Newid cyflenwr neu dariff ynni

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os ydych chi'n ceisio arbed arian ar eich nwy neu drydan, efallai y gallech chi ystyried naill ai:

  • newid cyflenwyr

  • newid i dariff gwahanol gyda’ch cyflenwr cyfredol

Cynllun prisio ar gyfer nwy neu drydan wrth eich cyflenwr ynni yw tariff ynni. I helpu i gyfrifo'r tariff gorau i chi, edrychwch i weld beth yw’r mathau mwyaf cyffredin o dariff a beth maen nhw'n ei olygu.

Os ydych chi eisiau newid tariff, bydd angen i chi weithio allan yr un gorau i chi yn seiliedig ar eich sefyllfa. Bydd angen i chi feddwl am sut gallai cost ynni newid a beth fyddai hyn yn ei olygu i'ch bargen - gallai gostio mwy i chi yn y pen draw.

Os oes gennych chi fesurydd radio teleswitsh 

Os oes gennych chi dariff amser defnyddio, efallai fod gennych chi fesurydd trydan sy'n defnyddio signal radio i newid rhwng cyfraddau brig a chyfraddau tawel. Mae’r rhain yn cael eu galw’n fesuryddion radio teleswitsh (RTS) neu'n fesuryddion teleswitsh dynamig (DTS).

Bydd angen i chi gael un newydd yn lle mesurydd RTS neu DTS. Mae hyn oherwydd fod y signal radio yn cael ei ddiffodd.

Gallai eich gwres trydan a'ch dŵr poeth roi'r gorau i weithio os na fyddwch yn newid eich mesurydd cyn i'r signal radio gael ei ddiffodd.

Edrychwch i weld os oes angen mesurydd newydd arnoch chi.

Edrychwch i weld os gallwch chi newid

I weld a allwch chi newid, mae angen i chi wybod pa dariff ynni rydych chi arno. Os nad ydych chi'n gwybod, edrychwch ar eich bil diweddaraf neu mewngofnodwch i'ch cyfrif ar-lein gyda'ch cyflenwr ynni presennol.

Os ydych chi ar dariff amrywiol safonol 

Os ydych chi ar dariff amrywiol safonol gallwch chi newid unrhyw bryd.

Os ydych chi ar dariff sefydlog

Os ydych chi ar gontract tariff sefydlog gallwch chi newid os oes gennych chi 49 diwrnod neu lai ar ôl ar eich contract.

Os oes gennych chi 50 diwrnod neu fwy ar ôl ar eich contract, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffi ymadael i adael eich contract yn gynnar. Cysylltwch â'ch cyflenwr i ofyn.

Os byddai'n rhaid i chi dalu ffi ymadael i newid, edrychwch i weld:

  • pryd byddwch chi'n gallu newid heb dalu ffi ymadael

  • faint fyddech chi'n ei arbed drwy newid

Efallai y byddwch chi'n arbed mwy drwy newid, hyd yn oed os oes rhaid i chi dalu ffi ymadael.

Pan fydd eich tariff sefydlog yn dod i ben, fel arfer byddwch chi'n cael eich rhoi ar dariff amrywiol safonol eich cyflenwr yn awtomatig.

Pan na fyddwch chi’n gallu newid

Efallai na fyddwch chi’n gallu newid cyflenwr ynni neu dariff os oes arnoch chi arian i’ch cyflenwr ynni. Edrychwch i weld beth allwch chi ei wneud os oes arnoch chi arian i’ch cyflenwr ynni a’ch bod eisiau newid cyflenwyr.

Os ydych chi’n talu’ch landlord am eich ynni, ni fyddwch yn gallu ei newid eich hun, bydd yn rhaid i chi ofyn i'ch landlord wneud hynny. Edrychwch sut i reoli eich cyflenwad ynni os yw eich landlord yn talu.

Os ydych chi ar rwydwaith gwres, ni allwch chi newid cyflenwyr. Os ydych chi'n credu bod eich biliau'n anghywir neu'n annheg, gallwch chi gysylltu â'ch cyflenwr. Edrychwch sut i herio bil os ydych chi ar rwydwaith gwres.

Edrych i weld os bydd y tariff yn gweithio i chi

Os ydych chi’n ystyried newid i gael bargen ynni well, dylech chi edrych i weld pa dariff fydd yn gweithio orau i chi.

Meddyliwch am yr hyn rydych chi ei eisiau gan dariff a pha mor bwysig ydyw, er enghraifft os ydych chi eisiau:

  • y tariff rhataf sydd ar gael

  • tariff y gallwch ei adael unrhyw bryd heb dalu ffi ymadael

  • tariff i bobl sy’n gwefru cerbyd trydan – mae’n cael ei alw’n ‘dariff cerbyd trydan’

  • tariff i bobl sy’n defnyddio pwmp gwres

  • tariff ynni adnewyddadwy

Gallwch chi wirio tariffau eich cyflenwr ar eu gwefan neu ap ar-lein, neu drwy gysylltu â nhw. Cymharwch dariffau eich cyflenwr â thariffau cyflenwyr eraill i wneud yn siŵr eich bod chi'n cael y fargen orau.

Gallwch chi wirio tariffau cyflenwyr eraill drwy ddefnyddio gwefan cymharu prisiau. Ni fydd pob gwefan yn dangos yr un tariffau a chyflenwyr, felly mae'n syniad da edrych  ar sawl wefan wahanol. Gallwch chi ddod o hyd i restr o wefannau cymharu prisiau ar wefan Ofgem.

Os ydych chi'n newid oherwydd gwasanaeth cwsmer gwael wrth eich cyflenwr ynni, gallwch chi gymharu sgoriau gwasanaeth cwsmer cyflenwyr ynni gwahanol.

Efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi gyfrifo cyllideb eich cartref bob mis. Gallai eich helpu i wneud penderfyniad ynglŷn â’r math gorau o dariff i chi yn seiliedig ar yr hyn y gallwch ei fforddio. Po fwyaf o ynni a ddefnyddiwch, y mwyaf y bydd yn ei gostio. Gallwch chi ddefnyddio’r cynlluniwr cyllideb ar wefan Helpwr Arian.

Os ydych chi'n ystyried newid i dariff sefydlog

Gallai tariff sefydlog fod yn rhatach dros flwyddyn gyfan nag aros ar dariff amrywiol safonol. Os yw pris ynni yn debygol o aros yr un peth neu gynyddu, gallai newid i dariff sefydlog arbed arian i chi.

Serch hynny, os bydd pris ynni yn gostwng, efallai y byddwch yn arbed arian yn y tymor hir drwy aros ar dariff amrywiol safonol.

Nid ydym yn gwybod sut bydd pris nwy a thrydan yn newid, bydd angen i chi benderfynu ar yr opsiwn gorau i chi.

Os ydych chi'n cyllidebu ac mae angen i chi wybod y gyfradd y byddwch chi'n ei thalu am eich nwy neu drydan, efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi newid i dariff sefydlog.

Gallwch chi edrych i weld beth mae’r tariffau gwahanol yn ei olygu i chi a sut maen nhw’n gweithio.

Edrychwch i weld a fydd eich mesurydd yn gweithio ar eich tariff newydd

Cyn newid i gyflenwr newydd, dylech chi edrych i weld y bydd eich mesurydd nwy neu drydan yn gweithio ar eich tariff newydd.

Os oes gennych chi fesurydd clyfar

Cyn i chi newid, edrychwch i weld os bydd eich mesurydd clyfar yn gweithio yn y  'modd clyfar' ar ôl newid.

Mae modd clyfar yn golygu bod eich mesurydd yn anfon darlleniadau i’ch cyflenwr yn awtomatig.

Gallwch chi edrych i weld os gall eich mesurydd weithio yn y modd clyfar ar ôl newid.

Yn y modd rhagdalu

Os oes gennych chi fesurydd clyfar yn y modd rhagdalu, bydd angen i chi ddewis ‘tariff rhagdalu’ - mae hyn yn golygu eich bod chi’n talu am eich ynni cyn i chi ei ddefnyddio.

Nid oes gan bob cyflenwr ynni dariffau rhagdalu. Gallwch chi wirio tariffau cyflenwyr drwy ddefnyddio gwefan cymharu prisiau. Nid yw pob gwefan yn dangos yr un tariffau a chyflenwyr, felly mae'n syniad da edrych ar sawl wefan wahanol. Gallwch chi ddod o hyd i wefannau cymharu prisiau ar wefan Ofgem.

Os nad oes arnoch chi arian i'ch cyflenwr nwy neu drydan, gallwch chi ofyn am newid eich mesurydd clyfar i fodd credyd neu ddebyd uniongyrchol. Mae hyn yn golygu y byddwch chi'n talu am eich ynni ar ôl i chi ei ddefnyddio.

Byddwch yn gallu dewis o ystod ehangach o fargeinion tariffau ynni os ydych chi'n talu drwy ddebyd uniongyrchol ac yn dewis tariff sefydlog. Edrychwch sut i symud o ragdalu i gredyd.

Modd amser defnyddio neu ‘Economy 7’

Os oes gennych chi dariff sy'n codi gwahanol gyfraddau arnoch chi ar gyfer adegau penodol o'r dydd, mae hyn yn golygu eich bod chi ar dariff amser defnyddio neu dariff aml-gyfradd.

Mae tariff amser defnyddio yn ddelfrydol os oes angen i chi ddefnyddio ynni dros nos neu ar adegau penodol o'r dydd - er enghraifft, os oes gennych chi wresogyddion stôr. Dylech chi edrych i weld eich bod yn defnyddio eich gwresogyddion stôr yn gywir.

Os nad oes angen i chi ddefnyddio ynni dros nos neu ar adegau penodol o'r dydd, efallai y byddwch chi'n arbed arian drwy newid i dariff cyfradd sengl - er enghraifft, tariff amrywiol safonol neu sefydlog. Gofynnwch i'ch cyflenwr a allwch chi gael y math hwn o dariff.

Os nad oes gennych chi fesurydd clyfar

Efallai y bydd eich cyflenwr newydd yn gofyn i chi gytuno i gael mesurydd clyfar wedi'i osod cyn y byddant yn gadael i chi newid. Gallwch chi edrych i weld beth fydd eich cyflenwr yn ei wneud os cewch chi fesurydd clyfar.

Os oes gennych chi fesurydd rhagdalu

Bydd yn rhaid i chi ddewis ‘tariff rhagdalu’ - mae hyn yn golygu eich bod chi’n talu am eich ynni cyn i chi ei ddefnyddio. Ni fydd pob cyflenwr ynni yn cynnig tariffau rhagdalu - os ydyn nhw, efallai na fyddan nhw mor gystadleuol o ran pris.

Os oes arnoch chi arian i’ch cyflenwr rhagdalu, gallwch chi ofyn am gael eich mesurydd rhagdaledig wedi'i newid i fesurydd clyfar yn y modd credyd neu ddebyd uniongyrchol. Dyma lle rydych chi'n talu am eich ynni ar ôl i chi ei ddefnyddio. 

Byddwch yn gallu dewis o ystod ehangach o fargeinion tariffau ynni os ydych chi'n talu drwy ddebyd uniongyrchol ac yn dewis tariff sefydlog. Darllenwch sut i symud o fesurydd rhagdalu i fesurydd credyd.

Os oes gennych dariff amser defnyddio neu fesurydd trydan ‘Economy 7’

Cysylltwch â’ch cyflenwr newydd cyn i chi newid i weld a fydd eich tariff yn gweithio ar eich mesurydd. Nid pob cyflenwr sy’n cynnig tariffau amser defnyddio.

Mae tariff amser defnyddio yn ddelfrydol os oes angen i chi ddefnyddio ynni dros nos neu ar adegau penodol o'r dydd - er enghraifft, os oes gennych chi wresogyddion stôr. Dylech chi edrych i weld eich bod yn defnyddio eich gwresogyddion stôr yn effeithlon.

Os nad oes angen i chi ddefnyddio ynni dros nos neu ar adegau penodol o'r dydd, efallai y byddwch yn arbed arian drwy newid i dariff cyfradd sengl - er enghraifft, tariff amrywiol safonol neu sefydlog. 

Cyn newid, cysylltwch â'ch cyflenwr newydd i weld a fydd eu tariff cyfradd sengl yn gweithio gyda'ch mesurydd.

Sut i newid

Ar ôl i chi benderfynu ar eich cyflenwr newydd, dylech chi gysylltu â nhw i newid – gallwch chi wneud hyn dros y ffôn neu ar eu gwefan. 

Nid oes angen i chi gysylltu â’ch cyflenwr presennol i ddweud wrthyn nhw eich bod yn gadael – bydd eich cyflenwr newydd yn gwneud hynny ar eich rhan.

Bydd gennych ‘gyfnod ailfeddwl’ 14 diwrnod lle gallwch chi ganslo’r newid heb dalu ffi. Mae eich cyfnod ailfeddwl yn dechrau’r diwrnod ar ôl i chi gytuno ar gontract gyda’r cyflenwr.

Yn ystod y broses o newid, gofynnir i chi pryd hoffech chi newid i'ch tariff newydd. Gallwch chi naill ai newid:

  • cyn gynted â phosib ar ôl i chi gytuno ar eich contract newydd - gallai hyn gymryd hyd at 5 diwrnod gwaith

  • 5 diwrnod gwaith ar ôl i'ch cyfnod ailfeddwl o 14 diwrnod ddod i ben - gallai hyn fod hyd at 21 diwrnod ar ôl i chi gytuno ar eich contract newydd

Os ydych chi eisiau newid ar ddyddiad penodol, cysylltwch â’ch cyflenwr newydd i ofyn os allant wneud hyn. Er enghraifft, os ydych chi'n dod i ddiwedd eich tariff sefydlog ac nad ydych chi eisiau newid nes iddo ddod i ben.

Cymerwch ddarlleniad eich mesurydd ar ddiwrnod y newid i'w roi i'ch cyflenwr newydd. Mae hyn yn golygu na fyddant yn codi tâl arnoch chi am ynni a ddefnyddiwyd cyn y newid.

Bydd angen i chi dalu eich bil terfynol i’ch hen gyflenwr. Byddan nhw’n ei anfon atoch chi o fewn 6 wythnos. Os na fyddan nhw’n anfon eich bil terfynol mewn pryd, efallai y bydd yn rhaid iddyn nhw dalu iawndal i chi.

Os oes gennych chi arian ar ôl ar eich cyfrif gyda’ch hen gyflenwr, byddan nhw’n rhoi ad-daliad i chi. Rhaid iddyn nhw roi ad-daliad i chi cyn pen 10 diwrnod gwaith ar ôl anfon y bil terfynol atoch. Os na fyddan nhw’n rhoi’r ad-daliad i chi mewn pryd, efallai y bydd yn rhaid iddyn nhw dalu iawndal i chi.

Ewch i weld a oes arian yn ddyledus i chi gan eich hen gyflenwr.

Os ydych chi eisiau canslo newid cyflenwr

Os ydych chi eisiau canslo’r newid, dylech chi ddweud wrth y cyflenwr eich bod yn newid cyn gynted â phosib.

Os nad ydych chi wedi newid eto, byddan nhw'n ei atal rhag digwydd. Byddwch chi'n aros gyda'ch hen gyflenwr.

Os ydych chi wedi newid ac rydych chi'n dal yn eich cyfnod ailfeddwl, dywedwch wrth eich cyflenwr newydd eich bod chi eisiau canslo. Dylent esbonio'ch opsiynau cyn gynted â phosib. Bydd gennych chi 15 diwrnod gwaith o'r adeg y byddant yn esbonio'ch opsiynau i:

  • gytuno ar gontract newydd gyda'ch cyflenwr newydd

  • gytuno ar gontract newydd gyda'ch hen gyflenwr ar 'delerau cyfwerth' i'ch hen gontract - mae hyn yn golygu cytuno i delerau ac amodau tebyg i'r rhai a oedd gennych cyn newid

  • gytuno ar gontract newydd gyda chyflenwr gwahanol

Os na wnewch chi ddim byd, ar ôl 15 diwrnod gwaith byddwch chi'n cael eich rhoi ar gontract 'tybiedig' gyda'ch cyflenwr newydd - sef tariff amrywiol safonol.

Os byddwch chi'n dychwelyd at eich hen gyflenwr, mae'n rhaid iddyn nhw gynnig telerau tebyg i'ch hen gontract o fewn 16 diwrnod gwaith. Mae'r 16 diwrnod yn dechrau'r diwrnod y gwnaethoch chi newid i'ch cyflenwr newydd.

Rhaid i'ch cyflenwr newydd barhau i gyflenwi eich ynni nes i chi gytuno i gontract gwahanol gyda nhw, neu gontract newydd gyda chyflenwr gwahanol. Bydd angen i chi dalu am yr ynni rydych chi'n ei ddefnyddio.

Os ydych chi eisiau newid ar ôl i'r cyfnod ailfeddwl o 14 diwrnod ddod i ben, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffi i adael yn gynnar. Cysylltwch â'ch cyflenwr i wirio.

Os oes oedi wrth newid cyflenwyr

Efallai y cewch chi iawndal wrth eich cyflenwr ynni. Mae faint o amser sydd gan eich cyflenwr i newid eich cyflenwad ynni yn dibynnu ar pryd y gofynnoch chi i'ch newid ddigwydd.

Os gofynnoch chi am newid cyn gynted â phosib, dylech chi newid i'r cyflenwr newydd o fewn 5 diwrnod gwaith.

Os cytunwch chi ar y contract cyn 5pm ar ddiwrnod gwaith, mae'r 5 diwrnod yn dechrau ar y diwrnod hwnnw.

Os cytunwch chi ar y contract ar unrhyw adeg arall, mae'r 5 diwrnod yn dechrau ar y diwrnod gwaith nesaf.

Os gofynnoch chi i newid ar ddiwedd eich cyfnod ailfeddwl o 14 diwrnod, dylech chi newid i'r cyflenwr newydd o fewn 5 diwrnod gwaith. Mae hyn yn dechrau ar y diwrnod gwaith ar ôl i'r cyfnod ailfeddwl ddod i ben.

Diwrnod gwaith yw unrhyw ddiwrnod o ddydd Llun i ddydd Gwener nad yw'n ŵyl banc. Er enghraifft, nid yw Dydd Gwener y Groglith yn ddiwrnod gwaith.

Os nad ydych chi wedi newid o fewn 5 diwrnod gwaith, cysylltwch â'r cyflenwr i weld bod ganddyn nhw'r wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw. Os oes, dylent dalu £40 i chi'n awtomatig.

Dylai eich cyflenwr dalu'r £40 i chi o fewn 10 diwrnod gwaith. Byddan nhw naill ai'n anfon siec atoch chi neu'n talu'n uniongyrchol i'ch cyfrif banc.

Gallwch chi gwyno i’r cyflenwr os nad ydyn nhw'n talu hyn.

Os oes angen mwy o gyngor arnoch chi ynglŷn ag iawndal, cysylltwch â llinell gymorth Cyngor ar Bopeth i ddefnyddwyr.

Help pellach

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch, cysylltwch â gwasanaeth Cyngor ar Bopeth i ddefnyddwyr - gall cynghorwr hyfforddedig roi cyngor i chi dros y ffôn neu drwy sgwrs ar-lein.

Os ydych chi’n cael trafferth talu eich biliau neu ychwanegu arian at eich mesurydd rhagdalu efallai y byddwch chi'n gallu cael cymorth ychwanegol. Edrychwch i weld os gallwch chi gael grantiau a budd-daliadau i helpu i dalu eich biliau ynni.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 24 Awst 2023