Riportio problem i Safonau Masnach

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os ydych chi'n meddwl bod busnes wedi torri'r gyfraith neu wedi gweithredu'n annheg, gallwch ei riportio i Safonau Masnach.

Mae Safonau Masnach yn defnyddio’r wybodaeth rydych chi’n ei rhoi iddyn nhw i ymchwilio i fasnachu annheg a gweithgarwch busnes anghyfreithlon, fel masnachwyr twyllodrus a sgamiau.

Gall Safonau Masnach fynd â busnesau i’r llys neu eu hatal rhag gweithredu, ond fyddan nhw ddim yn eich helpu i ddatrys eich problem – er enghraifft, dydyn nhw ddim yn gallu eich helpu i gael ad-daliad.

Gallwch gael cymorth gyda phroblem a gawsoch fel defnyddiwr gan wasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth.

Ewch i weld beth ddylech chi ei riportio i Safonau Masnach

Dylech riportio busnes i Safonau Masnach os ydyn nhw wedi gwerthu rhywbeth i chi::

  • sy’n anniogel neu’n beryglus, fel cyfarpar electronig gyda gwifrau diffygiol neu fwyd sydd wedi mynd heibio ei ddyddiad defnyddio olaf

  • sy’n ffug

  • sy’n wahanol i’r disgrifiad – er enghraifft, gwnaethoch chi brynu gwyliau pecyn, ond doedd rhywbeth a hysbysebwyd ddim wedi'i gynnwys

  • nad oeddech chi eisiau ei brynu – er enghraifft, fe wnaethon nhw roi pwysau arnoch chi

Gallwch hefyd ddweud wrthynt am fusnes::

  • os gwnaethon nhw eich sgamio chi – er enghraifft, rydych chi wedi talu am rywbeth ar-lein ond heb ei gael, a doedd dim modd cysylltu â'r gwerthwr

  • os ydyn nhw wedi ceisio eich atal rhag defnyddio eich hawliau cyfreithiol – er enghraifft, roedden nhw wedi dweud nad oeddech chi’n cael dychwelyd nwyddau diffygiol

  • os doedden nhw ddim yn glir ynghylch y pris na chostau ychwanegol – er enghraifft, roedden nhw wedi hysbysebu prisiau tocynnau theatr heb ffioedd archebu

  • os oedden nhw wedi gwerthu nwyddau i bobl a oedd yn edrych dan oed heb ofyn am ID – er enghraifft, alcohol, cyllyll neu dân gwyllt

  • os wnaethon nhw ddim cyflawni gwaith yn iawn – er enghraifft, roedd gweithwyr gosod ceginau wedi gadael eich cartref mewn cyflwr peryglus

Riportio busnes i Safonau Masnach

I riportio busnes i Safonau Masnach, mae angen i chi gysylltu â gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth.

Byddwn yn trosglwyddo eich adroddiad i Safonau Masnach a gallwn hefyd roi cyngor i chi am eich problem. Gallwch wneud y canlynol:

Os byddwch chi’n cysylltu â ni gan ddefnyddio’r ffurflen ar-lein, fe wnawn ni gysylltu â chi o fewn 5 diwrnod.

Beth sy'n digwydd ar ôl i chi riportio rhywun i Safonau Masnach

Bydd Safonau Masnach yn defnyddio'r wybodaeth rydych chi’n ei rhoi i benderfynu a ydyn nhw am ymchwilio. Dim ond os oes angen rhagor o wybodaeth arnyn nhw y byddan nhw’n cysylltu â chi.

Hyd yn oed os nad yw Safonau Masnach yn cysylltu â chi, efallai y byddan nhw’n defnyddio eich tystiolaeth i gymryd camau yn erbyn y busnes yn y dyfodol. Er enghraifft, os bydd pobl eraill yn cwyno am yr un busnes.

Cael mwy o help gyda phroblem a gawsoch fel defnyddiwr

Os nad yw busnes yn eich helpu i ddatrys rhywbeth a aeth o’i le, gallech wneud y canlynol:

  • ceisio gwneud cwyn ffurfiol

  • cael help gan gynllun datrys anghydfod

  • mynd â nhw i’r llys

Rhagor o wybodaeth am sut i ddatrys problem a gawsoch fel defnyddiwr.

As a charity, we rely on your support to help millions of people solve their problems each year. Please donate if you can to help us continue our work.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 11 Tachwedd 2019