Benthyciadau diwrnod pae

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae benthyciadau diwrnod cyflog yn fenthyciadau tymor byr ar gyfer symiau bach o arian. Maen nhw ar gael gan siopau ar y stryd fawr a safleoedd ar y rhyngrwyd. Mae'n medru bod yn hawdd cael benthyciadau diwrnod cyflog ond mae'r cyfraddau llog yn uchel iawn. Efallai bod yna ffyrdd eraill i chi ddatrys eich problemau arian byr dymor, felly meddyliwch am yr opsiynau eraill cyn i chi fenthyg arian gan fenthyciwr diwrnod cyflog.

Os ydych chi'n penderfynu cael benthyciad diwrnod cyflog, chwiliwch y farchnad a chymharwch y llog a'r ffioedd cyn i chi fenthyg.  Sicrhewch eich bod yn glir ynghylch yr hyn fydd yn digwydd os nad ydych yn medru ei ad-dalu.

Mae'r dudalen hon yn dweud wrthych chi beth y dylai'r benthyciwr ei wneud cyn iddo gynnig benthyciad diwrnod cyflog i chi, sut fedrwch chi ad-dalu'r benthyciad a beth sy'n digwydd os na fedrwch chi dalu. Mae hefyd yn dweud wrthych chi sut i gwyno am fenthyciwr diwrnod cyflog.

Payday loan survey

Tell us about your experience of borrowing from a payday lender. You can help Citizens Advice make sure payday lenders behave fairly and responsibly and follow the rules in future. If you have a complaint about a payday lender, you leave your phone number at the end and someone from the Financial Ombudsman Service will call you back to talk to you.

Payday loan survey

Cyn i chi gael benthyciad diwrnod cyflog

Pan fyddwch yn gwneud cais am fenthyciad, cyn benthyg unrhyw arian i chi, dylai benthyciwr wneud yn siŵr y byddwch chi'n gallu ei ad-dalu. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, y dylai'r benthyciwr wneud yn siŵr bod gennych chi ddigon o arian yn dod i mewn bob mis i allu ad-dalu'r benthyciad.

Dylai'r benthyciwr hefyd egluro prif nodweddion y benthyciad, gan gynnwys faint y bydd yn rhaid i chi ei ad-dalu, beth fydd yn digwydd os na fyddwch chi'n ad-dalu'r benthyciad, efallai y bydd rhaid i chi dalu mwy os na fyddwch chi'n ad-dalu'r benthyciad ar amser ac nad yw'r benthyciad yn addas ar gyfer benthyca tymor hir. Dylai'r benthyciwr hefyd esbonio sut mae awdurdodau taliad parhaus (CPAs) yn gweithio a sut y gellir eu canslo.

Rhaid i bob hysbyseb ar gyfer benthyciadau diwrnod cyflog, gan gynnwys hysbysebion a anfonir drwy e-bost neu neges destun, gynnwys y rhybudd canlynol: 'Late repayment can cause you serious money problems. For help, go to www.moneyadviceservice.org.uk.’

O 2 Ionawr 2015 ymlaen, mae cap llog ar fenthyciadau diwrnod cyflog o 0.8% y dydd ac ni ddylai fod rhaid i unrhyw fenthyciwr ad-dalu mwy na dwywaith yr hyn y mae wedi'i fenthyg.

Ad-dalu benthyciad diwrnod cyflog

Fel arfer, byddwch yn cael hyd at fis er mwyn ad-dalu'r arian a fenthycwyd gennych, ynghyd â llog.

Y ffordd fwyaf cyffredin i ad-dalu'r benthyciad diwrnod cyflog yw drwy eich cerdyn debyd banc. Pan fyddwch yn cael y benthyciad rydych yn cytuno i adael i'r benthyciwr gymryd yr arian o'ch cyfrif banc. Gelwir hyn yn awdurdod taliad parhaus (CPA).

Os nad oes digon o arian yn eich cyfrif i ad-dalu'r benthyciad ar y dyddiad a gytunwyd, gall y benthyciwr ofyn i'ch banc am y cyfan neu ran o'r arian. Codir taliadau ychwanegol am dalu'n hwyr.

Fodd bynnag, ni ddylai eich benthyciwr ddefnyddio'r CPA fwy na dwywaith os nad yw wedi gallu cael yr arian o'ch cyfrif, ac ni ddylai geisio cymryd taliad rhannol.

O 2 Ionawr 2015 ymlaen, os ydych yn cymryd benthyciad 30 diwrnod ac yn ei ad-dalu ar amser, ni ddylai fod rhaid i chi dalu mwy na £24 mewn ffioedd a thaliadau ar gyfer pob £100 a fenthycwyd. Os byddwch yn diffygdalu ar y benthyciad, gall y benthyciwr ond codi ffi diffygdalu o £15.

Atal y taliadau

Os na allwch chi fforddio ad-dalu'r benthyciad, gallwch roi cyfarwyddyd i'ch banc neu ddarparwr cerdyn i atal y taliad rhag cael ei gymryd. Mae'n rhaid i chi wneud hyn o leiaf un diwrnod cyn y mae'r taliad yn ddyledus.

Ymestyn benthyciad diwrnod cyflog

Os ydych chi'n cael problemau ad-dalu'r benthyciad, gall y benthyciwr gynnig mwy o amser i chi dalu. Efallai y bydd y benthyciwr yn gwneud hyn drwy roi mwy o amser i chi dalu'r benthyciad neu drwy rolio'r benthyciad drosodd. Mae hyn yn gweithio drwy wneud cytundeb newydd ar gyfer ad-dalu'r benthyciad gwreiddiol. Gwyliwch rhag ymestyn eich benthyciad neu gytuno iddo gael ei rolio drosodd gan y bydd rhaid i chi ad-dalu mwy o arian i'r benthyciwr gan y bydd rhaid i chi dalu llog ychwanegol, ffioedd ychwanegol neu daliadau ychwanegol eraill.

Ni ddylai eich benthyciwr rolio eich benthyciad drosodd fwy na dwywaith. Hefyd, pan fydd benthyciwr yn rholio benthyciad drosodd, bydd angen iddo hefyd roi taflen wybodaeth i chi sy'n dweud ble y gallwch chi gael cyngor ar ddyledion am ddim.

Os ydych chi'n cael trafferth ad-dalu'r hyn sy'n ddyledus gennych neu reoli'ch arian, gofynnwch am gyngor.

Gair o gyngor

Ffyrdd eraill o fenthyca yn y tymor byr

Mae benthyciadau diwrnod cyflog yn ffordd ddrud o helpu pobl dros broblemau dros dro. Nid ydynt yn addas ar gyfer anawsterau tymor hir.

Mae benthyciad gan undeb credyd yn fwy fforddiadwy - gwiriwch a oes undeb credyd yn eich ardal chi.

Os oes gennych chi gyfrif banc, efallai y byddwch yn medru cytuno ar orddrafft. Ond byddwch yn ofalus o fynd i orddrafft heb ganiatâd gan y gall hyn fod yn ddrud iawn.

Os ydych chi ar incwm isel ac angen arian mewn argyfwng, efallai y byddwch yn medru cael help gan y Gronfa Gymdeithasol, gan elusen neu gymorth arall yn eich ardal leol, er enghraifft o fanc bwyd.

Gwneud cwyn

Mae'r rhan fwyaf o fenthycwyr benthyciadau diwrnod cyflog i fod i ddilyn Siarter Arfer Da Cwsmeriaid. Rhaid iddynt hefyd ddilyn rheolau'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA). Os nad ydynt yn dilyn y Siarter neu reolau'r FCA, gallwch gwyno.

Yn gyntaf, dylech gysylltu â'r benthyciwr i geisio datrys pethau.

Os ydych chi'n dal i fod yn anfodlon, gallwch gwyno i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol (FOS). Os yw'r benthyciwr yn aelod o gymdeithas fasnach, gallwch hefyd wneud cwyn i'r gymdeithas.

Trafferth gyda'ch arian

Os oes gennych chi ddyledion neu os ydych chi'n cael trafferth rheoli'ch arian, efallai yr hoffech chi gael help gyda chyllidebu neu ddelio â dyledion.

Camau nesaf

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol

Mae'r Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn wasanaeth rhad ac am ddim, annibynnol. Mae eu gwefan (www.moneyadviceservice.org.uk) yn cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol am fenthyca a rheoli'ch arian.

Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol (FOS)

Mae gwefan yr Ombwdsmon Ariannol yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am sut i wneud cwyn am fenthycwyr diwrnod cyflog: www.financial-ombudsman.org.uk

Cymdeithasau masnach benthycwyr diwrnod masnach

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 01 Mawrth 2021