Cael mesurydd clyfar wedi’i osod

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Gall mesurydd clyfar anfon darlleniadau mesurydd nwy a thrydan yn awtomatig at eich cyflenwr, sy’n golygu eu bod yn gallu codi’r swm cywir arnoch am yr ynni rydych chi wedi’i ddefnyddio. Gallwch newid pa mor aml mae darlleniadau yn cael eu hanfon.

Ni fydd yn rhaid i chi dalu i gael mesurydd clyfar wedi’i osod.

Ni fydd mesurydd clyfar yn arbed arian i chi’n awtomatig 

Bydd yn rhaid i chi fod yn rhagweithiol i leihau eich costau ynni. Y ffordd orau o wneud hyn yw defnyddio’r ‘sgrin ynni cartref’ digidol (IHD) a fydd yn cael ei gynnig i chi gyda mesurydd clyfar i gadw golwg ar faint o ynni rydych chi’n ei ddefnyddio. Gallwch chi wedyn geisio ei leihau. Darllenwch fwy am arbed arian ar eich biliau ynni.

Pryd byddwch yn cael mesurydd clyfar

Dylai eich cyflenwr gysylltu â chi i roi gwybod pryd yn union y gallwch gael un. Os nad ydynt yn gwneud hyn, gallwch gysylltu â nhw i ofyn pryd y gallai hynny fod.

Os byddwch yn cael mesurydd newydd wedi’i osod neu os bydd hen fesurydd yn cael ei newid am un newydd, mae’n debyg y bydd eich cyflenwr yn rhoi mesurydd clyfar i chi.

Gallwch gysylltu â’ch cyflenwr i weld a fyddant yn gosod un yn eich cartref cyn gynted â phosibl.

Os oes gennych chi fesurydd trydan radio teleswitsh (RTS) neu teleswitsh dynamig (DTS)

Bydd eich cyflenwr yn cysylltu â chi ynghylch newid eich mesurydd RTS neu fesurydd DTS am fesurydd clyfar. Mae hyn oherwydd bod yr amledd radio maen nhw’n ei ddefnyddio yn cael ei ddiffodd. Ewch i weld beth i’w wneud os oes gennych chi fesurydd trydan radio teleswitsh neu un teleswitsh dynamig.

Gwrthod mesurydd clyfar

Does dim rhaid i chi gymryd mesurydd clyfar os nad ydych chi eisiau un. Os bydd eich cyflenwr yn dweud wrthych fod yn rhaid i chi gael un, cysylltwch â llinell gymorth i ddefnyddwyr Cyngor ar Bopeth.

Os byddwch yn gwrthod mesurydd clyfar, efallai na fydd bob tariff ar gael i chi. Mae hyn oherwydd efallai yn y dyfodol y bydd y tariffau rhatach a gynigir gan gyflenwyr dim ond ar gael i gwsmeriaid sydd â mesuryddion clyfar.

Gallwch ofyn i’ch cyflenwr osod eich mesurydd clyfar gyda’r swyddogaeth ychwanegol wedi’i diffodd. Mae hyn yn golygu y bydd yn gweithio yn yr un ffordd â’ch mesurydd presennol, ac na fydd yn anfon unrhyw wybodaeth at eich cyflenwr. Cysylltwch â’ch cyflenwr i weld a yw’n gallu gwneud hyn.

Os bydd eich cyflenwr yn dweud wrthych fod eich mesurydd wedi dod i ben a bod angen mesurydd clyfar yn ei le, mae’n werth holi cyn i chi gytuno.

Os bydd eich cyflenwr yn dweud bod eich mesurydd trydan wedi dod i ben

Mae’n bosibl bod gan eich mesurydd trydan ddyddiad dod i ben. Mae hyn oherwydd y gall eich mesurydd ddod yn llai cywir dros amser ac mae’n bosibl y byddwch yn cael biliau anghywir. Bydd eich cyflenwr am newid y mesurydd ar ôl iddo ddod i ben.

Ni fydd eich mesurydd yn dod i ben os oes ganddo ardystiad MID.

Gweld a oes gan eich mesurydd farc ardystiad MID

Os oes gan eich mesurydd ardystiad MID, bydd ganddo farc MID. Chwiliwch am ‘CE’ ar eich mesurydd ac yna ‘M’ a 2 rif mewn blwch. Ar ôl hyn, mae 4 rhif arall.

Enghraifft A digital electric meter with a MID marking on the left hand side. The MID mark is CE M18 0120.

Gellir gweld y marc MID ar ochr chwith y mesurydd hwn, tua hanner ffordd i lawr. Mae’n dangos “CE M18 0120”.

Os oes gan eich mesurydd ardystiad MID, dywedwch wrth eich cyflenwr a gofyn iddo pam ei fod am roi un newydd yn ei le.

Os nad oes gan eich mesurydd ardystiad MID

Gall eich mesurydd ddod i ben.

I wirio pryd mae eich mesurydd trydan yn dod i ben, bydd angen y canlynol arnoch chi:

  • ‘dyddiad ardystio’ eich mesurydd trydan – mae hwn wedi’i nodi ar eich mesurydd

  • gwneuthuriad a model eich mesurydd trydan

Ewch i weld am ba hyd mae eich mesurydd wedi’i ardystio drwy chwilio am wneuthuriad a model eich mesurydd trydan ar GOV.UK.

Mae Colofn C yn rhoi gwybod i chi am ba hyd mae eich mesurydd wedi ei ardystio ar ei gyfer mewn blynyddoedd. Bydd angen i chi ychwanegu’r blynyddoedd hyn at eich dyddiad ardystio. Bydd hyn yn rhoi i chi’r dyddiad y bydd eich mesurydd yn dod i ben.

Enghraifft

Dyddiad ardystio Nasreen ar gyfer ei mesurydd trydan yw 18 Mawrth 2004. Cafodd y mesurydd ei ardystio am 20 mlynedd. Mae hyn yn golygu bod mesurydd Nasreen wedi dod i ben ar 18 Mawrth 2024.

Os bydd eich cyflenwr yn dweud bod eich mesurydd nwy wedi dod i ben

Nid oes gan eich mesurydd nwy ddyddiad dod i ben. Os ydych chi wedi cael gwybod bod eich mesurydd nwy wedi dod i ben a bod angen ei newid, gofynnwch am ragor o fanylion. 

Efallai fod rheswm arall pam mae eich cyflenwr eisiau newid eich mesurydd nwy. Er enghraifft, efallai fod problem hysbys gyda’ch math chi o fesurydd nwy – er bod hyn yn anghyffredin iawn.

Os nad ydych chi’n hapus â’i reswm dros fod eisiau newid eich mesurydd nwy, dylech gwyno wrth eich cyflenwr.

Os oes angen i chi newid eich hen fesurydd am ei fod yn anniogel, efallai na fyddwch yn gallu gwrthod mesurydd clyfar. Mae hyn oherwydd nad oes llawer o hen fesuryddion yn cael eu gwneud y dyddiau hyn - efallai nad oes gan eich cyflenwr unrhyw un mewn stoc.

Os ydych yn cael mesurydd clyfar yn lle eich mesurydd trydan, gallech ystyried newid eich mesurydd nwy am fesurydd nwy clyfar ar yr un pryd.

Newid cyflenwr

Os oes gennych chi fesurydd clyfar, mae’n dal yn bosib i chi newid cyflenwr ynni. Cyn i chi newid, mae'n syniad da gweld a fydd eich mesurydd yn gweithio yn y 'modd clyfar' ar ôl newid.

Mae modd clyfar yn golygu bod eich mesurydd yn anfon darlleniadau at eich cyflenwr yn awtomatig.

Ewch i weld a all eich mesurydd weithio yn y modd clyfar ar ôl newid gan ddefnyddio ein hofferyn.

Ewch i weld a all eich mesurydd weithio yn y modd clyfar ar ôl newid gan ddefnyddio ein hofferyn.

Os ydych yn penderfynu cael mesurydd clyfar

Trefnwch apwyntiad gyda’ch cyflenwr i osod mesurydd clyfar.

Dylai eich cyflenwr gynnig apwyntiad i chi cyn gynted ag y bo modd. Mae hyn yn dibynnu ar a yw’r apwyntiad yn fater brys a pha mor brysur yw’ch cyflenwr.

Fel arfer, mae apwyntiadau o fewn oriau gwaith arferol. Mae oriau gwaith yn tueddu golygu rhwng 9am a 5pm. Yn gyffredinol, mae’n rhaid i chi ddewis slot amser rhwng 2 a 4 awr.

Os ydyn nhw’n cynnig apwyntiad nad yw’n gyfleus i chi, gofynnwch am ddyddiad ac amser gwahanol. Dylai eich cyflenwr cytuno i hyn os yw’n gallu.

Rhaid i’ch cyflenwr dalu iawndal i chi os yw’n:

  • methu’r apwyntiad

  • newid yr apwyntiad heb eich cytundeb a gyda llai nag un diwrnod gwaith o rybudd

  • anfon rhywun sydd heb y cymwysterau na’r offer cywir i wneud y gwaith

Cewch iawndal o £40 wedi’i dalu i chi ganddyn nhw cyn pen 10 diwrnod gwaith. Os na fyddant wedi talu o fewn 10 diwrnod gwaith, byddant yn talu £40 arall i chi.

Eich cyflenwr sy’n gyfrifol am osod eich mesurydd clyfar a gwneud yn siŵr ei fod yn gweithio’n iawn – dylai wneud y canlynol:

  • egluro’r broses ymlaen llaw

  • dangos i chi sut mae defnyddio eich mesurydd clyfar a’ch sgrin ynni cartref

  • rhoi copi o’r cyfarwyddiadau i chi

  • rhoi gwybod i chi sut i ddefnyddio ynni’n effeithlon

Dylech chi hefyd gael rhif ffôn ganddynt i’w ffonio os bydd rhywbeth yn mynd o’i le, neu os ydych chi’n meddwl nad yw eich mesurydd yn gweithio’n iawn. Er enghraifft, os na allwch weld manylion o’r defnydd ar eich sgrin ynni cartref.

Gellir gosod eich mesurydd clyfar fel mesurydd talu ymlaen llaw. Os yw eich un chi’n fesurydd talu ymlaen llaw, bydd eich cyflenwr ynni’n rhoi cerdyn neu allwedd i chi, a byddwch yn gallu ychwanegu arian ato. Gallwch wneud y canlynol:

  • ychwanegu arian mewn siop neu Swyddfa Bost leol gan ddefnyddio’r cerdyn neu allwedd a roddwyd i chi 

  • ychwanegu arian ar-lein, dros y ffôn neu drwy ap ar eich ffôn symudol

Efallai y byddwch hefyd yn gallu ychwanegu arian gan ddefnyddio eich sgrin ynni cartref - holwch eich cyflenwr a oes modd i chi wneud hyn.

Os byddwch yn ychwanegu arian ar-lein, dylech gadw gafael ar eich cerdyn neu’ch allwedd rhag ofn y bydd angen i chi ei defnyddio - er enghraifft, os nad yw’r ap yn gweithio.

Fel arfer, mae talu ymlaen llaw yn ffordd ddrutach o dalu am ynni. Ewch i weld a yw talu ymlaen llaw yn iawn i chi.

Os nad yw eich cyflenwr yn gallu gorffen y gwaith gosod

Dylent ddweud wrthych beth yw’r broblem ac aildrefnu’r gwaith gosod. Mae angen iddynt hefyd wneud yn siŵr bod eich mesurydd yn ddiogel cyn iddynt adael.

Dewis pa mor aml rydych chi’n anfon darlleniadau at eich cyflenwr

Os byddwch yn cael mesurydd clyfar, bydd yn cael ei osod yn awtomatig i anfon darlleniadau at eich cyflenwr:

  • bob hanner awr ar gyfer trydan

  • bob mis ar gyfer nwy

Gallwch newid pa mor aml mae eich mesurydd clyfar yn anfon darlleniadau. Gallwch wneud hyn ar eich cyfrif ar-lein neu drwy ffonio eich cyflenwr. Gallwch ddewis:

  • bob dydd ar gyfer trydan

  • bob dydd neu bob hanner awr ar gyfer nwy

Os byddwch yn dewis y darlleniadau hanner awr efallai y cewch fynediad at rai tariffau newydd. Er enghraifft, mae tariffau amser defnyddio yn defnyddio’r darlleniadau i godi cyfraddau gwahanol ar wahanol adegau o’r dydd.

Os cafodd eich mesurydd clyfar trydan ei osod cyn 3 Tachwedd 2022

Bydd eich mesurydd clyfar trydan wedi’i osod i anfon darlleniadau unwaith y dydd. Byddwch wedi gallu newid y gosodiadau i anfon darlleniadau bob hanner awr neu unwaith y mis.

Os ydych chi wedi gwneud newidiadau penodol ers 3 Tachwedd 2022, bydd gosodiadau eich mesurydd clyfar wedi cael ei newid i’r un rhai â mesuryddion sydd wedi cael eu gosod ers y dyddiad hwnnw. Dyma’r newidiadau sy’n ailosod eich mesurydd:

  • newid cyflenwr

  • newid tariff

  • cytuno i anfon darlleniadau’n amlach

Ar ôl i chi wneud unrhyw un o’r newidiadau hyn, bydd eich mesurydd clyfar yn cael ei osod i anfon darlleniadau mesurydd bob hanner awr. Gallwch dim ond newid y gosodiadau i anfon darlleniadau unwaith y dydd.

Cael help

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch, cysylltwch â gwasanaeth Cyngor ar Bopeth i ddefnyddwyr - gall cynghorwr hyfforddedig roi cyngor i chi dros y ffôn neu drwy sgwrs ar-lein.

Mae gan Ynni Clyfar GB ragor o wybodaeth am fanteision mesuryddion clyfar a sut dylid eu gosod.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.