Benthyciadau diwrnod cyflog - cwyno

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae benthyciad diwrnod cyflog yn fenthyciad tymor byr i'ch helpu i gael dau ben llinyn ynghyd hyd nes i chi gael eich talu. Mae'n ffordd ddrud o helpu pobl gyda phroblemau ariannol dros dro ac os na fyddwch yn medru ad-dalu'r benthyciad, mae'n medru eich arwain i drafferthion ariannol gwaeth eto. Dylai benthycwyr diwrnod cyflog sicrhau eich bod yn medru ad-dalu'r benthyciad cyn benthyg i chi, ond weithiau nid ydynt yn dilyn y rheolau. Os na fydd benthyciwr diwrnod cyflog yn dilyn y rheolau, gallwch gwyno. Fe fydd hyn yn helpu sicrhau bod eich benthyciwr yn dilyn y rheolau yn y dyfodol ac efallai y bydd gennych hawliad am iawndal.

Gair o gyngor

Rhannwch eich profiad o fenthyg gyda benthyciwr diwrnod cyflog gyda ni. Gallwch helpu Cyngor ar Bopeth i sicrhau bod benthycwyr diwrnod cyflog yn ymddwyn mewn ffordd deg a chyfrifol ac yn dilyn y rheolau yn y dyfodol.

Arolwg benthyciadau diwrnod cyflog

Rhesymau dros gwyno

Mae'r rhan fwyaf o fenthycwyr diwrnod cyflog yn dilyn Siarter Arfer Da i Gwsmeriaid. Rhaid iddyn nhw hefyd ddilyn rheolau a bennir gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA). Mae hyn yn golygu y dylai wneud rhai pethau penodol cyn benthyg i chi, er enghraifft:

  • egluro faint fyddai'n ei gostio i chi ad-dalu'r benthyciad cyfan

  • ymchwilio i'ch sefyllfa ariannol a phersonol i sicrhau eich bod yn medru ad-dalu'r benthyciad

  • dweud wrthych na ddylid defnyddio benthyciadau diwrnod cyflog i fenthyg dros dymor hir neu os ydych mewn trafferthion ariannol

  • dweud wrthych beth ddylech chi ei wneud os oes cwyn gennych.

Os na fydd benthycwyr yn dilyn y Siarter neu reolau'r FCA, fe fyddwch yn medru cwyno i'r benthyciwr. Os ydych yn cael trafferth ad-dalu'r arian a fenthycwyd gennych, gallwch ofyn i'r benthyciwr rewi'r llog ar eich taliadau a chyfrifo cynllun ad-dalu. Os na chawsoch yr wybodaeth gywir neu os nad ydych yn hapus am y ffordd y mae benthyciwr yn delio gyda chi, gallwch gwyno i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol. Efallai y byddwch yn medru cael iawndal.

Am restr lawn o resymau dros gwyno i fenthyciwr diwrnod cyflog, gweler Rhesymau dros gwyno am eich benthyciad diwrnod cyflog - rhestr wirio.

Os nad ydych yn siwr faint fedrwch chi fforddio'i ad-dalu i'ch benthyciwr diwrnod cyflog, gweler ein teclyn cyllidebu.

Yn ogystal â'r Siarter Arfer Da, efallai bod yna resymau eraill dros gwyno i'ch benthyciwr diwrnod cyflog. I ddarllen mwy am y rhesymau, gweler Beth fedrwch chi ei wneud os nad ydych yn credu y dylech ad-dalu dyled.

Sut i gwyno

Cam 1 - ysgrifennwch at eich benthyciwr

Y peth cyntaf i'w wneud yw cysylltu â'ch benthyciwr a cheisio datrys pethau gyda'ch benthyciwr. Bydd angen i chi wneud hyn cyn mynd â'r gwyn ymhellach.

Yn eich cwyn, rhestrwch bob achos ble'r ydych yn credu nad yw'r benthyciwr wedi dilyn y Siarter Arfer Da neu reolau'r FCA.

Penderfynwch beth hoffech i'ch benthyciwr ei wneud am eich problem a chynnwys hyn yn eich cwyn. Os ydych am ddod i gytundeb i ad-dalu, cyfrifwch faint fedrwch chi fforddio'i dalu a pha mor aml.

Rhaid i'r benthyciwr gydnabod eich cwyn o fewn pum niwrnod i'w derbyn. Os yw'n penderfynu ymchwilio ymhellach i'r gwyn, dylai ddweud wrthych a'ch diweddaru'n rheolaidd.

Cam 2

Cwynwch i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol

Rhaid i chi roi wyth wythnos i'ch benthyciwr i ymateb neu i ddatrys y broblem. Os nad ydych yn hapus ar ôl hyn, gallwch gwyno i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol. Os yw'n cynnal eich cwyn, efallai y cewch chi gynnig iawndal.

Fe fydd Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol yn edrych ar eich cwyn ac yn eich cynghori sut i'w datrys. Os nad ydych yn cael y canlyniad yr ydych yn ei ddymuno, fe fydd Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol yn dechrau ymchwiliad ffurfiol. Mae'r penderfyniad terfynol a roddir ar ddiwedd yr ymchwiliad hwn yn rhwymo'ch benthyciwr. Ond, os nad ydych yn cytuno â'r penderfyniad, gallwch ddwyn achos llys yn erbyn eich benthyciwr.

Mae yna derfyn amser ar gyfer cwyno. Mae'n chwe mis o'r dyddiad y cawsoch benderfyniad terfynol gan eich benthyciwr am y ffordd y mae'n mynd i ddelio â'ch cwyn. Os nad ydych wedi cael ymateb ganddo o gwbl, mae'r dyddiad cau yn chwe mis o ddiwedd y cyfnod o wyth wythnos.

Er mwyn cwyno i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol, gallwch lawrlwytho ffurflen gwyn oddi ar y wefan ar: www.financial-ombudsman.org.uk

Neu llenwch ein harolwg cyflym a gadewch eich rhif ffôn ar y diwedd. Bydd rhywun o'r Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol yn eich ffonio'n ôl i'ch helpu gyda'ch cwyn.

Cwyno i gymdeithas fasnach

Mae'r rhan fwyaf o fenthycwyr diwrnod cyflog yn aelodau o gymdeithas fasnach fel BCCA (British Cheque & Credit Association). Mae'r cymdeithasau hyn yn disgwyl i'w haelodau ddilyn y Siarter Arfer Da ac yn medru cymryd camau yn eu herbyn os nad ydynt yn gwneud hynny. Efallai y byddan nhw hefyd yn medru eich helpu i ddatrys y broblem.

Os nad ydych yn hapus gydag ymateb eich benthyciwr diwrnod cyflog, holwch ba gymdeithas fasnach y mae'n aelod ohoni, ac anfonwch gopi o'ch cwyn wreiddiol, ynghyd â'r rhesymau pam nad ydych yn hapus gyda'r ymateb.

Gallwch ymchwilio i weld a yw'r benthyciwr yn aelod trwy edrych ar eu gwefan. Dyma'r cymdeithasau masnach efallai y bydd benthycwyr diwrnod cyflog yn aelod ohonynt:

Cam 3 - dwyn achos llys yn erbyn eich benthyciwr

Os nad ydych yn hapus gyda chanlyniad eich cwyn i'r Ombwdsmon Ariannol, gallech ystyried dwyn achos llys yn erbyn y benthyciwr. Ond, dylech feddwl am wneud hyn fel y cam olaf un, a dylech gael cyngor yn gyntaf.

Camau nesaf

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

Ar wefan yr Ombwdsmon Ariannol, mae yna wybodaeth gyflawn ar sut i gwyno, ar: www.financial-ombudsman.org.uk

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 21 Rhagfyr 2020