Faint o Lwfans Gweini allwch chi ei gael
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Mae dwy ‘gyfradd’ y Lwfans Gweini - byddwch chi naill ai’n cael £73.90 neu £110.40 yr wythnos. Gallwch chi wario'r arian ar unrhyw beth - fe allai eich helpu chi i fyw’n annibynnol yn eich cartref am gyfnod hirach.
Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar y canlynol:
eich anawsterau
faint o help neu oruchwyliaeth sydd ei angen arnoch
pryd rydych chi angen cymorth neu oruchwyliaeth
Yr enw ar y ddwy gyfradd yw'r gyfradd is a'r gyfradd uwch.
Cyfradd is - £73.90 yr wythnos
Byddwch chi’n cael y swm hwn os ydych chi angen help neu oruchwyliaeth yn ystod y dydd yn unig, neu yn ystod y nos yn unig.
Cyfradd uwch - £110.40 yr wythnos
Byddwch chi’n cael y swm hwn os ydych chi angen help neu oruchwyliaeth yn ystod y dydd a’r nos.
Y Lwfans Gweini a’ch budd-daliadau eraill
Os oes unrhyw un oedran gweithio yn byw gyda chi bydd eich aelwyd yn cael ei heithrio rhag y ‘cap ar fudd-daliadau’. Mae hyn yn golygu na fyddwch chi, na phobl eraill yn eich cartref, yn cael llai o fudd-daliadau os ydych chi’n cael y Lwfans Gweini.
Ni fyddwch chi’n cael hawlio Lwfans Gweini os ydych chi’n barod yn cael:
Lwfans Byw i'r Anabl (DLA)
Taliad Anabledd Oedolion
Y camau nesaf
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.