Help i lenwi'r ffurflen Lwfans Gweini

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Mae llenwi'r ffurflen Lwfans Gweini’n gallu bod yn anodd - mae rhai cwestiynau yn bersonol ac maen nhw’n gallu bod yn feichus yn emosiynol. Ond peidiwch â phoeni – mae help ar gael a does dim rhaid i chi lenwi’r ffurflen ar eich pen eich hun.

Siaradwch â chynghorydd os oes angen help arnoch chi gyda’ch ffurflen.

Gallwch chi ofyn i ffrind, perthynas neu ofalwr a fyddai'n well gennych chi iddyn nhw eich chi helpu gyda'r ffurflen.

Os ydych chi’n derfynol wael, dim ond rhai o’r cwestiynau y bydd angen i chi eu hateb. Darllenwch fwy am hawlio Lwfans Gweini os ydych chi’n derfynol wael.

Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n darllen y nodiadau sy'n dod gyda'ch ffurflen Lwfans Gweini cyn i chi ddechrau ei llenwi. Mae rhestr wirio ddefnyddiol o bethau y bydd angen i chi eu cael gyda chi pan fyddwch chi’n llenwi'r ffurflen, er enghraifft:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol

  • manylion eich meddyg teulu

  • rhestr o unrhyw foddion rydych chi’n eu cymryd

Am beth y dylech chi ysgrifennu ar y ffurflen

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn defnyddio eich ffurflen i benderfynu a ddylid rhoi Lwfans Gweini i chi. Byddan nhw eisiau gweld:

  • pa anawsterau sydd gennych chi, neu faint o gymorth sydd ei angen arnoch chi

  • pa mor aml rydych chi’n cael anawsterau neu ba mor aml mae angen help arnoch chi

  • pa fath o help sydd ei angen arnoch chi

Does dim rhaid i chi fod yn cael unrhyw help ar hyn o bryd - y peth pwysig yw bod ei angen arnoch chi. Er enghraifft, efallai bod angen i chi afael ar ddodrefn i symud o gwmpas eich cartref.

Sut i ateb cwestiynau am dasgau personol

Mae cwestiynau 26 i 44 yn gofyn am eich anghenion gofal gyda thasgau personol. Mae’n bwysig iawn eich bod chi’n defnyddio’r blychau gwag i esbonio os ydych chi:

  • yn cael anhawster neu angen rhywun i'ch helpu gyda thasgau personol o leiaf 3 gwaith yn ystod y dydd - er enghraifft ymolchi, codi o'r gwely neu wisgo

  • yn cael anhawster neu angen rhywun i'ch goruchwylio drwy gydol y dydd i wneud yn siŵr eich bod chi’n cadw'n ddiogel - er enghraifft i'ch atal rhag cwympo neu i ofalu amdanoch chi os ydych chi’n cael ffitiau neu flacowts

  • yn cael anhawster neu angen rhywun i'ch helpu gyda thasgau personol dro ar ôl tro (2 waith neu ragor) yn ystod y nos neu ddim ond unwaith os yw am 20 munud neu fwy - er enghraifft os oes angen help arnoch chi i godi o'r gwely, mynd i'r toiled neu newid y cynfasau os cewch chi ddamwain

  • angen rhywun i gadw golwg arnoch chi neu i'ch goruchwylio yn ystod y nos i wneud yn siŵr eich bod yn ddiogel - mae angen iddyn nhw eich helpu o leiaf 3 gwaith, neu ddim ond unwaith os yw am 20 munud neu fwy, er enghraifft rhag ofn i chi gael ffit tra fyddwch chi’n cysgu, neu i'ch atal chi rhag syrthio os oes rhaid i chi godi

Cadw dyddiadur

Mae'n werth cadw dyddiadur o'ch anghenion am o leiaf wythnos cyn i chi lenwi'r ffurflen. Gallwch chi ddefnyddio ein templed dyddiadur 99 KB .

Mae’r dyddiadur yn gallu rhoi syniad da i chi o’ch ‘anghenion gofal’ – dyma’r help sydd ei angen arnoch chi i gwblhau tasgau personol.

Nid yw help gyda thasgau personol yn golygu help gyda phethau fel gwaith tŷ neu arddio neu dasgau eraill o gwmpas y cartref.

Mae tasgau personol yn bethau fel:

  • mynd i mewn i'r gwely neu godi ohono

  • cael bath neu gawod

  • gwisgo

  • cael eich atgoffa neu eich annog i fwyta neu yfed

Cofiwch gynnwys unrhyw help sydd ei angen arnoch chi yn ystod y nos hefyd.

Dylech chi hefyd ysgrifennu yn y dyddiadur sawl gwaith y bydd angen help arnoch chi gyda thasgau fel codi o gadeiriau.

Os ydych chi’n cael help i lenwi’r ffurflen, cofiwch fynd â’ch dyddiadur gyda chi.

Awgrymiadau ar gyfer llenwi’r ffurflen

Dylech chi ddarllen yr awgrymiadau hyn i gyd cyn dechrau llenwi eich ffurflen.

Cofiwch ysgrifennu am yr help sydd ei angen arnoch chi neu’r anhawster rydych chi’n ei gael

Cofiwch nad oes rhaid i chi fod yn cael unrhyw help i gael Lwfans Gweini. Y peth pwysig yw bod ei angen arnoch chi – a’ch bod chi’n egluro pam mae ei angen arnoch chi ar y ffurflen.

Ysgrifennwch yn y blychau gwag

Mae’n bwysig iawn eich bod chi’n egluro’r cymorth neu’r oruchwyliaeth sydd eu hangen arnoch chi yn y blychau gwag ar gyfer cwestiynau 26 i 44. Peidiwch â dim ond ticio’r blychau neu ysgrifennu sawl gwaith mae angen help neu oruchwyliaeth arnoch chi.

Peidiwch â disgwyl i’r unigolyn sy’n gwneud y penderfyniad wybod am eich cyflwr

Ni fydd yr unigolyn sy'n penderfynu ar y Lwfans Gweini yn arbenigwr meddygol, felly peidiwch â chymryd yn ganiataol y bydd yn gwybod am eich cyflwr. Mae'n bwysig eich bod yn rhoi cymaint o wybodaeth â phosibl ar y ffurflen am faint o gymorth sydd ei angen arnoch chi. Peidiwch â meddwl bod unrhyw fanylion yn rhy fach i’w cynnwys, er enghraifft, dylech chi roi gwybod a yw gwneud y tasgau:

  • yn boenus i chi

  • yn cymryd amser hir i chi

  • yn eich rhoi chi neu rywun arall mewn perygl

  • yn gwneud i chi deimlo’n fyr eich gwynt

  • yn eich gwneud yn ansad

Defnyddiwch ddalen arall o bapur os oes angen.

Cofiwch ddweud sawl gwaith y mae angen help arnoch chi gyda thasgau

Mae'n bwysig iawn eich bod chi’n esbonio sawl gwaith y bydd angen cymorth arnoch neu sawl gwaith y byddwch yn cael help bob dydd ar gyfer y cwestiynau 'anghenion gofal'. Dylech chi hefyd egluro sawl gwaith rydych chi’n cael anawsterau.

Er enghraifft, os oes angen help arnoch chi neu os ydych chi’n cael trafferth mynd a dod o’r toiled, cofiwch ysgrifennu’r cyfanswm ar gyfer y diwrnod. Bydd llenwi ein templed dyddiadur 99 KB yn eich helpu chi.

Mae’n iawn ailadrodd eich hun mewn gwahanol atebion

Efallai y byddwch chi’n teimlo eich bod yn ailadrodd rhai o’ch atebion. Mae'n iawn ysgrifennu am yr un peth eto os yw'n berthnasol i fwy nag un cwestiwn.

Er enghraifft, os oes gennych chi broblemau symudedd a’ch bod yn cael trafferth cyrraedd y toiled, dylech chi egluro hyn yng nghwestiwn 28: ‘A ydych chi’n ei chael yn anodd neu a oes angen help arnoch chi gyda’ch anghenion toiled?’. Dylech chi hefyd egluro eich bod yn cael trafferth cyrraedd y toiled yng nghwestiwn 31: ‘Ydych chi’n ei chael yn anodd neu a oes angen help arnoch chi i symud o gwmpas dan do?’.

Soniwch am yr addasiadau rydych chi’n eu defnyddio yn y cwestiwn perthnasol

Mae gofyn i chi nodi eich addasiadau a'ch cymhorthion yng nghwestiwn 25 'Pa gymhorthion neu addasiadau ydych chi'n eu defnyddio?' - dylech chi hefyd ysgrifennu amdanynt yn y cwestiynau ‘anghenion gofal’ perthnasol.

Er enghraifft, os ydych chi’n defnyddio canllaw i fynd i mewn ac allan o’r gawod, dylech chi hefyd sôn amdano yng nghwestiwn 29: 'Ydych chi’n ei chael yn anodd neu a oes angen help arnoch chi i ymolchi, cael bath, cael cawod neu ofalu am eich ymddangosiad?'.

Eglurwch a ydych chi’n cael dyddiau da a dyddiau gwael

Os yw eich salwch neu'ch anabledd yn golygu eich bod yn cael diwrnodau da a diwrnodau gwael, ceisiwch egluro faint o bob un sydd gennych mewn wythnos arferol. Mae llenwi ein templed dyddiadur yn gallu eich helpu i wneud hyn. Esboniwch pa help sydd ei angen arnoch ar ddiwrnod da ac ar ddiwrnod gwael.

Eglurwch a yw tasgau’n cymryd mwy o amser

Os gallwch chi wneud rhai tasgau personol ar eich pen eich hun ond eu bod yn cymryd amser hir i chi, esboniwch hyn ar y ffurflen. Gallai fod yn ddefnyddiol i chi gymharu faint o amser mae’n ei gymryd i chi o gymharu â ffrind neu rywun arall rydych chi’n ei adnabod sydd ddim yn dioddef o’ch cyflwr.

Atebion enghreifftiol ar gyfer cwestiynau 27 i 29

Bydd angen i chi ysgrifennu mewn llawer o flychau gwag ar y ffurflen Lwfans Gweini. Darllenwch ein henghreifftiau i’ch helpu i gael syniad o beth i’w ysgrifennu.

Ateb enghreifftiol i gwestiwn 27: ‘Ydych chi’n cael trafferth neu a oes angen help arnoch chi i godi o’r gwely yn y bore neu i fynd i’r gwely yn y nos?’

Mae James yn dioddef o iselder ac mae’n rhaid i’w wraig, Doreen, ei annog i godi o’r gwely yn y bore. Mae’n ysgrifennu yn y blwch gwag ar gyfer cwestiwn 27:

“Mae fy iselder yn gwneud i mi deimlo nad yw’n werth codi o’r gwely yn y bore. Ar ddiwrnod gwael – tua 3 gwaith yr wythnos – rydw i’n effro am 4am a dydw i ddim yn gallu mynd yn ôl i gysgu. Dydw i ddim eisiau codi ond dydw i ddim eisiau aros yn y gwely chwaith – dydw i ddim eisiau gwneud dim byd. Bydd Doreen yn siarad â mi ac yn fy annog i godi a dweud wrtha i beth allwn ni ei wneud y diwrnod hwnnw os ydw i’n teimlo fel gwneud hynny. Os yw Doreen allan yn ymweld â ffrind, bydda i’n gorwedd yno nes iddi ddod adref gan na alla i wynebu codi.

Ar ddiwrnod da, bydd angen i Doreen fy annog i wneud pethau fel cael swper neu fynd i'r gwely - fel arall bydda i’n aros i fyny tan 3am oherwydd fy mod yn poeni na fydda i’n gallu cysgu eto a bydd yn gwneud fy iselder yn waeth."

Ateb enghreifftiol i gwestiwn 28: ‘Ydych chi’n cael trafferth neu a oes angen help arnoch chi gyda’ch anghenion toiled?’

Mae gan Judith ddementia ac weithiau mae’n anymataliol yn ystod y nos. Mae ei gŵr, Jeremy, yn ei helpu. Mae hi’n ysgrifennu yn y blwch gwag ar gyfer cwestiwn 28:

“Weithiau dydw i ddim yn sylweddoli bod angen i mi fynd i’r toiled pan fydda i’n cysgu ac mi fydda i’n cael damwain. Mae Jeremy yn cysgu yn yr un ystafell ac mae’n gwybod pryd mae’n digwydd gan fy mod yn cynhyrfu pan fyddaf yn sylweddoli. Mae’n fy helpu i godi o’r gwely ac i mewn i’r gawod. Yna, mae’n fy helpu i wisgo pyjamas glân ac mae’n newid y cynfasau. Mae hefyd yn rhoi’r peiriant golchi ymlaen fel bod y cynfasau’n lân yn y bore ac yna bydd yn eistedd wrth fy ngwely yn rhoi cysur i mi nes i mi fynd yn ôl i gysgu. Mae hyn i gyd yn cymryd tua 45 munud fel arfer – dydw i ddim yn gwybod beth fyddwn i’n ei wneud pe na bai Jeremy yn fy helpu.”

Ateb enghreifftiol i gwestiwn 29: 'Ydych chi’n ei chael yn anodd neu a oes angen help arnoch chi i ymolchi, cael bath, cael cawod neu ofalu am eich ymddangosiad?'

Mae gan Sue arthritis yn ei phengliniau. Mae ei nith, Rose, yn ei helpu i gael cawod yn y bore. Mae hi’n ysgrifennu yn y blwch gwag ar gyfer cwestiwn 29:

“Rwy’n ei chael hi’n anodd mynd i mewn ac allan o’r gawod. Y tro diwethaf i mi wneud hynny, fe wnes i lithro a brifo fy hun. Mae gen i ganllaw i’w ddal pan fydda i yn y gawod ond mae’n rhaid i mi fynd i fyny ac i lawr cam i fynd i mewn ac allan. Dwi’n teimlo’n ansicr ac yn poeni y bydda i’n disgyn eto. Yn aml, rydw i’n ymolchi yn hytrach na chael cawod oherwydd mae’n cymryd cymaint o amser i mi ac yn gwneud i mi deimlo’n anniogel.”

Gofynnwch i rywun sy’n eich adnabod lenwi cwestiynau 53 i 60: ‘Datganiad gan rywun sy’n eich adnabod chi’

Mae cwestiynau 53 i 60 ar y ffurflen mewn adran o’r enw 'ddatganiad gan rywun sy'n eich adnabod chi'.

Does dim rhaid i chi gael rhywun i lenwi'r adran hon, ond mae'n well gwneud hynny. Gall fod yn unrhyw un sy'n gwybod am eich salwch neu'ch anabledd a sut mae'n effeithio ar eich gallu i wneud tasgau personol.

Mae'n well cael gweithiwr gofal iechyd proffesiynol rydych chi wedi'i weld yn ddiweddar i lenwi'r adran hon - er enghraifft meddyg, ymgynghorydd neu nyrs Macmillan.

Os na allwch chi gael gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, gallwch chi ofyn i ffrind, perthynas neu ofalwr. Cyn iddyn nhw ysgrifennu ar y ffurflen, siaradwch â nhw am sut mae eich salwch neu'ch anabledd yn effeithio arnoch chi. Dywedwch wrthyn nhw fod yr Adran Gwaith a Phensiynau eisiau gwybod faint o help sydd ei angen arnoch chi gyda thasgau personol.

Mae’n werth gofyn iddyn nhw ddarllen y cyngor ar y dudalen hon cyn iddyn nhw ateb y cwestiynau yn yr adran hon.

Cyn i chi anfon y ffurflen

Darllenwch y ffurflen eto cyn ei hanfon i wneud yn siŵr eich bod chi wedi ateb popeth yn iawn.

Gwnewch gopi o’r ffurflen os gallwch chi – efallai y bydd angen i chi gyfeirio ati yn nes ymlaen.

Anfon y ffurflen

Edrychwch i ble y dylech chi anfon y ffurflen a beth fydd yn digwydd ar ôl i chi ei hanfon.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.