Newid mewn amgylchiadau tra ydych chi’n cael y Lwfans Gweini

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae angen i chi roi gwybod i'r Adran Gwaith a Phensiynau cyn gynted â phosibl os bydd eich cyflwr yn newid - gall hyn effeithio ar eich Lwfans Gweini.

Dylech chi ffonio llinell gymorth Lwfans Gweini'r Adran Gwaith a Phensiynau:

  • os bydd eich cyflwr chi’n gwella neu’n gwaethygu

  • os bydd lefel y cymorth a'r gofal sydd ei angen arnoch chi’n newid

  • os byddwch chi’n mynd i'r ysbyty am fwy na 28 diwrnod

  • os byddwch chi’n mynd i gartref gofal neu ofal preswyl

  • os byddwch chi’n symud dramor, naill ai dros dro neu'n barhaol

  • os byddwch chi’n mynd i'r carchar

Os byddwch chi’n mynd yn ôl i'r ysbyty neu i gartref gofal o fewn 28 diwrnod ar ôl gadael, mae'n cyfrif fel rhan o'r un arhosiad. Os byddwch chi'n aros yn yr ysbyty neu mewn cartref gofal am fwy na 28 diwrnod, dywedwch wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os byddwch chi'n mynd adref o gwbl - hyd yn oed am ran o ddiwrnod yn unig.

Mae llawer o newidiadau a all effeithio ar y Lwfans Gweini a dim ond rhai enghreifftiau yw'r rhain.

Os nad ydych chi'n siŵr a yw newid yn effeithio ar eich Lwfans Gweini, mae'n well dweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau beth bynnag.

Rhoi gwybod i’r Adran Gwaith a Phensiynau am newid

Os bydd eich cyflwr chi’n newid, rhowch wybod i'r Adran Gwaith a Phensiynau drwy ffonio llinell gymorth y Lwfans Gweini.

Llinell Gymorth Lwfans Gweini

Ffôn: 0800 731 0122

Ffôn testun: 0800 731 0317

Relay UK - os nad ydych yn gallu clywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio beth bynnag mae arnoch eisiau ei ddweud: 18001 yna 0800 731 0122

Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes tâl ychwanegol i’w ddefnyddio. Darganfyddwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.

Gwasanaeth cyfnewid fideo – os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).  

Gallwch ddarganfod sut i ddefnyddio gwasanaeth cyfnewid fideo ar YouTube.

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 6pm

Mae galwadau am ddim o’r rhan fwyaf o ffonau symudol a llinellau tir.

Rhoi gwybod am newidiadau yn brydlon

Unwaith y byddwch chi’n gwybod am newid a allai effeithio ar faint o Lwfans Gweini rydych chi’n ei gael, rhowch wybod i'r Adran Gwaith a Phensiynau cyn gynted ag y gallwch chi.

Efallai y bydd y newid yn cynyddu eich taliadau chi ac efallai na fyddwch chi’n cael arian ychwanegol os byddwch chi’n rhoi gwybod i’r Adran Gwaith a Phensiynau yn hwyr.

Dylech chi ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os ydych chi’n meddwl y gallai newid leihau eich Lwfans Gweini - fyddwch chi ddim yn arbed arian drwy roi gwybod am hyn yn nes ymlaen. Os byddwch chi’n rhoi gwybod i’r Adran Gwaith a Phensiynau’n hwyr, gallech chi gael gormod o dâl a gorfod talu eich budd-daliadau’n ôl i’r Adran Gwaith a Phensiynau. Mae hyn yn cael ei alw’n ordaliad - ewch i weld sut mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn delio â gordaliadau.

Os byddwch chi'n mynd i'r ysbyty

Mae'n well rhoi gwybod i'r Adran Gwaith a Phensiynau am unrhyw ddyddiadau pan fyddwch chi'n mynd i mewn ac allan o'r ysbyty. Bydd hyn yn sicrhau eich bod yn cael y swm cywir o Lwfans Gweini bob amser, ac na fydd yn rhaid i chi dalu unrhyw arian yn ei ôl.

Bydd eich Lwfans Gweini yn dod i ben ar ôl i chi fod yn yr ysbyty am 28 diwrnod (4 wythnos). Byddwch chi’n cael eich talu eto o'r diwrnod y byddwch chi’n gadael yr ysbyty.

Wrth gyfrifo sawl diwrnod rydych chi wedi bod yn yr ysbyty, peidiwch â chyfrif y diwrnod rydych chi'n mynd i mewn na'r diwrnod rydych chi'n dod allan.

Mynd i mewn ac allan o'r ysbyty dros gyfnod o amser

Os ydych chi yn yr ysbyty ac yn dod allan eto, ond wedyn yn mynd yn ôl o fewn 28 diwrnod, bydd y cyfnodau hyn yn yr ysbyty yn cael eu 'cysylltu' a'u cyfuno. Dyma enghraifft o sut mae hyn yn gweithio:

Mae Eliot yn mynd i'r ysbyty ar 1 Ionawr. Mae’n dychwelyd adref ar 12 Ionawr. Mae hyn yn golygu ei fod wedi bod yn yr ysbyty am 10 diwrnod llawn (dydych chi ddim yn cyfrif y diwrnod cyntaf na'r diwrnod olaf).

Enghraifft

Mae Eliot yn gorfod mynd yn ôl i'r ysbyty ar 19 Ionawr. Gan ei fod wedi bod allan o'r ysbyty am lai na 28 diwrnod, mae’r ddau gyfnod yma yn yr ysbyty yn gysylltiedig.

Mae'n parhau i fynd i mewn ac allan o'r ysbyty dros y misoedd nesaf, ond mae bob amser llai na 28 diwrnod rhwng pob arhosiad yn yr ysbyty. Mae hyn yn golygu y bydd ei gyfnodau cysylltiedig yn yr ysbyty i gyd yn cyfuno dros amser. Yn y pen draw, mae ganddo gyfanswm o 28 diwrnod o amser cysylltiedig yn yr ysbyty. Pan fydd yn cyrraedd y 28 diwrnod o amser cysylltiedig yn yr ysbyty, bydd Lwfans Gweini Eliot yn dod i ben. Bydd ei Lwfans Gweini yn cael ei dalu eto o'r diwrnod y mae'n gadael yr ysbyty.

Os yw Eliot allan o'r ysbyty am fwy na 28 diwrnod, bydd y cyfnod cysylltiedig yn dod i ben. Bydd cyfnod cysylltiedig newydd yn dechrau os bydd yn mynd i'r ysbyty eto.

Efallai y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn anfon ffurflen newydd atoch chi i'w llenwi a'i dychwelyd os ydych chi wedi bod yn yr ysbyty am amser hir. Bydd y ffurflen yn debyg i'r un a lenwyd gennych chi pan wnaethoch chi gais am y Lwfans Gweini am y tro cyntaf - darllenwch ein canllawiau i gael cymorth gyda llenwi eich ffurflen Lwfans Gweini.

Os ydych chi’n byw mewn cartref gofal

Mae'n well rhoi gwybod i'r Adran Gwaith a Phensiynau am unrhyw ddyddiadau pan fyddwch chi’n mynd i mewn ac allan o 'ofal preswyl' - er enghraifft, cartref gofal. Drwy wneud hynny, byddwch chi bob amser yn cael y swm cywir o’r Lwfans Gweini ac ni fydd yn rhaid i chi dalu unrhyw arian yn ôl.

Byddwch chi’n gallu cael y Lwfans Gweini am unrhyw ddiwrnodau y byddwch chi gartref - hyd yn oed os yw hynny am ran o'r diwrnod yn unig.

Mae'n dal yn bosib i chi gael y Lwfans Gweini os ydych chi'n talu am y cartref gofal o'ch arian eich hun. Mae'n well gofyn am gymorth gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf gan fod rhai rheolau cymhleth.

Enghraifft

Os ydych chi mewn cartref gofal rhwng dydd Llun a dydd Gwener a'ch bod chi gartref dros y penwythnos, byddwch chi’n cael y Lwfans Gweini am 4 diwrnod yr wythnos. Bydd eich Lwfans Gweini yn cael ei dalu ar gyfer dydd Gwener, dydd Sadwrn, dydd Sul a dydd Llun.

Ni fyddwch chi’n cael y Lwfans Gweini ar gyfer dydd Mawrth, dydd Mercher na dydd Iau oherwydd eich bod chi yn y cartref gofal.

Os ydych chi'n derfynol wael ac yn byw mewn cartref gofal neu hosbis

Mae’n dal yn bosib i chi gael y Lwfans Gweini os ydych chi’n derfynol wael ac yn byw mewn hosbis.

Darllenwch fwy am sut i hawlio’r Lwfans Gweini os ydych chi’n derfynol wae.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.