Problem gyda gwaith adeiladu, addurno neu welliannau i’r cartref

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os ydych chi wedi cael inswleiddio waliau solet yn defnyddio cynlluniau GBIS neu ECO4

Mae Ofgem, rheoleiddiwr ynni’r llywodraeth, wedi atal 39 o fasnachwyr rhag inswleiddio waliau solet o dan y cynlluniau canlynol: 

  • Cynllun Iswleiddio Prydain Fawr (GBIS)

  • Rhwymedigaeth Cwmni Ynni (ECO4)

Mae gwiriadau rheolaidd wedi canfod problemau gyda gwaith a wnaed gan y 39 masnachwr. Mae hyn yn cynnwys inswleiddio waliau solet mewnol ac allanol. Nid yw Ofgem wedi enwi’r masnachwyr.

Dylech fod wedi cael llythyr gan Ofgem os cafodd y math hwn o waith ei wneud o dan un o'r cynlluniau gan un o'r masnachwyr sydd wedi eu hatal. Dim ond os cawsoch gwaith inswleiddio yn ystod neu ar ôl mis Ebrill 2022 y cewch chi lythyr. Bydd y llythyr yn esbonio eich camau nesaf a phwy i gysylltu â nhw.

Os byddwch chi’n cael llythyr gan Ofgem, gwnewch yn siŵr ei fod yn ddilys. Gallai fod yn sgam. Os ydych chi’n meddwl bod y llythyr yn sgam, ffoniwch linell gymorth Ofgem i wirio hyn.

Os nad ydych wedi cael llythyr gan Ofgem a bod gennych broblem gyda’ch inswleiddio, cysylltwch â’ch gosodwr.

Llinell gymorth Ofgem

Ffôn: 0808 169 4447

Dydd Llun i ddydd Gwener, 9:30am i 4:30pm (ac eithrio gwyliau cyhoeddus)

Os oes gwaith wedi cael ei wneud yn eich cartref a bod gennych broblem sy’n deillio o waith y masnachwr, dylech allu ei drwsio - neu gael rhywfaint o'ch arian yn ôl o leiaf.

Beth bynnag yw’r broblem, bydd angen i chi siarad â’r masnachwr a dod i gytundeb.

Dylech godi’r broblem gyda’r masnachwr a drefnodd y gwaith, hyd yn oed os oedd wedi ‘is-gontractio’ (trosglwyddo) y cyfan neu ran ohono i fusnes arall.

Cyn i chi wneud hynny, mae'n syniad da i wneud y canlynol:

  • casglu unrhyw waith papur a derbynebau

  • tynnu lluniau i'w defnyddio fel tystiolaeth o'r broblem

  • gwneud nodiadau am yr hyn sydd wedi digwydd, gan gynnwys dyddiadau ac amseroedd

Mae'r hyn y dylech ei wneud nesaf yn dibynnu ar y math o broblem sydd gennych.

Dydyn nhw ddim wedi gwneud gwaith da

Dylai’r masnachwr fod wedi gwneud y gwaith gyda ‘gofal a sgil resymol’. Mae hyn yn golygu y dylen nhw fod wedi gwneud gwaith da sy’n werth y swm maen nhw’n ei godi arnoch chi. Os nad ydyn nhw wedi gwneud hyn, maen nhw wedi torri’r gyfraith.

Mae gennych hawl gyfreithiol i naill ai:

  • gofyn iddyn nhw drwsio’r broblem – os ydyn nhw wedi darparu nwyddau i chi yn ogystal â’r gwasanaeth, (e.e. gwnaethon nhw brynu’r slabiau a gosod y patio)

  • cael ad-daliad a'u hatal rhag gwneud mwy o waith - os mai dim ond darparu'r gwasanaeth a wnaethon nhw (e.e. chi brynodd y slabiau a nhw osododd y patio)

Beth ddylech ei wneud

Rhowch wybod iddyn nhw eich bod yn deall beth mae gennych chi hawl iddo. Dylech ddweud:

“Mae Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 yn dweud bod yn rhaid defnyddio sgil a gofal rhesymol wrth weithio.

Nid wyf i’n credu eich bod chi wedi defnyddio digon o ofal a sgil wrth ddarparu'r gwasanaeth hwn.

Rydw i eisiau i chi ddatrys y broblem/cael ad-daliad a rhoi’r gorau i wneud y gwaith.”

Gallech hefyd ofyn am ostyngiad ariannol am unrhyw anhwylustod a achoswyd, er enghraifft 5% oddi ar y gost fel arwydd o ewyllys da. Efallai y byddan nhw’n dweud na, ond fyddwch chi ddim gwaeth â gofyn.

Beth fydd yn digwydd nesaf

Dylai’r masnachwr ddatrys y broblem o fewn cyfnod rhesymol o amser, heb achosi gormod o anhwylustod i chi. Nid yw’r gyfraith yn dweud beth sy’n cael ei ystyried yn rhesymol, felly bydd yn rhaid i chi gytuno ar hynny rhyngoch chi.

Os na allant ddatrys y broblem neu os na fyddant yn gwneud hynny, gallwch ofyn am ad-daliad llawn neu rannol - yn dibynnu ar ba mor ddrwg yw'r broblem. Bydd yn rhaid i chi ddod i gytundeb â nhw ynghylch faint y dylech ei gael. Mae awgrymu ffigwr, gan egluro pam eich bod chi’n meddwl ei fod yn dderbyniol, yn fan cychwyn da.

Ar ôl i chi gytuno ar y swm gyda’r masnachwr, mae’r gyfraith yn dweud y dylech gael eich ad-daliad o fewn 14 diwrnod.

Once you’ve agreed on the amount with the trader the law says you should get your refund within 14 days.

Os ydych chi angen mwy o help a chyngor 

Cysylltwch â gwasanaeth defnyddwyr  - bydd cynghorwr hyfforddedig yn gallu rhoi cyngor i chi ar-lein neu dros y ffôn.

Os na allwch chi ddod i gytundeb

Dydyn nhw ddim wedi gwneud yr hyn a gytunwyd arno

Pan wnaethoch chi roi cadarnhad i’r masnachwr fwrw ymlaen â’r gwaith, yn dechnegol fe wnaethoch chi gontract gyda’ch gilydd – hyd yn oed os na chafodd ei ysgrifennu i lawr.

Os nad ydyn nhw wedi gwneud yr hyn y cytunwyd arno, maen nhw wedi ‘torri’ y contract a gallwch ofyn iddynt gywiro pethau.

Gwiriwch beth yn union y cytunwyd arno, os gallwch. Edrychwch drwy unrhyw waith papur maen nhw wedi’i roi i chi.

Os nad ydyn nhw wedi gwneud y gwaith y cytunwyd arno

Mae unrhyw beth y gwnaethoch ei ystyried cyn i chi gytuno i’r gwaith hefyd yn rhan o’r contract.

Enghraifft

Fe wnaethoch chi gwrdd â gosodwr ffenestri a ddywedodd y byddai’n gosod ffenestr newydd ac yn peintio’r ffrâm. Fe wnaethoch chi roi’r gwaith iddo, ond dim ond gosod y ffenestr a wnaeth ac yna gadael.

Beth ddylech ei wneud

Gallwch ofyn i’r masnachwr wneud beth bynnag sy’n angenrheidiol i wneud y gwaith yn iawn. Dylen nhw dalu’r holl gostau, gan gynnwys unrhyw ddeunyddiau ychwanegol.

Rhowch wybod iddyn nhw eich bod yn deall beth mae gennych chi hawl iddo. Dylech ddweud:

“O dan delerau Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015, rydych chi wedi torri eich contract gyda mi drwy beidio â gwneud y gwaith fel y cytunwyd arno.

Rydw i am i chi wneud y gwaith eto, y tro hwn yn union fel y cytunwyd arno.”

Gallech hefyd ofyn am ostyngiad ariannol am unrhyw anhwylustod a achoswyd, er enghraifft 5% oddi ar y gost fel arwydd o ewyllys da. Efallai y byddan nhw’n dweud na, ond fyddwch chi ddim gwaeth â gofyn.

Beth fydd yn digwydd nesaf

Dylai’r masnachwr ddatrys y broblem o fewn cyfnod rhesymol o amser, heb achosi gormod o anhwylustod i chi. Nid yw’r gyfraith yn dweud beth sy’n cael ei ystyried yn rhesymol, felly bydd yn rhaid i chi gytuno ar hynny rhyngoch chi.

Os na allant ddatrys y broblem neu os na fyddant yn gwneud hynny, gallwch ofyn am ad-daliad llawn neu rannol - yn dibynnu ar ba mor ddrwg yw'r broblem. Bydd yn rhaid i chi ddod i gytundeb â nhw ynghylch faint y dylech ei gael. Mae awgrymu ffigwr, gan egluro pam eich bod chi’n meddwl ei fod yn dderbyniol, yn fan cychwyn da.

Ar ôl i chi gytuno ar y swm gyda’r masnachwr, mae’r gyfraith yn dweud y dylech gael eich ad-daliad o fewn 14 diwrnod.

If you need more advice

If you’re not sure what to do, contact the consumer helpline (or Consumerline in Northern Ireland) - a trained adviser can give you advice over the phone or by email.

Os na allwch chi ddod i gytundeb

Dydy’r gwaith ddim wedi cael ei wneud mewn pryd

Rhaid ichi roi ail gyfle i’r masnachwr orffen y gwaith, oni bai ichi egluro ei bod yn bwysig bod yn rhaid i’r gwaith gael ei gwblhau erbyn dyddiad penodol.

Eglurwch fod yn rhaid i’r gwaith gael ei gwblhau erbyn dyddiad penodol y tro hwn. Mae'n syniad da ei roi ar bapur - bydd hyn yn helpu i wneud iddo deimlo'n fwy brys.

Os ydych chi wedi dweud bod yn rhaid i’r gwaith fod wedi’i gwblhau erbyn dyddiad penodol

Dywedwch wrth y masnachwr nad ydych am iddo barhau i weithio i chi. Gwnewch hyn yn ysgrifenedig, fel bod gennych gofnod.

Dylech dalu iddyn nhw am unrhyw waith maen nhw wedi’i wneud hyd yma, er y gallwch ofyn am ddisgownt i wneud iawn am unrhyw anhwylustod maen nhw wedi’i achosi. Os ydyn nhw wedi gwneud ychydig iawn o waith neu ddim gwaith o gwbl, efallai na fyddwch chi eisiau talu dim iddyn nhw.

Os ydych chi eisoes wedi rhoi rhywfaint o arian (neu flaendal) iddyn nhw a'ch bod yn meddwl ei fod yn ormod i'r gwaith maen nhw wedi'i wneud, gallwch awgrymu ffigur a gofyn iddyn nhw ad-dalu'r gwahaniaeth. 

Os na allwch chi ddod i gytundeb

Maen nhw wedi codi mwy na’r disgwyl

Os ydych chi wedi cytuno ar bris gyda’r masnachwr ond mae’n codi pris uwch arnoch, mae eich hawliau’n dibynnu ar a gawsoch chi dyfynbris neu amcangyfrifiad o’r gost. Edrychwch ar eich gwaith papur os nad ydych yn siŵr beth mae eich masnachwr wedi ei roi i chi.

Dyfynbris ac amcangyfrifiad

Mae dyfynbris (a elwir weithiau yn amcangyfrifiad sefydlog (fixed estimate)) yn addewid i wneud gwaith am bris y cytunwyd arno. Amcangyfrifiad yw’r swm mae’r masnachwr yn dyfalu y bydd y gwaith yn ei gostio.

Os oes gennych chi ddyfynbris

Ni chaiff y masnachwr godi mwy na’r hyn y mae wedi’i ddyfynnu, oni bai fod rheswm da – fel:

  • maen nhw’n rhoi gwybod i chi y byddai angen iddyn nhw wneud gwaith ychwanegol, ac rydych chi wedi cytuno i dalu mwy oherwydd hynny

  • roedd yn amlwg mai camgymeriad oedd y pris yn y dyfynbris - nid oes diffiniad o hyn, ond yn gyffredinol mae'n golygu y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn gweld y camgymeriad hwn

Ni allant godi mwy arnoch os yw eu costau nhw wedi cynyddu ers iddynt wneud y dyfynbris.

Os maen nhw wedi gwneud camgymeriad

Cyn belled nad oedd yn amlwg i chi pan gawsoch y dyfynbris, mae gennych hawl gyfreithiol i’r gwaith gael ei wneud am y pris yn y dyfynbris.

Beth ddylech ei wneud

Os na allant roi rheswm da i chi dros godi’r pris, dywedwch wrthyn nhw mai dim ond yr hyn a ddyfynnwyd y byddwch yn ei dalu. Mae’n syniad da nodi hyn ar bapur er mwyn i chi gael cofnod.

Peidiwch â gadael iddyn nhw eich gwthio i dalu mwy.

Os oes arnoch angen rhagor o gyngor am sefyllfa defnyddiwr

Cysylltwch â gwasanaeth defnyddwyr  - bydd cynghorwr hyfforddedig yn gallu rhoi cyngor i chi ar-lein neu dros y ffôn.

Os na allwch chi ddod i gytundeb

Os oes gennych amcangyfrifiad

Os rydych chi wedi cael amcangyfrifiad a bod y bil terfynol yn llawer mwy na'r hyn yr oeddech yn ei ddisgwyl, gallwch wrthwynebu talu.

Dylai’r pris terfynol fod yn ‘rhesymol’. Nid yw’r gyfraith yn dweud beth sy’n cael ei ystyried yn rhesymol, felly bydd yn rhaid i chi gytuno ar hynny rhyngoch chi. Dylech ystyried:

  • yr amcangyfrifiad y cytunoch chi iddo

  • unrhyw newidiadau, a pham y gwnaethant ddigwydd

  • unrhyw beth a ddigwyddodd a oedd y tu hwnt i reolaeth y masnachwr, fel tywydd gwael neu gost deunyddiau’n codi

Os oes arnoch angen help i benderfynu, gallech chi wneud un o’r canlynol:

  • gofyn i fasnachwr arall am amcangyfrifiad ar gyfer yr un gwaith

  • holwch a yw'r masnachwr yn aelod o gymdeithas fasnach a chysylltwch â nhw am gyngor

  • cael barn arbenigol, er ei bod yn debygol y bydd yn rhaid i chi dalu am y farn honno

Beth ddylech ei wneud

Rhowch wybod iddyn nhw:

  • eich bod yn anhapus gyda’r pris

  • beth fyddai'n rhesymol yn eich barn chi - gwnewch hi'n glir mai dyma fyddwch chi'n ei dalu

Mae’n syniad da nodi hyn ar bapur er mwyn i chi gael cofnod.

Mae'n debyg y bydd yn rhaid i chi drafod telerau â nhw, ond cofiwch y dylai'r hyn y byddwch yn ei dalu fod yn rhesymol. Peidiwch â gadael iddyn nhw eich gwthio i dalu mwy.

Os na allwch chi ddod i gytundeb

Doedd rhywbeth ddim wedi cael ei osod yn iawn, e.e. cegin neu foeler

Os oes rhywbeth wedi cael ei osod yn eich cartref ac mae’r gwaith wedi cael ei wneud yn wael, mae gennych hawl i'w drwsio - neu efallai y gallwch gael ad-daliad. Er enghraifft, gallai hyn fod:

  • gosod rhywbeth yn y lle anghywir e.e. mae eich dysgl lloeren newydd ar y wal anghywir

  • mae’n beryglus neu’n anniogel, e.e. rydych chi’n cael sioc drydanol pan fyddwch chi’n defnyddio switsh golau newydd

Pan wnaethoch chi roi cadarnhad i’r masnachwr fwrw ymlaen â’r gwaith, yn dechnegol fe wnaethoch chi gontract gyda’ch gilydd – hyd yn oed os na chafodd ei ysgrifennu i lawr.

Os nad ydyn nhw wedi gwneud yr hyn y cytunwyd arno, maen nhw wedi ‘torri’ y contract a gallwch ofyn iddynt gywiro pethau.

Gwiriwch beth yn union y cytunwyd arno, os gallwch. Edrychwch drwy unrhyw waith papur maen nhw wedi’i roi i chi.

Mae gennych hawl gyfreithiol i naill ai:

  • gofyn iddyn nhw drwsio’r broblem – os ydyn nhw wedi darparu nwyddau i chi yn ogystal â’r gwasanaeth, (e.e. gwnaethon nhw brynu’r gawod a’i gosod)

  • cael ad-daliad a'u hatal rhag gwneud mwy o waith - os mai dim ond darparu'r gwasanaeth a wnaethon nhw (e.e. chi brynodd y gawod a nhw wnaeth y gwaith gosod)

Beth ddylech ei wneud

Rhowch wybod i’r masnachwr eich bod yn deall beth mae gennych chi hawl iddo.

Dylech godi’r broblem gyda phwy bynnag drefnodd y gwaith, hyd yn oed os oedd wedi ‘is-gontractio’ (trosglwyddo) y cyfan neu ran ohono i fusnes arall. Dylech ddweud:

“Mae Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 yn dweud bod yn rhaid gosod nwyddau’n gywir, os oedd eu gosod yn rhan o’r contract.

Nid wyf i’n credu eich bod chi wedi’u gosod yn gywir pan wnaethoch chi wneud y gwaith.

Rydw i eisiau i chi ddatrys y broblem/cael ad-daliad a rhoi’r gorau i wneud y gwaith.”

Gallech hefyd ofyn am ostyngiad ariannol am unrhyw anhwylustod a achoswyd, er enghraifft 5% oddi ar y gost fel arwydd o ewyllys da. Efallai y byddan nhw’n dweud na, ond fyddwch chi ddim gwaeth â gofyn.

Beth fydd yn digwydd nesaf

Dylai’r masnachwr ddatrys y broblem o fewn cyfnod rhesymol o amser, heb achosi gormod o anhwylustod i chi. Nid yw’r gyfraith yn dweud beth sy’n cael ei ystyried yn rhesymol, felly bydd yn rhaid i chi gytuno ar hynny rhyngoch chi.

Os na allant ddatrys y broblem neu os na fyddant yn gwneud hynny, gallwch ofyn am ad-daliad llawn neu rannol - yn dibynnu ar ba mor ddrwg yw'r broblem. Bydd yn rhaid i chi ddod i gytundeb â nhw ynghylch faint y dylech ei gael. Mae awgrymu ffigwr, gan egluro pam eich bod chi’n meddwl ei fod yn dderbyniol, yn fan cychwyn da.

Ar ôl i chi gytuno ar y swm gyda’r masnachwr, mae’r gyfraith yn dweud y dylech gael eich ad-daliad o fewn 14 diwrnod.

Cysylltwch â gwasanaeth defnyddwyr  - bydd cynghorwr hyfforddedig yn gallu rhoi cyngor i chi ar-lein neu dros y ffôn.

Os na allwch chi ddod i gytundeb

What they’ve done is dangerous or unsafe

Stop using anything that’s dangerous or unsafe straight away.

Dangerous or unsafe appliances

If it’s an electrical appliance, switch it off and unplug it if you can.

If it’s a gas appliance and you can smell gas, call the National Gas Emergency Service on 0800 111 999 (or phone 0800 002 001 if you’re in Northern Ireland).

Dangerous or unsafe buildings or structures

You should report a dangerous building or structure to your local council immediately, even if it’s outside of normal working hours. You can do this online in England and Wales. If you live in Scotland you’ll have to contact your council directly.

Leave the building if you think you might be in immediate danger.

Report the trader to Trading Standards

It’s really important that you report the trader to Trading Standards if they’ve done anything that’s dangerous or unsafe.

You can’t usually report the trader to Trading Standards directly - you’ll need to contact the Citizens Advice consumer service and they will contact Trading Standards on your behalf.

The adviser will ask you a series of questions, so they can find out things like:

  • who did the work (and if you have their contact details)

  • what the work involved

  • when you gave the go-ahead for the work

  • how much the work cost and how you paid for it

  • if you’ve already raised your complaint with the trader

If you can’t come to an agreement

There are other steps you can take to solve your problem - these include using ‘alternative dispute resolution’, which is a way of solving disagreements without going to court.

Get help

Contact the Citizens Advice consumer service if you need more help - a trained adviser can give you advice over the phone or by online chat.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.