Sut i ddarllen eich mesurydd trydan clyfar

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Does dim angen i chi ddarllen eich mesurydd clyfar fel arfer, gan fod mesuryddion clyfar yn anfon darlleniadau at eich cyflenwr yn awtomatig – ‘modd clyfar’ ydy'r enw ar hyn. Gallwch weld a ddylai eich mesurydd clyfar weithio yn y modd clyfar.

Mae’n bosibl y bydd rhaid i chi ddarllen eich mesurydd clyfar mewn rhai sefyllfaoedd, er enghraifft:

  • os ydych chi newydd newid cyflenwr – fel arfer, bydd angen i chi anfon y darlleniad cyntaf eich hun

  • os ydych chi’n newid cyflenwr a'u bod yn dweud nad ydynt yn gallu cysylltu â’ch mesurydd – gall hyn ddigwydd os oes gennych chi fesurydd clyfar hŷn

  • os ydych chi eisiau gwirio eich darlleniad – er enghraifft, i weld sut mae wedi newid yn ddiweddar

Ffoniwch eich cyflenwr i roi’r darlleniad iddynt – neu gwiriwch os gallwch chi gyflwyno darlleniad ar eu gwefan neu ar ap.

Os nad ydych chi’n gallu cyrraedd eich mesurydd, efallai y bydd eich cyflenwr ynni yn gallu rhoi cymorth ychwanegol i chi i ddarllen neu symud eich mesurydd. Gallwch chi weld a oes modd i chi gael cymorth ychwanegol gan eich cyflenwr ynni.

Gwiriwch eich mesurydd – nid eich monitor ynni clyfar

Pan fyddwch chi’n cael mesurydd clyfar, fel arfer byddwch chi hefyd yn cael dyfais symudol fach gyda sgrin arni. 'Monitor ynni clyfar' neu 'ddangosydd yn y cartref' (IHD) ydy enw’r ddyfais – mae naill ai'n plygio i mewn i soced neu'n rhedeg ar fatris. 

Mae’n hawdd drysu rhwng eich mesurydd clyfar a’ch IHD.

Gallwch chi weld sut mae defnyddio’r IHD ar gyfer eich mesurydd clyfar.

Enghraifft An in-home display on a table with two chairs. It has a plug lead attached to it.

Enghraifft o ddangosydd yn y cartref (IHD).

Efallai y byddwch chi’n gallu cymryd darlleniad o'r IHD, ond mae'n well cymryd un oddi ar y mesurydd ei hun. Bydd y mesurydd yn cael ei osod ar wal neu ar fwrdd – fel arfer, bydd yn cael ei osod mewn cwpwrdd cegin neu flwch ar wal y tu allan i’ch cartref.

Enghraifft A smart meter attached to a board on a wall. There are 2 buttons on the right side of a small screen, one above the other - they are marked 'A' and 'B'. The screen shows 5 numbers on a single row.

Enghraifft o fesurydd clyfar.

Darllen eich mesurydd trydan clyfar

Mae’r ffordd rydych chi’n cymryd darlleniad o fesurydd trydan clyfar yn dibynnu ar y math o fesurydd sydd gennych chi.

Os oes bysellbad ar eich mesurydd

Enghraifft

Os mai 0012565.3 yw’r rhif ar y dangosydd, 12565 yw darlleniad y mesurydd.

Mae’r ffordd o ddarllen eich mesurydd yn dibynnu ar y canlynol:

  • os ydych chi’n talu cyfradd sengl bob amser

  • os ydych chi’n talu dwy gyfradd – un gyfradd yn ystod y dydd a chyfradd ratach yn ystod y nos

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn talu cyfradd sengl bob amser. Os oes gennych chi fesurydd ‘Economi 7’, rydych chi’n talu dwy gyfradd. Os nad ydych chi’n siŵr, edrychwch ar eich bil i weld a ydych chi’n talu dwy gyfradd.

Os ydych chi’n talu cyfradd sengl

I ddarllen y mesurydd:

  • Pwyswch 9

  • Arhoswch nes i chi weld y llythrennau ‘IMP KWH’

  • Yna, byddwch chi’n gweld rhifau ac yna’r llythrennau ‘KWH’ – dyma eich darlleniad

  • Ysgrifennwch y rhifau o’r chwith i’r dde

  • Dylech anwybyddu unrhyw nodau sero ar y dechrau, yn ogystal ag unrhyw rifau ar ôl y pwynt degol

Os ydych chi’n talu dwy gyfradd

I ddarllen y mesurydd:

  • Pwyswch 6

  • Arhoswch nes eich bod chi’n gweld ‘IMP R01’ ac yna rhifau – fel arfer, dyma eich darlleniad nos neu ddarlleniad ‘cyfnod tawel’

  • Pwyswch 6 unwaith eto nes byddwch chi’n gweld ‘IMP R02’ ac yna rhifau – fel arfer, dyma eich darlleniad dydd neu ddarlleniad ‘cyfnod prysur’

  • Ysgrifennwch y rhifau o’r chwith i’r dde

  • Dylech chi anwybyddu unrhyw nodau sero ar y dechrau, yn ogystal ag unrhyw rifau ar ôl y pwynt degol

Os nad ydych chi'n siŵr pa un yw'r gyfradd dydd neu'r gyfradd nos, gwiriwch y rhifau yn y bore a gwiriwch eto yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw. Y rhif sydd wedi newid fydd eich cyfradd dydd, neu gyfradd ‘cyfnod prysur’.

Os oes botymau A a B o dan y sgrin ar eich mesurydd

Enghraifft

Os mai 0011256.3 yw’r rhif ar y dangosydd, 11256 yw darlleniad y mesurydd.

I ddarllen y mesurydd:

  1. Pwyswch y botwm A

  2. Pwyswch y botwm A unwaith eto nes byddwch chi’n gweld ‘TOTAL ACT IMPORT’, rhifau ac yna’r llythrennau ‘KWH’

  3. Ysgrifennwch y rhifau o’r chwith i’r dde

  4. Dylech chi anwybyddu unrhyw nodau sero ar y dechrau, yn ogystal ag unrhyw rifau ar ôl y pwynt degol

Os oes botwm A gwyrdd i’r dde o’r sgrin a botwm B gwyn oddi tano ar eich mesurydd

Enghraifft An electricity smart meter with green button marked 'A' to the right of a screen and a button marked 'B' below the screen on the left. The screen says '0011256.3' and says 'KWh' below the numbers.

Os mai 0011256.3 yw’r rhif ar y dangosydd, 11256 yw darlleniad y mesurydd.

Mae’r ffordd o ddarllen eich mesurydd yn dibynnu ar y canlynol:

  • os ydych chi’n talu cyfradd sengl bob amser

  • os ydych chi’n talu dwy gyfradd – un gyfradd yn ystod y dydd a chyfradd ratach yn ystod y nos

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn talu cyfradd sengl bob amser. Os oes gennych chi fesurydd ‘Economi 7’, rydych chi’n talu dwy gyfradd. Os nad ydych chi’n siŵr, edrychwch ar eich bil i weld a ydych chi’n talu dwy gyfradd.

Os ydych chi’n talu cyfradd sengl

I ddarllen y mesurydd:

  1. Pwyswch y botwm B gwyn – bydd y sgrin yn goleuo

  2. Arhoswch nes bod y sgrin yn dweud ‘meter boost’ – pwyswch ‘A’ i ddewis ‘na’ a dylech chi weld rhifau a'r llythrennau ‘KWH’

  3. Ysgrifennwch y rhifau o’r chwith i’r dde

  4. Dylech chi anwybyddu unrhyw nodau sero ar y dechrau, yn ogystal ag unrhyw rifau ar ôl y pwynt degol

Os ydych chi’n talu dwy gyfradd

I ddarllen y mesurydd:

  1. Pwyswch y botwm A gwyrdd

  2. Pwyswch y botwm A gwyrdd eto nes i chi weld ‘Rate 01 Act Imp’ – fel arfer, dyma eich darlleniad nos, neu darlleniad ‘cyfnod tawel’

  3. Pwyswch y botwm gwyrdd eto nes i chi weld ‘Rate 02 Act Imp’ – fel arfer, dyma eich darlleniad dydd, neu ddarlleniad ‘cyfnod prysur’

  4. Ysgrifennwch y rhifau o’r chwith i’r dde

  5. Dylech chi anwybyddu unrhyw nodau sero ar y dechrau, yn ogystal ag unrhyw rifau ar ôl y pwynt degol

Os nad ydych chi'n siŵr pa un yw'r gyfradd dydd neu'r gyfradd nos, gwiriwch y rhifau yn y bore a gwiriwch eto yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw. Y rhif sydd wedi newid fydd eich cyfradd dydd, neu gyfradd ‘cyfnod prysur’.

Os oes tri botwm i'r dde o'r sgrin ar eich mesurydd

Enghraifft An electricity smart meter with 3 buttons in a vertical row to the right of a screen. The screen shows the letters 'I M P' on the top row, then below that it says '0011256.3 KWH'.

Os mai 0011256.3 yw’r rhif ar y dangosydd, 11256 yw darlleniad y mesurydd.

Mae’r ffordd o ddarllen eich mesurydd yn dibynnu ar y canlynol:

  • os ydych chi’n talu cyfradd sengl bob amser

  • os ydych chi’n talu dwy gyfradd – un gyfradd yn ystod y dydd a chyfradd ratach yn ystod y nos

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn talu cyfradd sengl bob amser. Os oes gennych chi fesurydd ‘Economi 7’, rydych chi’n talu dwy gyfradd. Os nad ydych chi’n siŵr, edrychwch ar eich bil i weld a ydych chi’n talu dwy gyfradd.

Os ydych chi’n talu cyfradd sengl

I ddarllen y mesurydd:

  1. Pwyswch y botwm canol

  2. Ysgrifennwch y rhif o dan ‘IMP’ o’r chwith i’r dde

  3. Dylech chi anwybyddu unrhyw nodau sero ar y dechrau, yn ogystal ag unrhyw rifau ar ôl y pwynt degol

Os ydych chi’n talu dwy gyfradd

I ddarllen y mesurydd:

  1. Pwyswch y botwm canol – dylai ddweud ‘R1’

  2. Ysgrifennwch y rhif o dan 'IMP' o'r chwith i'r dde – fel arfer, dyma eich darlleniad nos, neu ddarlleniad ‘cyfnod tawel’

  3. Pwyswch y botwm canol eto – dylai ddweud ‘R2’

  4. Ysgrifennwch y rhif o dan 'IMP' o'r chwith i'r dde – fel arfer, dyma eich darlleniad dydd, neu ddarlleniad ‘cyfnod prysur’

  5. Pwyswch y botwm canol eto – dylai ddweud ‘T’

  6. Ysgrifennwch y rhif o dan 'IMP' o'r chwith i'r dde – dyma eich darlleniad ‘llawn’

  7. Dylech chi anwybyddu unrhyw nodau sero ar y dechrau, yn ogystal ag unrhyw rifau ar ôl y pwynt degol. Dim ond os bydd eich cyflenwr yn gofyn amdano y bydd angen y darlleniad ‘llawn’

Os nad ydych chi'n siŵr pa un yw'r gyfradd dydd neu'r gyfradd nos, gwiriwch y rhifau yn y bore a gwiriwch eto yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw. Y rhif sydd wedi newid fydd eich cyfradd dydd, neu gyfradd ‘cyfnod prysur’.

Os oes un botwm oren a dau fotwm glas ar eich mesurydd

Enghraifft

Os mai 12565 yw’r rhif ar y dangosydd, 12565 yw darlleniad y mesurydd.

Ar y mesuryddion hyn mae rhes o rifau ac yna’r llythrennau KWH.

I ddarllen y mesurydd:

  • Pwyswch y botwm oren i'r chwith o'r sgrin

  • Ysgrifennwch y rhifau o’r chwith i’r dde

  • Dylech chi anwybyddu unrhyw nodau sero ar y dechrau, yn ogystal ag unrhyw rifau ar ôl y pwynt degol os oes un

Os oes dau fotwm gwyn i'r dde o’r sgrin ar eich mesurydd

Enghraifft

Os mai 0011256.3 yw’r rhif ar y dangosydd, 11256 yw darlleniad y mesurydd.

Dylai eich mesurydd fod â ‘Kaifa MA 120’ wedi ysgrifennu arno. Bydd yn newid yn awtomatig rhwng pedair sgrin wahanol, felly does dim angen i chi bwyso dim byd.

I ddarllen y mesurydd:

  1. Arhoswch am y sgrin sy’n dangos rhifau ac yna’r llythrennau KWH

  2. Ysgrifennwch y rhifau o’r chwith i’r dde

  3. Dylech chi anwybyddu unrhyw nodau sero ar y dechrau, yn ogystal ag unrhyw rifau ar ôl y pwynt degol os oes un

Os oes dau fotwm i'r dde o'r sgrin ac mae un yn dweud ‘reconnect’

Enghraifft An electricity smart meter with 2 buttons to the right of a screen. One button says 'Reconnect' and the other says 'Display Select'. The screen says 'TOTAL ACT IMPORT' on the top row, then below that it says '0023541.2 KWH'.

Os mai 0023541.2 yw’r rhif ar y dangosydd, 23541 yw darlleniad y mesurydd.

Ar eich mesurydd bydd un botwm yn dweud 'reconnect' a botwm arall yn dweud 'display' neu 'display select'.

I ddarllen y mesurydd:

  1. Pwyswch y botwm ‘display’ neu ‘display select’

  2. Pwyswch y botwm ‘display’ neu ‘display select’ eto nes i chi weld rhifau ac yna’r llythrennau KWH

  3. Ysgrifennwch y rhifau o’r chwith i’r dde

  4. Dylech chi anwybyddu unrhyw nodau sero ar y dechrau, yn ogystal ag unrhyw rifau ar ôl y pwynt degol os oes un

Os oes botwm A gwyrdd a botwm B llwyd i'r dde o'r sgrin ar eich mesurydd

Enghraifft An electricity smart meter with 2 buttons to the right of a screen. The top button is green and marked 'A' and the other is grey and marked 'B'. The screen says '00256 KWH'.

Os mai 00256 yw’r rhif ar y dangosydd, 256 yw darlleniad y mesurydd.

I ddarllen y mesurydd:

  1. Edrychwch ar y sgrin – does dim angen i chi bwyso unrhyw fotymau

  2. Ysgrifennwch y rhif wrth ymyl ‘KWH’ o’r chwith i’r dde

  3. Dylech chi anwybyddu unrhyw nodau sero ar y dechrau, yn ogystal ag unrhyw rifau ar ôl y pwynt degol os oes un

Os oes dau fotwm melyn sgwâr i'r chwith o'r sgrin ar eich mesurydd

Enghraifft An electricity smart meter with 2 yellow buttons to the left of a screen. The screen says '12565.3 KWH'. In the left, bottom corner of the screen is 'T O U' which means time of use. There is a 1 above T O U, which means the rate is 1.

Os mai 12565.3 yw’r rhif ar y dangosydd, 12565 yw darlleniad y mesurydd.

Mae’r ffordd o ddarllen eich mesurydd yn dibynnu ar y canlynol:

  • os ydych chi’n talu cyfradd sengl bob amser

  • os ydych chi’n talu dwy gyfradd – un gyfradd yn ystod y dydd a chyfradd ratach yn ystod y nos

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn talu cyfradd sengl bob amser. Os oes gennych chi fesurydd ‘Economi 7’, rydych chi’n talu dwy gyfradd. Os nad ydych chi’n siŵr, edrychwch ar eich bil i weld a ydych chi’n talu dwy gyfradd.

Os ydych chi’n talu cyfradd sengl

I ddarllen y mesurydd:

  1. Pwyswch y botwm melyn ar y dde

  2. Pwyswch y botwm melyn ar y dde unwaith eto nes byddwch chi’n gweld TOU, 1, rhifau ac yna’r llythrennau KWH

  3. Ysgrifennwch y rhifau o’r chwith i’r dde

  4. Dylech chi anwybyddu unrhyw nodau sero ar y dechrau, yn ogystal ag unrhyw rifau ar ôl y pwynt degol os oes un

Os ydych chi’n talu dwy gyfradd

I ddarllen y mesurydd:

  1. Pwyswch y botwm melyn ar y dde

  2. Pwyswch y botwm melyn ar y dde unwaith eto nes byddwch chi’n gweld TOU, 1, rhifau ac yna’r llythrennau KWH

  3. Ysgrifennwch y rhifau o’r chwith i’r dde

  4. Pwyswch y botwm melyn ar y dde unwaith eto, a byddwch yn gweld TOU, 2, rhifau ac yna’r llythrennau KWH

  5. Ysgrifennwch y rhifau o’r chwith i’r dde

  6. Dylech chi anwybyddu unrhyw nodau sero ar y dechrau, yn ogystal ag unrhyw rifau ar ôl y pwynt degol os oes un

Os nad ydych chi'n siŵr pa un yw'r gyfradd dydd neu'r gyfradd nos, gwiriwch y rhifau yn y bore a gwiriwch eto yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw. Y rhif sydd wedi newid fydd eich cyfradd dydd, neu gyfradd ‘cyfnod prysur’.

Os oes un botwm glas ac un botwm oren i'r dde o'r sgrin ar eich mesurydd

Enghraifft

Os mai 04183 yw’r rhif ar y dangosydd, 4183 yw darlleniad y mesurydd.

Mae’r ffordd o ddarllen eich mesurydd yn dibynnu ar y canlynol:

  • os ydych chi’n talu cyfradd sengl bob amser

  • os ydych chi’n talu dwy gyfradd – un gyfradd yn ystod y dydd a chyfradd ratach yn ystod y nos

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn talu cyfradd sengl bob amser. Os oes gennych chi fesurydd ‘Economi 7’, byddwch chi’n talu dwy gyfradd. Os nad ydych chi’n siŵr, edrychwch ar eich bil i weld a ydych chi’n talu dwy gyfradd.

Os ydych chi’n talu cyfradd sengl

I ddarllen y mesurydd:

  1. Pwyswch y botwm ‘A’ glas i droi’r golau arddangos ymlaen

  2. Pwyswch y botwm glas eto nes i chi weld ‘Total active import kWh’

  3. Ysgrifennwch y rhifau o’r chwith i’r dde

  4. Dylech chi anwybyddu unrhyw nodau sero ar y dechrau, yn ogystal ag unrhyw rifau ar ôl y pwynt degol os oes un

Os ydych chi’n talu dwy gyfradd

I ddarllen y mesurydd:

  1. Pwyswch y botwm ‘A’ glas i droi’r golau arddangos ymlaen

  2. Pwyswch y botwm glas eto nes i chi weld ‘TOU Rate 1’

  3. Ysgrifennwch y rhifau o’r chwith i’r dde

  4. Pwyswch y botwm glas unwaith eto i weld ‘TOU Rate 2’

  5. Ysgrifennwch y rhifau o’r chwith i’r dde

  6. Dylech chi anwybyddu unrhyw nodau sero ar y dechrau, yn ogystal ag unrhyw rifau ar ôl y pwynt degol os oes un

Os nad ydych chi'n siŵr pa un yw'r gyfradd dydd neu'r gyfradd nos, gwiriwch y rhifau yn y bore a gwiriwch eto yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw. Y rhif sydd wedi newid fydd eich cyfradd dydd, neu gyfradd ‘cyfnod prysur’.

Os nad yw eich mesurydd chi ar y dudalen hon

Gwiriwch i weld a yw’r llythrennau ‘KWH’ yn dod ar ôl y darlleniad. Os yw’n dweud ‘M3’, mesurydd nwy ydyw.

Os nad ydych chi’n siŵr a yw'n fesurydd clyfar, mae’n bosibl mai mesurydd safonol ydyw. Edrychwch i weld sut mae darllen mesurydd trydan safonol.

Os oes angen i chi hefyd ddarllen mesurydd nwy clyfar

Rhagor o wybodaeth am sut i ddarllen eich mesurydd nwy clyfar.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 26 Mawrth 2021