Sut mae hawlio’r Lwfans Byw i'r Anabl ar gyfer eich plentyn

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Gallwch chi hawlio’r Lwfans Byw i'r Anabl i helpu gyda'r costau ychwanegol sydd gennych chi oherwydd cyflwr iechyd neu anabledd eich plentyn. 

Gallwch chi wneud cais drwy broses garlam os yw eich plentyn wedi cael diagnosis o salwch angheuol - darllenwch ein canllaw.

Gweld a yw eich plentyn yn gymwys

Gallwch chi gael y Lwfans Byw i'r Anabl:

  • os oes angen mwy o ofal, sylw neu oruchwyliaeth ar eich plentyn nag ar blentyn o’r un oed sydd heb anabledd neu gyflwr iechyd, neu

  • os yw’n cael trafferth cerdded neu symud o gwmpas yn yr awyr agored mewn mannau anghyfarwydd

Nid oes prawf modd ar gyfer y Lwfans Byw i'r Anabl, felly does dim ots faint rydych chi'n ei ennill na faint o gynilion sydd gennych chi.

Os nad ydych chi'n siŵr a ydych chi'n gymwys gallwch chi ddarllen mwy am fod yn gymwys i gael y Lwfans Byw i'r Anabl ar gyfer plant.

Cael ffurflen gais

Gallwch chi naill ai ffonio i gael ffurflen gais neu lwytho un i lawr oddi ar y we. 

Mae'n well ffonio oherwydd bydd eich taliadau'n cael eu hôl-ddyddio i'r dyddiad y gwnaethoch chi ffonio. Os byddwch chi’n llwytho ffurflen gais i lawr oddi ar y we, dim ond o'r dyddiad y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn derbyn y ffurflen y cewch chi eich talu.

Llinell gymorth y Lwfans Byw i'r Anabl

Ffôn: 0800 121 4600 

Ffôn testun: 0800 121 4523 

Relay UK - os na allwch chi glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio eich neges: 18001 yna 0800 121 4600

Gallwch chi ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Ni chodir tâl ychwanegol am ei ddefnyddio. Gallwch ddysgu sut mae defnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.

Video relay – os ydych chi’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).  

Gallwch gael gwybod sut mae defnyddio gwasanaeth Video Relay ar YouTube.

Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm

Gallwch ffonio am ddim o’ch ffôn symudol neu ffôn tŷ.

Gallwch chi lwytho ffurflen gais i lawr o GOV.UK.

Cadw dyddiadur

Mae'n syniad da cadw dyddiadur o gyflwr eich plentyn am wythnos cyn i chi lenwi'r ffurflen - yn enwedig os yw'ch plentyn yn cael diwrnodau gwael a diwrnodau da. Ysgrifennwch anawsterau eich plentyn, y cymorth neu'r gofal y gwnaethoch chi ei roi a pha mor hir a gymerodd.

Yn dibynnu ar gyflwr eich plentyn, efallai y byddwch chi eisiau cadw dyddiadur am fwy nag wythnos - er enghraifft, os yw cyflwr eich plentyn fel arfer yn effeithio arno 1 wythnos y mis. 

Rydym ni wedi gwneud dyddiadur y Lwfans Byw i'r Anabl y gallwch chi ei argraffu a’i ddefnyddio  98.9 KB - mae’n 7 diwrnod o hyd ac yn rhoi awgrymiadau i chi ar beth i'w ysgrifennu. 

Gall y dyddiadur eich helpu’n fawr pan fyddwch chi’n llenwi’r ffurflen. Gallwch chi hefyd ei hanfon gyda’r ffurflen fel tystiolaeth os hoffwch chi. 

Llenwi’r ffurflen gais

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn chwilio am bethau penodol pan fyddan nhw’n gwneud penderfyniad ar eich hawliad - felly mae'n bwysig eich bod chi’n llenwi'r ffurflen orau y gallwch chi.

Rydym ni’n argymell eich bod chi’n darllen ein cyngor ar lenwi ffurflen y Lwfans Byw i’r Anabl er mwyn cael y cyfle gorau i lwyddo.

Anfon eich ffurflen gais

Mae'n syniad da gwneud copi o'ch ffurflen gais wedi'i llenwi ac unrhyw ddogfennau eraill y byddwch chi’n eu hanfon. Bydd hyn yn ddefnyddiol rhag ofn y bydd angen i chi gyfeirio ato yn nes ymlaen, er enghraifft os bydd angen i chi wneud cais arall am y Lwfans Byw i'r Anabl ar ôl ychydig flynyddoedd.

Anfonwch y ffurflen at:

Disability Benefit Centre 4

Post Handling Site B

Wolverhampton

WV99 1BY

Os ydych chi’n aros am rywbeth fel llythyr gan eich meddyg, dylech chi anfon y ffurflen cyn y dyddiad cau o 6 wythnos. Dylech chi gynnwys llythyr yn dweud y byddwch chi’n anfon rhagor o dystiolaeth ac yn rhoi dyddiad bras iddyn nhw o bryd y byddwch chi’n ei hanfon. Os byddwch chi’n anfon y ffurflen yn hwyr, dim ond pan fydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ei derbyn y cewch chi eich talu.

Beth fydd yn digwydd nesaf

Byddwch chi yn cael llythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau o fewn pythefnos yn dweud eu bod wedi cael eich hawliad (neu efallai y cewch chi neges destun yn lle hynny). Cysylltwch â llinell gymorth y Lwfans Byw i'r Anabl os nad ydych chi wedi cael llythyr ar ôl pythefnos.

Fel arfer, byddwch chi’n cael ‘llythyr penderfyniad’ o fewn 3 mis.

Os bydd eich hawliad yn llwyddiannus, bydd y llythyr penderfyniad yn dweud wrthych chi faint gewch chi ac am ba hyd. Os na fydd eich hawliad yn llwyddiannus, bydd y llythyr penderfyniad yn amlinellu'r rhesymau.

Os ydych chi wedi bod yn llwyddiannus ond nad ydych chi’n siŵr a ydych chi wedi cael y gyfradd gywir, mae’n syniad da cysylltu â’ch Cyngor ar Bopeth agosaf neu ffonio llinell gymorth Cyswllt Teulu ar 0808 808 3555 i drafod hyn.

Pan fydd eich plentyn yn 16 oed - symud i Daliad Annibyniaeth Personol

Budd-dal anabledd tebyg i’r Lwfans Byw i’r Anabl yw’r Taliad Annibyniaeth Personol, ond i bobl 16 oed a hŷn.

Byddwch chi’n cael llythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ychydig cyn pen-blwydd eich plentyn yn 16 oed yn dweud wrthych am newid o’r Lwfans Byw i’r Anabl i’r Taliad Annibyniaeth Personol. 

Bydd angen i chi lenwi ffurflen newydd a bydd angen i'ch plentyn fynd am asesiad - hyd yn oed os na chafodd asesiad ar gyfer y Lwfans Byw i'r Anabl.

Os ydych chi'n aros am asesiad meddygol

Ar hyn o bryd, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ceisio gwneud yr asesiad drwy edrych ar dystiolaeth feddygol eich plentyn - efallai y byddan nhw hefyd yn gofyn i siarad â nhw dros y ffôn neu drwy alwad fideo. Mae’n bwysig anfon eu tystiolaeth feddygol cyn gynted â phosibl.

Mewn achosion prin, efallai y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gwahodd eich plentyn i gael asesiad meddygol wyneb yn wyneb.

Darllenwch ein cyngor ar symud o’r Lwfans Byw i’r Anabl i’r Taliad Annibyniaeth Personol i’ch helpu i baratoi.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.