Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Nid yw’ch asiantaeth yn rhoi gwaith i chi mwyach

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Os nad yw’ch asiantaeth yn rhoi mwy o waith i chi, mae’r hyn fedrwch chi ei wneud am y peth yn amrywio, ac yn dibynnu a ydych yn weithiwr neu’n gyflogedig. Mae angen i chi wybod pa un o’r ddau ydych chi cyn i chi ddarllen y ddogfen hon. Os nad ydych yn siwr, gweler Gweithwyr asiantaeth – yr hyn sydd angen i chi ei wybod.

Weithiau, fe fyddwch yn medru gwneud rhywbeth os na chewch unrhyw waith p’un ai eich bod yn weithiwr neu’n gyflogedig.  Mewn achosion eraill, efallai y byddwch ond yn medru gwneud rhywbeth os ydych yn gyflogedig. Felly, mae angen i chi ddarganfod pam nad ydych yn gweithio mwyach.

Pam nad ydych yn gweithio mwyach

Mae yna rai rhesymau dros beidio â chael gwaith sy’n golygu eich bod yn medru gwneud rhywbeth am y peth, p’un eich bod yn weithiwr neu’n gyflogedig. Dyma’r rhesymau hynny:

  • ·gwahaniaethu – os felly, pwy sydd ar fai? Efallai y byddwch yn medru dwyn achos yn erbyn yr asiantaeth, y cyflogwr neu’r ddau
  • ·chwythu’r chwiban – mae hyn yn golygu eich bod yn tynnu sylw at y ffaith fod pethau’n digwydd yn y gwaith sy’n effeithio ar eich hawliau cyflogaeth neu sy’n anghyfreithlon. Os yw’r rheswm pam nad ydych yn gweithio mwyach yn gysylltiedig â chwythu’r chwiban, efallai y byddwch yn medru dwyn achos yn erbyn yr asiantaeth neu’r cyflogwr
  • ·rydych wedi cael eich trin yn annheg ac wedi dioddef mewn rhyw ffordd oherwydd hyn. Cyfeirir at hyn fel dioddef niwed.

Os cewch eich trin yn annheg ac rydych wedi dioddef niwed

Efallai eich bod yn teimlo eich bod wedi cael eich trin yn annheg ac wedi dioddef mewn rhyw ffordd oherwydd hyn. Mae triniaeth annheg yn medru codi oherwydd:

  • amserlennu gwaith a gosod rota
  • y ffordd y caiff achwyniadau a materion disgyblu eu trafod
  • mynd â’ch cyfrifoldebau gwaith oddi arnoch
  • cynnal gwiriadau diogelwch ar rai gweithwyr yn unig
  • gwneud i chi weithio o dan amodau gwael.

Os ydych yn teimlo i chi ddioddef niwed, fe allech ddwyn achos gerbron tribiwnlys cyflogaeth. Rhaid i chi ddwyn achos o fewn tri mis namyn diwrnod i’r dyddiad cyntaf y digwyddodd y peth yr ydych yn cwyno amdano.

Os ydych yn weithiwr ac nid ydych yn cael mwy o waith

Nid oes hawl cyffredinol gennych i gael gwaith gan asiantaeth. Os nad yw’ch asiantaeth yn rhoi gwaith i chi mwyach ac rydych am wneud rhywbeth ynglyn â hyn, mae angen i chi holi os oes hawl gennych i gael cyflog rhwng aseiniadau, neu i gael yr asiantaeth i ddod o hyd i waith i chi. Er enghraifft, mae rhai contractau’n gwarantu nifer penodol o oriau o waith y flwyddyn neu’r mis

A oes hawl gennych i gyflog rhwng aseiniadau?

Os ydych yn weithiwr ac nid ydych wedi cael mwy o waith i’w wneud, mae’n annhebygol iawn y bydd hawl gennych i gyflog rhwng aseiniadau. Byddai hawl gennych i gyflog rhwng aseiniadau os oedd gennych gontract o’r fath, oherwydd byddai’n golygu eich bod yn gyflogedig gan yr asiantaeth.  

Os ydych yn gyflogedig ac nid ydych wedi cael mwy o waith

Os ydych yn gyflogedig ac wedi cael eich diswyddo

Os ydych yn gyflogedig gan yr asiantaeth, mae angen i chi holi hefyd a ydych chi wedi cael eich diswyddo, yn hytrach na’ch bod heb gael mwy o waith. Dyma resymau eraill sydd mewn gwirionedd yn medru bod yn ddiswyddiad:

Dileu Swydd

Os ydyn nhw wedi dileu eich swydd, efallai y bydd hawl gennych i dâl dileu swydd a dylech fod wedi cael y cyfnod cywir o rybudd. Os nad yw’n achos gwirioneddol o ddileu swydd, efallai eich bod wedi cael eich diswyddo’n annheg. Fe allech ddwyn achos yn erbyn yr asiantaeth .

Rhesymau sy’n annheg yn awtomatig

Er enghraifft, gofyn am gael eich hawliau sylfaenol yn y gwaith, neu gael eich diswyddo am eich bod yn feichiog. Fe fyddech yn dwyn achos yn erbyn yr asiantaeth yn unig.

Rhesymau sydd ddim yn annheg yn awtomatig

Mae’r rhesymau sydd ddim yn annheg yn awtomatig yn cynnwys pethau fel eich gallu i wneud y gwaith neu’r ffordd yr ydych yn ymddwyn yn y gwaith. Os ydych yn credu eich bod wedi cael eich diswyddo’n annheg oherwydd hyn, byddai’n rhaid i chi ddwyn achos yn erbyn yr asiantaeth yn unig a byddai’n rhaid i chi fod wedi gweithio iddi am flwyddyn, o leiaf os oeddech wedi dechrau cyn 6 Ebrill 2012, neu o leiaf dwy flynedd os oeddech wedi dechrau ar y dyddiad hwn neu ar ôl y dyddiad hwn.

Os yw’r cyflogwr wedi rhoi pwysau ar yr asiantaeth i beidio â rhoi gwaith i chi mwyach

Os ydych yn gyflogedig gan yr asiantaeth ac mae’r asiantaeth yn eich diswyddo chi oherwydd pwysau gan gyflogwr, efallai bod hyn yn rheswm teg dros ddiswyddiad, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau.

Fodd bynnag, mae’n rhaid i’r asiantaeth ymddwyn yn rhesymol wrth eich diswyddo chi. Mae’n medru gwneud hyn trwy geisio perswadio’r cyflogwr i newid ei feddwl, neu geisio dod o hyd i waith arall i chi.

Camau nesaf

Os ydych chi am fynd â’ch cwyn ymhellach, gweler Datrys anghydfod yn y gwaith

Mae help ar gael hefyd, i fynd â’ch cwyn ymhellach, gan gynghorydd Cyngor ar Bopeth profiadol. Fe allwch ddod o hyd i’ch canolfan leol a chael help pellach trwy glicio ar Cyngor ar Bopeth.

Mwy o wybodaeth ar Adviceguide

Contractau cyflog rhwng aseiniadau.

Hawliau sylfaenol yn y gwaith.

Dileu swydd

Gwahaniaethu

Diswyddiad annheg

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

Deall eich statws cyflogaeth

Chwythu’r chwiban yn y gweithle

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.