Os oes gennych chi fesurydd ynni radio teleswitsh neu teleswitsh dynamig
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Efallai eich bod wedi cael gwybod gan eich cyflenwr trydan fod angen newid eich mesurydd trydan tele-swits radio (RTS) neu dele-swits deinamig (DTS). Mae hyn oherwydd bod y donfedd radio a ddefnyddir i newid rhwng cyfraddau brig ac allfrig yn cael ei throi i ffwrdd.
Bydd y donfedd radio yn cael ei throi i ffwrdd yn raddol, gan ddechrau ar 30 Mehefin 2025. Efallai y byddwch yn cael problemau gyda’ch gwres a’ch dŵr poeth os nad yw eich mesurydd RTS neu DTS wedi ei newid.
Byddwn yn diweddaru ein cyngor pan fydd gennym fwy o wybodaeth am y broses raddol o droi’r donfedd radio i ffwrdd.
Gweld a oes angen i chi newid eich mesurydd
Mae’n bosibl nad ydych yn gwybod os oes gennych chi fesurydd trydan radio teleswitsh (RTS) neu teleswitsh dynamig (DTS). Efallai y bydd gennych un os:
mae eich tŷ yn cael ei wresogi gan ddefnyddio trydan
mae gennych chi wresogyddion stôr trydan i wresogi dŵr
rydych chi’n cael ynni rhatach ar wahanol adegau o’r dydd, er enghraifft os oes gennych chi gyfradd cyfnod brig a chyfradd cyfnod allfrig ar gyfer trydan
Efallai y bydd eich teleswitsh yn yr un blwch â’ch mesurydd neu mewn blwch ar wahân. Os yw mewn blwch ar wahân, bydd fel arfer yn ddu.
Edrychwch ar y blwch, efallai y bydd ‘radio teleswitch’ neu ‘radio telemeter’ wedi’i argraffu arno.

Dyma enghraifft o fesurydd trydan RTS gyda radio teleswitsh mewn blwch du i’r dde o’r mesurydd.

Dyma enghraifft o fesurydd trydan RTS sydd â radio teleswitsh yn yr un blwch. Os oes gennych chi un o’r rhain, efallai y bydd ‘radio telemeter’ wedi’i argraffu arno.
Os nad ydych yn siŵr a oes gennych fesurydd RTS neu DTS
Cysylltwch â’ch cyflenwr trydan i weld a oes angen newid eich mesurydd.
Os nad yw eich mesurydd yn edrych fel yr enghreifftiau uchod, mae’n dal yn bosibl fod gennych fesurydd RTS neu DTS.
Gallai eich gwres trydan a’ch dŵr poeth roi’r gorau i weithio os nad yw eich mesurydd RTS neu DTS yn cael eu newid cyn i’r amledd radio cael ei ddiffodd.
Cael mesurydd newydd yn lle’r un sydd gennych
Os yw eich cyflenwr trydan wedi cysylltu â chi, dylai fod wedi rhoi gwybod i chi sut a phryd mae eich mesurydd yn cael ei newid.
Mae mesuryddion clyfar yn cymryd lle mesuryddion radio teleswitsh (RTS) a theleswitsh dynamig (DTS).
Ni fydd yn rhaid i chi dalu eich cyflenwr i osod mesurydd clyfar. Os oes angen i’r mesurydd clyfar fod mewn lle gwahanol i’ch hen fesurydd, efallai y bydd angen i chi dalu iddo gael ei symud. Bydd eich cyflenwr yn rhoi gwybod i chi a oes angen i’ch mesurydd fod mewn lle gwahanol.
Gall mesuryddion clyfar weithio yn yr un ffordd ag y mae eich mesurydd presennol yn gweithio. Dylech chi barhau i gael cyfradd cyfnod brig a chyfradd cyfnod allfrig awtomatig a dylai hyn droi systemau dŵr poeth ymlaen a’u diffodd.
Dylai eich cyflenwr trydan argymell tariff mesurydd clyfar a fydd yn gweithio mewn ffordd debyg i’r hyn sydd gennych chi nawr, er enghraifft Economy 7.
Os na all eich tariff newydd weithio yn union yr un ffordd â’ch mesurydd presennol, dylai eich cyflenwr egluro beth fydd yn newid. Er enghraifft, os yw amseroedd eich cyfnod brig a’ch cyfnod allfrig ychydig yn wahanol.
Os hoffech chi gael mesurydd clyfar ond nid yw eich cyflenwr trydan wedi cysylltu â chi - cysylltwch â nhw a gofyn am un. Ewch i weld sut mae cael mesurydd clyfar wedi’i osod.
Os oes gennych chi fesurydd nwy hefyd a’ch bod am i’ch cyflenwr ei newid am fesurydd clyfar, gofynnwch i’ch cyflenwr. Does dim rhaid i chi newid eich mesurydd nwy os nad ydych chi eisiau hynny.
Os yr un cyflenwr sydd gennych ar gyfer nwy a thrydan, efallai y byddan nhw’n gallu newid y ddau fesurydd i fesuryddion clyfar i chi ar yr un pryd.
Os na allwch gael mesurydd clyfar
Efallai na fyddwch chi’n gallu cael mesurydd clyfar safonol wedi’i osod os ydych chi’n byw mewn ardal sydd â signal gwael.
Os ydych chi’n byw mewn ardal sydd â signal gwael, efallai y bydd angen i chi osod math arbennig o fesurydd clyfar. Bydd yr amseroedd ar gyfer newid rhwng cyfradd frig a chyfradd allfrig wedi’u gosod ymlaen llaw ar y math hwn o fesurydd.
Os nad ydych chi wedi clywed gan eich cyflenwr ac nad ydych chi’n meddwl y bydd mesurydd clyfar yn gweithio yn eich cartref, cysylltwch â nhw i wneud yn siŵr.
Os oes gennych chi fesurydd sy’n cael ei rhannu
Os ydych chi’n meddwl bod gennych chi fesurydd RTS neu DTS sy’n cael ei rhannu, cysylltwch â’r person neu’r cwmni rydych chi’n talu am eich ynni – gallai hwn fod yn landlord neu’n gwmni rheoli.
Os na fyddwch yn newid eich mesurydd RTS neu DTS
Efallai y bydd eich gwres trydan yn rhoi’r gorau i weithio yn y ffordd yr ydych yn disgwyl iddo wneud. Er enghraifft, efallai y bydd eich dŵr poeth yn cael ei adael ymlaen yn barhaol neu efallai y bydd eich gwresogyddion stôr yn defnyddio trydan ar adeg ddrutach.
Ni fydd eich cyflenwr yn gwybod pryd rydych chi’n defnyddio eich trydan, felly efallai y codir y swm anghywir arnoch chi. Er enghraifft, efallai y codir cyfradd cyfnod brig arnoch am drydan a ddefnyddiwch yn ystod oriau allfrig.
Efallai y bydd eich cyflenwr yn rhoi’r gorau i gynnig tariff RTS neu DTS, ac yn eich symud i dariff un gyfradd. Mae hyn yn golygu byddwch chi ddim yn cael cyfradd ratach am ddefnyddio trydan yn y nos. Os na fydd eich system wresogi’n newid, efallai y bydd yn costio mwy i chi na’r disgwyl.
Os bydd eich cyflenwr trydan yn rhoi gwybod i chi fod angen iddo newid eich mesurydd, peidiwch â’i anwybyddu. Dylen nhw geisio gweithio gyda chi i ddod o hyd i ateb sy’n gweithio i chi.
Opsiynau gwresogi eraill
Gallech chi edrych ar systemau gwresogi eraill ar gyfer eich cartref, megis:
cysylltu eich cartref â’r grid nwy a gosod gwres canolog - efallai na fydd hyn yn bosibl os ydych yn byw mewn rhai ardaloedd
gosod pwmp gwres – mae hon yn ffordd garbon isel o wresogi sy’n defnyddio llai o drydan, ond gall fod yn ddrud i’w gosod
Efallai y gallwch chi gael help gyda chost bwmp gwres neu wresogydd stôr newydd, neu help gyda chost gysylltu â’r grid nwy a chael gwres canolog.
Ewch i weld a allwch chi gael help i wneud newidiadau o ran effeithlonrwydd ynni yn eich cartref.
Cael mwy o help
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch, cysylltwch â gwasanaeth Cyngor ar Bopeth i ddefnyddwyr - gall cynghorwr hyfforddedig roi cyngor i chi dros y ffôn neu drwy sgwrs ar-lein.
Bydd y gwasanaeth i ddefnyddwyr yn gallu eich helpu os:
ni allwch gael mesurydd clyfar wedi’i osod
rydych chi’n gorfod talu am fesurydd clyfar
rydych chi’n cael problemau gyda’ch mesurydd clyfar ar ôl ei osod
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 03 Chwefror 2024