Arbed arian wrth wresogi eich cartref

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae rhai pethau y gallwch eu gwneud er mwyn arbed arian a chadw’n gynnes yn eich cartref. Gallwch:

  • wneud yn siŵr eich bod yn defnyddio eich rheolyddion gwres canolog yn iawn

  • gwneud yn siŵr bod tymheredd llif eich boeler yn iawn

  • gwneud yn siŵr bod eich rheolyddion dŵr poeth yn iawn

  • dod o hyd i ffyrdd o gadw gwres yn eich cartref

Peidiwch â dilyn cyngor ynglŷn â gwresogi oni bai fod y cyngor hwnnw’n cael ei roi gan wefannau a sefydliadau rydych chi’n gwybod y gallwch chi ymddiried ynddyn nhw. Mae’n bosibl nad yw awgrymiadau gwresogi ar y cyfryngau cymdeithasol neu mewn fforymau ar y rhyngrwyd yn ddiogel neu na fyddan nhw’n arbed unrhyw arian i chi. Fel arfer mae’n well defnyddio eich gwres canolog neu wresogyddion stôr i wresogi eich cartref.

Peidio stopio gwresogi eich cartref

Mae’n bwysig meddwl am eich iechyd corfforol a’ch iechyd meddyliol.

Dylech gadw eich cartref yn ddigon cynnes fel bod llai o risg i’ch cartref fynd yn damp a llai o risg i chithau fynd yn sâl.

Defnyddio eich rheolyddion gwres canolog yn iawn

Os oes gennych chi reiddiaduron neu system gwres o dan y llawr sy’n cael ei gwresogi gan ddŵr o foeler neu bwmp gwres, mae hyn yn golygu bod gennych chi wres canolog.

Os oes gennych chi wres canolog, fel arfer bydd gennych chi ffyrdd o reoli sut mae eich cartref yn cael ei wresogi. Efallai fod gennych:

  • ddyfais i osod yr amseroedd pan fydd eich gwres yn dod ymlaen neu’n mynd i ffwrdd – mae’n cael ei galw’n amserydd neu raglennydd

  • dyfais ar gyfer gosod y tymheredd mae’n rhaid i’ch ystafell ei gyrraedd cyn bydd eich gwres yn mynd i ffwrdd ac yn dod ymlaen eto  - mae’n cael ei galw’n thermostat ystafell

  • falfiau sy’n gadael i chi reoli pob rheiddiadur ar wahân 

Efallai y bydd gennych chi un ddyfais sy’n amserydd neu raglennydd ac yn thermostat ystafell. Mae’n gadael i chi osod gwahanol dymereddau ar wahanol adegau. 

Os oes gennych chi reolyddion clyfar, efallai y gallwch chi eu gosod ar ap ffôn clyfar. 

Gallwch ddefnyddio eich rheolyddion gwresogi i gadw eich cartref ar dymheredd cyfforddus heb ei wresogi’n fwy nag y mae angen i chi ei wneud. 

Mae’r rhan fwyaf o’n cyngor ynglŷn â rheolyddion gwresogi yn canolbwyntio ar ddefnyddio boeler a rheiddiaduron i wresogi eich cartref. Os ydych chi’n gwresogi eich cartref mewn ffordd wahanol, mae rhai pethau y dylech chi edrych arnyn nhw yn gyntaf.

Os oes gennych chi bwmp gwres

Peidiwch ag addasu unrhyw osodiadau nes byddwch chi’n gwybod sut bydd hynny’n effeithio ar y system. Os oes arnoch chi eisiau newid amseroedd gwresogi eich system, cysylltwch â’ch gosodwr a gofynnwch iddo am gyngor. Os ydych chi’n rhentu, cysylltwch a’ch landlord.

Yn lle hynny, gallwch ddefnyddio’r cyngor ar y dudalen yma i newid y gosodiadau ar thermostat a gwresogyddion eich ystafelloedd.

Os oes gennych chi system gwres o dan y llawr

Efallai y bydd eich system gwres o dan y llawr yn:

  • cael ei gwresogi gan ddefnyddio dŵr o foeler gwresogi canolog neu bwmp gwres

  • cael ei gwresogi gan ddefnyddio trydan 

Os yw eich system gwres o dan y llawr yn defnyddio dŵr wedi’i wresogi o’ch boeler, fel arfer bydd 2 reilen fetel â thiwbiau plastig yn y gwaelod, sef y 'maniffold'. Bydd mewn cwpwrdd fel arfer.

Manifold for underfloor heating system. There are 2 rows of metal rails. One has plastic caps on top. The other has gauges or meters on top. Plastic tubes come out of the bottom. Next to the rows of tubes and caps, there are several valves and dials to control the water coming in and out of the system.

Gallwch ddilyn y cyngor ar y dudalen yma i osod tymheredd ac amseroedd gwresogi ystafelloedd. Peidiwch â newid unrhyw reolyddion ar y maniffold, oni bai fod peiriannydd gwresogi yn dweud y dylech chi wneud hynny. 

Os yw eich system yn defnyddio trydan, fydd gennych chi ddim maniffold. Gallwch ddilyn y cyngor ar y dudalen yma i osod tymheredd ac amseroedd gwresogi ystafelloedd.

Os oes gennych chi wresogyddion stôr

Os ydych chi’n defnyddio gwresogyddion stôr, gallwch edrych sut i ddefnyddio eich gwresogyddion stôr yn iawn.

Os oes gennych chi wresogyddion cludadwy

Ceisiwch beidio â defnyddio gwresogyddion cludadwy am gyfnodau hir. Fel arfer mae’n costio llawer mwy i’w rhedeg na throi eich gwres canolog ymlaen neu ddefnyddio gwresogyddion stôr. 

Os nad yw eich boeler gwres canolog yn gweithio, dylech drwsio eich boeler neu gael un newydd os gallwch. Mae’n costio llawer mwy i ddefnyddio gwresogyddion cludadwy ar eu pen eu hunain.

Edrychwch beth i’w wneud os ydych chi’n meddwl bod eich boeler wedi torri.

Edrych ar gyfarwyddiadau eich rheolyddion gwres canolog

Edrychwch a oes cyfarwyddiadau wedi’u hysgrifennu ar eich boeler. Os oes angen i chi newid y rheolyddion ar eich thermostat ystafell, amserydd, rhaglennydd neu falfiau rheiddiaduron, mae’n bosibl bod y cyfarwyddiadau wedi eu hysgrifennu arnyn nhw. 

Os nad yw’r llawlyfr cyfarwyddiadau gennych chi, edrychwch amdano ar-lein – bydd angen i chi wybod pwy wnaeth eich boeler neu’r rheolyddion gwresogi. Efallai hefyd y gallwch chi ddod o hyd i fideos sy’n dangos sut i ddefnyddio eich rheolyddion.

Os nad ydych chi’n siŵr pwy wnaeth eich rheolyddion gwresogi, edrychwch ar eich boeler neu unrhyw reolyddion ar wahân am enw’r gwneuthurwr a rhif y model. Efallai y gwelwch chi sticer neu label gweithgynhyrchu. Gallai fod o dan, ar ochr neu y tu mewn i banel rheoli neu le dal batri.

Gosod y tymheredd gorau ar eich cyfer chi a’ch cartref

Mae eich thermostat ystafell yn synhwyro tymheredd yr ystafell y mae ynddi. Os bydd y tymheredd yn cyrraedd y lefel rydych wedi ei gosod, bydd y thermostat ystafell yn troi’r gwres canolog ar gyfer eich cartref cyfan i ffwrdd. Os bydd y tymheredd yn mynd yn oerach na’r lefel rydych wedi ei gosod, bydd yn troi’r gwres ymlaen eto ar gyfer eich cartref cyfan.

Os yw eich thermostat ystafell yn un cludadwy, peidiwch â’i gadw yn agos at reiddiadur neu y tu ôl i lenni neu ddodrefn. Dylech ei gadw mewn lleoliad canolog fel cyntedd/coridor.

Mae sut i osod y tymheredd yn dibynnu ar y ddyfais sydd gennych.

Os oes gennych chi un ddyfais sy’n amserydd neu raglennydd ac yn thermostat ystafell

Dylech osod 2 dymheredd ar gyfer eich cartref:

  • tymheredd cyfforddus pan fyddwch chi gartref ac yn effro

  • tymheredd is pan fyddwch chi allan neu’n cysgu – ‘tymheredd isaf’ 

Mae tymheredd rhwng 18 a 21 gradd Celsius yn gyfforddus fel arfer. Os oes gennych chi gyflwr iechyd a allai waethygu oherwydd yr oerfel, gofynnwch i’ch meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol ar ba dymheredd y dylech chi gadw eich cartref.

Os nad ydych chi’n siŵr pa dymheredd fydd yn gyfforddus, dechreuwch â’ch thermostat ystafell wedi’i osod ar 21 gradd Celsius. Yna ceisiwch osod eich thermostat ystafell 1 gradd Celsius yn is i weld a ydych chi’n dal i deimlo bod y tymheredd yn gyfforddus. Ailadroddwch y broses yma nes byddwch chi’n dod o hyd i’ch tymheredd cyfforddus isaf. Bydd hyn yn arbed ychydig o arian ar eich bil gwresogi.

Dylech osod y tymheredd isaf i fod 2 neu 3 gradd Celsius yn is na’ch tymheredd cyfforddus – ond peidiwch â’i osod yn is nag 16 gradd Celsius. Os yw eich cartref yn oerach nag 16 gradd Celsius, mae perygl i’ch cartref fynd yn damp ac i chithau fynd yn sâl.

Er enghraifft, gallech osod y tymheredd i 18 gradd Celsius ar yr adegau pan fyddwch chi gartref ac 16 gradd Celsius ar yr adegau pan fyddwch chi allan.

Ni fydd gosod tymereddau uwch yn gwneud i’ch cartref gynhesu’n gyflymach – y cyfan mae’n ei olygu yw y byddwch chi’n defnyddio mwy o ynni i wneud eich cartref yn boethach.

Os oes gennych chi amserydd neu raglennydd a thermostat ystafell ar wahân

Dylech osod tymheredd cyfforddus ar gyfer eich cartref. Mae tymheredd rhwng 18 a 21 gradd Celsius yn gyfforddus fel arfer. Os oes gennych chi gyflwr iechyd a allai waethygu oherwydd yr oerfel, gofynnwch i’ch meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol ar ba dymheredd y dylech chi gadw eich cartref.

Peidiwch â’i osod yn is nag 16 gradd Celsius. Os yw eich cartref yn oerach nag 16 gradd Celsius, mae perygl i’ch cartref fynd yn damp ac i chithau fynd yn sâl.

Os nad ydych chi’n siŵr pa dymheredd fydd yn gyfforddus, dechreuwch â’ch thermostat ystafell wedi’i osod ar 21 gradd Celsius. Yna ceisiwch osod eich thermostat ystafell 1 gradd Celsius yn is i weld a ydych chi’n dal i deimlo bod y tymheredd yn gyfforddus. Ailadroddwch y broses yma nes byddwch chi’n dod o hyd i’ch tymheredd cyfforddus isaf. Bydd hyn yn arbed ychydig o arian ar eich bil gwresogi.

Ni fydd gosod tymereddau uwch yn gwneud i’ch cartref gynhesu yn gyflymach – y cyfan mae’n ei olygu yw y byddwch chi’n defnyddio mwy o ynni i wneud eich cartref yn boethach.

Os nad oes gennych chi thermostat ystafell

Mae’n werth cael thermostat ystafell wedi’i osod os gallwch. Byddwch yn gallu rheoli’r tymheredd yn haws, a gallai arbed arian i chi ar eich biliau gwresogi.

Efallai y gallwch chi wneud cais am help â chost gosod rheolyddion gwresogi. Edrychwch a allwch chi gael help i dalu am welliannau i’ch cartref.

Os na allwch chi gael help â’r gost, gofynnwch i beiriannydd gwresogi neu drydanwr cofrestredig osod y thermostat ystafell. Dylent ei osod mewn lleoliad canolog yn eich cartref, er enghraifft cyntedd/coridor. 

Edrychwch a fyddan nhw’n codi tâl am roi dyfynbris ar gyfer y gwaith – a faint fyddan nhw’n ei godi.

Os oes gennych chi foeler nwy, dylech ddefnyddio peiriannydd cofrestredig Diogelwch Nwy.

Chwiliwch am beiriannydd ar wefan y Gofrestr Diogelwch Nwy.

Os ydych chi’n defnyddio trydanwr, gwnewch yn siŵr bod ganddo brofiad o weithio gyda rheolyddion gwresogi ar gyfer boeleri.

Chwiliwch am drydanwr cofrestredig ar wefan y Cynllun Person Cymwys Trydanol.

Gosod yr amseroedd pan fydd eich gwres ymlaen

Meddyliwch am yr adegau pan nad oes angen i’ch gwres fod ymlaen. Er enghraifft os ydych chi allan yn ystod y dydd, gallech osod y gwres i fod i ffwrdd neu ar y tymheredd isaf nes byddwch chi’n dod adref.

Mae’n cymryd amser i’ch cartref gynhesu ac oeri. Os nad ydych chi’n siŵr faint o amser mae’n ei gymryd, trïwch droi’r gwres ymlaen tua 30 munud cyn bod arnoch ei angen. Dylech ei droi i ffwrdd 30 munud cyn yr amser na fydd arnoch ei angen. Efallai y bydd angen i chi droi eich gwres ymlaen yn gynharach os yw eich cartref yn cymryd mwy o amser i gyrraedd tymheredd cyfforddus.

Os yw’r tywydd yn oerach nag arfer, efallai y bydd yn cymryd mwy o amser i’ch cartref gyrraedd tymheredd cyfforddus. Efallai y bydd angen i chi droi eich gwres ymlaen yn gynharach tra bydd y tywydd yn oer. Pan fydd y tywydd yn cynhesu eto, bydd angen i chi gofio newid yr amseroedd yn ôl.

Mae sut i osod yr amseroedd pan fydd eich gwres ymlaen yn dibynnu ar y ddyfais sydd gennych.

Os oes gennych chi un ddyfais sy’n amserydd neu raglennydd ac yn thermostat ystafell

Dylech osod eich dyfais i wresogi eich cartref:

  • i’r tymheredd cyfforddus ar yr adegau pan fyddwch chi gartref ac yn effro

  • i’r tymheredd isaf ar yr adegau pan fyddwch chi allan neu’n cysgu

Gwnewch yn siŵr bod eich gwres yn dilyn yr amseroedd rydych chi wedi eu gosod. Efallai fod y gosodiad wedi’i labelu fel ‘awto’ neu bod symbol cloc arno. Os byddwch chi’n ei adael ar osodiad gwahanol, efallai y bydd yn anwybyddu’r amseroedd rydych chi’n eu gosod.

Dylech hefyd wneud yn siŵr bod y cloc wedi’i osod ar yr amser cyfredol er mwyn iddo droi’r gwres ymlaen pan mae arnoch chi eisiau iddo wneud hynny.

Enghraifft

Mae gan Sam un ddyfais sy’n rhaglennydd ac yn thermostat ystafell. 

Ar ddiwrnod arferol, mae Sam yn codi am 6am. Mae’n gadael ei chartref am 8am i fynd i’r gwaith. 

Mae Sam yn gosod ei dyfais i wresogi ei chartref i:

  • 18 gradd Celsius gan ddechrau am 5:30am – mae hyn yn golygu bod ei chartref yn gynnes pan mae hi’n deffro

  • 16 gradd Celsius gan ddechrau am 7:30am – mae hyn yn golygu nad yw ei chartref yn cael ei gadw mor gynnes pan mae hi allan

Mae Sam yn cyrraedd adref am 6pm. Mae’n mynd i’w gwely am 10pm.

Mae Sam yn gosod ei dyfais i wresogi ei chartref i:

  • 18 gradd Celsius gan ddechrau am 5:30pm – mae hyn yn golygu bod ei chartref yn gynnes pan mae hi gartref

  • 16 gradd Celsius gan ddechrau am 9:30pm – mae hyn yn golygu nad yw ei chartref yn cael ei gadw mor gynnes pan mae hi’n cysgu

Os oes gennych chi amserydd neu raglennydd a thermostat ystafell ar wahân

Dylech osod y thermostat ystafell ar eich tymheredd cyfforddus. Gadewch y thermostat wedi’i osod ar y tymheredd yna.

Defnyddiwch yr amserydd neu’r rhaglennydd: 

  • i droi’r gwres ymlaen ar yr adegau pan fyddwch chi gartref ac yn effro

  • i droi’r gwres i ffwrdd pan fyddwch chi allan neu’n cysgu

Gwnewch yn siŵr bod eich gwres yn dilyn yr amseroedd rydych chi wedi eu gosod. Efallai fod y gosodiad wedi’i labelu fel ‘awto’ neu bod symbol cloc arno. Os byddwch chi’n ei adael ar osodiad gwahanol, efallai y bydd yn anwybyddu’r amseroedd.

Dylech hefyd wneud yn siŵr bod y cloc wedi’i osod ar yr amser cyfredol er mwyn iddo droi’r gwres ymlaen pan mae arnoch chi eisiau iddo wneud hynny.

Enghraifft

Mae gan Sam raglennydd a thermostat ystafell ar wahân. 

Ar ddiwrnod arferol, mae Sam yn codi am 6am. Mae’n gadael ei chartref am 8am i fynd i’r gwaith. 

Mae Sam yn gosod ei thermostat ystafell ar 18 gradd Celsius. Mae’n ei adael wedi’i osod ar y tymheredd yma.

Mae Sam yn gosod ei rhaglennydd:

  • i droi’r gwres ymlaen am 5:30am – mae hyn yn golygu bod ei chartref yn gynnes pan mae hi’n deffro

  • i droi’r gwres i ffwrdd am 7:30am – mae hyn yn golygu nad yw ei chartref yn cael ei gadw’n gynnes tra mae hi allan

Mae Sam yn cyrraedd adref am 6pm. Mae’n mynd i’w gwely am 10pm.

Mae Sam yn gosod ei rhaglennydd:

  • i droi’r gwres ymlaen am 5:30pm – mae hyn yn golygu bod ei chartref yn gynnes pan mae hi gartref

  • i droi’r gwres i ffwrdd am 9:30pm – mae hyn yn golygu nad yw ei chartref yn cael ei gadw’n gynnes tra mae hi’n cysgu

Edrych ar falfiau eich rheiddiaduron

Efallai fod gan eich rheiddiadur falfiau sy’n gadael i chi bennu pa mor gynnes mae pob ystafell yn mynd. 

Fel arfer mae gan falfiau llaw gap heb rifau arno:

A manual valve attached to a heated towel rail. The cap on the valve doesn’t have any text or numbers on it.

Fel arfer mae gan falfiau thermostatig rheiddiaduron (TRV) ddeial â rhifau neu symbolau:

A thermostatic radiator valve attached to a radiator pipe. The valve is set to show the number '3'.

Gellir rheoli falfiau clyfar rheiddiaduron (SRV) drwy ddefnyddio ap ar eich ffôn clyfar. Efallai y bydd gan yr SRV sgrin fach sy’n dangos y tymheredd, neu fotymau a deialau i’w newid:

A smart radiator valve attached to a radiator pipe. The valve has a small screen and a button. The top of the cap twists to control the temperature. The button is used for pairing with the smart phone app. The screen is blank.

Efallai y gallwch newid y gosodiad ar y falfiau er mwyn arbed ynni ac arbed arian ar eich bil gwresogi.

Peidiwch â’i newid i’r gosodiad isaf – bydd hyn yn troi’r rheiddiadur i ffwrdd. Hyd yn oed os nad ydych chi’n defnyddio llawer ar yr ystafell, dylech wresogi rhywfaint arni i rwystro lleithder a llwydni rhag datblygu. Bydd hefyd yn cadw eich pibellau rhag rhewi mewn tywydd oer.

Mae sut i newid y gosodiad ar y falfiau yn dibynnu ar y math o falf sydd ar eich rheiddiadur.

Os oes gennych chi falfiau llaw

Mae falfiau llaw yn gweithio fel tap i adael dŵr poeth i mewn i’r rheiddiadur. 

Trowch y cap i’r cyfeiriad gwrthglocwedd i wneud yr ystafell yn gynhesach neu i’r cyfeiriad clocwedd i’w gwneud yn oerach. 

Newidiwch y gosodiadau ar y falf i fod yn gynhesach yn yr ystafelloedd rydych chi’n eu defnyddio fwyaf. Er enghraifft, gallech osod y tymheredd i fod yn gynhesach yn yr ystafell fyw, ac yn oerach mewn ystafell wely sbâr.

Peidiwch â throi’r cap yr holl ffordd i’r cyfeiriad clocwedd – bydd hyn yn troi’r rheiddiadur i ffwrdd. Os yw eich thermostat ystafell yn yr un ystafell, mae troi’r rheiddiadur i ffwrdd yn golygu nad yw’r ystafell yn gallu cyrraedd y tymheredd sydd ar y thermostat. Gallai hyn achosi i’ch gwres fod ymlaen am ormod o amser.

Os oes gennych chi falfiau thermostatig rheiddiaduron

Mae falfiau thermostatig rheiddiaduron (TRV) yn gweithio fel thermostat ar wahân ar gyfer pob rheiddiadur. Maen nhw’n synhwyro’r tymheredd yn yr ystafell ac yn diffodd y rheiddiadur yn awtomatig pan fydd yr ystafell yn ddigon cynnes. 

Yr uchaf yw’r rhif rydych chi’n ei osod ar y deial, y cynhesaf fydd yr ystafell yn mynd. Ar ddeial â rhifau o 0 i 5, mae’r rhifau fel arfer yn golygu:

  • 0: i ffwrdd

  • 1: 10 gradd Celsius 

  • 2: 15 gradd Celsius

  • 3: 20 gradd Celsius

  • 4: 25 gradd Celsius

  • 5 neu uchaf: 30 gradd Celsius

Efallai hefyd y bydd gan eich TRV symbol pluen eira. Mae hwn yn dymheredd isel sy’n atal eich pibellau rhag rhewi. 

Os oes gan eich TRV rifau neu symbolau gwahanol, edrychwch ar y llawlyfr defnyddwyr. Os nad ydych chi’n gallu dod o hyd i’r llawlyfr defnyddwyr, edrychwch ar wefan y gweithgynhyrchwr.

Gosodwch y deial i fod yn gynhesach yn yr ystafelloedd rydych chi’n eu defnyddio fwyaf. Er enghraifft, gallech osod y deial i 3 yn yr ystafell fyw, ac 1 mewn ystafell wely sbâr. 

Os oes gorchudd ar eich rheiddiadur, bydd y TRV yn synhwyro’r tymheredd y tu mewn i orchudd y rheiddiadur. Gallai hyn fod yn gynhesach na’r rhif rydych chi’n ei osod ar y deial. Os nad ydych chi’n gallu tynnu gorchudd y rheiddiadur, efallai y bydd angen i chi osod y deial ychydig yn uwch er mwyn i chi allu gwresogi’r ystafell i’r tymheredd mae arnoch ei eisiau. 

Os yw eich thermostat ystafell yn yr un ystafell â’r TRV, gwnewch yn siŵr bod y TRV wedi’i osod yn uwch na’r tymheredd ar y thermostat ystafell. Os byddwch yn gosod y TRV ar dymheredd is na’r thermostat ystafell, ni fydd y rheiddiadur yn gallu gwresogi’r ystafell i’r tymheredd ar y thermostat ystafell. Mae hyn yn golygu y gallai eich gwres aros ymlaen am ormod o amser.

Os gallwch chi gael falfiau clyfar rheiddiaduron

Mae falfiau clyfar rheiddiaduron (SRV) yn gweithio fel thermostat ar wahân i bob rheiddiadur. Maen nhw’n synhwyro’r tymheredd yn yr ystafell ac yn troi’r rheiddiadur i ffwrdd yn awtomatig pan fydd yr ystafell yn ddigon cynnes. 

Fel rheol gallwch reoli’r tymheredd gydag ap ar ffôn clyfar. Efallai hefyd y gallwch chi osod tymereddau gwahanol ym mhob ystafell ar wahanol adegau o’r diwrnod. 

Gosodwch y tymheredd i fod yn gynhesach yn yr ystafelloedd rydych chi’n eu defnyddio fwyaf. Er enghraifft gallech osod y tymheredd i 21 gradd Celsius yn yr ystafell fyw, a 10 gradd Celsius mewn ystafell sbâr. 

Os oes gorchudd ar eich rheiddiadur, bydd yr SRV yn synhwyro’r tymheredd y tu mewn i orchudd y rheiddiadur. Gallai hyn fod yn gynhesach na’r tymheredd rydych chi’n ei osod. Os na allwch chi dynnu gorchudd y rheiddiadur, efallai y bydd angen i chi osod y tymheredd ychydig yn uwch er mwyn i chi allu gwresogi’r ystafell i’r tymheredd mae arnoch chi ei eisiau. 

Os yw eich thermostat ystafell yn yr un ystafell ag SRV, gwnewch yn siŵr bod yr SRV wedi’i osod yn uwch na’r tymheredd ar y thermostat. Os ydych chi’n gosod yr SRV i dymheredd is na’r thermostat ystafell, ni fydd y rheiddiadur yn gallu gwresogi’r ystafell i’r tymheredd sydd ar y thermostat ystafell. Mae hyn yn golygu y gallai eich gwres aros ymlaen am ormod o amser.

Edrych a allwch chi leihau tymheredd llif eich boeler

Mae’r ‘tymheredd llif’ yn golygu tymheredd y dŵr mae eich boeler yn ei ddefnyddio i wresogi:

  • eich rheiddiaduron

  • eich system gwres o dan y llawr

  • y dŵr yn eich silindr dŵr poeth, os oes gennych un

Os oes gennych chi bwmp gwres

Peidiwch â newid y tymheredd llif ar eich pwmp gwres – oni bai fod y gosodwr yn dweud wrthych chi ei bod yn iawn i chi wneud hynny. 

Os ydych chi’n meddwl bod eich pwmp gwres yn costio gormod i’w redeg neu nad yw’n gweithio’n iawn, cysylltwch â’ch gosodwr a gofyn iddo am gyngor. Os ydych chi’n rhentu, cysylltwch â’ch landlord.

Efallai y bydd y tymheredd llif yn uwch nag y mae angen iddo fod. Gallwch arbed arian os ydych chi’n ei osod ar dymheredd is.

Efallai y gallwch chi newid y tymheredd llif – mae’n dibynnu pa fath o foeler sydd gennych chi.

Edrych pa fath o foeler sydd gennych chi

Os oes gennych chi foeler a thanc neu silindr dŵr poeth ar wahân, mae’n debygol bod gennych 'foeler system' neu 'foeler rheolaidd'.

Mae’n debygol y bydd eich silindr dŵr poeth mewn cwpwrdd:

A tall cylinder with a pipe out of the top and pipes on its side. A thermostat box is attached to it with a strap.

Os nad oes gennych chi silindr dŵr poeth ar wahân, mae’n debygol bod gennych chi foeler cyfunol (combi).

Os oes gennych chi foeler system neu reolaidd

Mae’n ddiogel i chi droi tymheredd llif eich boeler i lawr i isafswm o 65 gradd Celsius. Peidiwch â gosod y tymheredd llif yn is na hyn – rhaid iddo fod yn 65 gradd Celsius o leiaf er mwyn atal bacteria niweidiol rhag tyfu y tu mewn i’ch silindr dŵr poeth.

Gosodwch y tymheredd gan ddefnyddio’r rheolyddion ar y boeler. Fel arfer mae’r rheolyddion wedi’u labelu â symbol rheiddiadur. Gallent fod yn ddeial â rhifau neu’n fotymau a sgrin. 

Edrychwch ar lawlyfr defnyddwyr y boeler os nad ydych chi’n siŵr. Os nad ydych chi’n gallu dod o hyd i’r llawlyfr defnyddwyr, edrychwch ar wefan y gweithgynhyrchwr.

Os nad ydych chi’n teimlo’n hyderus i wneud y newidiadau, gallwch ofyn i beiriannydd gwresogi wneud hyn pan fydd yn rhoi triniaeth i’ch boeler.

Os byddwch yn gostwng y tymheredd llif, efallai y bydd yn cymryd mwy o amser i wresogi’r dŵr yn y silindr i dymheredd diogel. Mae hyn yn golygu y dylech osod eich rheolyddion dŵr poeth i ddod ymlaen yn gynharach. 

Efallai hefyd y bydd yn cymryd mwy o amser i’ch cartref gyrraedd tymheredd cyfforddus. Gallwch osod eich amserydd neu raglennydd i droi’r gwres ymlaen yn gynharach. Mae hyn yn golygu bod ganddo fwy o amser i gynhesu eich cartref. Er enghraifft, gosodwch ef i ddod ymlaen awr cyn bod arnoch ei angen, yn hytrach na 30 munud.

Os yw eich cartref yn dal i gymryd gormod o amser i gynhesu, efallai y bydd angen i chi godi’r tymheredd llif eto.

Os oes gennych chi foeler cyfunol

Mae’n ddiogel i chi droi tymheredd llif eich boeler i lawr. Ni fydd yn newid y tymheredd mae eich dŵr tap yn cael ei wresogi iddo.

Os oes gennych chi reiddiaduron, trïwch osod y tymheredd llif ar 60 gradd Celsius.

Os oes gennych chi wres o dan y llawr, trïwch osod y tymheredd llif ar 50 gradd Celsius.

Os oes arnoch chi eisiau arbed rhagor o ynni, trïwch osod y tymheredd llif 5 gradd Celsius yn is i weld os ydych chi’n dal i weld y tymheredd yn gyfforddus. Ailadroddwch y broses yma nes byddwch chi’n canfod eich tymheredd cyfforddus isaf. Bydd hyn yn arbed ychydig o arian ar eich bil gwresogi.

Gosodwch y tymheredd gan ddefnyddio’r rheolyddion ar y boeler. Fel rheol mae’r rheolyddion wedi’u labelu â symbol rheiddiadur. Gallent fod yn ddeial â rhifau neu’n fotymau a sgrin. 

Edrychwch ar lawlyfr defnyddwyr y boeler os nad ydych chi’n siŵr. Os nad ydych chi’n gallu dod o hyd i’r llawlyfr defnyddwyr, edrychwch ar wefan y gweithgynhyrchwr.

Os nad ydych chi’n teimlo’n hyderus i wneud y newidiadau, gallwch ofyn i beiriannydd gwresogi wneud hyn pan fydd yn rhoi triniaeth i’ch boeler.

Os byddwch chi’n gostwng y tymheredd llif, gall gymryd mwy o amser i’ch cartref gyrraedd tymheredd cyfforddus. Gallwch osod eich amserydd neu raglennydd i droi’r gwres ymlaen yn gynharach. Mae hyn yn golygu bod ganddo fwy o amser i gynhesu eich cartref. Er enghraifft, gosodwch ef i ddod ymlaen awr cyn bod arnoch ei angen, yn hytrach na 30 munud.

Os yw eich cartref yn dal i gymryd gormod o amser i gynhesu, efallai y bydd angen i chi godi’r tymheredd llif eto.

Gosod eich rheolyddion dŵr poeth

Os oes gennych chi wres canolog, mae eich boeler yn cynhesu’r dŵr sy’n dod allan o’ch tapiau. 

Efallai y gallwch chi arbed ynni drwy ddefnyddio eich rheolyddion dŵr poeth. Mae’n bosibl y gallwch:

  • newid pryd mae’r dŵr yn cael ei gynhesu 

  • gostwng y tymheredd mae eich dŵr yn cael ei gynhesu iddo

Os oes gennych chi bwmp gwres

Peidiwch â newid yr amseroedd rhaglen na’r tymheredd dŵr ar eich pwmp gwres – oni bai fod eich gosodwr yn dweud wrthych bod yn iawn i chi wneud hynny. 

Os ydych chi’n meddwl bod eich pwmp gwres yn costio gormod i’w redeg neu nad yw’n gweithio’n iawn, cysylltwch â’ch gosodwr a gofynnwch iddo am gyngor. Os ydych chi’n rhentu, cysylltwch â’ch landlord.

Mae beth allwch chi ei newid yn dibynnu ar y math o foeler sydd gennych.

Os ydych chi’n cynhesu eich dŵr poeth â gwresogyddion troch (immersion heaters) neu’n defnyddio cawodydd trydan, dydyn nhw ddim yn defnyddio eich boeler i gynhesu’r dŵr – maen nhw’n defnyddio trydan. Edrychwch sut i arbed arian wrth ddefnyddio cyfarpar trydanol.

Edrych pa fath o foeler sydd gennych chi

Os oes gennych chi foeler a thanc neu silindr dŵr poeth ar wahân, mae’n debygol bod gennych ‘foeler system’ neu 'foeler rheolaidd'.

Mae’n debygol y bydd eich silindr dŵr poeth mewn cwpwrdd:

A tall cylinder with a pipe out of the top and pipes on its side. A thermostat box is attached to it with a strap.

Os nad oes gennych chi silindr dŵr poeth ar wahân, mae’n debygol bod gennych chi foeler cyfunol.

Edrych a allwch chi newid pryd mae eich dŵr yn cael ei gynhesu

Efallai y gallwch chi newid pryd mae eich dŵr yn cael ei gynhesu – mae’n dibynnu pa fath o foeler sydd gennych chi.

Os oes gennych chi foeler system neu reolaidd

Mae boeler system neu reolaidd yn cynhesu’r silindr dŵr poeth. Mae’r silindr yn cynhesu eich dŵr tap yn araf ac yn ei gadw’n boeth nes bydd arnoch ei angen.

Gallwch osod yr amseroedd pan gaiff eich dŵr ei gynhesu drwy ddefnyddio amserydd neu raglennydd.

Os oes gennych chi amserydd neu raglennydd dŵr poeth mae’n bosibl:

  • ei fod yn rhan o’r un ddyfais ag sy’n rheoli eich gwres

  • ei fod yn ddyfais ar wahân i’ch amserydd neu raglennydd gwresogi

Efallai y bydd angen i chi osod eich amserydd neu raglennydd i gynhesu eich dŵr poeth fwy nag unwaith y diwrnod - er enghraifft, os ydych chi’n cael cawod yn y bore fel arfer a bod rhywun arall yn eich cartref yn cael bàth gyda’r nos.

Mae’n cymryd amser i’r silindr gynhesu digon o ddŵr poeth. Mae’n debygol y bydd angen i chi ddechrau cynhesu eich dŵr 1 neu 2 awr cyn bydd arnoch ei angen, ond mae’n dibynnu ar faint eich silindr a pha mor dda mae wedi cael ei inswleiddio. 

Mae’n ddiogel i wneud newidiadau eich hunan. Os nad ydych chi’n teimlo’n hyderus i wneud y newidiadau, gallwch ofyn i beiriannydd gwresogi wneud hyn pan fydd yn rhoi triniaeth i’ch boeler.

Peidiwch â gadael eich dŵr poeth ymlaen drwy’r adeg. Bydd yn defnyddio mwy o ynni a bydd eich biliau gwresogi yn uwch.

Enghraifft

Maryam gets up at 7am. She has a shower and uses the rest of the water during the day for washing up. 

Maryam’s sister usually has a shower at 9pm. 

Maryam sets her programmer to:

  • heat her hot water at 6am, and turn off at 7am

  • heat her hot water at 8pm, and turn off at 9pm

Os oes gennych chi hefyd wresogydd troch

Efallai fod gan eich silindr dŵr poeth wresogydd troch hefyd i gynhesu rhagor o ddŵr poeth pan mae arnoch ei angen.

Mae gwresogydd troch yn defnyddio trydan i gynhesu eich dŵr. Mae’n edrych fel cap plastig crwn yn dod allan o’r silindr â chebl trydanol ynghlwm wrtho. 

Gall gwresogyddion troch fod yn gostus iawn i’w rhedeg. Dylech ddefnyddio eich boeler i gynhesu’r rhan fwyaf o’r dŵr rydych chi’n ei ddefnyddio, a pheidio â defnyddio’r gwresogydd troch yn aml. 

Os byddwch chi’n rhedeg allan o ddŵr poeth ac yn methu ag aros i’ch boeler gynhesu’r silindr, gallwch osod y gwresogydd troch i ddod ymlaen am gyfnod byr. Er enghraifft, gallech ei roi ymlaen am 30 munud.

Efallai y bydd gan eich gwresogydd troch ei amserydd ei hun â botwm cyfnerthu (‘boost’) neu switsh i’w droi ymlaen neu i ffwrdd. Os oes ganddo switsh, cofiwch roi’r switsh i ffwrdd pan fydd gennych ddigon o ddŵr poeth.

If your central heating boiler isn’t working

It’s much more expensive to use your immersion heater on its own if your boiler isn’t working. You should fix or replace your boiler if you can. 

Check what to do if you think your boiler is broken.

Os oes gennych chi foeler cyfunol

Mae boeler cyfunol yn cynhesu dŵr tap pan fyddwch chi’n troi’r tap dŵr poeth ymlaen. 

Efallai y bydd gan eich boeler osodiad 'rhag-wresogi' (pre-heat). Mae hyn yn cadw’r boeler yn gynnes fel bod eich dŵr yn mynd yn boeth yn gyflymach pan fyddwch chi’n troi’r tap dŵr poeth ymlaen. 

Gallwch arbed ynni drwy roi gosodiad ‘rhag-wresogi’ y boeler i ffwrdd neu ei roi ar ‘eco’. Ond bydd yn cymryd mwy o amser i’ch dŵr tap fynd yn boeth, yn enwedig os yw eich gwres wedi’i ddiffodd.

Mae’n ddiogel i wneud newidiadau eich hunan. Os nad ydych chi’n teimlo’n hyderus i wneud y newidiadau, gallwch ofyn i beiriannydd gwresogi wneud hyn pan fydd yn rhoi triniaeth i’ch boeler.

Tra byddwch chi’n aros i’r dŵr tap boethi, gallwch gasglu’r dŵr oerach mewn jwg neu gan dyfrio wrth y sinc. Gallwch ei ddefnyddio i rywbeth arall, er enghraifft dyfrio planhigion.

Edrych a allwch chi newid tymheredd eich dŵr

Gallai eich dŵr tap fod yn boethach nag y mae angen iddo fod.

Efallai y gallwch newid tymheredd y dŵr – mae’n dibynnu pa fath o foeler sydd gennych.

Os oes gennych chi foeler system neu reolaidd

Dylech fod â thermostat i reoli tymheredd eich dŵr poeth. Fel arfer mae ynghlwm wrth y silindr dŵr poeth. 

Mae’n ddiogel i chi droi’r tymheredd i lawr i isafswm o 60 gradd Celsius. Peidiwch â’i osod yn is – rhaid i’ch dŵr tap fod wedi’i gynhesu i o leiaf 60 gradd Celsius i atal bacteria niweidiol rhag tyfu yn eich silindr dŵr poeth.

Os oes gennych chi foeler cyfunol

Gallwch osod y tymheredd gan ddefnyddio’r rheolyddion ar y boeler. Fel arfer mae’r rheolyddion wedi’u labelu â symbol tap. Gallent fod yn ddeial â rhifau neu’n fotymau a sgrin.

Edrychwch ar y llawlyfr defnyddwyr ar gyfer eich boeler os nad ydych chi’n siŵr. Os nad ydych chi’n gallu dod o hyd i’r llawlyfr defnyddwyr, edrychwch ar wefan y gweithgynhyrchwr.

Gallech drio gosod y tymheredd ar 50 gradd Celsius i ddechrau. Gallwch ei osod yn is er mwyn arbed mwy o ynni ac arbed arian ar eich biliau gwresogi, ond efallai na fydd y dŵr yn teimlo’n ddigon poeth.

Inswleiddio eich silindr dŵr poeth

Bydd deunydd inswleiddio yn helpu eich silindr i gynhesu’r dŵr yn gyflymach a’i gadw’n boeth am fwy o amser. 

Gallwch brynu siaced silindr dŵr poeth o siop DIY neu archebu un ar-lein. Mae’n rhad a gallwch ei gosod eich hun. Mewn blwyddyn, mae’n debygol y byddwch chi’n arbed mwy o arian ar eich biliau gwresogi na chost y siaced.

Os oes gennych chi ewyn inswleiddio ar eich silindr, gallwch ychwanegu siaced ar ei ben i arbed rhagor o ynni ac arbed mwy o arian ar eich biliau gwresogi. 

Os oes gennych chi siaced wedi’i gosod ar eich tanc yn barod, gwnewch yn siŵr ei bod yn 80mm o leiaf o drwch. Os nad yw, ystyriwch brynu un newydd. Byddwch yn arbed rhagor o ynni ac yn arbed arian ar eich biliau gwresogi.

Defnyddio eich rheiddiaduron yn effeithiol

Os oes gennych chi reiddiaduron, dylech wneud yn siŵr eich bod yn eu defnyddio’n effeithiol. Dylech:

  • gael gwared ar aer sydd wedi’i ddal yn eich rheiddiaduron – gelwir hyn yn ‘waedu’ rheiddiaduron

  • cadw’r ardal o gwmpas rheiddiaduron yn glir

Efallai hefyd y bydd arnoch eisiau gosod adlewyrchydd rheiddiadur os nad yw eich cartref wedi’i inswleiddio’n dda.

Rhyddhau aer sydd wedi cael ei ddal yn eich rheiddiaduron  

Os oes aer wedi cael ei ddal yn eich rheiddiaduron, fyddan nhw ddim yn gwresogi eich ystafell gymaint ag y dylen nhw. Gallwch ryddhau’r aer sydd wedi cael ei ddal drwy waedu’r rheiddiaduron.

Mae’n werth gwaedu eich rheiddiaduron unwaith y flwyddyn. Efallai y byddech chi’n hoffi gwneud hyn cyn rhoi eich gwres ymlaen pan fydd y tywydd yn oeri.

Cyn i chi ddechrau, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod sut i ailbwyseddu eich boeler. Efallai y bydd angen i chi wneud hyn ar ôl gwaedu eich rheiddiaduron – edrychwch ar gyfarwyddiadau eich boeler os nad ydych chi’n siŵr sut i wneud.

Edrychwch am y falf gwaedu – fel arfer mae ar ochr y rheiddiadur, yn y top. Fel arfer mae’n edrych fel falf fach sgwâr neu falf â hollt ynddi. Gan ddibynnu ar y siâp, bydd angen i chi ddefnyddio sgriwdreifar penfflat neu allwedd rheiddiadur. Os nad oes gennych chi allwedd rheiddiadur, gallwch brynu un ar-lein neu mewn siop DIY.

Gwnewch yn siŵr bod eich gwres i ffwrdd. Dechreuwch â’r rheiddiadur pellaf oddi wrth y boeler. Dylech ddilyn y camau hyn i waedu pob rheiddiadur:

  • Gwnewch yn siŵr bod y rheiddiadur yn oer.

  • Rhowch dywel o dan y falf waedu neu o’i hamgylch i ddal unrhyw ddŵr sy’n diferu ohoni.

  • Rhowch y sgriwdreifar neu’r allwedd rheiddiadur yn y falf waedu. Trowch ef yn araf i’r cyfeiriad gwrthglocwedd. Dylech glywed sŵn hisian wrth i aer ddianc. Os yw’r falf yn stiff iawn, peidiwch â’i gorfodi.

  • Pan fydd dŵr yn dechrau dod allan, caewch y falf drwy droi’r allwedd i’r cyfeiriad clocwedd.

  • Gwnewch yn siŵr bod y falf wedi’i chau’n iawn – ni ddylai unrhyw ddŵr fod yn dod ohoni. Os nad ydych chi’n gallu ei chau yn dynnach a bod y falf yn gollwch, cysylltwch â phlymwr. Os oes gennych chi dâp plymwr, gallwch ddefnyddio hwn i atal y dŵr tra byddwch chi’n aros am y plymwr. 

Pan fyddwch chi wedi gwaedu pob rheiddiadur, edrychwch a oes angen i chi ailbwyseddu eich boeler. 

Pan fyddwch chi’n barod, trowch y gwres ymlaen a gwnewch yn siŵr bod pob rheiddiadur yn cynhesu. 

Peidio â gorchuddio rheiddiaduron

Mae rheiddiadur yn cynhesu’r aer sydd o’i gwmpas. Mae’r aer cynnes yma’n cynhesu’r ystafell. Cadwch yr ardal o gwmpas eich rheiddiaduron yn glir fel bod aer cynnes yn gallu llifo. Bydd eich ystafell yn cynhesu’n gyflymach a byddwch yn defnyddio llai o ynni wrth wresogi eich cartref.

Symudwch ddodrefn oddi wrth y rheiddiadur – ceisiwch symud dodrefn led 1 rheiddiadur o leiaf i ffwrdd. 

Os oes gorchudd ar eich rheiddiadur, tynnwch ef i ffwrdd os gallwch.

Os oes gennych chi lenni, gwnewch yn siŵr nad ydyn nhw’n hongian dros eich rheiddiadur neu o’i flaen. Os ydyn nhw, mae’n werth eu cyfnewid am lenni byrrach.

Defnyddio adlewyrchydd rheiddiadur

Mae adlewyrchyddion rheiddiaduron yn baneli adlewyrchu gwres rydych chi’n eu rhoi y tu ôl i’ch rheiddiaduron. Maen nhw’n gallu helpu i adlewyrchu ychydig o wres yn ôl i’r ystafell. Fel arfer maen nhw wedi’u gwneud o fath arbennig o ffoil. 

Maen nhw’n gweithio orau os ydych chi’n eu defnyddio ar waliau allanol. Does dim llawer o bwrpas eu gosod os yw eich cartref wedi’i inswleiddio’n dda, neu os yw eich rheiddiaduron ar waliau rhwng ystafelloedd. 

Fel arfer gallwch osod adlewyrchydd rheiddiadur eich hun ac mae’n hawdd ei dynnu i ffwrdd.

Gallwch brynu pecyn adlewyrchydd rheiddiadur neu wneud un eich hun o ddeunydd inswleiddio ffoil. Darllenwch y cyfarwyddiadau ar y pecyn i wneud yn siŵr bod modd ei ddefnyddio fel ‘rhwystr gwres pelydrol’ neu ei fod yn adlewyrchu gwres pelydrol.

Inswleiddio pibellau gwres canolog a dŵr poeth

Gallai inswleiddio pibellau gwres canolog a dŵr poeth leihau swm y gwres sy’n cael ei golli, ac mae hynny’n eich helpu i arbed ynni ac arbed arian ar eich biliau gwresogi.

Does dim angen i chi inswleiddio pob pibell – gofynnwch i blymwr neu beiriannydd gwresogi ydy hi’n werth inswleiddio unrhyw rai o’ch pibellau. Mae inswleiddio yn gweithio orau os yw eich pibellau’n mynd drwy le oerach, fel atig neu garej. 

Gallwch brynu tiwbiau inswleiddio a’u gosod nhw eich hun, neu gallwch ofyn i blymwr neu beiriannydd gwresogi osod deunydd inswleiddio.

Cadw gwres yn eich cartref

Mae’n bosibl y gallwch gadw gwres yn eich cartref drwy ddefnyddio dulliau sydd am ddim neu sydd â chost isel.

Gall hyn arbed arian i chi gan na fydd arnoch angen eich gwres ymlaen am gymaint o amser.

Cau llenni a bleinds yn y nos a’u hagor yn ystod y dydd

Caewch eich llenni a’ch bleinds pan fydd hi’n tywyllu. Mae hyn yn helpu i gadw’r gwres i mewn yn y nos. 

Cadwch eich llenni neu fleinds ar agor pan fydd hi’n olau. Mae hyn yn gadael i’r haul gynhesu’r ystafell.

Ychwanegu gwydr eilaidd i’ch ffenestri

Mae gwydr eilaidd yn haen ychwanegol y gallwch ei hychwanegu at eich ffenestri er mwyn lleihau swm y gwres sy’n dianc drwyddyn nhw.

Os oes gennych chi ffenestri gwydr sengl neu ffenestri gwydr dwbl hŷn, efallai y bydd yn rhatach i chi ychwanegu gwydr eilaidd na chael ffenestri newydd drwy’r tŷ i gyd. 

Mae hefyd yn werth ystyried ychwanegu gwydr eilaidd os nad ydych chi’n gallu cael ffenestri newydd. Gallai hyn fod oherwydd bod eich cartref yn adeilad rhestredig neu eich bod yn byw mewn ardal sydd â chyfyngiadau cynllunio ychwanegol.

Gallech ychwanegu:

  • ffilm gwydr eilaidd -  deunydd clir, tenau

  • dalenni gwydr eilaidd plastig – plastig clir, mwy trwchus 

  • ail ffenestr – ffrâm a phaen arall wedi’i gosod y tu mewn i’r ffenestri presennol

Chwiliwch ar-lein am ‘secondary glazing film’ neu ‘secondary glazing kits’ i ddarganfod ble gallwch chi brynu’r rhain.

Fel arfer gallwch ychwanegu ffilm neu ddalenni gwydr eilaidd eich hun. Mae’n hawdd eu tynnu i ffwrdd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn eu tynnu’n ofalus er mwyn osgoi difrod i ffrâm y ffenestr. Fel arfer gallwch ailddefnyddio’r dalenni, ond allwch chi ddim ailddefnyddio’r ffilm. Os ydych chi’n defnyddio eich ffenestr fel dihangfa dân neu er mwyn awyru, mae’n well defnyddio dalenni.

Gallai ail ffrâm fod yn ddull mwy effeithlon o atal gwres rhag dianc drwy eich ffenestri na phecynnau neu ffilm gwydr eilaidd. Mae’n ddrutach ac fel arfer bydd angen i chi gael gosodwr gwydr i’w hychwanegu at eich ffenestr. Edrychwch sut mae dod o hyd i osodwr.

Dod o hyd i ffyrdd o atal drafft dieisiau 

Mae drafft yn cael ei achosi wrth i aer cynnes ddianc drwy fylchau a chraciau yn eich cartref. 

Gallwch leihau drafft yn eich cartref drwy gau rhai o’r bylchau sy’n gadael aer drwodd. Er enghraifft, dylech edrych am ddrafftiau o:

  • ffenestri 

  • drysau

  • simnai nad ydych chi’n ei defnyddio

  • estyll llawr a byrddau sgyrtin

  • agoriad yr atig

  • agoriadau mewn waliau ar gyfer pibellau 

Darganfyddwch sut i atal drafft ar wefan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni.

Gwneud yn siŵr bod rhywfaint o aer yn dal i lifo drwy eich cartref

Ar ôl i chi atal drafft dieisiau, gwnewch yn siŵr bod aer llaith a hen yn gallu llifo allan. Y term am hyn yw ‘awyru’ eich cartref. 

Mae anadlu aer llaith a hen yn ddrwg i’ch iechyd. Bydd awyru da yn gwneud yr aer yn eich cartref yn iachach ac yn fwy diogel i’w anadlu, a dim ond ychydig bach o wres fydd yn cael ei golli. Bydd hefyd yn eich helpu i osgoi problemau ag anwedd/angar a llwydni. 

Efallai fod gennych nodweddion yn eich cartref i’ch helpu i sicrhau ei fod yn cael ei awyru’n dda. Er enghraifft, efallai fod gennych:

  • wyntyllau echdynnu (extractor fans) – mae’r rhain fel arfer mewn ystafelloedd ymolchi neu geginau

  • fentiau bach ar ffenestri neu ddrysau sy’n cael eu galw’n holltau awyru (trickle vents)

  • agoriadau bach mewn waliau sy’n cael eu galw’n ddwythellau (ducts) neu frics aer

Dylech ddefnyddio’r wyntyll echdynnu bob tro y byddwch chi’n coginio, yn cael bàth neu’n cael cawod. Os oes gan yr ystafell ffenestr hefyd, dylech ei hagor.

Mae’n bwysig cadw gwyntyllau echdynnu yn lân er mwyn iddyn nhw weithio’n iawn. Edrychwch sut i lanhau gwyntyll echdynnu eich ystafell ymolchi ar wefan Electrical Safety First.

Os oes gennych chi holltau awyru, cadwch nhw ar agor a gwnewch yn siŵr bod yr ardal o gwmpas agoriadau yn glir. 

Os nad oes gennych chi wyntyllau echdynnu, awyrellau neu ddwythellau mewn ystafell, gallwch hefyd awyru eich cartref drwy agor ffenestri am ychydig funudau bob diwrnod. Mae hyn yn arbennig o bwysig os ydych chi’n sylwi ar anwedd/angar mewn ystafell, er enghraifft ar ffenestr eich ystafell wely yn y bore.

Os nad oes gwyntyll echdynnu yn eich ystafell ymolchi neu gegin, efallai y byddech chi’n hoffi gofyn i rywun osod un. 

Mae’n werth cael holltau awyru ar eich ffenestri os nad oes rhai yn eich ystafell yn barod.

Os oes angen i chi wneud unrhyw un o'r newidiadau hyn i'ch cartref, darllenwch ein cyngor ynghylch dod o hyd i osodwr.

Dylech hefyd:

  • roi caead ar eich sosban pan fyddwch chi’n coginio 

  • cadw drws eich ystafell ymolchi neu gegin ar gau fel nad yw aer cynnes, llaith yn mynd i weddill eich cartref

  • cadw dodrefn ychydig fodfeddi oddi wrth y waliau – mae hyn yn gadael i aer lifo y tu ôl i ddodrefn

Os ydych chi’n golchi dillad gartref, rhowch eich dillad i hongian mewn ystafell sydd wedi’i hawyru’n dda. Er enghraifft, cegin, ystafell ymolchi neu ystafell amlbwrpas. Os yw’r ddaear yn sych, gallech roi eich dillad allan i sychu.

Os ydych chi’n dal i gael problemau ag anwedd/angar a llwydni, dylech gysylltu â rhywun cyn gynted ag y gallwch. Mae’n bwysig delio gyda’r broblem cyn iddi fynd yn waeth.

Os ydych chi’n rhentu eich cartref, bydd eich landlord fel arfer yn gyfrifol am ddelio gyda lleithder/tamprwydd. Edrychwch beth i’w wneud os oes gennych chi leithder neu lwydni yn eich tŷ rhent.

Os ydych chi’n berchen ar eich cartref eich hun, efallai y bydd angen i chi gael cyngor gan arbenigwr lleithder. Edrychwch sut i ddod o hyd i arbenigwr lleithder ar wefan Property Care Association.

Defnyddio blancedi trydan

Gallwch ddefnyddio blancedi trydan i gadw eich hun yn gynnes heb droi’r gwres i fyny. Maen nhw’n defnyddio trydan, ond yn costio dim ond tua 3c yr awr i’w rhedeg.

Dylech wneud yn siŵr bod unrhyw flanced drydan sydd gennych yn ddiogel i’w defnyddio. Edrychwch ar y label a gwnewch yn siŵr bod marc diogelwch arni.

Efallai y bydd marc diogelwch ‘UKCA’ arni:

Neu farc diogelwch ‘CE’ efallai:

A CE safety mark. It's has the letters 'C E' in a row.

Os nad oes un o’r marciau hyn ar eich blanced, peidiwch â’i defnyddio.

Edrychwch sut i ddefnyddio eich blanced drydan yn ddiogel ar wefan Electrical Safety First.

Grantiau ar gyfer gwelliannau cartref er mwyn arbed ynni

Gallwch arbed arian drwy wneud eich cartref yn fwy effeithlon o ran ynni.

Efallai hefyd y gallwch gael help â chost pethau fel deunydd inswleiddio, boeler newydd neu welliannau i’ch system wresogi.

Edrychwch a allwch gael help i wneud gwelliannau arbed ynni i’ch cartref

Os ydych chi’n cael anhawster i dalu eich biliau ynni

Dylech eedrych beth i’w wneud os ydych chi’n cael anhawster i dalu eich biliau ynni.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 21 Rhagfyr 2022