Fixing problems with your smart meter’s in-home display

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Sgrin symudol fach yw’r sgrin ynni cartref (IHD) sy’n dangos i chi faint o ynni rydych chi’n ei ddefnyddio. Nid yw hyn yr un fath â mesurydd clyfar. Bydd eich mesurydd clyfar mewn safle sefydlog, fel arfer mewn cwpwrdd y tu mewn neu’r tu allan i’ch cartref. 

Gallwn ni eich helpu i ddod o hyd i’r canllaw digidol i ddefnyddwyr ar gyfer eich sgrin ynni cartref - hyd yn oed os nad ydych chi’n gwybod pa fodel ydyw. Dod o hyd i'r canllaw i ddefnyddwyr ar gyfer eich sgrin ynni cartref.

Gallwch chi geisio delio â’r broblem eich hun. Os na allwch chi ddatrys y broblem, efallai y bydd eich cyflenwr yn cytuno i drwsio eich sgrin ynni cartref neu roi un newydd i chi yn ei le - mae’n dibynnu ar bryd y cawsoch chi o.

Os yw eich sgrin yn rhoi'r gorau i ddangos eich defnydd o ynni neu falans eich taliadau ymlaen llaw

Arhoswch am awr i weld a yw’r wybodaeth hon wedi dod yn ôl.

Os nad yw eich defnydd neu falans wedi dod yn ôl ar ôl awr, efallai fod eich sgrin ynni cartref yn cael trafferth cysylltu â’ch mesuryddion clyfar.

Gallwch chi geisio datrys hyn drwy symud eich sgrin ynni cartref fel:

  • ei fod yn nes at eich mesuryddion

  • bod yna cyn lleied o waliau â phosibl rhyngddo a’ch mesuryddion

  • eich bod dal i allu edrych arno'n hawdd

Os oes gennych chi fesuryddion clyfar ar gyfer nwy a thrydan, fel arfer mae’n well gwneud yn siŵr bod eich sgrin ynni cartref yn agosach at eich mesurydd trydan.

Efallai y bydd angen i chi blygio eich sgrin ynni cartref i mewn i soced gwahanol ac aros iddo ailgychwyn.

Ar ôl i chi symud eich sgrin ynni cartref, dylai gysylltu â’ch mesuryddion o fewn 24 awr a dangos eich defnydd o ynni neu’ch balans. I wneud yn siŵr ei fod wedi cysylltu’n iawn, gallwch chi edrych ar ddarlleniadau’r mesurydd ar eich sgrin ynni cartref a’u cymharu â’r darlleniadau sydd ar eich mesuryddion clyfar. Dylent fod yr un fath neu’n debyg iawn.

Os nad ydych chi’n siŵr sut mae darllen eich mesuryddion, gallwch wneud y canlynol:

Os ydych yn defnyddio’ch sgrin ynni cartref i ychwanegu arian at eich mesurydd talu ymlaen llaw

Rhowch wybod i’ch cyflenwr cyn gynted â phosibl os na allwch chi ychwanegu arian at eich mesurydd talu ymlaen llaw oherwydd nad yw eich sgrin ynni cartref yn gweithio. Dylen nhw weithio’n gyflym i ddatrys eich problem. Dylen nhw roi ffyrdd eraill i chi ychwanegu arian at eich mesurydd talu ymlaen llaw - gallwch chi ychwanegu arian ar-lein, mewn siop leol neu swyddfa bost leol.

Os nad yw eich sgrin ynni cartref wedi cysylltu â’ch mesuryddion ar ôl 24 awr

Cysylltwch â’ch cyflenwr a rhoi gwybod am hyn. Mewn llawer o achosion, gall eich cyflenwr datrys y broblem drwy ddiffodd eich hwb cyfathrebu a’i roi ymlaen eto – fyddwch chi ddim yn gallu gwneud hyn eich hun fel arfer.

Os na allan nhw helpu i’w drwsio neu os nad yw hyn wedi gweithio, efallai fod eich mesuryddion wedi rhoi’r gorau i weithio yn y modd clyfar. Gallai hyn ddigwydd os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • mae gennych chi hen fath o fesurydd clyfar ac rydych chi wedi newid cyflenwr

  • mae eich cyflenwr wedi mynd i’r wal

Gallwch weld a yw eich mesurydd clyfar yn gweithio yn y modd clyfar.

Os nad yw eich mesurydd yn gweithio yn y modd clyfar, bydd angen i chi anfon darlleniadau mesurydd rheolaidd eich hun.

Dylech chi barhau i allu defnyddio eich cyfrif neu ap ar-lein i weld eich defnydd neu falans eich taliadau ymlaen llaw. Gallwch chi hefyd gysylltu â’ch cyflenwr i ofyn am yr wybodaeth hon.

Os na fydd eich sgrin ynni cartref yn dod ymlaen neu os yw’r sgrin yn wag

Edrychwch a yw eich sgrin ynni cartref:

  • wedi'i blygio i mewn neu â batris sy'n gweithio

  • wedi'i droi ymlaen - os oes ganddo fotwm i’w rhoi ymlaen

Os yw eich sgrin ynni cartref dal ddim yn gweithio, efallai gallwch chi barhau i ddefnyddio eich cyfrif neu ap ar-lein i weld darlleniadau eich mesurydd, eich defnydd neu falans eich taliadau ymlaen llaw. Gallwch chi hefyd gysylltu â’ch cyflenwr i ofyn am yr wybodaeth hon.

Os nad yw darlleniadau eich sgrin ynni cartref yn cyfateb i’r hyn a nodir gan eich mesuryddion clyfar

Mae’r darlleniadau ar eich sgrin ynni cartref fel arfer yn cymryd ychydig mwy o amser i’w diweddaru na’r rhai ar eich mesuryddion – mae’r oedi hwn yn normal.

Os bydd eich cyflenwr yn gofyn am ddarlleniadau mesurydd, cymerwch nhw o’ch mesuryddion yn hytrach na o’ch sgrin ynni cartref. Gallwch wneud y canlynol:

Os bydd eich sgrin ynni cartref yn dechrau gweithio’n wahanol ar ôl i chi newid cyflenwr

Gall hyn ddigwydd weithiau os nad yw eich hen gyflenwr yn rhoi’r wybodaeth gywir i’ch cyflenwr newydd.

Os oes dros 48 awr wedi mynd heibio ers i’ch sgrin ynni cartref ddechrau gweithio’n wahanol, cysylltwch â’ch cyflenwr newydd i weld a oes unrhyw broblemau. Os oes yna broblem, dylai eich cyflenwr helpu i’w trwsio er mwyn i’ch sgrin ynni cartref ddechrau gweithio eto.

Gweld a yw eich sgrin ynni cartref wedi dechrau gweithio’n iawn eto

Gallwch chi wneud yn siŵr bod eich sgrin ynni cartref wedi dechrau gweithio'n iawn eto drwy wneud y canlynol:

  • cymharu'r wybodaeth am dariff sydd ar eich sgrin ynni cartref â'ch bil neu gontract newydd - er enghraifft, enw'r tariff, y gyfradd fesul uned a'r tâl sefydlog

  • gwneud yn siŵr bod darlleniadau’r mesurydd ar eich sgrin ynni cartref yn debyg i’r rhai ar eich mesuryddion

Os na all eich cyflenwr eich helpu i ddatrys unrhyw broblemau, efallai fod hynny oherwydd bod gennych chi hen fathau o fesuryddion clyfar. Gall hyn olygu nad yw eich mesuryddion yn gweithio yn y modd clyfar mwyach. Gweld a yw eich mesuryddion yn dal i weithio yn y modd clyfar. Os nad yw eich mesuryddion yn gweithio yn y modd clyfar, bydd angen i chi anfon darlleniadau mesurydd rheolaidd eich hun.

Gallwch wneud y canlynol:

Gallwch chi ddefnyddio eich cyfrif ar-lein i weld darlleniadau eich mesurydd, eich defnydd neu falans eich taliad ymlaen llaw. Gallwch chi hefyd gysylltu â’ch cyflenwr i ofyn am yr wybodaeth hon.

Gofyn i’ch cyflenwr drwsio eich sgrin ynni cartref neu roi un newydd i chi yn ei le

Os rhoddwyd y sgrin ynni cartref i chi gan eich cyflenwr llai na blwyddyn yn ôl, rhaid i’ch cyflenwr eich helpu gydag unrhyw broblemau. Gallan nhw ei drwsio neu roi un newydd i chi yn ei le am ddim. Os na fyddan nhw’n eich helpu chi, dylech chi gwyno i’ch cyflenwr ynni.

Os ydych chi wedi cael eich sgrin ynni cartref am fwy na blwyddyn

Dim ond os yw eich sgrin ynni cartref yn llai na blwydd oed y mae’n rhaid i gyflenwyr eich helpu. Mae rhai cyflenwyr wedi cytuno i helpu os ydych chi wedi cael eich sgrin ynni cartref am fwy na blwyddyn. 

Dylai eich cyflenwr helpu os yw’n un o’r canlynol:

  • E

  • E.ON Next

  • Good Energy

  • Octopus Energy

  • OVO Energy

  • Scottish Power

  • Utilita Energy

  • Utility Warehouse

Rhowch wybod i’ch cyflenwr cyn gynted â phosibl os na allwch chi ychwanegu arian at eich mesurydd talu ymlaen llaw oherwydd nad yw eich sgrin ynni cartref yn gweithio. Dylen nhw weithio’n gyflym i ddatrys eich problem.

Os yw eich cyflenwr yn gallu trwsio eich sgrin ynni cartref, dylen nhw wneud hynny am ddim.

Os oes angen sgrin ynni cartref newydd arnoch, dylai eich cyflenwr rhoi gwybod i chi sut i gael un. Efallai y byddan nhw’n:

  • rhoi sgrin ynni cartref newydd i chi am ddim

  • cynnig sgrin ynni cartref i chi am bris gostyngol

  • rhoi gwybod i chi ble gallwch brynu sgrin ynni cartref newydd

Os nad yw eich cyflenwr wedi’i restru uchod, mae’n dal yn werth cysylltu â nhw a gofyn am helpu beth bynnag.

Os ydych chi ar y Gofrestr Gwasanaethau â Blaenoriaeth, rhowch wybod i’ch cyflenwr. Efallai y byddan nhw'n rhoi sgrin newydd i chi am ddim neu efallai y byddan nhw’n cynnig gostyngiad i chi. Ewch i weld a allwch chi ymuno â’r Gofrestr Gwasanaethau â Blaenoriaeth.

Os bydd eich cyflenwr yn trwsio’ch sgrin ynni cartref neu’n rhoi un newydd i chi, dylent wneud yn siŵr ei bod yn gweithio ac yn cysylltu â'ch mesurydd clyfar.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.