yr wythnos – bydd y swm a gewch yn dibynnu ar faint o help sydd ei angen arnoch. Gallwch wario'r arian sut bynnag y mynnwch – gallai eich helpu i aros yn annibynnol yn eich cartref eich hun am amser hirach.

Nid yw’r Lwfans Gweini yn seiliedig ar brawf modd felly does dim ots pa arian arall rydych chi'n ei gael. Does dim ots faint sydd gennych chi mewn cynilion chwaith – does dim uchafswm.

Ni fydd yn effeithio ar eich pensiwn gwladol a gallwch ei hawlio os ydych chi'n dal i weithio ac yn ennill arian.

Bydd angen i chi lenwi ffurflen hawlio sylweddol pan fyddwch yn gwneud cais am y Lwfans Gweini. Efallai y bydd yn ymddangos yn llawer o waith ar y dechrau, ond mae cymorth ar gael gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol, felly peidiwch â gadael i hyd y ffurflen eich digalonni rhag gwneud cais.

Os byddai'n well gennych wneud hyn eich hun, gallwch ddilyn ein cyngor ar sut i lenwi eich ffurflen hawlio.

Y Lwfans Gweini a'ch budd-daliadau eraill

Mae’r Lwfans Gweini yn fudd-dal di-dreth. Byddwch wedi'ch eithrio o'r Cap Budd-daliadau, felly ni fydd arian yn cael ei dynnu o unrhyw fudd-daliadau eraill.

Gallai hawlio’r Lwfans Gweini hefyd olygu bod gennych hawl i gymorth ychwanegol – er enghraifft, efallai y byddwch yn gymwys i gael gostyngiad yn y dreth gyngor (mae hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol).

Darllenwch fwy am arian ychwanegol a chymorth y gallwch ei gael tra byddwch yn cael y Lwfans Gweini.

Os ydych chi eisoes yn cael budd-daliadau anabledd eraill

Ni fyddwch yn gallu cael y Lwfans Gweini os ydych eisoes yn cael:

Os ydych chi'n gwneud cais am y Lwfans Gweini tra ydych yn cael DLA, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau fel arfer yn ailasesu eich dyfarniad DLA yn lle hynny. Os cawsoch eich geni ar neu ar ôl 9 Ebrill 1948, byddwch chi'n cael eich symud o DLA i PIP, ac efallai y byddwch chi'n derbyn llai o arian. Ceisiwch gymorth gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol os nad ydych chi'n siŵr beth y gallwch chi ei hawlio.

Gallwch adnewyddu eich PIP neu’ch DLA pan fydd y dyfarniad presennol yn dod i ben, cyn belled â'ch bod yn dal i fodloni'r meini prawf cymhwysedd.

Os yw eich adnewyddiad yn aflwyddiannus gallwch wneud cais am y Lwfans Gweini yn lle hynny.

Os ydych chi ar fin cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Os ydych chi'n ystyried gwneud cais am y Lwfans Gweini pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, efallai y byddai'n well i chi hawlio PIP ar unwaith – mae’n bosibl y byddwch chi'n gallu cael mwy o arian.

Os ydych chi'n hawlio PIP ac yn ei gael, bydd y swm a gewch yn dibynnu ar eich amgylchiadau, a sut mae eich anabledd neu’ch salwch yn effeithio arnoch chi.

Darllenwch fwy am hawlio PIP, neu cysylltwch â'ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol i gael cymorth pellach.

Sut allwch chi wario'ch Lwfans Gweini

Gallwch wario'ch Lwfans Gweini sut bynnag y dymunwch – chi sydd i benderfynu. Mae llawer o bobl yn ei wario ar rywbeth sy'n gwneud bywyd ychydig yn haws, er enghraifft:

  • talu am dacsis

  • helpu gyda biliau

  • talu am lanhawr neu arddwr

Enghraifft

Enghreifftiau o sut mae pobl yn gwario eu harian

Mae Betty yn 79 oed ac mae ganddi arthritis yn ei phen-glin a'i chlun, ac mae ganddi gyflwr ar y galon hefyd. Meddai: “Rydw i'n defnyddio rhywfaint o fy Lwfans Gweini i ymweld â’m ffrind, Nancy, sy'n byw ychydig filltiroedd i ffwrdd. Roeddwn i'n arfer dal dau fws, ac roedd yn cymryd awr ac yn fy mlino, ond mae fy Lwfans Gweini yn golygu y galla i gael tacsi yno mewn 10 munud. Rydw i hefyd yn cael tacsi i fynd i apwyntiadau  gyda’r meddyg neu ymgynghorydd meddygol, neu hyd yn oed i fynd i dorri fy ngwallt. Mae gen i ddigon o arian ar ôl i dalu am lanhawr unwaith yr wythnos. Mae wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i’m bywyd.”

Mae David yn 82 oed ac mae ganddo ddementia. Meddai: “Rydw i’n ei chael hi’n anodd gwneud i fy mhensiwn bara, felly rydw i’n defnyddio fy Lwfans Gweini i helpu gyda biliau. Mae’n golygu nad oes rhaid i mi boeni am roi’r gwres ymlaen os ydw i’n oer. Mae’r arian hefyd yn golygu y gallaf weld mwy ar fy wyrion. Maen nhw’n golygu’r byd i mi, a byddai’n anodd eu gweld heb yr arian ychwanegol gan na allaf fynd ar drafnidiaeth gyhoeddus ar fy mhen fy hun.”

Camau nesaf

Ewch i weld a oes gennych hawl i’r Lwfans Gweini

Budd-daliadau a chymorth ychwanegol y gallwch ei gael tra ydych yn cael y Lwfans Gweini

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.