Dyfarniadau Llys Sirol a’ch statws credyd – trosolwg
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Efallai fod gennych chi ddyfarniad llys sirol yn eich erbyn os oes arnoch chi arian i rywun a bod llys wedi dyfarnu bod yn rhaid i chi ei dalu’n ôl.
Gallai effeithio ar eich statws credyd os oes gennych chi ddyfarniad llys sirol yn eich erbyn. Mae hyn yn golygu y gallai fod yn anodd i chi fenthyg arian neu gael credyd, er enghraifft gan fanc neu siop.
Bydd y dyfarniad llys sirol yn ymddangos ar eich adroddiad credyd – dyma'r wybodaeth y mae asiantaeth gwirio credyd yn ei rhoi i'r cwmni rydych chi am fenthyg arian ganddo. Yna bydd y cwmni'n defnyddio'r wybodaeth i benderfynu a yw am fenthyca arian i chi.
Gallai hefyd fod yn anodd dechrau rhentu cartref gan landlord preifat neu asiant gosod eiddo os oes gennych ddyfarniad llys sirol yn eich erbyn. Gallent wirio'ch adroddiad credyd fel rhan o'r broses ymgeisio.
Gweld a oes dyfarniad llys sirol wedi’i wneud yn eich erbyn
Mae’n hawdd gweld a oes dyfarniad llys sirol wedi’i wneud yn eich erbyn. Gallwch wneud y canlynol:
chwilio’r Gofrestr Dyfarniadau, Gorchmynion a Dirwyon
cael copi o’ch adroddiad credyd
Chwilio’r Gofrestr Dyfarniadau, Gorchmynion a Dirwyon
Gallwch chwilio’r Gofrestr Dyfarniadau, Gorchmynion a Dirwyon ar-lein. Bydd yn rhaid i chi dalu ffi fach. Bydd y Gofrestr yn dangos unrhyw ddyfarniadau llys siriol sydd gennych yn eich erbyn.
Cael copi o’ch adroddiad credyd
Mae'n syniad da gwirio'ch adroddiad credyd yn rheolaidd i wneud yn siŵr bod eich gwybodaeth yn gyfredol.
Gallwch gael eich adroddiad credyd ar y gwefannau canlynol:
Dileu cofnod ar y Gofrestr Dyfarniadau, Gorchmynion a Dirwyon
Os yw eich dyfarniad llys sirol dros 6 oed ni fydd yn ymddangos ar y Gofrestr Dyfarniadau, Gorchmynion a Dirwyon mwyach, hyd yn oed os nad yw wedi'i dalu.
Efallai y byddwch chi’n gallu gwneud cais i ddileu eich cofnod o’r Gofrestr os gallwch brofi i'r llys nad oes gennych chi gyfrifoldeb i dalu’r ddyled, neu os gwnaethoch chi dalu'r ddyled o fewn mis i gael y dyfarniad llys sirol.
Os nad oes arnoch chi’r ddyled
Os nad oes arnoch chi’r ddyled, gallwch chi ofyn i'r llys ailagor yr achos yn eich erbyn – caiff hyn ei alw’n 'rhoi eich dyfarniad llys sirol o'r naill du'. Dim ond os gallwch chi brofi bod gennych chi reswm cyfreithiol dilys dros beidio â thalu’r arian y gallwch chi wneud hyn.
Gallwch chi ofyn i'r llys roi dyfarniad llys sirol o'r naill du drwy lenwi ffurflen N244. Fwy na thebyg, bydd yn rhaid i chi dalu ffi er mwyn i'ch achos gael ei ailystyried.
Os bydd y llys yn cytuno nad oes arnoch chi’r arian, bydd eich dyfarniad llys sirol yn cael ei ddileu o'r Gofrestr.
Gallai gymryd hyd at 4 wythnos i ddileu’r cofnod. Dylai fod yn haws i chi gael credyd ar ôl i'r cofnod gael ei ddileu.
Os ydych chi’n talu’r ddyled o fewn 1 mis i ddyddiad y dyfarniad llys sirol
Os ydych chi’n talu’r ddyled yn llawn o fewn 1 mis i ddyddiad y dyfarniad llys sirol, gallwch chi wneud cais i’r llys ddileu eich cofnod oddi ar y Gofrestr. Bydd angen i chi gael tystysgrif gan y llys i brofi eich bod chi wedi talu'r ddyled.
Bydd yn rhaid i chi dalu am y dystysgrif ond gellir hepgor neu leihau'r ffi os ydych chi ar incwm isel.
Os caiff eich cofnod ei ddileu o'r Gofrestr, bydd yr asiantaethau gwirio credyd yn cael gwybod a bydd manylion eich dyfarniad llys sirol yn cael eu dileu o'ch cofnod.
Efallai y byddwch chi'n gallu cael credyd unwaith eto ar ôl i'r dyfarniad llys sirol gael ei ddileu.
Newid cofnod ar y Gofrestr Dyfarniadau, Gorchmynion a Dirwyon
Efallai y byddwch chi'n gallu newid eich cofnod ar y Gofrestr cyn i'r 6 blynedd ddod i ben os byddwch chi'n talu'r ddyled fwy na mis ar ôl dyddiad y dyfarniad llys sirol.
Bydd yn rhaid i chi brofi i’r llys eich bod wedi talu’r ddyled a chael tystysgrif ganddynt. Bydd yn rhaid i chi dalu am y dystysgrif ond gellir hepgor neu leihau’r ffi os ydych chi ar incwm isel.
Bydd nodyn yn cael ei roi wrth ymyl eich cofnod ar y Gofrestr i ddangos bod y ddyled wedi’i ‘bodloni’, neu ei thalu.
Os bydd eich cofnod ar y Gofrestr yn cael ei newid, bydd yr asiantaethau gwirio credyd yn cael gwybod eich bod chi wedi talu’ch dyled. Bydd y dyfarniad llys sirol yn dal i fod ar eich adroddiad credyd tan ddiwedd y 6 blynedd ond bydd eich cofnod yn dangos eich bod wedi talu'r ddyled.
Efallai y byddwch yn ei chael hi'n haws cael credyd pan fydd eich cofnod wedi newid.
Osgowch gwmnïau cywiro credyd
Dylech chi osgoi cwmnïau cywiro credyd sy’n honni eu bod yn clirio cofnodion dyled.
Maent yn codi ffioedd uchel ac weithiau'n cael pobl i ddweud celwydd er mwyn ceisio clirio eu cofnodion dyled – na fydd yn bosib beth bynnag fwy na thebyg.
Cysylltwch â’ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol os oes angen help arnoch chi gyda’ch dyfarniad llys sirol.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.